PENNOD DAU

Ystyriaethau Methodolegol

2.1 Tafodieitheg a Sosioieithyddiaeth
Since speech is (obviously) social behaviour, to study it without reference to society would be like studying courtship behaviour without relating the behaviour of one partner to that of another.
(Hudson 1980: 3)

Y mae ystyried oblygiadau’r dyfyniad uchod yn ein hatgoffa bod angen sicrhau bod y fethodoleg mewn astudiaeth o ddefnyddio iaith yn asesu’r ddwy ochr i’r geiniog – yr ieithyddol a’r gymdeithasol. Gyda datblygu maes sosioieithyddiaeth gwelwyd bod ymddygiad ieithyddol yn cael ei gyflyru gan sawl ffactor allieithyddol, ac y gall amrywiadau ieithyddol a’r defnydd ohonynt amlygu gwybodaeth am gefndiroedd siaradwyr. Nid yw’n bosibl gwadu, felly, arwyddocâd y cysylltiad rhwng iaith a’r gymuned lle defnyddir yr iaith.
Nid ystyriwyd pwysigrwydd yr elfen gymdeithasol mewn astudiaethau gan rai ieithyddion yn y gorffennol oherwydd yr oedd ganddynt bwysleisiau a safbwyntiau damcaniaethol i’w hymchwil a oedd yn wahanol i’r ysgol o feddwl ieithyddol a ddatblygodd yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf. Saussure, Bloomfield, a Chomsky oedd yr arweinyddion yn nhrafodaethau a syniadau’r ysgolion hynny. Er na ellir gwadu arwyddocâd eu cyfraniadau, rhan annatod o’u gwaith yw diystyru pwysigrwydd yr elfen allieithyddol gan edrych ar iaith fel pe bai’n sustem annibynnol, haniaethol, ac ymreolus. Er gwaethaf gwahaniaethau sylfaenol rhwng y tri ysgolhaig hyn, defnyddia Figeroa (1994:9-10) y term received linguistics (ffurfiolaeth ieithyddol) i gwmpasu eu gwaith, eu dylanwad hanesyddol ar y maes ieithyddol, a’r tebygrwydd yn naliadau eu damcaniaethau. Y mae’r goleddfydd received yn y term yn cyfeirio at y ffaith bod syniadau pob un o’r awduron hyn a’u dilynwyr, yn eu tro, wedi llwyddo i ennill lle ar ganol llwyfan y maes ieithyddol – hynny yw, yr oedd ganddynt gefnogaeth a grym sefydliadol y sefydliad academaidd (cymharer â’r defnydd o’r gair yn received pronunciation). Er mwyn esbonio cynnwys yr awduron hyn dan y term received linguistics, y mae Figeroa (1994: 10) yn ymresymu fel a ganlyn:

There is a second more powerful reason why Saussure, Bloomfield and Chomsky, despite their differences as to the nature of language, may be considered practitioners of received linguistic theory. This is because the three demonstrate certain fundamental similarities as to the scientific basis of linguistics: that there is an objective entity which linguists study, that it is independent of the humans that use it, and that it is only the ‘core’ aspects of this entity, i.e. formal grammar, which is the object of linguistic enquiry. That this is the received linguistic position can be witnessed by opening any college catalogue for courses offered and requirements to be met, or by scanning titles in linguistic journals.

Nid beirniadu’r ieithyddion hyn yw pwrpas Figeroa yma. Y mae’n ceisio esbonio sut y mae ysgol newydd o feddwl wedi datblygu o ddaliadau’r hen ysgol sy’n ystyried iaith a’r defnydd ohoni ar wahân i’w gilydd.

Datblygodd gwreiddiau sosioieithyddiaeth mewn adwaith nid yn unig i ddaliadau ffurfiolaeth ieithyddol, ond hefyd mewn adwaith i dafodieitheg. Yn draddodiadol, y mae astudiaethau ar dafodieithoedd wedi canolbwyntio ar elfennau ieithyddol (geirfa, cystrawen, ffonoleg, a morffoleg) sy’n wahanol i’r ‘iaith safonol’, neu’r iaith a ddefnyddir gan y siaradwr-wrandawr delfrydol. Prif ddiddordeb tafodieithegwyr yw disgrifio’r gwahanol sustemau ieithyddol ac amlinellu ymlediad daearyddol yr amrywiol elfennau dan sylw er mwyn dod o hyd i berthnasau rhwng tafodieithoedd ac olrhain eu datblygiadau yn hanesyddol. Er bod tafodieithegwyr wedi llwyddo i ddisgrifio amrywio yn iaith gwahanol grwpiau, ar y ffurfiau ieithyddol eu hunain y bu’r pwyslais fel arfer yn hytrach nag ar y siaradwyr a’u defnydd o’r ffurfiau hyn. Tebyg, felly, yw amcanion tafodieitheg a ffurfiolaeth ieithyddol, sef disgrifiadau manwl o sustemau ieithyddol.

Yn draddodiadol, canolbwyntiodd tafodieithegwyr ar y wedd ddaearyddol, fel arfer mewn ardaloedd gwledig, ac ar gasglu data gan siaradwyr oedrannus a diaddysg. Y tu ôl i’r ymresymiad hwn yr oedd cred bod siaradwyr o’r genhedlaeth hynaf mewn ardaloedd gwledig yn defnyddio’r dafodiaith ‘buraf’ (gweler Petyt 1980: 89). Nodweddiadol o arolygon tafodieithoedd oedd y canllawiau ar gyfer dewis siaradwyr a osodwyd gan Orton (1962: 15-16) yn ei Survey of English Dialects:

Great care was taken in choosing the informants. Very rarely were they below the age of sixty. They were mostly men: in this country men speak vernacular more frequently, more consistently, and more genuinely than women…. But dialect speakers whose residence in the locality had been interrupted by significant absences were constantly regarded with suspicion.

