PENNOD UN

Amgyffwrdd Ieithyddol a’i Effeithiau (Sosio)Ieithyddol Mewn Cymunedau Dwyieithog

1.1 Amgyffwrdd Ieithyddol
Ers y Rhyfel Byd Cyntaf, ac enwedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd a’r holl fewnfudo a fu yn sgîl hynny i Ogledd America, cynyddodd diddordeb yn y modd y mae grwpiau ethnig lleiafrifol yn ymgyfuno â’u hamgylchfyd newydd o safbwynt anthropolegol, cymdeithasegol, ieithyddol a thafodieithol (Benardete 1929; Boas 1920; Flom 1926; Haugen 1938, 1950a ac 1953; Reed 1940; Weinreich 1953). Ers y chwedegau a chyhoeddi casgliad arloesol Fishman (1966), datblygodd y diddordeb hwn i gwmpasu nid yn unig grwpiau o fewnfudwyr yng Ngogledd America a’r effeithiau ar eu hieithoedd, ond hefyd i ymddiddori yn y berthynas rhwng ethnigrwydd, grwpiau lleiafrifol brodorol, a’u hieithoedd yn Ewrop (gweler hefyd Barth 1969; Fishman 1968; Gumperz 1964; Gumperz a Hymes 1972; Hymes 1964; Lieberson 1970). Y mae’r pwyslais ar ymfudwyr a’r gwahanol ffactorau cymdeithasol sy’n effeithio ar eu hieithoedd yn parhau yn rhai o’r astudiaethau diweddarach uchod, ond y mae diddordeb arall i’w weld mewn rhai eraill, sy’n canolbwyntio ar gymunedau dwyieithog brodorol, eu hieithoedd, a’r rhyngwaith o ffactorau cymdeithasol sy’n dylanwadu ar ymddygiad a phatrymau ieithyddol. Datblygodd diddordeb mewn amgyffwrdd ieithyddol (language contact) fel maes academaidd, felly, yn ystod hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Y mae’r astudiaethau a gyhoeddwyd yn sgîl y diddordeb hwn wedi llwyddo i’n cynorthwyo i ddeall y rhyngwaith o’r ffactorau a’r prosesau hynny sy’n esgor ar wahanol batrymau sosioieithyddol mewn cymunedau dwyieithog.

Yn ôl sawl ymchwilydd, y mae cymunedau dwyieithog yn hollol naturiol a disgwyliedig. Y mae amgyffwrdd ieithyddol yn bod ers cyn cof, a gall cymunedau dwyieithog naill ai aros yn eithaf sefydlog neu newid dros amser; pwysleisir hyn gan Gal (1979:1):

The use of two or more languages within one community is the rule rather than the exception in the world today. While on every continent there have been groups that have been bilingual for centuries, there are always others in transition...

Fel arfer, y trawsnewid hwn a’i ryngweithio â grymoedd eraill yw’r ffocws mewn astudiaethau ar amgyffwrdd ieithyddol. Y mae sawl ffactor yn effeithio ar y canlyniadau ieithyddol sy’n deillio o sefyllfaoedd lle y ceir amgyffwrdd ieithyddol (gweler 1.1.2 isod), ond gyda’r holl newidiadau cymdeithasol yn y byd heddiw fel y datblygiadau technolegol mewn cyfathrebu a’r cynnydd yn symud unigolion a phoblogaethau, y mae’r posibilrwydd o grwpiau o wahanol gefndiroedd ieithyddol yn dod i gysylltiad â’i gilydd yn cynyddu. Yn ôl Ehlich (1994:117), ‘it is most probable that language contact will be experienced by individuals to a much larger degree in the near future than has been the case in the past’. Y mae hyn yn wir yn enwedig wrth ystyried datblygiad y rhyngrwyd a’i phwysigrwydd sy’n cynyddu bron yn feunyddiol i fod yn ddull anhepgor o gyfathrebu mewn sawl agwedd o fywyd, o’r bersonol i’r broffesiynol. Adleisir y cynnydd mewn amgyffwrdd ieithyddol gan Hamers a Blanc (1989: 4) wrth drafod cymhlethdod y maes:

Language contact is a widespread phenomenon which deserves our attention as it involves a large and growing proportion of the world’s population; it is a complex phenomenon which requires several levels of analysis and hence several disciplines, each with its own theoretical and methodological approaches.

Y mae’r cynnydd mewn amgyffwrdd ieithyddol, felly, yn gofyn am driniaeth ofalus o’r amrywiol amgylchiadau a ffactorau sy’n gyfrifol am wahanol ganlyniadau ieithyddol y sefyllfaoedd hyn. Trwy gymhwyso methodoleg a theorïau gwahanol feysydd fel anthropoleg, cymdeithaseg, ethnograffeg, a sosioieithyddiaeth, gallwn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r cydadwaith rhwng yr amryfal ffactorau a’r canlyniadau mewn achosion o amgyffwrdd ieithyddol. Ond beth yn union yw amgyffwrdd ieithyddol, beth yw ei gysylltiad â dwyieithrwydd, beth sy’n achosi’r ffenomen hon, a beth yw’r canlyniadau ieithyddol mewn cymunedau dwyieithog?

1.1.1 Diffiniadau
Ceir sawl diffiniad gwahanol o amgyffwrdd ieithyddol. Yn ôl un o’r ymchwilwyr cynharaf, ‘two or more languages will be said to be in contact if they are used alternately by the same persons. The language-using individuals are thus the locus of the contact’ (Weinreich, 1953: 1): nid ar ddim ond yr ieithoedd eu hunain y mae ffocws Weinreich, felly, ond ar unigolion dwyieithog yn ogystal. Adleisia Romaine (1989: 7) yr un syniad pan ddywed mai ‘the bilingual individual is the ultimate locus of contact’, a cheir yr un pwyslais yn Boyd (1985: 51): ‘for there to be language contact, there must be at least two bilingual speakers, who actively use one language with each other, and another language with speakers of the other language’. Nid yn unig y mae’r unigolion dwyieithog yn ganolog i’r pwnc dan sylw: y mae’n bwysig ystyried hefyd eu defnydd o’u hieithoedd. Wrth gwrs, nid yw’n bosibl i’r ieithoedd eu hunain gysylltu â’i gilydd os nad oes neb yn eu siarad, fel yr honna Nelde (1995: 83): ‘Language contact exists only between speakers and language communities, not between languages’. Y siaradwyr, felly, yw’r ffocws hanfodol mewn astudiaethau yn y maes.[1] Er bod y pwyslais yn dal i fod ar yr unigolion yn niffiniad Nelde, ceir awgrym ei bod yn bwysig ystyried hefyd y cysylltiad rhwng y siaradwyr a’u cymunedau. Cymer Boyd (1985: 50) y syniad hwn un cam ymhellach drwy ddiffinio amgyffwrdd ieithyddol fel a ganlyn: ‘Contact between speech communities in a multilingual society, when the speech communities are associated with different languages’.[2] Y mae’n ddigon amlwg mai casgliadau o unigolion yw cymunedau. Y mae’n eglur hefyd fod cymunedau dwyieithog yn cynnwys pobl a chanddynt brofiadau personol a chymdeithasol, er bod gwahanol raddau o’r rheini, o’r ieithoedd sy’n gysylltiedig â’u cymunedau. Ond hawdd gweld y dilyniant ym mhwyslais y gwahanol ddiffiniadau, o lefel yr unigolyn i’w ddefnydd o’r ieithoedd yn y gymuned.


Dilyniant arall sy’n dod yn amlwg wrth ystyried lefelau’r unigolyn a’r gymuned yw’r cysylltiad rhwng amgyffwrdd ieithyddol a dwyieithrwydd. Yn ôl Appel a Muysken (1987: 1), ‘language contact inevitably leads to bilingualism’. Er y gall hynny ymddangos yn ddatganiad eithaf mentrus, y mae gwahanol ddiffiniadau a disgrifiadau eraill o amgyffwrdd ieithyddol yn tueddu i gefnogi’r cysylltiad hwn. Er enghraifft, yn ôl Lehiste (1988: 1):
Language contact takes place between speakers of different languages in contact situations. In order for communication to take place, speakers must arrive at a certain degree of comprehension of the other language and must acquire a certain degree of facility in producing utterances that will be comprehensible. In time, some speakers will be able to alternate between languages; they have become bilingual.

Er bod hyn yn rhagdybio bod angen cyfathrebu rhwng y gwahanol grwpiau ieithyddol, dengys Ehlich (1994: 117) fod y posibilrwydd o ynysu rhwng grwpiau yn dod yn fwyfwy annhebygol yn y byd heddiw oherwydd anghenion economaidd, ymfudo, a’r datblygiadau technolegol mewn cyfathrebu. Fel yr awgryma Lehiste (1988: 1), daw rhai pobl yn ddwyieithog, a hefyd y mae’n bosibl y datblyga’r gymdeithas i fod yn hollol ddwyieithog. Wrth i Hamers a Blanc (1989: 6) ddiffinio amgyffwrdd ieithyddol, disgrifiant ei gysylltiad â dwyieithrwydd yr unigolyn ac â dwyieithrwydd y gymdeithas:
By languages in contact we understand the psychological state of the individual who uses more than one language as well as the use of two or more codes in interpersonal and intergroup relations. We distinguish between bilinguality and bilingualism. Bilinguality is the psychological state of the individual who has access to more than one linguistic code as a means of social communication; the degree of access will vary along a number of dimensions which are psychological, cognitive, psycholinguistic, social psychological, social, sociological, sociolinguistic, sociocultural, and linguistic. The concept of bilingualism, on the other hand, includes that of bilinguality (or individual bilingualism) but refers equally to the state of a linguistic community in which two languages are in contact with the result that two codes can be used in the same interaction and that a number of individuals are bilingual (societal bilingualism).

Y mae’r diffiniad hwn yn dangos yn glir y cysylltiad rhwng amgyffwrdd ieithyddol a dwyieithrwydd ac yn crynhoi’n daclus y materion dan sylw. Er hynny, carwn awgrymu mai’r rheng bensyfrdanol o ddimensiynau o ddwyieithrwydd mewn unigolion yw’r un dimensiynau sy’n effeithio ar ddwyieithrwydd y gymdeithas: y mae’r ddau fath o ddwyieithrwydd yn gysylltiedig â’i gilydd (gweler 1.2.3 isod), a phrin y gellir cael enghreifftiau o ddwyieithrwydd mewn unigolyn heb ddwyieithrwydd yn y gymdeithas y mae’n aelod ohoni.[3] Ni waeth am hynny, ychwanega Hamers a Blanc yn eu diffiniad y posibilrwydd o ddefnyddio mwy nag un iaith yn yr un rhyngweithiad mewn sefyllfa ddwyieithog. Trwy edrych, felly, ar y defnydd o ieithoedd a rhyngweithio siaradwyr mewn cymunedau dwyieithog, gellir ychwanegu at ein dealltwriaeth o amgyffwrdd ieithyddol. Rhydd Ehlich (1994: 109-11) ddeg o wahanol fathau o sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol a’r amrywiol fathau o ddwyieithrwydd sy’n deillio o hynny. Yn ôl ei deipoleg ef, enghraifft o’r chweched teip o amgyffwrdd ieithyddol yw’r sefyllfa yng Nghymru, sef ingression; hynny yw, grŵp ieithyddol yn ymsefydlu’n economaidd ac yn wleidyddol mewn cymdeithas sydd wedi cael ei gwladychu (trafodwn yn 1.1.2 isod ffactorau eraill sy’n esgor ar sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol). Y mae hyn i gyd yn dangos natur amlochrog y maes, ac y mae Romaine (1989: 7) yn adleisio hyn gan ddweud bod astudiaethau ar amgyffwrdd ieithyddol yn canolbwyntio ar ‘both the process and the outcome of any situations in which languages are in contact’. Wrth edrych ar brosesau a chanlyniadau’r cyd-destunau lle y ceir amgyffwrdd ieithyddol, y mae ehangder y maes yn cynyddu ac yn gorgyffwrdd â meysydd eraill.

1.1.2 Ffactorau Cymdeithasol

Gall sawl ffactor esgor ar sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol. Fel yr awgrymwyd eisoes, y mae ymfudo’n chwarae rhan ganolog mewn astudiaethau ar amgyffwrdd ieithyddol (Boyd 1985; Fishman 1966, 1991; Seigel 1987), ond gall sawl ffactor arall fod yn gyfrifol am ddod â phobl o wahanol gefndiroedd ieithyddol at ei gilydd. Yn ôl Appel a Muysken (1987: 5):
A first historical situation of language contact is the linguistic archipelago: many often unrelated languages, each with few speakers, spoken in the same ecosphere. Such situations are rare at this moment, but must have been frequent in the precolonial era.

Rhoddir basn afon Amazon a’r anialwch yn Awstralia yn enghreifftiau cyfoes o ardaloedd lle y mae sawl grŵp o bobl yn dal i fyw mewn llwythau sy’n siarad ieithoedd gwahanol. Ceir, yn y dyfyniad uchod, awgrym o ffactor hanesyddol arall sydd wedi creu sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol, sef gwladychu. Y mae nifer fawr o gymunedau dwyieithog wedi deillio o wladychu Ewropeaidd, ac, fel arfer, daw iaith y gwladychwyr yn uwch ei statws na’r iaith frodorol, neu’r ieithoedd brodorol (gweler Appel a Muysken 1987; Hamers a Blanc 1989; Romaine 1989; Sankoff 1980; Thomason 1983). Gall sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol darddu o oresgyn milwrol a gweithredu cenhadol; er enghraifft, goresgyniad y Rhufeiniaid ac ymledaenu crefyddau fel Cristnogaeth ac Islam (Ehlich 1994; Kaplan a Baldauf 1997). Cyd-destunau eraill sy’n achosi amgyffwrdd ieithyddol yw cysylltu gwahanol ieithoedd dros ffiniau daearyddol ac ieithyddol. Y mae’r ffiniau yn y Swistir rhwng y mannau lle y siaredir y Ffrangeg a’r Románsh yn y De a’r Almaeneg yn y Gogledd yn un enghraifft (Appel a Muysken 1987; Ehlich 1994). Y mae’n bosibl i sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol ddeillio o fasnachu rhwng pobl o wahanol gefndiroedd ieithyddol, fel y masnachu rhwng yr ynysoedd o gwmpas Ffiji yn y ddeunawfed ganrif a’r masnachu rhwng Portiwgal a gwledydd eraill rhwng y bymthegfed ganrif a’r ail ar bymtheg (Ehlich 1994; Siegel 1987; Whinnom 1971). Gall ffactorau economaidd a gwleidyddol hwythau esgor ar greu sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol. Er enghraifft, daeth y Saesneg fwyfwy yn iaith y byd economaidd yn ystod yr ugeinfed ganrif (Kaplan a Baldauf 1997). Y mae goruwchadeiledd gwleidyddol newydd fel yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn dod â phobl o wahanol gefndiroedd ieithyddol at ei gilydd (Ehlich 1994). Y mae sawl ffactor, felly, sy’n gallu dod â phobl at ei gilydd dros ffiniau daearyddol ac ieithyddol, ac y mae’n bosibl i rai o’r sefyllfaoedd hyn gyffwrdd â’i gilydd: er enghraifft, y mae ymfudo yn hanfodol mewn gwladychu.

