Gall amgyffwrdd ieithyddol esgor ar ddwyieithrwydd cymdeithasol ac unigol; un o wendidau maes sosioieithyddiaeth yw’r prinder o astudiaethau am effaith amgyffwrdd ieithyddol ar eirfa unigolion dwyieithog. Mewn cymunedau dwyieithog, gwyddys y gall geiriau o un iaith ymledu drwy’r gymuned a thanseilio ffurfiau iaith arall, a gall sawl ffactor gymdeithasol naill ai hwyluso neu atal y broses hon. Y mae cynllunio ieithyddol yn ymdrin â sawl agwedd o gyflyru ieithoedd a’r defnydd ohonynt, ac ystyria cynllunwyr ieithyddol y ffactorau cymdeithasol cyflyrol hyn wrth iddynt ddatblygu strategaethau a pholisïau ar gyfer ieithoedd. Un o orchwylion cynllunio ieithyddol yw bathu termau newydd a cheisio eu poblogeiddio a’u normaleiddio drwy eu cyflwyno yn y cyfryngau torfol a thrwy gyhoeddi llawlyfrau a geiriaduron.
Canolbwyntir yn yr astudiaeth hon ar gymuned ym Meirionnydd. Gyda thros 80% o’i thrigolion yn medru’r Gymraeg, y mae Blaenau Ffestiniog yn dref gryf ei Chymreictod; o ganlyniad i gadernid yr iaith yn y gymuned hon, disgwylir i eirfa’r siaradwyr fod yn dra Chymraeg. Nod y traethawd hwn yw asesu dylanwad y Saesneg ar iaith lafar y trigolion a’u gwybodaeth o dermau Cymraeg drwy ystyried tri grŵp o eiriau:
> geiriau traddodiadol, er mwyn datgelu a ydynt yn cael eu tanseilio gan ffurfiau Saesneg;
> ffurfiau am gysyniadau cymharol newydd, i ddarganfod a yw’r geiriau hyn wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau yn iaith y gymuned;
> termau newydd am gysyniadau newydd, i asesu ymdrechion cynllunio ieithyddol i normaleiddio a phoblogeiddio’r geiriau hynny.
Gwelir bod pedair prif ffactor yn gyfrifol am wybodaeth y siaradwyr o’r termau hyn, sef:
> addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac addysg bellach;
> gogwydd diwylliannol;
> oedran;
> defnydd o’r cyfryngau torfol Cymraeg.
Datgelir hefyd strategaethau’r siaradwyr wrth iddynt chwilio yn eu geirfa am y termau ar gyfer y cysyniadau.