Ac eto, ys dywed A.R. Thomas (1973: ix) wrth esbonio bwriad The Linguistic Geography of Wales:

Informants are older generation speakers whose families are, in almost all cases, indigenous to the immediate vicinity of the point of enquiry; in general, too, they have not spent prolonged periods away from their native area, and have had little formal education…. The investigation… achieved its aim of identifying the territorial limits of Welsh lexicon which is representative of the rural ‘terminology’ of oldest generation Welsh speakers.

Fel y gwelir, mewn astudiaethau ar dafodieitheg ddaearyddol, canolbwyntir ar siaradwyr hŷn a diaddysg sy’n byw mewn ardaloedd gwledig oherwydd eu tuedd i fod yn fwy ceidwadol eu hiaith ac i wrthsefyll newidiadau ieithyddol newydd. Wrth gwrs, y mae’n bwysig bod y siaradwyr wedi treulio’r rhan fwyaf o’u hoes yn yr ardal dan sylw, ond ar wahân i oedran y siaradwyr a’r elfen ddaearyddol, anwybyddir ffactorau cymdeithasol eraill gan y rhan helaeth o dafodieithegwyr traddodiadol. Er bod yr arolygon hyn yn llwyddo i amlinellu geirfa a rhai o elfennau ieithyddol y genhedlaeth hynaf, un o ddiffygion eu methodoleg yw na all ymdopi’n effeithiol â chymhlethdodau ieithyddol a chymdeithasol mewn ardaloedd trefol, diwydiannol. Ceir enghraifft o hyn yn The Linguistic Geography of Wales lle y mae’n hawdd gweld diffygion y fethodoleg wrth drin ardaloedd de-ddwyrain Cymru (gweler P. W. Thomas 1990).

Y mae Petyt (1980: 44) yn trafod un o’r astudiaethau tafodieithol cyntaf i ystyried ffactorau cymdeithasol. Yng ngwaith Jaberg a Jud, ymchwiliwyd i’r defnydd o iaith mewn ardaloedd trefol, a chwblhawyd eu hatlas o dafodieithoedd Eidaleg yr Eidal a de’r Swistir rhwng 1928 a 1940. Yn ogystal ag archwilio ardaloedd gwledig ac ambell i ardal ddinesig, ystyriwyd gwahaniaethau ieithyddol rhwng dosbarthiadau cymdeithasol. Ehangodd Kurath (1939) ar fethodoleg Jaberg a Jud a chyhoeddwyd tair cyfrol y Linguistic Atlas of New England rhwng 1939 a 1943 ganddo ef a’i gyd-weithwyr. Sylweddolodd Kurath fod y sefyllfa dafodieithol yn America’n wahanol i eiddo Ewrop. Ystyriodd y wedd ddaearyddol, ond yn wahanol i’w ragflaenwyr yn Ewrop, ystyriodd hefyd sawl ffactor gymdeithasol arall yn ogystal ag ardaloedd dinesig. Amlinella Petyt (1980: 44) ymresymu methodoleg Kurath a bwriad ei waith fel a ganlyn:

Scholars realized that the dialect situation in America was different from that in most European countries. Partly because of the relatively short time that English has been spoken there, partly because there has been considerable geographical and social mobility, and partly because there is no one standard accepted throughout the country by a dominant social class, there is little ‘real dialect’ (in the generally-accepted European sense of patois), and little clear distinction between dialect and standard speech. On the other hand, there are markedly regional types of speech at all levels, including ‘cultivated speech’. It was therefore decided that American surveys must not restrict themselves, as had most of the European ones, to the typical rural speaker with little education. The aim was not only to see geographical differences and to study the effects of movements of populations and of topography and routes of communication, but also to examine the effects on speech of the stratification of society and the relatively high degree of social mobility. So in addition to those using ‘folk speech’, two other educational types were examined, and within each of these three classes two age-groups were distinguished.

Kurath oedd yr atlaswr cyntaf i osod canllawiau pendant ar gyfer y gwahanol fathau o siaradwyr i’w holi. Oherwydd iddo gydnabod dylanwadau allieithyddol megis addysg, oedran, a mudolrwydd pobl ar y patrymau llafar yn ddaearyddol a chymdeithasol, ystyriodd bwysigrwydd y newidynnau hyn wrth gasglu a dadansoddi’r data. Cam angenrheidiol ymlaen oedd hyn: sefydlwyd meini prawf pendant ac ehangwyd gorwelion gwyddonol y ddisgyblaeth. Er hynny, nid oedd dulliau Kurath yn llawer mwy gwrthrychol nag eiddo’r tafodieithegwyr eraill gan iddo ddefnyddio sampl barn a gadael i’r holwyr yn y maes ddosbarthu’r siaradwyr i’r gwahanol gategorïau a bennwyd.

Yn y 1950au, cyhoeddwyd dwy erthygl allweddol yn hanes datblygiad sosioieithyddiaeth. Enw’r erthygl gyntaf oedd A projection of sociolinguistics: the relationship of speech to social status gan Currie (1952). Currie oedd yr awdur cyntaf i ddefnyddio’r term sociolinguistics ac yr oedd yn galw ar ieithyddion ac ysgolheigion yn y gwyddorau cymdeithasol i gydnabod a lleihau’r agendor draddodiadol rhwng yr ieithyddol a’r cymdeithasol er mwyn sefydlu disgyblaeth newydd. Cyhoeddwyd erthygl arall o’r enw American linguistic geography: a sociological appraisal gan Pickford yn 1956. Beirniadodd ddulliau samplo goddrychol ac anwyddonol tafodieitheg ddaearyddol yn America. Pwysleisiodd fod tafodieithegwyr wedi anwybyddu datblygiadau pwysig a wnaed mewn cymdeithaseg. Canlyniad i hynny oedd problemau ynglŷn â dilysrwydd y methodolegau a chynrychioledd y samplau a hefyd y duedd i orgyffredinoli’r canlyniadau. Ysbardunodd beirniadaeth y ddwy erthygl hon dafodieithegwyr i fabwysiadu dulliau gwyddonol cymdeithaseg ac i dderbyn ffactorau allieithyddol yn newidynnau i’w hystyried mewn astudiaethau o iaith lafar. Atebwyd dymuniad Currie a datblygwyd disgyblaeth newydd, sef sosioieithyddiaeth.