Gellid edrych ar yr amrywiol fathau o amgyffwrdd ieithyddol yn ôl eu naturioldeb, ac y mae Nelde (1995: 81-82) yn gwahaniaethu rhwng sefyllfaoedd ‘naturiol’ a ‘gwneud’ fel a ganlyn:

Along with the kinds of language contact that could be described as ‘natural,’ that is, between language groups established in the same geographic area and leading to ‘natural’ bilingualism, there are other ‘artificial’ situations leading to majority/minority relations and language contact.

Y mae Tabl 1.1 yn gwahaniaethu rhwng yr amrywiol sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol ar sail naturioldeb y ffactorau sy’n gyfrifol am greu enghreifftiau ohonynt. Fel y gwelir, y mae’n debyg bod mwy o sefyllfaoedd gwneud na naturiol. Hefyd, o graffu ar y rhestr o sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol, ymddengys fod y ffactor ddaearyddol yn esgor ar y gwahaniaeth rhwng sefyllfaoedd naturiol a gwneud. Mewn sefyllfaoedd naturiol, bydd cysylltiadau dros ffiniau ieithyddol a daearyddol yn codi er mwyn cael nwyddau beunyddiol, sefydlu cytundebau rhwng grwpiau i wrthsefyll gelyniaeth oddi wrth wledydd a llwythau agos, a dod o hyd i gymheiriaid priodasol (gweler Ehlich 1994: 109-111). Ni cheir llawer o symudiadau rhwng poblogaethau

Tabl 1.1: Amgyffwrdd Ieithyddol Naturiol a Gwneud

Math o Amgyffwrdd Ieithyddol
Naturioldeb
Archipelago Ieithyddol
(Appel a Muysken 1987)
+
Gweithredu dros Ffiniau
(Appel a Muysken 1987; Ehlich 1994)
+
Masnachu
(Ehlich 1994; Siegel 1987; Whinnom 1971)
+
Ymfudo
(Boyd 1985; Fishman 1966, 1991; Seigel 1987 )
-
Gwladychu
(Appel a Muysken 1987; Hamers a Blanc 1989; Romaine 1989; Sankoff 1980; Thomason 1983)
-
Goresgyn Milwrol
(Ehlich 1994; Kaplan a Baldauf 1997)
-
Gweithredu Cenhadol
(Ehlich 1994; Kaplan a Baldauf 1997)
-
Rhesymau Economaidd
(Kaplan a Baldauf 1997)
-
Rhesymau Gwleidyddol
(Ehlich 1994)
-


mewn sefyllfaoedd naturiol, a chan amlaf nid yw’r bobl sy’n gweithredu dros ffiniau ieithyddol a daearyddol yn ymsefydlu’n barhaol mewn lleoliadau estron. Mewn sefyllfaoedd gwneud, symudiadau poblogaethau yw’r hyn sy’n creu’r achosion o amgyffwrdd ieithyddol wrth i nifer fawr o bobl ymsefydlu mewn gwledydd neu ardaloedd newydd. Hyd yn oed pan fo rhesymau economaidd a gwleidyddol yn dod â phobl at ei gilydd, y mae grwpiau’n symud er mwyn cyflawni gweithrediadau economaidd a pholisïau gwleidyddol (Ehlich 1994; Kaplan a Baldauf 1997). Y mae’n bosibl dadlau, felly, fod amgyffwrdd ieithyddol yn deillio o ffactorau cymdeithasol sy’n gorfodi pobl o wahanol gefndiroedd ieithyddol i ddod at ei gilydd, ac y mae’n dilyn o hyn fod gwrthdaro ieithyddol (language conflict) yn codi oherwydd diffyg cydbwysedd sosiowleidyddol rhwng y gwahanol grwpiau sy’n gysylltiedig â’r sefyllfaoedd (Bourhis 1984; Fishman 1991; Nelde 1995). Er hynny, ni ellir rhagweld yr amrywiol ganlyniadau ieithyddol sy’n tarddu o sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol a’r gwrthdaro sy’n deillio o hynny oherwydd yr holl ffactorau demograffig, gwleidyddol, economaidd, a chymdeithasol sy’n rhyngweithio i effeithio ar y canlyniadau. Ond y mae’r gwahanol fathau hyn o amgyffwrdd ieithyddol yn dueddol o achosi rhai canlyniadau arbennig.

1.1.3 Canlyniadau (Sosio)Ieithyddol

Gwelwyd eisoes mai un canlyniad o amgyffwrdd ieithyddol yw dwyieithrwydd, ond beth am y defnydd a wneir o’r ieithoedd a thynged yr ieithoedd eu hunain? Er y ceir cryn amrywio o ran y gwahanol agweddau ar y canlyniadau ieithyddol a sosioieithyddol mewn astudiaethau ar amgyffwrdd ieithyddol, nid oes fawr o anghytuno rhwng yr awduron am beth yw’r posibiliadau, ac y mae sawl proses yn effeithio ar yr ieithoedd eu hunain mewn sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol. Gall datblygu creolieithoedd, ieithoedd cyffredin (linguae francae), a phijinau darddu o sefyllfaoedd fel gwladychu a masnachu (Hymes 1971; Nelde 1995; Siegel 1987). Ym mhob un sefyllfa o amgyffwrdd ieithyddol, y mae’n bosibl cyfnewid ieithoedd, gyda’r iaith uwch ei statws yn tanseilio’r iaith is ei statws mewn peuoedd traddodiadol; mewn achos eithaf, ceir tranc iaith (language death) lle y mae iaith yn diflannu yn gyfan gwbl wrth i bob siaradwr gyfnewid ieithoedd (Dorian 1981 ac 1989; D. Jones 1997; Romaine 1989). Ceir hefyd yr hyn a elwir yn gydgyfeirio ieithyddol (linguistic convergence), sef ‘the gradual elimination of non-congruent forms in languages in contact’ (Romaine 1989: 73). Y mae Thomason (1986) yn trafod proses debyg o’r enw dylanwad swbstratwm (substratum influence). Yn ôl hi, y mae dylanwad swbstratwm yn cyfeirio at newid mewn iaith sy’n deillio o gamgymeriadau dysgwyr a’u dysgu diffygiol (gweler hefyd P. W. Thomas 1991). Y mae colli defnydd o’r treigladau a symleiddio sustem rhagenwau personol y Gymraeg yn enghreifftiau o’r broses hon, a gall dylanwad swbstratwm esgor ar safon newydd i’r iaith neu greu iaith hollol newydd (Gardner-Chloros 1991; Romaine 1989; G. Williams 1987). Y mae’r prosesau hyn i gyd yn gweithredu ar lefel bur ieithyddol yr ieithoedd ac yn arwain at greu ieithoedd newydd, newid strwythur ieithoedd, neu beri tranc ieithoedd.

Ceir prosesau eraill sy’n gweithredu ar lefel sosioieithyddol ac yn ymwneud â defnydd o’r ieithoedd. O ran yr iaith lafar, un broses dra chyffredin mewn astudiaethau ar amgyffwrdd ieithyddol yw ymyrraeth (D. Jones 1997; Gardner-Chloros 1991; Nelde 1995). Diffinia Weinreich (1953: 1) y ffenomen hon fel a ganlyn:
Those instances of deviation from the norms of either language which occur in the speech of bilinguals as a result of their familiarity with more than one language, i.e. as a result of language contact... The term interference implies the rearrangement of patterns that result from the introduction of foreign elements into the more highly structured domains of language, such as the bulk of the phonemic system, a large part of the morphology and syntax, and some areas of vocabulary.

Gall ymyrraeth ymddangos ar sawl lefel. Ar y lefel eirfaol, y mae enwau, berfau, ac ansoddeiriau’n fwy tebygol o gael eu trosglwyddo nag unrhyw ran ymadrodd arall (Gardner-Chloros 1991; Treffers-Daller 1999). Y mae’r hyn a ddisgrifir fel acen dramor yn enghraifft o ymyrraeth ar y lefelau ffonolegol a seinegol, ac ar y lefel gystrawennol gwelir y dylanwad croes-ieithyddol hwn pan fo pobl ddwyieithog yn defnyddio geiriau mewn ffordd wahanol i eiddo pobl uniaith fel ‘mynd i’r meddyg’ yn lle ‘mynd at y meddyg’ (Baetens Beardsmore 1986; D. Jones 1997).

Tair proses gyffredin arall sy’n debyg i ymyrraeth, neu sy’n deillio ohoni, yw benthyg geiriau, cod-groesi, a chod-gymysgu, a bu cryn drafod am y gwahaniaethau rhwng ymyrraeth a’r tair proses hyn. Y mae Appel a Muysken (1987: 172) yn gwahaniaethu rhwng benthyg geiriau a chod-gymysgu fel a ganlyn:
The classical view is that code mixing and borrowing can easily be kept apart: with code mixing the non-native items are not adapted morphologically and phonologically, with borrowing they are.

Gall y gwahaniaeth rhwng cod-gymysgu a chod-groesi a ddisgrifir gan Baker (1993: 76) hefyd fod yn ddefnyddiol: cod-groesi’n digwydd lle y defnyddir elfennau o iaith arall rhwng dwy frawddeg mewn ymadrodd, a chod-gymysgu’n digwydd oddi mewn i frawddegau. Dychwelir at y ffenomenâu hyn isod (1.3.1).

Y mae sawl proses arall sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth, er enghraifft y defnydd o drosglwyddiadau ystyr (loanshifts), dynwarediadau, a phriod-ddulliau. Y mae trosglwyddiadau ystyr yn deillio o gysylltiadau ffonolegol rhwng y ddwy iaith ac sydd yn ysgogi trosglwyddo ystyr gair yn un o’r ieithoedd fel y bo’n disodli ystyr gair arall tebyg ei ynganiad yn yr iaith arall. Cynigia Clyne (1967: 84) enghraifft a gododd yn llafar pobl ddwyieithog a siaradai’r Almaeneg a’r Saesneg: estynnwyd ystyr yr enw Almaeneg Magasin, ‘lle cadw,’ i olygu ‘cylchgrawn’ (gweler Haugen 1953; Romaine 1989). Rhydd Weinreich (1953: 51) enghraifft o ddynwarediad: yr enw Sbaeneg rascacielos [‘crafu’ + ‘awyr’] sydd yn gyfieithiad o’r Saesneg skyscraper. Defnyddia R. O. Jones (1997: 38) y term ‘priod-ddulliau’ i ddisgrifio ffenomen debyg wrth roi enghraifft o gyfieithiad gair am air o’r Saesneg ‘rhaid i chi wneud eich meddwl i fyny’ yn lle ‘rhaid i chi benderfynu’. Yn ogystal â’r gweithredu ar lefelau geirfaol, ffonolegol, a chystrawennol, gall ymyrraeth effeithio hefyd ar iaith lafar siaradwyr dwyieithog ar lefelau morffoleg a semanteg.

Er y gall ymyrraeth ar bob lefel ddeillio o sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol, ni wyddys yn bendant beth yw’r cysylltiad rhwng ymyrraeth a phrosesau cyfnewid ieithoedd (language shift) a chynnal ieithoedd (language maintenance), ond y mae ffactorau cymdeithasol yn rhyngweithio â’r prosesau hyn. Mewn astudiaeth ar wahanol grwpiau o fewnfudwyr yn y Swistir ac ar y posibiliadau sydd ganddynt naill ai i’w cynnal eu hunain fel priod-grwpiau ethnoieithyddol neu i ymdoddi i’r diwylliant a’r iaith fwyafrifol, diffinia Boyd (1985: 54-55) y ddwy broses o gyfnewid a chynnal iaith yn daclus fel a ganlyn:
The term language maintenance will be used for the continued regular use of a dominated minority language in a language contact situation. Language maintenance implies that ‘regular use’ includes use in the home, and that the language is the first language of at least some speakers in the community... Language shift will be used to refer to the situation where the frequency of use, the set of contexts of use and the number of native speakers of a dominated minority language are significantly reduced in a language contact situation.

Y mae’r diffiniadau hyn yn dibynnu ar wir ddefnyddio iaith leiafrifol gan siaradwyr mewn cyd-destun lle y mae iaith fwyafrifol yn cael ei defnyddio yn yr un gymuned. Y mae cynnal iaith yn awgrymu cyflwr ieithyddol eithaf sefydlog, eithr digwydd cyfnewid ieithyddol pan fo gostyngiad ym mheuoedd a nifer siaradwyr iaith leiafrifol. Er hynny, nid ystyrir yn y diffiniadau hyn ansawdd iaith lafar y grwpiau lleiafrifol. Fel Boyd, y mae Fishman (1971: 306 a 1991: 87-109) yn cydnabod pwysigrwydd peuoedd traddodiadol er mwyn gwrthsefyll colli’r iaith leiafrifol pan fo pwysau ar siaradwyr i’w cymathu eu hunain, ond ceir hefyd bwyslais ar ymyrraeth yn y broses lle y mae iaith leiafrifol yn colli ei pheuoedd a’i thir yn y gymuned o un genhedlaeth i’r llall. Yn ôl ef, ystyr cynnal iaith yw medr i siarad yr iaith fel mamiaith gyda chyn lleied o ymyrraeth o’r iaith fwyafrifol a chod-groesi â hi; y mae cynnydd mewn ymyrraeth, cod-groesi, a dirywio medrau yn iaith leiafrifol y grŵp yn arwydd o gyfnewid ieithoedd. Defnyddia Boyd (1985: 55) y termau skill language maintenance a skill language shift am yr hyn a ddisgrifir gan Fishman. Yn ei astudiaeth gynnar ar fewnfudwyr o Norwy yn yr Unol Daleithiau, y mae Haugen (1938: 11-12) yn cyfeirio at ymyrraeth hefyd, a cheir parhawd o gyfnewid ieithyddol sy’n dechrau gyda benthyg geiriau, ac wedyn ymyrraeth ieithyddol, ac yn y diwedd gyfnewid yn gyfan gwbl o un iaith i’r llall. Y mae’n bosibl, felly, fod ymyrraeth yn mynd law yn llaw â’r ddwy broses o gyfnewid a chynnal iaith. Y mae colli peuoedd a niferoedd siaradwyr unrhyw iaith yn siŵr o arwain at gynnydd mewn ymyrraeth ac at ddirywio medrau wrth i gyfleoedd i ddefnyddio (neu hyd yn oed glywed!) yr iaith leihau. Gall llai o ymyrraeth yn iaith y siaradwyr lleiafrifol ddynodi sefydlogrwydd yn eu hiaith mewn cyd-destunau o amgyffwrdd ieithyddol (Boyd 1985; Fishman 1971; Mougeon a Beniak 1989; Watson 1989). Wrth gwrs, ni ddisgwylir i ymyrraeth fod yn llwyr absennol o lafar pobl ddwyieithog. Dengys Dornic (1978, 1979, a ddyfynnir gan Baetens Beardsmore 1986: 9) fod olion croes-ieithyddol yn ymddangos hyd yn oed yn iaith lafar pobl gwbl ddwyieithog. Mater o raddfa yw’r cysylltiad rhwng ymyrraeth, cyfnewid ieithyddol, a chynnal ieithyddol. Er y gall ymyrraeth chwarae rhan yn nhynged ieithoedd lleiafrifol mewn cyd-destunau o amgyffwrdd ieithyddol, nid ymyrraeth yw’r unig ffenomen i’w hystyried oherwydd y mae ffactorau cymdeithasol hefyd yn effeithio ar ganlyniadau sefyllfaoedd o amgyffwrdd ieithyddol.