2.2 Ystyriaethau Methodolegol ar gyfer Astudio’r Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog
Un o ganlyniadau’r astudiaethau sosioieithyddol yw ein bod yn gwybod bellach y gall sawl ffactor effeithio ar ymddygiad ieithyddol ac y gall effaith y ffactorau hyn amrywio mewn gwahanol sefyllfaoedd a gwahanol gymunedau. Ni ellir gwadu bod oedran a rhyw yn brif ffactorau i’w hystyried mewn astudiaeth sosioieithyddol. At hynny, gall ffactorau niferus eraill gyflyru’r defnydd o iaith: ys dywed Goffman (1964: 133)

It hardly seems possible to name a social variable that doesn’t show up and have its little systematic effect upon speech behaviour: age, sex, class, caste, country of origin, generation, region, schooling; cultural cognitive assumptions; bilingualism, and so forth. Each year new social determinants of speech behavior are reported.

Er hynny, ni thâl anghofio rhybudd Goode a Hatt (1952: 211) yn eu llawlyfr cynnar, Methods in Social Research: ‘from a practical point of view, if all these biases were used, the value of the sample would be lost for the number of sub-samples would be enormous’. Mewn astudiaeth sosioieithyddol o unrhyw gymuned, felly, rhaid penderfynu pa ffactorau sy’n berthnasol i’r gymuned dan sylw a chanolbwyntio ar y ffactorau hyn. Gwneir hyn nid yn unig er mwyn arbed amser, arian, ac ymdrech, ond hefyd er mwyn sicrhau dilysrwydd a chynrychioledd y sampl (Goode a Hatt 1952: 211-221).

2.2.1 Rhyw
Ni ellir anwybyddu pwysigrwydd y newidyn rhyw mewn ymchwil sosioieithyddol oherwydd ys dywed Labov (1972a: 303): ‘the sexual differentiation of speech often plays a major role in the mechanism of linguistic evolution’. Gwelwyd hyn ynghynt gan y tafodieithegwyr hwythau a cheir amrywiadau arwyddocaol yn ôl rhyw ym Milroy a Milroy (1978) ar bump o newidynnau ffonolegol. Yn ei hastudiaeth o iaith plant yn Reading, awgryma Cheshire (1978: 66) mai ‘the norm of toughness’ i’r bechgyn a’r cysyniad o ‘goodness’ i’r merched sy’n esgor ar yr amrywiadau berfol yn eu hiaith lafar. Yn astudiaeth Romaine (1978) ar y defnydd o /r/ yng Nghaeredin, rhyw oedd y newidyn pwysicaf a ddylanwadai ar yr ynganiad.
Un o’r rhesymau am amrywio mewn iaith dynion a menywod yw bod rhyw’n adlewyrchu gwahanol ddirweddau; fel yr awgryma Trudgill (1974b: 88):

Linguistic sex varieties arise because, as we have already seen, language, as a social phenomenon, is closely related to social attitudes. Men and women are socially different in that society lays down different social roles for them and expects different behaviour patterns from them. Language simply reflects this social fact.

Oherwydd eu gwahanol rolau a’r gwahaniaeth ym mhwysau a disgwyliadau cymdeithasol dynion a menywod, gall y gwahaniaethau hyn gael eu hadlewyrchu yn ymddygiad ieithyddol y ddau ryw. Fel y gwelsom yn 1.4 uchod, darganfu N. G. Jones (1986) fod menywod yn fwy cyfarwydd â geiriau Cymraeg am liwiau na dynion ac awgrymodd mai’r rheswm am hynny yw bod merched yn trafod lliwiau yn amlach. Mewn astudiaeth arall o’r Gymraeg, dengys A. E. Thomas (1997) fod merched ym Mhont-rhyd-y-fen yn fwy tueddol o gadw’r frodoriaith na’r dynion. Y mae, felly, bob rheswm dros ystyried bod rhyw yn ffactor allweddol wrth haenu’r sampl o drigolion y Blaenau.

2.2.2 Oedran, Addysg, a Mynychu’r Capel
Cyflwynodd Labov y posibilrwydd o olrhain newidiadau a datblygu newidiadau mewn iaith lafar drwy astudio’n ofalus yr amrywiadau mewn ymddygiad ieithyddol siaradwyr o wahanol genedlaethau. Yn ôl ef ( Labov 1972c: 519):

The simplest data that will establish the existence of a linguistic change is a set of observations of two successive generations of speakers – generations of comparable social characteristics which represent stages in the evolution of the same speech community.

Er mai sôn am gymharu astudiaethau diachronig er mwyn datgelu’r newidiadau yr oedd Labov, awgrymodd y gall canlyniadau astudiaethau o’r fath arwain at ddatblygu methodoleg er mwyn astudio newid ieithyddol yn gydamserol:

Solutions to the transition problem proposed here will depend upon close analysis of the distribution of linguistic forms in apparent time - that is, along the dimension formed by the age groups of the present population. Such an analysis is possible only because the original simple description of change in real time enables us to distinguish age-grading in the present population from the effects of linguistic change.
(Labov 1972c: 519, ef biau’r italeiddio)

Dangosodd Labov (er enghraifft 1966, 1972a) a llu o awduron eraill werth astudiaethau cydamserol mewn asesu newid ieithyddol rhyng-genedlaethol. Yn ddi-os, y mae dylanwad Labov ar faes ieithyddiaeth wedi gweddnewid ein dealltwriaeth o’r peirianweithiau y tu ôl i’r broses o newid ieithyddol ac wedi amlygu pwysigrwydd haenau oedran wrth ymchwilio i’r broses hon.

Dengys A. E. Roberts (1988) amrywiadau ieithyddol yn ôl oedran yn ogystal â dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg mewn astudiaeth ar y dafodiaith ym Mhwllheli. Y mae’n casglu: ‘the main impact of the dominant English language is on vocabulary and semantic interpretation of words’ (A. E. Roberts 1988: 109). Ceir dylanwad ar ramadeg yn ogystal: ‘most “new” borrowed words form plurals by adding the suffix [-s], [-is], or [-’ (A. E. Roberts 1988: 109). Y mae hefyd amrywiadau yn ôl oedran ar acenion geiriau benthyg. Yn ôl Roberts (1988: 117):

One tendency is for accent in borrowed words to reflect that found in English in the dialect of the young and middle-aged, for example:

OLD YOUNG
 
 
 
 

Y mae enghreifftiau eraill o amrywiadau rhyng-genedlaethol yn datgelu dylanwad y Saesneg ar iaith lafar y siaradwyr ifanc. Ceir dynwarediadau (‘cario ymlaen’ a ‘casio i mewn’), cyfieithiadau o briod-ddulliau Saesneg (‘Be’ ydy o fel?’ a ‘Lle ’ti’n mynd i?’), a dylanwad cystrawennol (‘breitach brown’ a ‘breit glas’). Dengys hefyd amrywiadau eirfaol yn ôl oedran lle clywir pobl hŷn yn defnyddio geiriau Cymraeg a’r bobl ifanc yn defnyddio geiriau Saesneg (‘chwibanu/wislo’ a ‘dringo/cleimio’).

Gall amrywio ieithyddol o genhedlaeth i genhedlaeth adlewyrchu newidiadau cymdeithasol ehangach; fel yr awgryma Samarin (1967: 61):
Where society is undergoing a severe cultural change or is characterized by a considerable amount of contact with other speech communities, one can also find a significant language change which is correlated with the age of the speaker.

Gall effeithiau newidiadau cymdeithasol amrywio yn eu dylanwad ar brofiadau pobl o wahanol genedlaethau. Gwyddys bod newid mewn cyfundrefn addysgol yn un o’r ffactorau niferus a all gyflyru amrywio ieithyddol o un genhedlaeth i’r llall. Dengys R.O. Jones (1993: 226) fod erydiad yn y defnydd o galediad yn nhafodiaith Cwm Tawe yn ganlyniad i bolisïau iaith newydd yr ysgolion. Hefyd, ceir yn C.M. Jones (1992) dystiolaeth am ffurfiau safonol yn cymryd lle ffurfiau tafodiaith draddodiadol y Mot yn sir Benfro. Awgrymir mai gwahaniaethau ym mhrofiadau addysgol y siaradwyr sydd yn gyfrifol am yr amrywiadau yn ôl oedran.

Cyn y 70au, dysgid y rhan fwyaf o’r pynciau yn ysgolion Blaenau Ffestiniog drwy gyfrwng y Saesneg. Ar wahân i’r Gymraeg ac Ysgrythur, y Saesneg a ddefnyddid wrth ddysgu pob pwnc arall. Mathemateg, gwyddoniaeth, hanes (hyd yn oed hanes Cymru!) – caent i gyd eu cyflwyno i ddisgyblion Blaenau Ffestiniog drwy gyfrwng eu hail iaith. Yng nghanol y 70au, cyflwynwyd polisi iaith newydd gan sir Feirionnydd gyda’r bwriad i godi statws, defnydd, ac ansawdd y Gymraeg yn yr ardal drwy weithredu polisi a roddai flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg yn gyfrwng dysgu. Erbyn diwedd y degawd hwnnw, câi’r rhan fwyaf o’r pynciau eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gall oedran amlygu effaith patrymau crefyddol yn ogystal. Yn ôl P.W. Thomas (1984 a 1998), gellir disgwyl bod gan bobl sy’n mynychu sefydliadau crefyddol yn gyson feistrolaeth well o’r iaith safonol na’r rhai nad ydynt yn crefydda oherwydd bod y blaenaf yn gyfarwydd ag arddulliau mwy llenyddol y Gymraeg. Amlygir pwysigrwydd crefydd mewn perthynas â’i dylanwad canolog ar drosglwyddo diwylliant gan G. Williams (1992: 53):

The human capacity to create and transmit culture means that adaptation in social evolution involves a more generalised capacity to cope with the environment. Here religion plays a central role, being seen as the primary evolutionary universal. However, for it to operate effectively it must be implemented in action systems and must therefore involve communication via the secondary primary evolutionary universal – language.

Yn ddi-os, y mae iaith yn rhan allweddol o bob diwylliant, a gall crefydd, pan fo’n sefydliad diwylliannol grymus, chwarae rhan bwysig mewn gwarchod agweddau diwylliannol, gan gynnwys iaith. Dangosodd Haugen (1988) ddylanwad yr eglwys Norwyaidd wrth wrthsefyll pwysau Americaneiddio ar iaith yr ymfudwyr o Norwy (gweler hefyd Fishman 1991: 359-62). O ystyried y dylanwad cryf sydd gan grefydd ar drosglwyddo agweddau diwylliannol, gan gynnwys iaith, gellid disgwyl cysylltiad rhwng patrymau crefyddol a gwybodaeth o ffurfiau safonol y Gymraeg. Gan hynny, ystyrir bod gogwydd crefyddol y siaradwyr yn newidyn allieithyddol allweddol wrth ddadansoddi’r data.