1.2 Dwyieithrwydd

Yn ôl amcangyfrif Grosjean (1982), y mae tua hanner poblogaeth y byd yn ddwyieithog. Er hynny, pwysleisia D. Jones (1997: 11) y dylid bod yn ofalus rhag gorgyffredinoli oherwydd y mae ‘gosodiadau o’r fath yn medru gorsymleiddio’r sefyllfa gan fod ystadegau’n medru bod yn gamarweiniol, yn arbennig pan na wahaniaethir rhwng dwyieithrwydd unigol a chymdeithasol’. Fel arfer, gwahaniaethir mewn astudiaethau ar ddwyieithrwydd rhwng dwyieithrwydd unigol a dwyieithrwydd cymdeithasol. Ar agweddau seicoieithyddol y bydd y pwyslais mewn ymchwil i ddwyieithrwydd unigol a bydd dwyieithrwydd cymdeithasol yn ymwneud ag agweddau sosioieithyddol (gweler Appel a Muysken 1987; Hamers a Blanc 1989; Romaine 1989). Er hynny, nid oes rhaniad cwbl bendant rhwng y ddau faes, a daw’r cysylltiad rhyngddynt yn amlwg wrth ystyried bodolaeth, defnydd, a rhyngweithio’r gwahanol ieithoedd pan fo amgyffwrdd ieithyddol.

1.2.1 Gwahanol Fathau o Ddwyieithrwydd Unigol

Y mae sawl ymchwilydd wedi diffinio gwahanol fathau o ddwyieithrwydd unigol, a cheir, weithiau, dermau amrywiol am yr un math o ffenomen a’r un term am wahanol fathau o ffenomenâu. Un o’r astudiaethau cyntaf ar y prosesau seicoieithyddol sy’n esgor ar fathau o ddwyieithrwydd oedd eiddo Weinreich. Wrth sôn am semanteg a mynegiant pobl ddwyieithog, disgrifiodd Weinreich (1953: 9-11) dri math o ddwyieithrwydd mewn cyd-destun lle y ceir amgyffwrdd ieithyddol ar sail y gwahanol berthnasau rhwng arwyddion a’u semantemau. Ym math A, y mae’r arwyddion yn y ddwy iaith yn wahanol, ac y mae’r semantem yn cyfuno â’i harwydd mewn un iaith a semantem yr iaith arall yn cyfuno â’i harwydd gwahanol yn yr iaith arall, er enghraifft:
(A) “book” “llyfr”
| |
/buk/ /K1vr/
Dyma enghraifft o’r hyn a elwir yn ddwyieithrwydd cyfesur (coordinate bilingualism) lle y mae person yn dysgu’r ddwy iaith yn ystod plentyndod mewn gwahanol gyd-destunau (gweler hefyd Romaine 1989: 76-77). Cedwir y ddwy iaith ar wahân yn ymennydd yr unigolyn ac y mae ‘llyfr’ yn cyfeirio at ystyr sy’n wahanol i ystyr y gair ‘book’.
Y mae Weinreich (1953: 9) yn disgrifio’r ail fath (math B) o ddwyieithrwydd fel a ganlyn:
Once an interlingual identification has occurred between semantemes of two languages in contact, it becomes possible for the bilingual to interpret two signs whose semantemes, or signifieds, he has identified as a compound sign with a single signified and two signifiers, one in each language.

Er enghraifft:
(B) “book” = “llyfr”
/ \
/buk/ /K1vr/

Y mae math B, neu ddwyieithrwydd cyfansawdd (compound bilingualism), yn dynodi sefyllfa lle y mae’r ddwy iaith yn datblygu ar yr un pryd ac yn yr un cyd-destun. Y mae gan y math B o unigolion dwyieithog, felly, ddau arwydd gwahanol am yr un semantem. Ceir y math hwn o ddwyieithrwydd lle y mae’r unigolyn wedi dysgu un iaith yn llawer hwyrach na’r llall ac o dan wahanol gyd-destunau.
Yn ôl Weinreich (1953: 10), ceir ddwyieithrwydd isradd (subordinate bilingualism), ‘when the new language is learned with the help of another (by the so-called “indirect method”)’, neu yng ngeiriau D. Jones (1997: 8) pan fo’r siaradwr dwyieithog yn cael ‘caffael un o’r ddwy iaith yn nes ymlaen.’ Er hynny, y mae’n anodd diffinio’r gwahaniaeth rhwng ‘yn llawer hwyrach’ ac ‘yn nes ymlaen’ wrth ystyried datblygu dwyieithrwydd, ac y mae dysgu’r ail iaith ‘yn nes ymlaen’ yn siŵr o ddigwydd mewn cyd-destun gwahanol i eiddo’r iaith gyntaf. Er mwyn osgoi’r broblem hon, dynoda dwyieithrwydd cyfansawdd fath B, a chyfeiria dwyieithrwydd isradd at fath C. Ym math C, y mae’r arwydd yn yr ail iaith yn cael ei gysylltu â’r arwydd yn yr iaith gyntaf cyn i’r arwydd yn yr ail iaith gael ei gysylltu â’r semantem, er enghraifft:
(C) “llyfr”
/K1vr/
|
/buk/

Disgwylir gweld mwy o enghreifftiau o drosglwyddo yn iaith lafar yr unigolion hyn nag yn iaith lafar pobl ddwyieithog eraill oherwydd bod elfennau’r ail iaith wedi eu seilio ar batrymau’r iaith gyntaf (gweler er enghraifft Baetens Beardsmore 1986: 25). Y mae’r fframwaith seicoieithyddol hwn wedi llwyddo i greu llawer o ddiddordeb a phwyntiau trafod yn y maes (gweler Romaine 1987: 77-82 am drafodaeth drylwyr o amrywiol astudiaethau sy’n cefnogi neu’n gwrthbrofi fframwaith Weinreich), eithr gellir edrych ar wahanol fathau o ddwyieithrwydd o safbwynt mwy cymdeithasol.

1.2.2 Gwahanol Fathau o Ddwyieithrwydd Cymdeithasol

Er mai ar unigolion y mae’r ffocws mewn astudiaethau ar amgyffwrdd ieithyddol, gellir hefyd drafod y syniad ar lefel haniaethol heb ystyried y siaradwyr. Mewn astudiaethau ar
ddwyieithrwydd cymdeithasol, ar gymdeithaseg iaith y mae’r pwyslais ac ar y cysylltiad rhwng ieithoedd a grymoedd gwleidyddol, diwylliannol, economaidd, addysgol, a chymdeithasol. Nid yw newidynnau ‘ieithyddol pur’ yn bwysig iawn i’r astudiaethau hyn, ond ystyrir bod ffactorau cymdeithasol ac allieithyddol yn hanfodol (gweler yn enwedig, Fishman 1966, 1980, 1991). Y mae Appel a Muysken (1987) yn neilltuo tri math o ddwyieithrwydd cymdeithasol. Ym math I, ceir cymuned lle y mae pawb yn medru mwy nag un iaith; enghreifftir gwledydd yn Affrica ac India. Y mae llawer o gymunedau fel math II, lle y mae pawb yn siarad y brif iaith â grŵp yn yr un gymuned sy’n medru iaith arall, fel arfer iaith leiafrifol, yn ogystal â’r brif iaith. Y mae Cymru yn un enghraifft o’r math hwn o gymuned. Yn y trydydd math, ceir dau grŵp o bobl uniaith a chanddynt eu hieithoedd eu hunain. Yn ôl Appel a Muysken (1987: 2), enghreifftiau o hyn yw gwledydd sydd wedi cael eu coloneiddio a cheir sefyllfa debyg yn y Swistir.

1.2.3 Y Cysylltiad Rhwng Dwyieithrwydd Cymdeithasol a Dwyieithrwydd Unigol

Y mae ymchwil i ddwyieithrwydd cymdeithasol yn canolbwyntio ar bynciau gwahanol i eiddo astudiaethau ar ddwyieithrwydd unigol, eithr prin y mae’n bosibl cyflwyno astudiaeth gyflawn ar bobl ddwyieithog neu ar amgyffwrdd ieithyddol heb ystyried y ffactorau cymdeithasol sydd wedi effeithio ar y ffyrdd y bydd pobl yn siarad. Pan fo pobl o wahanol gefndiroedd ieithyddol yn dod at ei gilydd i fyw yn yr un gymdeithas, bydd amgyffwrdd ieithyddol yn arwain at ddwyieithrwydd yn y gymdeithas. Gall dwyieithrwydd yn y gymdeithas arwain at ddwyieithrwydd yn yr unigolyn, a thrwy hynny, y mae’n hawdd gweld sut y mae cymdeithaseg iaith ac astudiaethau ar iaith lafar pobl ddwyieithog yn cyffwrdd â’i gilydd. Y mae gwahanol ffactorau yn gyfrifol am y math o ddwyieithrwydd sy’n debygol o ddatblygu (gweler Romaine 1989: Pennod 3), ac y mae’r math o ddwyieithrwydd yn effeithio ar yr ymyrraeth yn iaith lafar yr unigolion yn ogystal ag ar gyfeiriad yr ymyrraeth. Er enghraifft, y mae Ffigur 1.1 yn dangos yn ddarluniadol y cysylltiad rhwng ymyrraeth ieithyddol a’r tri math o ddwyieithrwydd cymdeithasol. Yng nghymdeithas I, lle y mae pob un o’r siaradwyr yn y gymdeithas yn ddwyieithog, y mae elfennau o’r ddwy iaith yn debycach

Math o Gymdeithas Ymyrraeth

Iaith 1

Cymdeithas I

Iaith 2

Iaith 1
?
Cymdeithas II

Iaith 2

Iaith I ?

Cymdeithas III

?
Iaith 2


Ffigur 1.1: Tri Math o Ddwyieithrwydd Cymdeithasol a Cyfeiriad yr Ymyrraeth

o ymddangos yn iaith lafar y trigolion nag yng nghymdeithas II ac III. Dwyieithrwydd cymdeithasol llwyr yw’r hyn sy’n hynodi’r gymdeithas hon. Yn yr ail gymdeithas, ceir un garfan o bobl sy’n ddwyieithog a charfan arall sy’n medru un iaith yn unig. Yn II, y mae ymyrraeth yn debycach o effeithio ar iaith lafar y bobl ddwyieithog nag ar eiddo’r rhai uniaith. Dyma’r sefyllfa sydd yng Nghymru heddiw. Clywir yn aml iawn Gymry Cymraeg yn defnyddio geiriau a dywediadau o’r Saesneg, a dengys sawl awdur fel G. Banks (1993) ac A.E. Roberts (1988) ddylanwad o’r Saesneg ar eirfa a gramadeg y Gymraeg. Nid ungyfeiriol yn unig o’r Saesneg i’r Gymraeg yw’r broses o ymyrraeth. Yn ôl y diffiniad uchod yn 1.1.3 gan Weinreich am ymyrraeth, gellir ystyried acenion a goslef y Cymry Cymraeg pan fônt yn siarad Saesneg yn enghreifftiau o ymyrraeth sy’n tarddu o’r Gymraeg. Ceir, hefyd, enghreifftiau o’r broses yn iaith lafar yr unigolion uniaith. Y mae’r Cymry di-Gymraeg yn defnyddio cyfarchiadau a dywediadau Cymraeg am wahanol resymau gan gynnwys cyfarch rhywun yn ei iaith i’w wahodd i gymryd rhan mewn sgwrs (gweler Gumperz 1982:77) neu i ddangos undod â’r siaradwr dwyieithog trwy’r broses o gydgyfeirio (convergence) yn yr hyn a eilw Thrakerar, Giles, a Cheshire (1982) yn Speech Accomodation Theory (gweler hefyd Genesee a Bourhis 1982 am enghreifftiau o gydgyfeirio mewn astudiaeth ar god-groesi). Yng nghymdeithas III, lle y ceir pobl uniaith yn byw mewn cymdeithas ac ynddi fwy nac un iaith, y mae ymyrraeth yn llai tebygol o gael effaith ar iaith lafar y trigolion am nad yw’r siaradwyr eu hunain yn ddwyieithog er eu bod yn byw mewn cymdeithas ddwyieithog. Er hynny, nid yw’n bosibl cael dwy iaith yn yr un gymdeithas heb iddynt gael rhyw fath o effaith ar ei gilydd.

1.3 Rhai Ystyriaethau

Cyn symud ymlaen at wreiddiau’r cwestiynau y bwriedir ymchwilio iddynt yn yr astudiaeth bresennol, dylid ystyried rhai o’r agweddau a’r problemau a geir mewn sawl astudiaeth ar ddwyieithrwydd ac amgyffwrdd ieithyddol. Bydd y drafodaeth ganlynol yn cyfrannu at ddeall paham y dewiswyd methodoleg (Pennod 2) a sampl ieithyddol (Atodiad I) yr astudiaeth hon.