Ers y ddeunawfed ganrif, bu capeli ac ysgolion Sul yn elfennau annatod yn niwylliant y Cymry Cymraeg. Fel y dengys G. Parry (1998:75) wrth sôn am Flaenau Ffestiniog, y capeli oedd lle ‘y dysgasai’r trigolion ddarllen eu hiaith a’i siarad yn ei phurdeb’. Cafodd y capeli a’u gweithgareddau ddylanwad cryf iawn ar fywydau cymdeithasol y trigolion: buont yn fannau cyfarfod i drafod pynciau llosg (gwleidyddiaeth, hanes, yr economi, ac wrth gwrs crefydd); cynnal cystadlaethau, cymanfaoedd, ac eisteddfodau; ymarfer corau; a chymdeithasu’n gyffredinol. Er hynny, cwympodd nifer a chanran capelwyr Blaenau Ffestiniog ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn sylweddol. Gyda dirywiad y diwydiant llechi a’r diboblogi yn sgîl hynny, gwelwyd gostyngiad yn niferoedd y bobl a fynychai’r capeli a lleihad yng ngafael crefydd yn eu bywydau cymdeithasol. Canlyniad i hyn i gyd oedd cynnydd yn nifer y trigolion a oedd yn edrych tuag at dde Cymru a Lloegr am waith (ardaloedd Seisnigedig) a chwymp yn nylanwad crefydd ar safon y Gymraeg yn y gymuned.

Y mae’n bosibl yr amlygir dylanwad y newidiadau cymdeithasol hyn yn hanes y Blaenau yn ymddygiad ieithyddol siaradwyr y Gymraeg yn y dref. Trwy haenu’r boblogaeth yn ôl oedran, gellir asesu effaith ffactorau allieithyddol ar gyflwr Cymraeg y siaradwyr. Oherwydd y polisi addysg newydd a gyflwynwyd yn 1975, cafodd y disgyblion o’r flwyddyn honno ymlaen eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylid, felly, i’r siaradwyr sy’n 30 mlwydd oed ac yn iau arddangos effaith eu haddysg yn eu defnydd o’r Gymraeg. Yn sgîl y gostyngiad yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf o’r trigolion sy’n mynychu sefydliadau crefyddol yn gyson, gwanhaodd un o’r prif ddylanwadau ar y gymuned a oedd yn cynorthwyo i gynnal a nerthu’r iaith Gymraeg. Gellid disgwyl, felly, y bydd y siaradwyr dan hanner cant nad ydynt yn crefydda wedi cael profiadau gwahanol wrth ddefnyddio’r Gymraeg i’r rheini sy’n mynychu gwasanaethau’n aml. Ar sail yr ymresymu hwn, haenir y sampl yn dair cell oedran fel a ganlyn: siaradwyr 30 oed ac iau, y rheini rhwng 31 a 50, a phobl rhwng 51 a 70. Gan fod y celloedd oedran hyn yn cynrychioli grwpiau gyda 20 mlynedd rhyngddynt, teimlaf ei bod yn bwysig ychwanegu cell oedran arall, sef dros 71. Ychwanegir y bobl hyn am ei bod yn fwy na thebyg bod ganddynt ymddygiad ieithyddol gwahanol i’r siaradwyr eraill am fod eu profiadau wrth ddefnyddio a chlywed y Gymraeg yn annhebyg i’r lleill ac oherwydd y gall dadansoddi eu hatebion ddatgelu ffactorau cymdeithasol nad ydynt yn amlwg ar hyn o bryd o ystyried dim ond y ffactorau uchod.

2.2.3 Dosbarthau Cymdeithasol neu Grwpiau Statws?
Defnyddiodd sawl ymchwilydd ddosbarth cymdeithasol yn newidyn allieithyddol, a llwyddasant i ddatgelu cysylltiadau rhwng y newidyn hwn ac ymddygiad ieithyddol: Labov (1966, 1972a) yn Efrog Newydd, Trudgill (1974a) yn Norwich, a Petyt (1978) yn Swydd Efrog – dangosant i gyd fod acenion, tafodieithoedd, ac amrywiadau eraill yn gallu amrywio yn ôl dosbarth cymdeithasol. Ys dywed Milroy (1987: 109-10): ‘all studies undertaken in cities have shown a very clear link between a speaker’s language and his position in a social class hierarchy’. A dyna’r cysylltiad rhwng yr ymchwilwyr a weithredodd y newidyn dosbarth cymdeithasol: cynhaliwyd yr astudiaethau mewn dinasoedd ac yr oedd yr iaith dan sylw – y Saesneg yn achos yr astudiaethau hyn – yn iaith fwyafrifol. Er hynny, a ydyw’r newidyn hwn mor allweddol mewn trefi a phentrefi ac wrth ystyried ieithoedd lleiafrifol?

Yn ôl Duncan (1961: 136): ‘there can be no such thing as a single index of socio-economic status’. Y mae’r farn hon wedi creu cryn dipyn o ddadlau ym maes cymdeithaseg, ac y mae’n ymddangos nad yw hyd yn oed sosioieithyddion yn sicr sut i fesur dosbarth cymdeithasol:
If we are to obtain a correct picture of the relationship between language and social stratification we must be able to measure both linguistic and social phenomena so that we can correlate the two accurately. As far as social class is concerned this can be done relatively easily (it is still far from simple) by the sociological method of assigning an individual a numerical index score on the basis of his occupational, income, educational and/or other characteristics and then grouping him together with others with similar indexes (although the justification for different groupings may be controversial). (Trudgill 1974a: 43; ef biau’r italeiddio)

Y mae Trudgill yn cydnabod pwysigrwydd dosbarth cymdeithasol mewn cysylltiad ag amrywiadau ieithyddol, ond ar y llaw arall, y mae’n awgrymu’n betrus y gall y paramedrau sy’n ffurfio’r newidyn hwn fod yn anodd eu diffinio’n bendant. Er ei bod yn ddyfais sydd wedi profi’n ddefnyddiol wrth drafod y defnydd o iaith mewn canolfannau dinesig, ni theimlir bod dosbarth cymdeithasol mor arwyddocaol mewn cymuned fel Blaenau Ffestiniog (gweler G. Williams 1992 am drafodaeth o’r Gymraeg a threfoldeb).