1.3.1 Yr Anawsterau wrth Neilltuoli’r Gwahanol Fathau o Ffenomenâu Croes-ieithyddol

Fel y gwelsom eisoes yn 1.1.3, gall sawl proses groes-ieithyddol ymddangos yn iaith lafar unigolion dwyieithog. Hefyd, y mae astudiaethau ar ddwyieithrwydd ac amgyffwrdd ieithyddol yn ymdrin â phrosesau a meysydd amrywiol gan gynnwys ymyrraeth, benthyg geiriau, agweddau seicolegol ar y meddwl dwyieithog fel lle y mae’r ieithoedd yn cael eu cadw yn yr ymennydd, a sut y mae pobl yn dwyn eu hieithoedd o’r cof (Genesee, Hamers, Lambert, Mononen, Seitz, a Starck 1978; Soares a Grosjean 1981). Er hynny, y mae’r rhan helaethaf ohonynt yn canolbwyntio ar un broses groes-ieithyddol yn arbennig, sef cod-groesi. Yn ôl Weinreich (1953: 73):
The ideal bilingual switches from one language to the other according to appropriate changes in the speech situation (interlocutors, topics, etc.), but not in an unchanged speech situation, and certainly not within a single sentence. If he does include expressions from another language, he may mark them off explicitly as ‘quotations’ by quotation marks in writing and by special voice modifications (slight pause, change in tempo, and the like) in speech.

Er hyn, y mae Weinreich yn cyfaddef nad yw’r realiti’n adlewyrchu’r delfryd. Y mae pobl ddwyieithog yn cod-groesi’n fewn-frawddegol yn aml fel y dengys Chana a Romaine (1984), Poplack (1980), a Treffers-Daller (1992). Y mae Beardsley ac Eastman (1971) a Gumperz (1967) yn crybwyll bod cod-groesi’n cael ei ddefnyddio i ddangos newidiadau mewn cyweiriau ac yn cael ei nodi gan seibiau yn yr ymddiddan fel yr awgryma Weinreich, ond cyflwyna Poplack (1985) enghreifftiau o god-groesi heb unrhyw newid mewn rhythm na phwnc.
O ystyried un diffiniad o god-groesi, yn ôl Eastman (1992: 16):
codeswitching is generally seen to be the use of at least two languages (or dialects or registers) within a particular genre (song, conversation) during a speech event often in a multilingual (primarily urban) setting ... Codeswitching as a process may involve single lexical items, borrowing of whole phrases, and the alternation of codes intrasententially... (hi biau’r italeiddio)

Sylwer bod y diffiniad hwn o god-groesi yn cynnwys benthyg geiriau, ond bod y rhan fwyaf o’r llenyddiaeth ar ddwyieithrwydd ac amgyffwrdd ieithyddol yn gwahaniaethu rhwng ymyrraeth, cod-groesi, cod-gymysgu, a benthyg geiriau. Fodd bynnag, fel yr awgryma Eastman (1992: 1): ‘efforts to distinguish codeswitching, codemixing, and borrowing are doomed,’ ac yn ôl Gysels (1992: 53), ‘no categorical distinction can be made between borrowing and codeswitching.’ Gall hyn fod yn wir ynglŷn â’r ymgais i wahaniaethu rhwng ymyrraeth a’r tair ffenomen hyn yn ogystal. Fel arfer, gwahaniaethir y ffenomenâu hyn ar sail integreiddio’n ffonolegol neu’n forffolegol y gair neu’r geiriau i sustem yr iaith dderbyn (host language) (Baetens Beardsmore 1986: 49). Haugen (1956: 40) oedd yr un cyntaf i ddefnyddio’r term codeswitching i gyfeirio at enghreifftiau lle y bydd ‘a bilingual introduces a completely unassimilated word from another language into his speech.’ Disgrifia Gardner-Chloros (1991: 48) y gwahaniaeth rhwng cod-groesi, ymyrraeth, ac integriad, neu fenthyciad sefydlog, fel a ganlyn:
Whereas interference and integration are instances of the levelling down of differences between two codes, in code-switching the distinct character of the two codes is said to be preserved.

Defnydd cyson o air wedi ei fenthyg yw integriad; ac yn ôl maen prawf integreiddio, bydd unrhyw ffurf sydd wedi ei haddasu i sustem ffonolegol neu forffolegol yr iaith dderbyn yn enghraifft o fenthyg, neu integriad; ar y llaw arall, enghraifft o ymyrraeth fydd ffurf nas addaswyd. Yn ôl Mackey (1976, yn D. Jones 1997: 33-34), nid oes modd pendant o wahaniaethu rhwng y ddwy ffenomen ar sail integreiddio, ac y mae ymyrraeth ac integriad yn cynrychioli deupen i’r un raddfa fel a ganlyn:
Mesur yr addasu i’r iaith dderbyn
0% 100%
YMYRRAETH INTEGRIAD Ffynhonnell: (wedi ei addasu o D. Jones 1997: 34; ar ôl Mackey 1976)
Y mae sawl ymchwilydd yn defnyddio’r cysyniad o integreiddio fel modd i wahaniaethu rhwng y ddwy ffenomen, er enghraifft Appel a Muysken (1987), Disciullo, Muysken, a Singh (1985) Grosjean (1982), Hasselmo (1970), Poplack (1980), a Timm (1975).
Yn ôl y diffiniadau uchod o god-groesi gan Haugen a Gardner-Chloros, ceir yr un gwahaniaeth yn union rhwng benthyg geiriau a chod-groesi. Os bydd gair wedi ei addasu i sustem ffonolegol neu forffolegol yr iaith dderbyn, fe fydd yn enghraifft o fenthyg geiriau, ond gyda chod-groesi, nid addesir y gair, neu’r geiriau. Rhoddir yr enghraifft ganlynol gan D. Jones (1997: 41) i ddisgrifio hyn:
cod-groesi
byddai hynny’n fy synnu petawn i wedi code-switched gymaint â hynny

benthyg
byddai hynny’n fy synnu petawn i wedi cod-switsho gymaint â hynny

Cyfeiria Gardner-Chloros (1991: 41) at yr anawsterau wrth geisio gwahaniaethu rhwng benthyg geiriau a chod-groesi yn ôl maen prawf integreiddio ac awgryma: ‘code-switches and loans are in fact opposite ends of a continuum’. Adleisir hyn gan Myers-Scotton (1989: 340): ‘the relationship between the two phenomenon is as poles on a continuum’. Gellir, gan hynny, osod y ddwy ffenomen ar raddfa yn yr un modd ag ymyrraeth ac integriad:

Mesur yr addasu i’r iaith dderbyn
0% 100%
COD-GROESI BENTHYG GEIRIAU

Ceir, felly, wahaniaeth tebyg rhwng cod-groesi a benthyg geiriau â rhwng ymyrraeth ac integriad, neu air benthyg sefydlog.
Y mae’r un broblem yn codi wrth i Singh (1985: 35) wahaniaethu rhwng benthyg geiriau a ffenomen groes-ieithyddol arall, sef cod-gymysgu: myn hi: ‘borrowing is characterized by adaptation… Code-mixing implies… the meaningful juxtaposition of native with non-adapted, non-native elements’. Ac yn ôl Appel a Muysken (1987: 172):
The classical view is that code mixing and borrowing can be easily kept apart: with code mixing the non-native items are not adapted morphologically and phonetically, with borrowing they are.

Yn ôl yr amrywiol ddiffiniadau uchod, felly, nid oes gwahaniaeth rhwng ymyrraeth, cod-groesi, a chod-gymysgu. Er hynny, fel y gwelsom uchod, y mae Baker (1993: 76) yn gwahaniaethu rhwng cod-groesi a chod-gymysgu gan ddweud bod cod-groesi’n digwydd rhwng brawddegau ond bod cod-gymysgu’n digwydd y tu mewn i frawddegau. Erbyn heddiw, y mae’r rhan fwyaf o awduron yn y maes yn defnyddio’r termau cod-groesi rhyngfrawddegol a chod-groesi mewnfrawddegol i ddangos mai dwy ochr i’r un ffenomen yw’r ddwy broses hon (Poplack 1980; Romaine 1989; Sankoff a Poplack 1981; Treffers-Daller 1992 ac 1999).
Y mae’n ymddangos, felly, fod anawsterau’n codi wrth geisio neilltuoli’r gwahanol fathau o brosesau croes-ieithyddol hyn, ac er mwyn osgoi’r ddadl hon, y mae’n well gan sawl ymchwilydd ddefnyddio un term i gwmpasu pob un o’r ffenomenâu hyn. Er enghraifft, dewisa Pakir (1989) y term code selection, Meeuwis ac Östman (1995) linguistic influence, a Pfaff (1979) mixing yn dermau cynhwysfawr. Fel y gwelsom, nid oes gwahaniaeth cwbl bendant rhwng yr amrywiol ffenomenâu croes-ieithyddol hyn. Adleisia Gardner-Chloros (1991: 48) hyn gan ddweud:
We observe fundamental mistakes in such attempts at the discrete classification of linguistic phenomenon. First, it is not always possible to assign a linguistic unit to one system alone; second, even if it were, and we could then speak with confidence of distinctions between ‘code-switches’ and ‘loans’ and ‘interference’ to be made in linguistic terms, there is a priori no reason to assume that these three categories correspond to significantly discreet categories of social and psychological behaviour.

1.3.2 Y Duedd mewn Astudiaethau ar God-groesi
Ar ôl y drafodaeth flaenorol, edrychwn ar y brif duedd mewn astudiaethau diweddar ar god-groesi, sef y tueddiad i edrych ar god-groesi fel proses ‘grefftus a chyfoethog’ neu ymddygiad ‘creadigol’. Gellir gweld yr hoffter hwn wrth edrych ar y gwahanol eiriau arweiniol a ddefnyddir i ddisgrifio cod-groesi mewn sawl astudiaeth. Y mae’n glir bod gan ymchwilwyr yn y maes dueddiad i ganmol cod-groesi fel rhyw fath o ymddygiad ieithyddol medrus a chreadigol. Ceir ansoddeiriau positif fel ‘enriching’ (Gysels 1992: 41), ‘strategic’ a ‘creative’ (Heller 1992: 134 a 140), ac ‘adroit’ (Naval 1989: 348) i ddisgrifio cod-groesi. Ceir hefyd ymadroddion tra phositif: ‘a useful thing’ ac ‘an example par excellence of skilled performance’ (Myers-Scotton 1993b: 73 a 74; hi biau’r italeiddio), ‘conversational strategy’ (Meeuwis a Blommaert 1994: 411), ‘powerful strategy’ (Myers-Scotton 1988: 207), a ‘verbal skill requiring a large degree of linguistic competence’ (Poplack 1980: 581) a dyfynnu ychydig. Dim ond yn yr astudiaethau cynnar y ceir geiriau negyddol fel ‘idiosyncratic behaviour’ (Labov 1971: 457) a ‘linguistic distortions’ (Lado 1957: 1) i ddisgrifio’r ffenomen. Gall y tueddiad diweddar i edrych ar god-groesi mewn ffordd bositif ddeillio o’r ffaith bod y ffenomen yn gymhleth iawn wrth edrych ar ei ffwythiannau a’i chyfyngiadau (gweler Gumperz 1982; Myers-Scotton 1993a; Poplack 1980, a Sankoff a Poplack 1981), ond ceir yr un tueddiad hefyd mewn astudiaethau sy’n gofyn a yw cod-groesi’n arwydd o ddiffyg cymhwysedd cyfathrebol. Er enghraifft, mewn erthygl o’r enw Code-switching: a natural phenomenon vs language ‘deficiency’, y mae Cheng a Butler (1989: 299) yn diystyru’r broblem hon gan ddweud:
Professionals who deal with language disorders have often discussed whether the use of code-switching is an indicator of language proficiency or lack thereof. Furthermore some may even view code-switching as language deficiency, failing to understand that code-switching is a complex behaviour among children and adults who are bilingual. When code-switching is used for the purpose of maximizing communication, of effective expression, and to strengthen the content and essence of messages, it should be considered an asset, not a deficiency. In the United States, code-switching is a commonly observed phenomenon and although attitudes toward it may vary, it is clear that those who use two or more languages will continue to optimise the use of these two languages. Surely, a country as multicultural and pluralistic as the United States needs to examine the benefits of code-switching by individuals as a means for better communication.
(myfi biau’r italeiddio).

Fel y dengys y geiriau wedi eu hitaleiddio, y mae’r tueddiad i ystyried bod god-groesi yn ffenomen bositif yn hytrach nag yn arwydd dichonol o ddiffyg cymhwysedd cyfathrebol yn amlwg. Yn ôl Poplack (1980: 615):
Code-switching is a verbal skill requiring a large degree of linguistic competence in more than one language, rather than a defect arising from insufficient knowledge of one or the other.

Wrth gwrs, ni ellir gwadu bod rhaid i berson dwyieithog sy’n cod-groesi ddefnyddio ei gymhwysedd yn y ddwy iaith a bod cod-groesi’n gallu hwyluso cyfathrebu, ond gall cod-groesi darddu o ddiffyg cymhwysedd yn ogystal.
Dadleua Cheng a Butler (1989) fod y cynnydd dros amser mewn defnydd o god-groesi gan blentyn dwyieithog Mandarin/Saesneg rhwng 36 a 44 mis oed yn adlewyrchu’r datblygiad yng nghymhwysedd y plentyn yn ei ddwy iaith a bod hyn yn brawf o agwedd bositif at god-groesi. Fodd bynnag, dangosir bod y plentyn wedi defnyddio geiriau Saesneg pan na wyddai’r Mandarin. Yn ôl Cheng a Butler (1989: 306), ‘The subject capitalized on his English competence and utilized these expressions (h.y. geiriau Saesneg) to communicate effectively what he meant’. Fel y dadleuant, dyma enghraifft o god-groesi i hwyluso cyfathrebu. Er hynny, y mae cod-groesi yn yr enghraifft hon yn tarddu o ddiffyg geirfaol ar ran y plentyn ac yn arwydd o ddiffyg cymhwysedd cyfathrebol yn un o’i ieithoedd, sef y Mandarin yn yr achos hwn.
Mewn astudiaeth ar oedolion dwyieithog ac amlieithog yn Mauritania (Ffrangeg ac Arabeg oedd yr ieithoedd a chanddynt gefnogaeth sefydliadol yn yr ysgolion ac yn ail-ieithoedd i bedwar grŵp o siaradwyr iaith-gyntaf o Hassania, Pulaar, Soninké, ac Wolof), daw Sounkalo (1995) i’r un casgliad gan ddangos bod y siaradwyr yn cod-groesi oherwydd eu diffygion geirfaol hwy eu hunain yn ogystal â dirywio geirfaol yr ieithoedd lleiafrifol yn gyffredinol. Mewn cyferbyniad â’r canlyniadau yn astudiaeth adnabyddus Poplack (1980), dengys Sounkalo (1995) fod y siaradwyr sy’n fwy rhugl yn eu ieithoedd lleiafrifol yn llai tebygol o god-groesi na’r siaradwyr llai rhugl a bod hyn yn gallu arwain at god-groesi gydag un o’r ieithoedd mwyafrifol. Daw Tamis (1990: 487), mewn astudiaeth ar oedolion dwyieithog yn Awstralia, i’r un casgliad gan ddweud: ‘the single factor which has resulted in the reduction of transference to a minimum appears to be command of the mother tongue’.

Fel yr awgrymwyd eisoes, er y gall cod-groesi fod yn arwydd o ddiffyg geirfaol, dylanwedir hyd yn oed ar ganlyniadau astudiaeth adnabyddus Poplack (1980) gan y duedd i edrych yn ffafriol ar y ffenomen, ac y mae hi’n dweud bod y bobl ddwyieithog yn cod-groesi o’r Saesneg (yr iaith fwyafrifol) i’r Sbaeneg (yr iaith leiafrifol) heb ystyried y posibilrwydd o gyfnewid ieithoedd yn nyfodol y gymuned a astudiodd. Disgrifir y gymuned honno ganddi fel ‘a stable bilingual community, rather than a transitional one where acquisition of a second language would eventually displace the first’ (Poplack 1980: 582). Ond fel yr awgryma Gardner-Chloros (1991: 50):
Descriptions of ‘stable bilingualism’ should at least include comparisons between the oldest and the youngest members of the group and if possible follow the changes which occur over a number of years.

Ni cheir cymhariaeth o siaradwyr o wahanol genedlaethau yn astudiaeth Poplack, ac o ystyried i’r astudiaeth hon gael ei gwneud bron chwarter canrif yn ôl, byddai astudiaeth bellach yn yr un gymuned yn dangos a yw ei chasgliadau’n dal i fod yn addas. Gall y tueddiad i ystyried bod cod-groesi yn ymddygiad medrus a chreadigol, felly, gamarwain casgliadau astudiaethau ar y ffenomen. Gall cod-groesi fod yn arwydd hefyd o ddiffyg cymhwysedd cyfathrebol ac o gyfnewid ieithoedd.

1.3.3 A ydyw Cod-groesi’n Arwydd o Gyfnewid Ieithoedd?
Fe’n tywysir i holi pryd y mae cod-groesi’n broses ‘grefftus’ ac yn fath o ymddygiad ‘creadigol’ a phryd y mae’n arwydd o gyfnewid neu dranc iaith? Yn ôl Gardner-Chloros (1991: 59), ‘it seems likely that code-switching is always an indicator that change is occurring’. Fel y gwelsom yn 1.1.3, gall y newidiadau hyn fod yn enghreifftiau o symleiddio strwythurau ieithoedd, cyfnewid ieithoedd, newid cymdeithasol, neu gyfuniad o’r tair proses. Awgryma B. L. Jones (1981: 49) fod cod-groesi Cymraeg/Saesneg ac ymyrraeth o’r Saesneg yn cyfeirio at ansefydlogrwydd ieithyddol. Yn ôl Romaine (1989: 5):
‘mixed’ speech... is quite common in the Panjabi/English bilingual community in Britain, where contact with English is so intense, especially among the younger generation, that many fear the language will be lost in the future. This anxiety is widely shared by members of many other minority language communities. It has often been said that bilingualism is a step along the road to linguistic extinction.

Wrth gwrs, nid yw tranc iaith yn ganlyniad anochel o ddwyieithrwydd, ond fel yr awgryma Romaine uchod, gall iaith leiafrifol gael ei thanseilio wrth i’r cenedlaethau ieuaf o siaradwyr gymysgu eu hiaith ag iaith fwyafrifol. Wrth ymchwilio i gyfnewid ieithoedd a chod-groesi ymysg siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn Awstralia, dywed Tamis (1990: 487): ‘lexical transfers and code-switching… present a higher incidence amongst second and subsequent generation speakers, representing the process of language shift in the direction of English’. Y mae sawl ymchwilydd arall wedi disgrifio enghreifftiau o’r cynnydd mewn ffenomenâu croes-ieithyddol a chyfnewid ieithoedd rhyng-genedlaethol (er enghraifft Boyd 1985; Dorian 1981 a 1989; Fishman 1966 a 1991; Gal 1979). Gall cod-groesi, felly, fod yn arwydd o gyfnewid ieithoedd.

Cyfeiria sawl awdur at resymau dros gyfnewid ieithoedd gan gynnwys iselhau agweddau siaradwyr tuag at yr iaith (B. Thomas 1992: 63), manteision economaidd a chymdeithasol (Appel a Muysken 1987: 32), crebachu swyddogaethau’r iaith (Dressler a Wodak-Leodolter 1977: 7), gwasanaethau gweinyddol a llywodraethol a bywiogrwydd ethnoieithyddol (Giles, Bourhis, a Taylor 1977: 308), a sawl newid cymdeithasol arall. Wrth drafod yr astudiaeth ar gyfnewid ieithoedd yn Llydaw gan Dressler a Wodak-Leodolter (1977), rhestra D. Jones (1997: 128) addysg gynradd orfodol, cynnydd yn y cysylltiadau rhwng Llydaw a Pharis, diboblogi’r ardaloedd gwledig, a mudo daearyddol a chymdeithasol yn rhesymau dros newid o’r Llydaweg i’r Ffrangeg (cymharer â’r drafodaeth ym Mhennod 3). Yn ôl Romaine (1989: 268-9), ceir cysylltiad rhwng newidiadau cymdeithasol, cod-groesi, a chyfnewid ieithoedd:
More careful monitoring of code-switching in communities undergoing language shift is needed. Since code-switching is often characteristic of communities undergoing rapid social and linguistic change, group boundaries may be diffuse, and norms and standards of evaluation may vary and shift over time. Similarly, the status of languages/varieties in use may be changing in accordance with people’s perceptions of the degree of separateness or distance between the two languages and members of the same family may show very different use patterns. In situations such as these, speakers’ ethnic identities and social backgrounds are often not matters of common agreement. They may be negotiated largely by language choice patterns in everyday interaction.

Ac eto, yn ôl Gumperz a Hernandez (1971: 2), ceir cod-groesi ‘each time minority language groups come into contact with majority language groups under conditions of rapid social change’. Dangosir, hefyd, y cysylltiad rhwng cyfnewid ieithoedd a newidiadau cymdeithasol yng Nghymru gan B. Thomas (1987), sy’n amlygu sut y collir y Gymraeg yn ei pheuoedd traddodiadol fel y cartref a’r gwaith.

Un o’r prosesau sy’n mynd law yn llaw â chyfnewid ieithoedd yw colli rheolau ieithyddol, fel rheolau ffonolegol a chystrawennol. Proses gysylltiedig arall yw aileirio’r iaith leiafrifol sy’n cael ei disodli gan iaith fwyafrifol. Y mae Dressler (1972; dyfynnir gan Dorian 1978) yn trafod colli rheolau ffonolegol y Llydaweg, a chyfeiria B. L. Jones (1981: 27) at aileirio’r Gymraeg a Seisnigeiddio cystrawen y Gymraeg mewn enghreifftiau fel ‘rhoi esgidiau ar’. Yn ôl Appel a Muysken (1987: 42):
The loss of lexical skills in the minority language goes hand in hand with another phenomenon, i.e. the process of relexification: words in the dominant language are replacing words in the minority language.

Adleisia Grin (1993: 376-77, 379) y cysylltiad rhwng aralleirio, ffenomenâu croes-ieithyddol eraill, a chyfnewid ieithoedd gan ddweud:
As a language loses territory in a given community, speakers will become less proficient in it. Apparently, once language shift has gone far enough, loss of linguistic skills, relexification, code-switching, code-mixing and monostylism by speakers can be observed; once this stage is reached, the language is closer to extinction… Minority language decline may manifest itself not only through the drop in percentage of speakers, but also through a decline in the frequency of use or in language quality.

Canlyniad posibl i aileirio iaith a cholli rheolau ffonolegol a chystrawennol yw coleddu barn negyddol am yr iaith. Yn ôl Dressler a Wodak-Leodolter (1977: 9):
The reduction and adaptation of linguistic structures are signs of threatening language death. But, they also hasten language death, as an undermined, reduced, and alien language may seem to its speakers less worthy of being spoken, and is thus even less likely to be preserved.

Mewn astudiaeth ar agweddau tuag at dafodieithoedd ym Mhont-rhyd-y-fen, y mae B. Thomas (1992) yn adleisio’r un teimlad wrth sôn am newidiadau mewn defnydd iaith. Prif amcan yr astudiaeth oedd archwilio agweddau pobl tuag at wahanol dafodieithoedd yn y Gymraeg, ac awgryma B. Thomas (1992: 63) fod y canlyniadau yn argoeli ddyfodol argyfyngol i’r Gymraeg:
Yng Nghymru, fel yn yr Alban a’r Iwerddon [sic], mae’r broses o gyfnewid iaith wedi arwain at dwf yn ymwybyddiaeth y siaradwyr o ddylanwad y Saesneg. Yn aml, bydd meddwl isel o’r dafodiaith leol o achos hynny, a hynny yn ei dro yn cyflymu symud at Saesneg. Tra bydd y rhwydweithiau cymdeithasol lleol yn ddwys ac yn amlbleth, cynhelir tafodiaith er ei bod yn isel ei statws. Wrth i’r rhwydweithiau sydd yn cynnal y dafodiaith chwalu, yna collir y symbyliad hwn, a gwell gan siaradwyr droi i’r Saesneg na siarad iaith ‘israddol!’

Cydnabyddir pwysigrwydd agweddau tuag at iaith a’u heffeithiau ar wrthsefyll cyfnewid ieithoedd. Y mae’n glir y gall newidiadau cymdeithasol ac agweddol, aileirio, a chynnydd mewn ffenomenâu croes-ieithyddol eraill hyrwyddo troi o un iaith i’r llall mewn cymunedau dwyieithog, eithr prin y mae’n debyg bod cod-groesi ar ei ben ei hunan yn arwydd o gyfnewid ieithoedd, fel yr honna Gardner-Chloros (1991: 49):
Language shift… does not follow a universal order, does not always include the same stages, and above all does not always proceed at the same speed. Code-switching need not, for example, always be present as one of the phases in language shift; nor can its presence be taken to imply that a particular type of shift (e.g. the ‘disappearance’ of one of the languages) will inevitably take place.

Fel y gwelsom eisoes, y mae siaradwyr yn cod-groesi am wahanol resymau, ac y mae sawl ffactor yn hyrwyddo cyfnewid iaith. Er y gall cod-groesi fod yn arwydd o ddiffyg yng nghymwysedd cyfathrebol siaradwyr a all arwain at gyfnewid ieithoedd, y mae rhaid ystyried y ffenomen gyda golwg ar ffactorau allieithyddol/cymdeithasol eraill. Yn ôl Eastman (1992: 16-17):
Codeswitching behaviour needs to be seen in its sociohistorical as well as ethnographic context. Attitudes towards codeswitching, and the actual degree to which it is practised is not solely a matter of language contact but may also be a reflection of ethnic and race relations, political and economic realities, generational differences, and factors of ‘covert prestige’ value within a community. (hi biau’r italeiddio)

Unwaith eto, cawn adleisio’r agweddau tuag at y defnydd o iaith, ond ceir hefyd bwyslais ar bwysigrwydd hanes sosioieithyddol yr ieithoedd dan sylw. Y mae Eastman yn awgrymu y dylai astudiaethau ar god-groesi ac amgyffwrdd ieithyddol ddilyn y dull ethnograffig er mwyn llenwi’r bylchau mewn astudiaethau eraill yn y maes. Gall gwahaniaethau rhwng cenedlaethau, statws yr ieithoedd yn y gymuned ddwyieithog, a’r berthynas rhwng y ddwy garfan ieithyddol ddylanwadu ar ddyfodol yr iaith leiafrifol. Y mae’n hawdd gweld y dilyniant o amgyffwrdd ieithyddol i ddwyieithrwydd i god-groesi i gyfnewid iaith. Nid yw’n anodd gweld canlyniad eithaf i’r dilyniant hwn, sef tranc iaith. Wrth gwrs, nid yw’r canlyniad hwn yn anochel; ond fel y dangoswyd, dylid ystyried y rhyngweithio rhwng yr amrywiol ffactorau a all ddylanwadu ar gyfnewid ieithoedd er mwyn asesu cyflwr iaith leiafrifol mewn sefyllfa o amgyffwrdd ieithyddol.

1.4 Tryledu Ieithyddol

Gyda chyflwyno’r dull cydamserol (synchronic approach) gan Labov yn 1963, galluogwyd ymchwilwyr i astudio newid ieithyddol yn fanwl o un haen i’r llall ac o un sefyllfa i’r llall. Trwy weithredu methodoleg sy’n ystyried haenau cymdeithasol, oedran, a rhyw mewn astudiaeth gydamserol, gall y dull hwn olrhain newidiadau diacronig a datgelu a oes cyfeiriad i’r newidiadau. Disgrifia Bailey, Wikle, Tillery a Sand (1993: 359) y dull hwn fel a ganlyn:
By examining the intersection of apparent time distributions of data with distributions among various social groups, variationists have been able to observe how innovations enter the speech of a restricted social group, spread to members of other sub-groups, and either reach the limits of the speech community or give way to retrograde changes. By examining distributions of a feature in a large number of tokens, variationists have been able to observe how innovations begin either in a restricted linguistic environment or among a restricted set of words and spread outward to other environments or words.