Fel y gwyddys, nid yw ffactorau cymdeithasol yn gweithredu yn yr un modd ymhob cymdeithas, ac y mae’n annoeth eu cyffredinoli o un gymuned i’r llall. Gall gwahaniaethau mewn diwylliannau, byd olwg, disgwyliadau cymdeithasol, a pherthnasau rhwng amrywiol grwpiau ar sail eu grym economaidd a gwleidyddol i gyd gyflyru ffactorau cymdeithasol a’u dylanwad mewn gwahanol gymdeithasau (gweler Kammeyer, Ritzer, a Yetman 1990). Gall hyn fod yn wir ynglŷn â dosbarth cymdeithasol, fel yr awgryma Edwards (1986: 42; dyfynnir gan A.E. Thomas 1997: 74):

There is every reason to suppose… that the cultural relevance of social class varies considerably from one community to another. Its usefulness in peasant and non-industrialised societies has been questioned, for instance, by Gal (1979) in Europe, by Bortoni de Figueiredo Ricardo (1983) in Brazil and by Russell (1982) in Africa. Certainly, in a British context, job levels are often poor indicators of level of education… and it is doubtful if the generalizations about social class can be applied in the same way to black and white populations in Britain.

Y mae dosbarth cymdeithasol wedi profi’n newidyn allieithyddol a all fod yn allweddol wrth ddatgelu gwreiddiau amrywiadau ieithyddol. Gall y newidyn hwn esbonio cyfeiriad i’r newid ieithyddol yn ogystal ag i’r ymledu o newyddbethau mewn cymunedau ieithyddol (gweler er enghraifft Labov 1966 a 1972a). Er hynny, fel yr awgrymir yn y dyfyniad gan Edwards uchod, dichon fod y ffactor hon yn gweithredu mewn sawl ffordd mewn gwahanol gymdeithasau oherwydd y mae ganddynt gyfansoddiadau amrywiol.

Ymddengys fod dosbarth cymdeithasol yn ffactor lai allweddol mewn cymunedau ieithyddol llai ac mewn cymunedau lle y mae canran isel o’r boblogaeth yn siarad iaith leiafrifol. Ond pam? Cynigir awgrym o ateb i’r cwestiwn hwn gan M. J. Ball (1988: 75) wrth iddo drafod anawsterau gweithredu’r newidyn hwn yn ei astudiaeth o’r Gymraeg yng Nghwm Tawe:

The difficulty in keeping to a social-class analysis in a bilingual situation is that the speakers who are bilingual are liable not to be spread evenly through the classes, especially when the language under investigation is the minority language in the community chosen. Only in areas where Welsh is spoken by a large majority of inhabitants would an even class mix be found.

Diau fod hyn yn wir, yn enwedig mewn tref fel Blaenau Ffestiniog lle mae dros 80% o’r trigolion yn medru’r Gymraeg. Er hynny, nid yw’n canlyn o reidrwydd fod cynrychiolaeth gyfartal o’r gwahanol ddosbarthau cymdeithasol mewn cymunedau dwyieithog yn golygu y ceir amrywiadau ieithyddol pendant yn ôl dosbarth:
It is no coincidence that the class varieties of minority languages are far less developed than those of the dominant languages. It is my claim that this derives from the contrasting domain contexts of the production and reproduction of the respective languages. Being constrained, the minority languages tend not to be related to the very institutions which are responsible for social reproduction, particularly the economic domain and more specifically the world of work. In contrast, these languages tend to be produced and reproduced within contexts which cut across class lines and the contexts of their production and reproduction relates more to status-group rather than class contexts. If this is the case then the extension and reconstitution of minority languages in what are, for them, new domains, will have consequences for varieties of that language, that is, for the corpus of the language.
(G. Williams 1992: 136)

Ni ellir gwadu bod yna gyfyngiadau ar ddefnyddio ieithoedd lleiafrifol mewn peuoedd a all godi statws a hwyluso atgynhyrchu’r ieithoedd hyn. Felly, tuedda’r amrywiad ieithyddol sy’n bodoli mewn cymunedau dwyieithog i fod yn gysylltiedig â chasgliadau o siaradwyr a ddiffinnir yn ôl eu gogwydd diwylliannol yn hytrach na’u haen sosioeconomaidd. Defnyddir yr iaith leiafrifol mewn peuoedd traddodiadol fel y gymdogaeth a rhai achlysuron a digwyddiadau diwylliannol – peuoedd a all groesi ffiniau sosioeconomaidd (Fishman 1991). Ni cheir, felly, yn y sefyllfaoedd hyn, amrywiadau ieithyddol datblygedig yn ôl dosbarth oherwydd bod cyfansoddiad y cymunedau’n seiliedig ar rwydweithiau sy’n croesi ffiniau sosioeconomaidd. Canlyniad i hyn yw grwpiau statws yn y dull Weberaidd a ffurfiolir yn ôl dull o fyw a chysylltiadau diwylliannol.