Elfen ganolog i’r dull cydamserol yw’r ffaith bod newidiadau ieithyddol yn dechrau mewn un grŵp neu haen o’r gymdeithas neu mewn amgylchedd arbennig ac yn ennill tir dros amser mewn haenau ac amgylcheddau eraill. Y mae’r fethodoleg hon wedi llwyddo i ddatgelu newidiadau ieithyddol yn y defnydd o gytseiniaid a llafariaid (Labov 1963 a 1991; Milroy a Milroy 1992; a Trudgill 1978), ffurfiau berfau (Cheshire 1978), acennu geiriau (Chen a Wang 1975), newidiadau cystrawennol (Aitchison 1981), ac amrywiolion mewn tafodieithoedd (Bailey et al. 1993 a Trudgill a Chambers 1991). Trwy gymharu dosbarthiadau’r data â’r defnydd o newidiadau ieithyddol mewn gwahanol haenau mewn cymuned ieithyddol, gellir olrhain tarddiad y newidiadau ieithyddol a datgelu cyfeiriad eu hymlediad dwy’r gymuned. Y mae hyn yn enghraifft o broses gyffredin mewn datblygiad ieithoedd a thafodieithoedd, proses o’r enw tryledu ieithyddol (linguistic diffusion).
Disgrifir tryledu yn The Dictionary of Human Geography (Johnston, Gregory, a Smith 1986: 106) fel ‘the spread of a phenomenon over space and through time’: ac yn ôl Bailey et al. (1993: 336), y term tryledu cyffyrddiol (contagious diffusion), sy’n dod o wyddor epidemioleg, ‘is best illustrated by the transmission of a disease: direct contact with someone possessing the trait is the primary requisite for its spread’. Er bod cynodiad negyddol gwreiddiol y term yn anffodus, y mae’r gyfatebiaeth o’r ymledu o newidiadau ieithyddol drwy gysylltiad uniongyrchol â phobl eraill yn effeithiol wrth esbonio sut y mae’r newidiadau hyn yn taenu o un haen y gymuned i’r llall. Y mae is-gategori i dryledu ieithyddol, sef tryledu geirfaol (lexical diffusion), yn debyg i dryledu cyffyrddiol. Y mae theori tryledu geirfaol yn rhagfynegi bod ‘a phonological rule gradually extends its scope of operation to a larger and larger portion of the lexicon, until all relevant items have been transformed by the process’ (Chen a Wang 1975: 256). Dwy enghraifft o’r broses hon yn natblygiad y Saesneg yw deddfau Grimm a Verner a chyfnewid cytseiniaid fel /p, t, k/ i /f, T, X/ yn y drefn honno mewn cyd-destunau arbennig (gweler Pyles ac Algeo 1993: 87-91). Ceir enghraifft yn y Gymraeg hefyd. Yn ôl Aitchison (1981: 95-96), mewn rhai tafodieithoedd, y mae geiriau sy’n dechrau â chw- fel chwaer, chwarae, a chwannen, a oedd yn dechrau â’r clwm /Xw/, wedi colli’r clwm hwnnw a defnyddio /hw/ yn ei le neu ei symleiddio’n bellach drwy ddefnyddio /w/ yn unig ar ddechrau’r geiriau hyn. Ys dywed Aitchison (1981: 95):

One of these three words was likely to lose its initial consonant without there being any alteration in the other two at first. Then the change was likely to affect one of the remaining two, then all three.

Ond y mae Aitchison yn cyfeirio at astudiaeth dafodieithol gan Sommerfelt (1925: 140-42) sy’n honni:
A characteristic difference between North and South Welsh dialects is furnished by the state of initial Old Welsh chw-. In South Wales this group has developed into w by an assimilation-fusion, whereas it has remained unaltered in North Wales.

Ond y gwrthwyneb a ddigwyddodd yn hanesyddol yn ôl pob tebyg. Yn wreiddiol, /sw/ oedd y clwm ar ddechrau’r geiriau hyn a meddalodd y clwm i /hw/. Yn y De, parhaodd y duedd hon o feddalu a chollwyd y /h/, ond yn y Gogledd cryfhaodd y gytsain drwy ddefnyddio’r clwm /Xw/ (cyfathrebu personol â P. W. Thomas). Er y dystiolaeth gamarweiniol a geir yn Sommerfelt ac o ganlyniad wedyn yn Aitchison, enghreifftiau o dryledu yw’r datblygiadau hanesyddol gywir. Hawdd gweld, felly, y tebygrwydd rhwng tryledu cyffyrddiol a thryledu geirfaol. Ymleda newidiadau ffonolegol a morffolegol o un cyd-destun ieithyddol arbennig i gyd-destunau tebyg mewn tryledu geirfaol; ond ar lefel y gymuned, gall unrhyw fath o newidiadau ieithyddol, gan gynnwys newidiadau ffonolegol a morffolegol, ennill tir drwy ledaenu o un person (neu grŵp) i’r llall, fel arfer ymysg pobl a chanddynt rywbeth yn gyffredin fel diddordebau, profiadau, a chysylltiadau cymdeithasol eraill (gweler Rogers 1983 am dryledu yn gyffredinol ac am ffactorau a all rhwystro neu hyrwyddo newidiadau).

Gall tryledu ieithyddol fod yn ganlyniad i amgyffwrdd ieithyddol, ond nid amlygir y broses hon i’r un graddau ym mhob sefyllfa pan siaredir dwy neu fwy o ieithoedd. Gyda thryledu ieithyddol, gall dylanwadau o un iaith i’r llall effeithio ar unrhyw ddosbarth o eiriau ac ar unrhyw lefel ieithyddol gan gynnwys cystrawen a morffoleg; fel arfer, fe â’r dylanwadau hyn o’r iaith fwyafrifol i’r un leiafrifol (Romaine 1989: 39-40). Y mae’r ffurfiau hyn sy’n dod o’r iaith arall yn tueddu i ddechrau ar ffiniau daearyddol lle mae siaradwyr yr iaith leiafrifol yn dod i gysylltiad â’r iaith fwyafrifol yn aml neu yn feunyddiol; a gall y ffurfiau hyn ymledu o’r ffiniau drwy’r gymuned ieithyddol sy’n rhannu’r un iaith leiafrifol (gweler Aitchison 1981: Pennod 2, Aitchison a Carter 1991:64-65). Yng Nghymru, y mae’n ymddangos bod tryledu wedi chwarae rhan ganolog yng nghyfyngu ffiniau ieithyddol y ‘Fro Gymraeg’:
The most direct interpretation of this general retreat is that offered by the concept of ‘contagious diffusion’. The territories at the frontier are the most vulnerable, exposed as they are to the everyday use of English. Virtually every aspect of life brings the Welsh-speaker directly into contact with English. Consequently, the value of Welsh, both socially and economically, is diminished. (Aitchison a Carter 1991: 65)

Er bod y ffiniau eu hunain yn bwysig mewn achosion o dryledu ieithyddol, gall agosrwydd at y ffiniau beri gwahanol effeithiau ieithyddol. Dengys Poplack, Sankoff a Miller (1988) fod benthyg geiriau o’r Saesneg i’r Ffrangeg yn lleihau wrth i’r cysylltiad beunyddiol â’r Saesneg leihau mewn gwahanol ardaloedd yn Québec ac Ontario. Wrth gwrs erbyn heddiw, gall ffactorau eraill fel y cynnydd yn y cyfryngau torfol a’r datblygiadau technolegol mewn cyfathrebu hwyluso’r broses hon ac y maent yn gallu chwalu ffiniau daearieithyddol.[4]
Er bod tryledu eitemau geirfaol yn debyg iawn i fenthyg geiriau, fel y gwelsom uchod (1.3.1), cyfeirio at ymledu ffurfiau benthyg o un rhan, neu haen, o’r gymuned ieithyddol i’r llall y mae tryledu. Gall ffurfiau o’r iaith fwyafrifol ymledu a disodli ffurfiau brodorol nes bod pob siaradwr yn y gymuned yn eu defnyddio neu yn eu cael yn ffurfiau derbyniol. Fel yr awgrymwyd dros tri-chwarter ganrif yn ôl gan Jespersen (1922: 9-10):

Loan-words always show the superiority of the nation from whose language they are borrowed, though the superiority may be of different kinds… When a nation has once got into the habit of borrowing words, people will often use foreign words where it would have been perfectly possible to express their ideas by means of native-speech material.

Digwyddodd hyn yn y Saesneg ar ôl y Goresgyniad Normanaidd pan ddisodlwyd rhai o eiriau’r Hen Saesneg gan ffurfiau o’r Ffrangeg, iaith y goreuon llywodraethol. Er enghraifft, cafodd burhsittende man (dinesydd) a genoh (digon) eu disodli gan y ffurfiau Ffrangeg citeseyn a plente (gweler Hughes 1988; Pyles ac Algeo 1993 am enghreifftiau eraill o eiriau benthyg yn y Saesneg). Ceir enghreifftiau o fenthyciadau Hen Saesneg yn y Gymraeg yn ogystal. Cynigia T.H. Parry-Williams (1923) ‘het’, ‘pres’, a ‘cusan’ yn enghreifftiau, a dengys Charles (1971) wreiddiau Saesneg i sawl gair ar iaith lafar yn sir Benfro gan gynnwys ‘lwcus’, a ‘babi’. Erbyn heddiw, y mae’r ffurfiau hyn i gyd yn dderbyniol drwy Gymru. Wrth gwrs, mewn meysydd neu ardaloedd arbennig neu gan bobl mewn haenau cymdeithasol penodol fel y bendefigaeth y dechreuodd y defnydd o’r ffurfiau hyn, ac wedyn tryledasant drwy’r cymunedau nes iddynt ddisodli’r ffurfiau brodorol.

Er bod tryledu ieithyddol yn broses gyffredin a all effeithio ar bob dosbarth o rannau ymadrodd, y mae geiriau yn fwy tebygol o gael eu trosglwyddo na rhannau eraill. Yn ôl Weinreich (1953: 35-37), y mae geiriau yn cael eu benthyg yn amlach ac yn haws na ffonoleg, cystrawen, neu forffemau iaith arall oherwydd bod geiriau yn llai rhwymedig wrth strwythur ieithoedd. Cynigia Weinreich hierarchaeth a sail resymegol wrth sôn am ddylanwadau croes-ieithyddol sy’n debyg iawn i hierarchaeth a sail resymegol Poplack (1980: 602) wrth iddi drafod elfennau mewn cod-groesi. Darlunnir yr hierarchaeth hon yn Ffigur 1.2:

Eitemau Geirfaol UCHEL


Tarddiadol
Morffoleg Rhwyddineb y benthyg
Ffurfdroadol


Cystrawen ISEL
Ffynhonnell: Romaine (1989: 63)
Ffigur 1.2: Hierarchaeth Benthyg

Wrth gwrs, y mae iaith gyntaf siaradwyr dwyieithog yn effeithio ar eu goslef yn eu hail iaith hefyd (Romaine 1989: 53-54), ac y mae ffonemau yn cael eu trosglwyddo yn ogystal (gweler Weinreich 1953: 14-28). Oherwydd bod gan gystrawen gysylltiad agos iawn at strwythur iaith, dyma’r elfen sy’n gwrthsefyll dylanwadau o iaith arall yn fwy na morffoleg ac eitemau geirfaol. Gellir dadlau mai cystrawen yw’r hyn sy’n adeiladu strwythur iaith, ac felly nid yw’n hawdd trosglwyddo elfennau cystrawennol un iaith i iaith arall a chanddi strwythur gwahanol. Fodd bynnag, ceir enghreifftiau lle trosglwyddir cystrawen, fel y dengys Baetens Beardsmore (1986: 69) mewn brawddeg gan siaradwr dwyieithog a fedrai’r Isalmaeneg a’r Saesneg:
“I know what I did that with –
that pan putting on out of the oven” =

die pan daarop zetten uit de oven

Y mae’r enghraifft hon yn gyfieithiad gair am air bron ar sail cystrawen yr Isalmaeneg, ond y mae cystrawen un iaith yn llai tebygol o ymledu a thanseilio cystrawen iaith arall na’r elfennau eraill yn yr hierarchaeth hon (ond gweler Romaine 1989: 141-42 am enghreifftiau eraill). Hawdd gweld wedyn paham y mae morffoleg ffurfdroadol yn fwy tebygol o wrthsefyll tryledu. Fel yr honna P. W. Thomas (1996: 23):
 ffurfiau geiriau fel berfau, arddodiaid rhediadol, ac enwau lluosog, a gyflyrir gan ystyriaethau cystrawennol y mae a wnelo morffoleg ffurfdroadol. Y mae morffoleg ffurfdroadol, felly, yn ganolog i gystrawen… Y mae morffoleg darddiadol, ar y llaw arall, yn ymylol i gystrawen….

Gan fod ffurfdroadau yn cysylltu geiriau â geiriau eraill mewn cystrawennau gramadegol, y mae morffoleg ffurfdroadol yn fwy canolog i gystrawen na morffoleg darddiadol. Disgwylir, felly, ddod o hyd i fwy o enghreifftiau o ffurfiau tarddiadol na ffurfdroadol mewn iaith lafar. Cynigia Baetens Beardsmore (1986: 68) fel enghraifft yr ôl-ddodiad bachigol Isalmaeneg –ke yn iaith lafar siaradwyr y Ffrangeg ym Mrwsel lle ceir ‘Jeanneke, Fonske, la Coupoleke’ yn lle ‘petite Jeanne, petit Fons, la petite Coupole’. Ceir hefyd enghreifftiau hanesyddol o ffurfiau tarddiadol sefydledig o ieithoedd eraill yn Saesneg fel anti- (a fenthycwyd o’r iaith Roeg) yn anticlimactic ac –(ic)ian (o’r Lladin) yn musician (gweler Pyles ac Algeo 1993: 268-69 am enghreifftiau eraill). Er hynny, yn Gymraeg nid yw dodiaid tarddiadol o’r Saesneg yn gyffredin ar lafar ond gall dodiaid ffurfdroadol ymddangos mewn ymddiddan beunyddiol. Er enghraifft, ni thueddir i glywed Roedd ei *swilness yn broblem iddi, ond gellir clywed y defnydd o’r dodiad Saesneg sy’n dynodi enwau lluosog fel Roedd y pysgotwrs yn brysur wrth eu gwaith. Ond ceir enghraifft o’r hyn wrth ystyried y gair ‘talment’. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC), y mae ‘talment’ yn gymathiad o’r gair Cymraeg ‘tâl’ a’r dodiad ffurfdroadol Saesneg –ment ac yn golygu payment (GPC: 3433).
Yn wahanol i gystrawen a morffoleg, caiff elfennau geirfaol eu benthyg yn hawdd iawn a byddant yn ymledu’n rhwydd oherwydd eu hannibyniaeth ar gyfyngiadau cystrawennol. Ond er y gall cystrawen wrthsefyll cael ei throsglwyddo o un iaith i’r llall yn fwy nag elfennau eraill, gall geiriau gael eu benthyg a’u hymledu yn haws ac arwain at amnewid rhai elfennau geirfaol yn gyfan gwbl. Yn ôl Aitchison (1981: 30), ‘Vocabulary items tend to be added, replaced, or changed in meaning more rapidly than any other aspect of language’. Y mae enwau yn fwy tebygol o gael eu trosglwyddo na geiriau eraill fel berfau, adferfau, ac ansoddeiriau (gweler Haugen 1950b ac 1956). Daw Poplack, Sankoff, a Miller (1988) i’r un casgliad, ac y maent yn awgrymu mai’r rheswm am hyn yw ei bod yn haws benthyg enwau cyffredin heb eu cymathu i strwythur yr iaith dderbyn. Fel arfer, y mae berfau yn cael eu haddasu i forffoleg ffurfdroadol yr iaith dderbyn ond gall enwau gadw eu ffurf wreiddiol wrth gael eu trosglwyddo. Ond fel y gwelsom eisoes yn 1.3.1, gall enwau a geiriau eraill a fenthycer hefyd gael eu cymathu i sustem ffonolegol yr iaith dderbyn. Dros ganrif yn ôl, cyfeiriodd Powel (1883: 112) at y broses o addasu geiriau benthyg yn y Gymraeg a’r nifer fawr o eiriau Saesneg a fenthyciwyd:

If the enquiry of the present paper were extended to the literary language, and carried out fully in historical order, it would probably be found that Welsh has borrowed from English a larger number of words, and from an earlier period, than some of our authorities have been willing to admit… Those words which have been longest current in the Principality, have been forced into the most complete conformity with Welsh phonetic laws.

Er y gall hyn fod yn wir, hynny yw y nifer fawr o fenthyciadau Saesneg yn y Gymraeg, y mae gan y rhan fwyaf o’r geiriau a gynigir ganddo yn enghreifftiau wreiddiau Saesneg amlwg ond ni cheir dyddiadau benthyg y geiriau ‘newydd’ hyn. O’r enghreifftiau a gynigir gan Powel (1883), y mae 63% yn enwau, 32% yn ferfau, a 5% yn ansoddeiriau. Y mae hyn yn adlewyrchu hierarchaeth Poplack (1980). Dichon, fel yr awgryma Weinreich (1953: 36) wrth sôn am gasgliadau Haugen (1950b) ac fel y dengys Poplack, Sankoff, a Miller (1988) wrth drafod canlyniadau eu hastudiaeth yng Nghanada, fod rheswm arall y ceir mwy o enwau wedi eu benthyg mewn iaith lafar na geiriau gramadegol, sef eu bod yn fwy niferus na ffurfiau eraill. Fodd bynnag, dengys Poplack et al. (1988) fod yr enwau yn eu data a fenthyciwyd o’r Saesneg yn bum gwaith mwy niferus nag enwau’r iaith dderbyn, sef Ffrangeg. O ganlyniad, casglant fod gan enwau ogwyddiad naturiol i gael eu trosglwyddo.

Cyn symud ymlaen, bydd yn ddefnyddiol cyflwyno dau gysyniad tebyg yma. Crybwyllwyd y ddau hyn sawl gwaith eisoes, sef cywair a phau; y mae’r ddau gysyniad yn gorgyffwrdd â’i gilydd. Yn ôl Trudgill (1983: 100-1):
Linguistic varieties that are linked… to occupations, professions or topics have been termed registers. The register of law, for example, is different from the register of medicine, which in turn is different from the language of engineering – and so on. Registers are usually characterized solely by vocabulary differences: either by the use of particular words, or by the use of words in a particular sense. (ef biau’r italeiddio)

Ceir enghreifftiau o wahanol gyweiriau yn Gymraeg fel crefydd, gwyddoniaeth a threthiant yn R.O. Jones (1997: 32-36).
Disgrifia Fishman (1991: 44) y cysyniad o beuoedd fel y ganlyn:
Broadly speaking, they are conceptualized as all of the interactions that are rather unambiguously related (topically and situationally) to one or another of the major institutions of society: e.g. the family, the work sphere, education, religion, entertainment, and the mass media, the political party, the government, etc. These are referred to as ‘domains’.

Er bod cyweiriau a pheuoedd yn gysyniadau tebyg, y mae cywair yn cyfeirio at eirfaoedd arbennig neu setiau semantaidd fel geirfa dechnolegol neu grefyddol ac y mae pau yn cynnwys y geiriau yn y setiau semantaidd hyn a’r siaradwyr a themâu’r sgwrs mewn amrywiol sefyllfaoedd yn ogystal. Er enghraifft, mewn dosbarth lle bo athro yn trafod cerddoriaeth â disgyblion ac yn defnyddio termau fel ‘cribell’, ‘bugeilgan’, a ‘cadwyn o alawon’, pau yr ymddiddan yw ‘y dosbarth’ ac y mae’r set semantaidd o eiriau yn perthyn i gywair ‘cerddoriaeth’.

Mewn sefyllfaoedd o ddwyieithrwydd, gall geirfa un iaith danseilio geirfa iaith arall mewn amrywiol gyweiriau ac ymestyn i’r peuoedd cysylltiedig, fel y mae tryledu geirfaol yn peri i newidiadau seinegol dryledu trwy grwpiau o eiriau. Y mae sawl ymchwilydd wedi cyfeirio at y ffenomenâu hyn lle y mae geirfa un iaith, fel arfer iaith fwyafrifol, yn disodli geirfa iaith arall, fel arfer iaith leiafrifol (er enghraifft Cooper 1969, y Sbaeneg; Dorian 1981, Gaeleg yr Alban; Haugen 1950 ac 1956, y Norwyeg; Hindley 1990, yr Wyddeleg). Wrth drafod y sefyllfa sosioieithyddol yng Nghymru, awgryma Aitchison a Carter (1991: 62):

The main predisposing influence towards the neglect of a lesser-used language is direct and daily contact with one more widely spoken. In places where constant mixing takes place, the twin processes of lexical reduction and domain limitation will strongly assert themselves. It is in this way that a discernible language frontier can come into being – like that once marking the bounds of Y Fro Gymraeg. (hwy biau’r italeiddio)

Y mae crebachu geirfaol (lexical reduction) yma yn cyfleu bod geiriau Saesneg yn cymryd lle geiriau Cymraeg yn yr iaith lafar, ac y mae cyfyngu peuoedd (domain limitation) yn golygu bod y Gymraeg yn colli ei thir mewn peuoedd traddodiadol fel y teulu a chrefydd dan bwysau’r Saesneg. Cyfeiria Jenkins, Suggett, a White (1997: 102) at y defnydd o eiriau Saesneg mewn gwahanol beuoedd yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ar bymtheg gan ddyfynnu enghreifftiau fel bonnets, lottery, jockeys, ruffles, a suit a dweud bod yr enghreifftiau hyn:

Yn cadarnhau bod Cymraeg llafar y cyfnod yn llawn o eiriau benthyg, ond nid oedd y rhain wedi eu gwasgaru’n wastad o fewn yr iaith o bell ffordd. Nid proses o erydiad geirfaol, h.y. bod geiriau Saesneg yn disodli geiriau Cymraeg sydd yma, oherwydd y mae’n amlwg fod y benthyca yn digwydd yn ddetholus mewn meysydd megis y gyfraith, masnach a ffasiwn, lle yr oedd y Saesneg yn teyrnasu.

Er nad yw’r rhestr hanesyddol hon yn enghraifft o erydu geirfaol, erbyn heddiw gyda’r Saesneg yn teyrnasu nid yn unig mewn gwahanol beuoedd ond hefyd yn iaith gyffredin mewn sawl gwlad yn y byd, y mae’n debygol bod geiriau Saesneg yn disodli geiriau Cymraeg mewn amrywiol beuoedd a chyweiriau. Yn ôl Kaplan (1994: 7), ‘Once register replacement begins to occur, it tends to snowball, gradually subsuming greater and greater numbers of registers’. Yn yr un modd, gall peuoedd gael eu disodli a gall y disodli hwnnw gynyddu fel caseg eira:
Once the process of shift has begun in certain domains and the functions of the languages are reallocated, the prediction is that it will continue until the whole community has shifted. (Romaine 1989: 47)

Fodd bynnag, y mae Romaine (1989: 47-49) yn ychwanegu mai posibilrwydd yn unig yw’r cyfnewid hwn: nid yw’r canlyniad hwn yn anochel. Er hynny, honna Aitchison a Carter (1991: 61) fod y ddwy broses hyn yn chwarae rhan ganolog yn erydiad y Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif ac y maent yn dangos y canlyniadau daearieithyddol:

Whilst it is still possible to distinguish a core area where the Welsh language continues to maintain its dominance, no longer does it constitute a continuous or homogenous region. Y Fro Gymraeg – the old heartland of Welsh speech and culture – is rapidly disintegrating. (hwy biau’r italeiddio)

Gall erydu cyweiriau a pheuoedd, felly, hwyluso erydu daearyddol y Gymraeg neu gyfrannu ato. Wrth gwrs, y mae ffactorau eraill yn chwarae rhan wrth i eiriau Saesneg ennill tir ar draul geiriau Cymraeg ac y mae’n bwysig darganfod pa mor bell y mae’r Saesneg wedi treiddio i eirfa’r Gymraeg.

Y mae hyn i gyd yn peri inni ofyn a yw’r tryledu hwn yn ei amlygu ei hun yn iaith lafar siaradwyr y Gymraeg ac a ydyw hen eiriau traddodiadol yn cael eu disodli gan eiriau Saesneg mewn cymuned fel Blaenau Ffestiniog sy’n cael ei hystyried yn gadarnle i’r iaith. Dangosodd Banks (1993) eisoes fod rhai ffurfiau geirfaol yn cael eu disodli gan ffurfiau o’r Saesneg mewn cymunedau yng Ngwynedd. Er bod rhai ymchwilwyr yn honni bod gwahanol setiau semantaidd, yn enwedig geiriau ‘sylfaenol’, yn fwy tebygol o wrthsefyll dylanwadau iaith arall (gweler Lees 1953; Miller, Tanner, a Foley 1971; Oswalt 1971; Swadesh 1972), nid yw hyn o reidrwydd yn wir; cymharer Romaine (1989: 64):

It has also been claimed that lexical borrowing and interference tend not to affect so-called ‘core’ vocabulary (e.g. body parts, numbers, personal pronouns, conjunctions, etc.), but this is not true either.

Dengys Elmendorf (1968) a Haarman (1990) fod geiriau ‘sylfaenol’ mewn setiau semantaidd fel rhannau’r corff a rhifolion wedi eu disodli mewn sawl iaith wahanol. Mewn dwy astudiaeth o erydu geirfaol, cafwyd enghreifftiau o eiriau Saesneg am rannau o’r corff fel elbow, palm, wrist, thigh, ac ankle yn cymryd lle’r geiriau traddodiadol Cymraeg (A. E. Jones 1984: 155-59; N. G. Jones 1986: 223, 231-32). Hefyd yn y ddwy astudiaeth hyn, gwelwyd aelodau o sawl set semantaidd arall fel ‘swyddi’, ‘y cartref’, ‘offer’, ‘byd natur’, a ‘lliwiau’ yn cael eu disodli gan ffurfiau Saesneg. Gall geiriau o nifer o setiau semantaidd, felly, gan gynnwys geiriau ‘sylfaenol’, gael eu disodli gan ffurfiau o iaith arall.
Cyfeiria Hymes (1960:10) at ‘the importance of carefully analyzing the test list in terms of semantic groupings’ oherwydd y gall y raddfa newidiol o amnewid gwahanol eitemau a grwpiau o eitemau ddatgelu pa mor ddwfn y mae un iaith wedi treiddio i iaith arall. Y mae’n ymddangos, felly, ei bod yn bwysig llunio rhestr o eiriau sy’n cynnwys setiau semantaidd penodol. Ond er bod rhai geiriau fel termau ar gyfer rhannau o’r corff yn perthyn i set arbennig, nid oes gan bob set semantaidd o eiriau ffiniau mor benodol. Er enghraifft, gellid dod o hyd i garpedi, cadeiriau, llenni, drychau, a hyd yn oed desgiau a chyfrifiaduron mewn tai yn ogystal ag mewn swyddfeydd. A ydyw’r eitemau hyn, felly, yn perthyn i set semantaidd ‘Y Tŷ’, neu ‘Y Swyddfa’? Erbyn heddiw, gallant berthyn i’r ddwy set, a gall y gair ‘swyddfa’ ei hunan berthyn i’r set ‘Y Tŷ’.

Dengys N.G. Jones (1986) effaith ffactorau allieithyddol addysg ac oedran ar iaith ei siaradwyr yn y setiau ‘Offer’, ‘Y Cartref’, ‘Y Teulu’, a ‘Swyddi’. Y mae crebachu o ffurfiau Saesneg yn y setiau hyn o’r haenau hynaf i’r haenau ieuangaf yn adlewyrchu addysg y siaradwyr ieuangaf, sef addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda’r set ‘Lliwiau’ yn yr un astudiaeth, y mae rhyw y siaradwyr yn gyfrifol am y ffurfiau a gynigir. Yn ôl N. G. Jones (1986: 146-7):

Tuedda “glas a gwyrdd” droi’n [sic] “blue a green” ymhlith y dynion yn bennaf gyda’r gwragedd yn gwarchod y ffurfiau Cymraeg. Efallai y gellir cyfrif am hyn oherwydd bod gwragedd yn trafod lliwiau’n amlach na dynion felly mae’r ffurfiau Cymraeg yn fwy cyfarwydd iddynt.

Y mae oedran ac addysg yn chwarae rhan yn y canlyniadau hefyd gyda’r siaradwyr ieuengaf (rhwng 7 ac 11) yn cynnig 100% o ffurfiau Cymraeg. Gall y fethodoleg hon, felly, ddatgelu’r rhyngwaith cymhleth o amrywiol ffactorau a chyfeiriad y newid o ran setiau semantaidd.

Er pwyslais Hymes uchod ar setiau semantaidd, ac er canlyniadau N. G. Jones, y mae methodoleg yr astudiaeth bresennol yn wahanol i eiddo Jones am ei bod yn canolbwyntio ar enwau yn unig (gweler Pennod 2). O ganlyniad, ceir ffiniau llai cadarn rhwng rhai o’r eitemau. Yn ogystal, teimlaf fod hynt yr eitemau unigol yn bwysicach ac yn dangos cyflwr yr iaith yn eglurach na thrafod setiau semantaidd. Er hynny, dewiswyd sampl ieithyddol o eitemau yn y setiau cyffredin ‘Y Corff’, ‘Y Dref’, ‘Y Cartref’, a ‘Swyddi’, setiau nad ydynt yn debygol o orgyffwrdd â’i gilydd (gweler 2.2.6).

Fel y gwelsom, gall hen eiriau traddodiadol gael eu tanseilio gan dermau o iaith arall, felly a ydyw hyn yn digwydd yn iaith lafar trigolion tref gref ei Chymraeg fel Blaenau Ffestiniog? Bwriedir ystyried geiriau o dri chyfnod – geiriau traddodiadol am rannau o’r corff a phethau o gwmpas y tŷ er mwyn darganfod a ydynt yn cael eu disodli gan eiriau Saesneg, termau cymharol hen sy’n cynrychioli cysyniadau eithaf newydd ym mhentrefi Cymru fel swyddi a phethau o gwmpas y dref a’r tŷ i weld a ydynt wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau yn y gymuned, a thermau newydd eu bathu am gysyniadau newydd fel peiriannau a swyddi newydd i asesu a ydyw’r termau hyn wedi llwyddo i gael eu derbyn yn ffurfiau addas am y cysyniadau gan y siaradwyr.