Defnyddiai David Jenkins (1960: 13) y term ‘buchedd groups’ i ddisgrifio gwahanol garfanau yn y gymdeithas Gymraeg sy’n amrywio yn ôl eu dull o fyw. Yn ôl ef, y mae dau grŵp buchedd: Buchedd A, neu ‘Pobl y Capel’ yn ôl rhai sylwedyddion (er enghraifft Trosset 1993), a Buchedd B, ‘Pobl y Dafarn’. Y mae aelodau Buchedd A yn rhoi pwyslais ar addysg, ar gynilo arian, ar ennill gwybodaeth ac ar chwilio am swyddi uchel eu statws. Y mae’r bobl ym Muchedd B yn rhoi pwyslais ar adloniant ac ar wario arian heb roi gwerth ar addysg nac ar ddod ymlaen yn y byd galwedigaethol. Er hynny, y mae’r cysyniad o grwpiau buchedd wedi achosi cryn ddadlau, ac annoeth fyddai awgrymu nad ydyw gwahaniaethau o ran dosbarth cymdeithasol yn bodoli yng Nghymru. Dengys Day a Fitton (1975) fod gan y rhan fwyaf o’r bobl ym Muchedd A swyddi uchel eu statws sosioeconomaidd a’r rhan fwyaf ym Muchedd B swyddi isel eu statws. Y mae’r gwahaniaeth rhwng dosbarth a Buchedd yn tarddu o’r modd y diffinnir statws. Y mae un yn defnyddio diffiniad economaidd a’r llall yn pennu statws drwy edrych ar ymddygiad a gogwydd diwylliannol pobl yn y gymuned. Yn ôl Trosset (1993: 80), ‘class conciousness was an English way of thinking that had come to Wales from the outside’. Ni waeth a yw hyn yn wir ai peidio, y mae’r cysyniad hwn wedi bellach ymsefydlu yng Nghymru, a gellir dod o hyd i bobl ym Muchedd A mewn swyddi isel eu statws a phobl ym Muchedd B mewn swyddi uchel eu statws.

Yn sgîl y drafodaeth hon, teimlir mai annoeth fyddai defnyddio dosbarth cymdeithasol yn newidyn allieithyddol yn yr astudiaeth gyfredol. Er bod gan Flaenau Ffestiniog dros bum mil o drigolion gyda thros 80% ohonynt yn medru’r Gymraeg, nid yw hyn yn golygu y ceir amrywiaethau ieithyddol yn ôl dosbarth cymdeithasol. Yn ddi-os, y mae Cymry Cymraeg Blaenau Ffestiniog ym mhob haen sosioeconomaidd yn y dref – o’r di-waith i’r dosbarth uchaf – er bod y rhan fwyaf o’r trigolion yn perthyn i’r dosbarth gweithiol (gweler Emmet 1982b sy’n trafod sawl agwedd gymdeithasol ar drigolion Blaenau Ffestiniog, gan gynnwys dosbarth economaidd). Yn hytrach, credaf fod haenu’r sampl yn ôl statws yn lle dosbarth yn fwy tebygol o bortreadu naws y gymuned, cymuned sy’n tueddu i ffafrio addysg a diddordeb mewn hanes lleol fel teithi cymeradwyedig (gweler Emmet 1982a ac 1982b). O ystyried astudiaeth arall o’r Gymraeg, ymddengys mai tebyg yw’r sefyllfa yn y Wladfa oherwydd ys dywed R.O. Jones (1983:66):

O fewn cyd-destun y Wladfa, nid incwm fel y cyfryw yw’r nodwedd gymdeithasol amlycaf a theimlir mai patrwm o haenau cymdeithasol a geir yn hytrach na dosbarthiadau cymdeithasol pendant.

Defnyddiodd R.O. Jones fynegai diwylliannol er mwyn haenu ei sampl yn lle’r dull sosioeconomaidd Labovaidd. Cytuna Milroy (1987: 14) â natur amheus y newidyn dosbarth cymdeithasol:

We must not lose sight of the fact that the groups we end up with by segmenting our scale – such as ‘lower class’, ‘working class’, ‘middle class’ – do not necessarily have any kind of objective, or even intersubjective, reality… Membership of a group labelled ‘lower-middle class’ does not necessarily form an important part of a person’s definition of his social identity. Yet smaller-scale categories are available which reflect the fact that there are social units to which people feel they belong and which are less abstract than social classes.

Gan hynny, teimlir bod y newidyn hwn yn rhy haniaethol ac anodd ei ddiffinio a’i ddefnyddio ar gyfer haenu cymuned Gymraeg mewn modd derbyniol. Am fod yr addysgedig a’r rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus yn tueddu i fod yn aelodau o’r un cymdeithasau a rhwydweithiau, ymddengys i mi fod eu cysylltiadau cymdeithasol yn fwy dylanwadol na’u cefndir sosioeconomaidd ar eu hymddygiad ieithyddol. Ystyriaf, felly, y ddwy garfan yn un grŵp cymdeithasol oherwydd y lefel o fri a roddir yn y Blaenau i’r rhai a chanddynt addysg uwch a’r rhai sy’n siarad y Gymraeg yn gyhoeddus (gweler A. E. Thomas 1997: 82-3).

2.2.4 Rhwydweithiau Cymdeithasol
Social class is fundamentally a concept designed to elucidate large-scale, social, political, and economic structures and processes, whereas social network relates to the community and interpersonal level of social organization. (Milroy a Milroy 1992: 2)

Y cyntaf i gyflwyno’r syniad o rwydwaith cymdeithasol oedd yr anthropolegydd A. J. Barnes (1954) yn ei astudiaeth o gymuned Norwyaidd fechan. Sylweddolwyd bod adeiledd cymdeithas yn rhy gymhleth i’w ddadansoddi yn nhermau hierarchaeth sosioeconomaidd yn unig (Boissevain a Mitchell 1973:4). Gwelsom eisoes yn 2.2.3 uchod y gall y dull sosioeconomaidd fod yn annigonol wrth geisio esbonio amrywiadau a newidiadau ieithyddol mewn cymunedau llai a dwyieithog. Y mae rhwydweithiau’n gweithio ar lefel yr unigolyn a’i ryngweithio ag unigolion eraill. Drwy astudio ymddygiad grwpiau cymdeithasol sydd
eisoes yn bod, sef grwpiau o bobl sy’n cyfathrebu ac yn ymwneud â’i gilydd yn gyson, yn hytrach na dewis siaradwyr ar sail paramedrau cymdeithasol haniaethol, y mae’n bosibl y gellir taflu goleuni ar ddylanwad rhwydweithiau’r siaradwyr ar eu hymddygiad ieithyddol ac ar gyfansoddiad eu cymuned ieithyddol.