1.5 Cynllunio Ieithyddol
Haugen yw’r ymchwilydd cyntaf i ddefnyddio’r term cynllunio ieithyddol yn llenyddiaeth y maes. Y mae’n ei ddisgrifio fel a ganlyn:
The activity of preparing a normative orthography, grammar, and dictionary for the guidance of writers and speakers in a non-homogeneous speech community. (Haugen 1959: 8)

Er bod y maes yn gymharol newydd am ei fod wedi datblygu o ddifrif yn ddisgyblaeth academaidd yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, nid yw’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chynllunio ieithyddol a’u canlyniadau mor ifanc nac unigryw yn hanes cymunedau’r byd a’u hieithoedd. Cynigia Kaplan a Baldauf (1997: ix) restr o ddigwyddiadau hanesyddol sydd wedi arwain at gynllunio ieithyddol, gan gynnwys yr ymerodraethau Rhufeinig a Phrydeinig, y Croesgadau, ac yn ddiweddarach rhyngwladoli busnes a’r cyfryngau torfol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a’r cynnydd mewn twristiaeth ryngwladol. Yn ddiamau, yr Académie Française yw’r corff llywodraethol mwyaf adnabyddus am ei weithgareddau cynllunio ieithyddol a’i ymdrechion i gadw’r Ffrangeg yn ‘bur’ rhag dylanwadau Saesneg Prydeinig ac Americanaidd (gweler Cooper 1989: 3 – 11), ond bu cyrff eraill, megis Real Academia Española (Academi Frenhinol y Sbaeneg) a Va’ad Halashon Ha Ivrit (Academi’r Iaith Hebraeg), yn gyfrifol am weithgareddau a pholisïau mewn ymgais i godi statws y Sbaeneg a’r Hebraeg ac ehangu’r defnydd ohonynt hwy ac o’u geirfa (Fishman 1991: 337). Yng Nghymru, oherwydd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn gweithredu polisïau yn yr awdurdodau lleol a cheisio sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yn y sector cyhoeddus (gweler Ager 2001: 30 – 337 am drafodaeth o Ddeddf yr Iaith Gymraeg a’r cymhellion i gynllunio ieithyddol yn gyffredinol). Ceir enghreifftiau o gynllunio ieithyddol, felly, drwy gydol hanes y ddynolryw.

Ceir rhestr o wahanol ddiffiniadau o gynllunio ieithyddol yn Cooper (1989: Pennod 2), ond disgrifia Eastman (1983: 27) y maes yn daclus fel a ganlyn:

Language planning may be seen as an approach to the study of change in language and language use in order to make predictions about how to bring about change. Implicit in language planning is the idea of language as a changeable societal resource requiring planned action through the cooperative efforts of political, educational, economic, and linguistic authorities. If we can understand how language changes naturally, we can find out how to bring about desired language changes on purpose.

Yn ôl y diffiniad hwn, y mae’n ymhlyg yn y cysyniad o gynllunio ieithyddol fod ieithoedd yn newid yn naturiol, ac wrth ystyried y prosesau sy’n ysbarduno’r newidiadau hyn, gall cynllunwyr ieithyddol weithredu mewn ymgais i atal neu hyrwyddo newidiadau ieithyddol mewn cymunedau penodol. Gall y newidiadau hyn a fwriedir gan gynllunwyr naill ai fod er lles y gymuned ieithyddol wrth geisio cynnal yr iaith a chodi ei statws a’r defnydd ohoni, neu weithredu er mwyn llethu siaradwyr a’u hiaith ac achosi cyfnewid ieithoedd, neu hyd yn oed eu tranc (Kloss 1968: 73-79). Er hynny, bydd cynllunwyr ieithyddol ac astudiaethau yn y maes fel rheol yn gweithredu gyda golwg ar wella sefyllfaoedd ieithyddol a sosioieithyddol.

Y mae cynllunio ieithyddol yn gweithio ar lefelau cymdeithasol ac ieithyddol, ac yn y rhan fwyaf o lenyddiaeth y maes, adlewyrchir y ddwy lefel hyn a cheir trafodaeth am gynllunio statws (y cymdeithasol) a chynllunio corpws (yr ieithyddol). Gyda chynllunio statws, y bwriad yw newid y sefyllfa sosioieithyddol drwy gynllunio polisïau a’u gweithredu mewn ymgais i godi statws iaith, cymell ei defnyddio’n ehangach yn y gymuned, a chynyddu’r nifer o’i siaradwyr. Gellir dilyn sawl llwybr i gyflawni’r bwriadau hyn gan gynnwys y sustem addysg, y cyfryngau torfol, a’r sector economaidd (gweler Williams a Morris 2000 am drafodaeth ar rai o’r ffactorau hyn yng Nghymru).

Newidiadau ieithyddol a fwriedir gyda chynllunio corpws. Yn ôl Kaplan a Baldauf (1997: 38):
Corpus planning can be defined as those aspects of language planning which are primarily linguistic and hence internal to language. Some of these aspects related to language are: (1) orthographic innovation, including design, harmonisation, change of script and spelling reform; (2) pronunciation; (3) changes in language structure; (4) vocabulary expansion; (5) simplification of registers; (6) style; and (7) the preparation of language material.

Fel y dengys y diffiniad hwn, y mae cynllunio corpws yn canolbwyntio ar yr iaith ei hunan ac yn cynnwys sawl gwedd a all gyflyru ffurfiau’r iaith. Y bedwaredd nodwedd yn y rhestr uchod yw’r wedd ar gynllunio corpws sy’n berthnasol i’r astudiaeth bresennol, sef a ydyw geiriau newydd eu bathu yn ennill tir ac a ydyw siaradwyr y Gymraeg yn ymwybodol ohonynt? Nid oes un corff swyddogol a gwleidyddol yng Nghymru sy’n gyfrifol am fathu termau newydd fel Académie Française yn Ffrainc er bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r Ganolfan Safoni Termau ym Mhrifysgol Cymru, Bangor wedi cyhoeddi sawl casgliad o dermau mewn meysydd arbenigol. Yn ôl safle we’r ganolfan, sefydlwyd y Ganolfan Safoni Termau er mwyn ateb yr angen am eiriaduron a rhestrau termau safonol yn y Gymraeg mewn meysydd technegol, cyfoes. Y mae technoleg a gwybodaeth newydd yn creu angen am dermau priodol i’w cynrychioli, a gall cynllunio corpws ateb y galw hwn drwy fathu termau newydd gan ddefnyddio sawl ffynhonnell (gweler Cooper 1989: 151; Kaplan a Baldauf 1997: 43). Er hynny, nid oes modd sicrhau y bydd siaradwyr y gymuned ieithyddol yn derbyn ac yn defnyddio’r geiriau newydd hyn, fel yr awgryma Alloni-Fainberg (1973: 68 – 9):

Giving names and fixing terms is one thing, but implementing and disseminating them is quite a different thing. Every word, as every creature, seems to be born with its own fate. There are words which seem to catch on the moment they are invented. Nobody seems to know how or why they spread as they do. Sometimes a word is uttered, or appears in print somewhere, and in a short while it is so widely accepted that it is not even felt to be ‘a newborn creature’. Everybody accepts it and uses it in a most natural way. On the other hand there are words that though they may have been conceived with great care, though much thought has been devoted to them, though they are based on good, indigenous roots and forms, yet they never catch on and nobody uses them naturally.

Ni wyddys pa dermau newydd sy’n mynd i lwyddo na phaham, ac er gwaethaf ymdrechion gorau cyrff fel Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chanolfan Safoni Termau, y mae’n fwy na thebyg y bydd rhai o’r termau newydd a fathwyd yn cael eu gwrthod gan siaradwyr y Gymraeg.

Un ffordd o ddosbarthu’r geiriau newydd hyn yw cyhoeddi cyfrolau ohonynt fel y gwneir gan y ddau gorff hyn yng Nghymru, ond nid yw’r wybodaeth hon yn cyrraedd ond y siaradwyr hynny a chanddynt ddiddordeb yn y termau. Ceir yr un broblem gyda chyhoeddi geiriaduron. Y mae defnyddio’r termau newydd yn y cyfryngau torfol yn ffordd arall o geisio’u poblogeiddio. Mewn astudiaeth ar gynllunio ieithyddol a’r ymdrechion a wnaethpwyd yng Nghymru, cydnebydd Williams a Morris (2000: 77) bwysigrwydd y cyfryngau torfol ar gynnal iaith:

The other agency which contributes to the production and reproduction of Welsh is the extent of use of the Welsh-language media within the family. The advent of mass media and their penetration of family leisure time mean that they can have a distinctive influence upon both competence and use. In contrast to some other minority language groups, Welsh speakers have a wide range of media possibilities, and this range extends to cover a range of language abilities.

Yn ddiamau, y mae gan y cyfryngau torfol, ac yn enwedig y teledu, ddylanwad ar iaith, a gallant fod yn llwybr i boblogeiddio termau newydd. Er hynny, nid yw pawb yn defnyddio’r cyfryngau torfol i’r un graddau, ac y mae’r amrywiol gyfryngau’n apelio at wahanol bobl. Ceir, felly, anhawster tebyg i’r hyn a geir gyda chyhoeddi cyfrolau o dermau a geiriaduron. Ond y mae pobl yn dysgu geiriau newydd ac y maent yn cael eu defnyddio. Er enghraifft, gofynnodd cymydog i mi ddangos iddo sut i ddefnyddio rhaglen newydd ar ei gyfrifiadur. Defnyddiai computer bob tro y cyfeiriai at y peiriant. Pan ddaeth ei fab, wyth oed, i mewn i’r ystafell a chlywed ei dad yn defnyddio’r gair Saesneg, mynnodd, ‘Cyfrifiadur yw’r gair, dad, nid computer!’ Prif ddiben yr anecdot hon yw dangos bod termau newydd yn cael eu dysgu a’u defnyddio, ac y mae’n fwy na thebyg mai’r ysgol Gymraeg leol oedd ffynhonnell gwybodaeth y bachgen o’r gair cyfrifiadur. Ail ddiben yw dangos hynt wahanol y term hyd yn oed yn yr un teulu. Elfen ganolog arall i’r astudiaeth bresennol, felly, yw darganfod a ydyw termau Cymraeg newydd yn cael eu derbyn a’u defnyddio gan siaradwyr?

Gwelsom eisoes y dilyniant o amgyffwrdd ieithyddol i ddwyieithrwydd cymunedol ac unigol i ymyrraeth ieithyddol, ac y mae Kaplan a Baldauf (1997: x) yn cyfeirio at y berthynas rhwng amgyffwrdd ieithyddol a’r digwyddiadau sy’n arwain at gynllunio ieithyddol:
Whenever two populations speaking two mutually unintelligible languages are brought into fairly extended contact for whatever reason, some degree of language planning occurs quite naturally.

Pan fo amgyffwrdd ieithyddol yn dod â phobl sy’n siarad gwahanol ieithoedd at ei gilydd, ceir dwyieithrwydd cymdeithasol a all arwain at ddwyieithrwydd unigol. Gellid darganfod dylanwadau o’r ddwy iaith yn llafar siaradwyr dwyieithog. Gall siaradwyr o’r fath naill ai parhau i ddefnyddio eu hieithoedd yn y gymuned ac mewn sawl pau, neu gyda threigl amser ac am sawl rheswm, beidio â defnyddio un ohonynt a pheidio â’i throsglwyddo rhwng y cenedlaethau (gweler Fishman 1991). Gwelsom ganlyniadau posibl dwyieithrwydd ar iaith lafar siaradwyr dwyieithog, a gall tryledu fod yn ddull o ledaenu newidiadau ieithyddol. Nid yn unig ar eiriau traddodiadol y ceir dylanwad tryledu ond ar dermau newydd yn ogystal. ‘Whether or not changes in language behaviour are planned or unplanned, they are outcomes of diffusion. Innovations introduced by some speakers or writers are adopted by others,’ fel y dywed Cooper (1989: 58), sy’n awgrymu mai tryledu sy’n gyfrifol am ledaenu termau newydd. Ceir, felly, gysylltiad rhwng y gwahanol ffactorau hyn i gyd a chynllunio ieithyddol. Wrth ystyried geiriau Cymraeg o wahanol gyfnodau gellir asesu eu cyflwr yn y gymuned ac efallai bwrw goleuni ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar eu tynged.

[1] Wrth gwrs ceir dylanwad ysgrifen yn ogystal gydag amgyffwrdd ieithyddol: y mae Groeg a Lladin, er enghraifft, yn dal i ddylanwadu ar ieithoedd y Gorllewin.
[2] Nid yw’n addas trafod y gwahaniaeth rhwng dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yma am mai astudiaeth ar gymdeithas ddwyieithog yw hon. Er eglurder wrth ddadansoddi a thrafod, yr wyf yn dilyn Baetens Beardsmore (1986: 3) sy’n awgrymu: ‘the term bilingualism does not necessarily restrict itself to situations where only two languages are involved but is often used as a shorthand form to embrace cases of multi- or pluralinguism’ (er hyn, gweler Boyd 1985; Fishman 1991; Giles a Coupland 1991; a Siegel 1987 am wahanol ddiffiniadau o ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd).
[3] Ar wahân i achosion eithriadol ac efallai ddamcaniaethol yn unig o arwahanrwydd yr unigolyn sydd wedi ymfudo i gymdeithas lle nad oes neb arall yn siarad yr un o’i ddwy iaith, nid yw dwyieithrwydd yr unigolyn heb ddwyieithrwydd y gymdeithas yn debygol o godi. Wrth gwrs, er bod Ehlich (1994: 109) yn cynnwys y sefyllfa hon yn ei deipoleg o amgyffwrdd ieithyddol dan yr enw ‘contactlessness’, ni fyddai hyn yn cyfrif yn enghraifft o amgyffwrdd ieithyddol oherwydd bod un o ieithoedd yr unigolyn heb gael ei defnyddio yn y gymuned.
[4] Am ddylanwadau’r cyfryngau torfol, ac yn enwedig y teledu, ar gymunedau ieithyddol gweler hefyd A. Bell (1995: 23) sy’n honni: ‘the media are important linguistic institutions. Their output makes up a large proportion of the language that people read and hear everyday. Media usage reflects and shapes both language use and attitudes in a speech community.’ Ac y mae Baetens Beardsmore a van Beeck (1984: 65 a 77) yn awgrymu ‘that television is the most potent modern influence on general behavior, including speech patterns’ a ‘mass-appeal programs can transcend a language barrier... television can help to bring about a certain receptivity to language switch.’