Datblygodd Boissevain (1974) y cysyniad o rwydweithiau cymdeithasol fel arf wrthrychol er mwyn astudio cymunedau a grwpiau naturiol. Dangosodd y gall perthnasau unigolion amrywio yn ôl cysylltiadau’r unigolion hynny â phobl eraill. Gall y gwahanol grwpiau sy’n cwmpasu’r cysylltiadau hyn amrywio yn eu grym i atgyfnerthu normau ymddygiad. Y mae gwahanol nodweddion y cysylltiadau’n gyfrifol am y mesur o ddylanwad sydd gan rwydweithiau ar ymddygiad. Ceir yn Boissevain (1974: Pennod 2) ddisgrifiad manwl o’r meini prawf o ran cynnwys ac adeiledd rhwydweithiau. Y mae sawl ffactor fel amlblethedd, cyfnewid rhwng unigolion, a chyfeiriad ac amlder y cyfnewid yn cyfeirio at feini prawf rhyngweithiol rhwydweithiau ac elfennau eraill fel clystyrau, maint, a dwysedd rhwydweithiau’n cyfateb i’w hadeiledd (gweler hefyd Milroy 1987: 45-52). Ers cyflwyno’r cysyniad o rwydweithiau cymdeithasol, y mae’r dull wedi ei fabwysiadu ym maes sosioieithyddiaeth. Yn ogystal â gwaith Milroy, y mae nifer o sosioieithyddion eraill (e.e. Bortoni-Ricardo 1985; Edwards 1986 Gal 1979; Russell 1982) wedi dangos bod rhwydwaith cymdeithasol yn gysyniad defnyddiol a all amlygu amrywiadau yn ymddygiad ieithyddol gwahanol grwpiau ac a all hefyd esbonio perthnasau siaradwyr unigol â’u cymuned ac â’u grwpiau.

Crybwyllwyd eisoes fod cymunedau yn gyfansoddiadau o rwydweithiau a all orfodi ac atgyfnerthu normau cymdeithasol, gan gynnwys ymddygiad ieithyddol. Dibenion yr astudiaeth bresennol yw asesu a ydyw geiriau traddodiadol Cymraeg yn cael eu tanseilio gan eiriau Saesneg, a ydyw hen eiriau Cymraeg am gysyniadau cymharol newydd ym mhentrefi Cymru wedi bwrw gwreiddiau, ac asesu llwyddiant cynllunio ieithyddol drwy asesu gwybodaeth siaradwyr o dermau Cymraeg newydd eu bathu. Gan hynny, teimlaf y gallai defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn arf ddadansoddol ddatgelu sut y mae perthnasau cymdeithasol yn effeithio ar ymledu geiriau newydd a disodli geiriau traddodiadol ymysg gwahanol grwpiau mewn cymuned mor gryf ei Chymraeg â Blaenau Ffestiniog. Oherwydd mai sail y cysyniad o rwydweithiau cymdeithasol yw’r rhyngweithio wyneb yn wyneb ymysg unigolion, gellid disgwyl bod newid mewn ymddygiad ieithyddol yn ganlyniad i bwysau normadol y rhyngweithio hwn, fel yr awgryma Bailey et al. (1993: 360):
As early as 1933, Bloomfield observed that isoglosses tend to converge at and follow weaknesses in lines of communication. To account for this phenomenon, he proposed the principle of local density, which suggests that the diffusion of linguistic changes is a direct consequence of face-to-face interactions among speakers.

Oherwydd bod Blaenau Ffestiniog yn dref eithaf mawr, ceir yno ryngweithio ymysg pobl o wahanol grwpiau cymdeithasol, ac ymhlith y Cymry Cymraeg ceir grwpiau pendant sy’n ymwneud â’i gilydd ar sawl lefel bersonol ac agos (gweler Emmet 1982a ac 1982b). Dengys Milroy a Milroy (1992: 5-6) y cysylltiad rhwng cynnal iaith a chymunedau dwys ac amlbleth gan ddangos bod newyddbethau a dylanwadau ieithyddol o’r tu allan i’r cymunedau yn gysylltiedig â chymunedau llai dwys ac amlbleth:
A close-knit, territorially based network functions as a conservative force, resisting pressures for change originating from outside the network. By close-knit we mean relatively dense and multiplex, these two concepts being of critical importance in a comparative analysis of social networks. In a maximally dense and multiplex network, everyone would know everyone else (density), and the actors would know each other in a range of capacities (multiplexity). Close-knit networks, which vary in the extent to which they approximate to an idealized maximally dense and multiplex network, have the capacity to maintain and even enforce local conventions and norms – including linguistic norms – and can provide a means of opposing dominant institutional values and standardized linguistic norms. Their capacity to do this, however, seems to be dependant on their territorial restriction to specific neighborhoods, the day-to-day behavior of individuals being less constrained by geographically dispersed networks. Network analysis thus offers a basis for understanding the community-level mechanisms that underlie processes of language maintenance, and the persistence over centuries of stigmatized linguistic forms and low-status vernaculars in the face of powerful national policies of diffusing and imposing standard languages is indeed remarkable.

Am hynny, os yw rhwydweithiau dwys ac amlbleth yn dylanwadu cymaint ar ymddygiad ieithyddol siaradwyr o’r un rhwydwaith, gellid disgwyl bod Cymry Cymraeg o wahanol rwydweithiau’n amrywio yn ôl eu defnydd o’r Gymraeg. Hefyd, gall hyn fod yn wir os yw geiriau newydd a newidiadau eraill yn cael eu mabwysiadu neu eu gwrthod gan unigolion o’r un rhwydwaith. Awgrymir bod yr addysgedig a’r rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus yn fwy cyfarwydd â’r termau Cymraeg newydd na’r rhai nad ydynt yn gwneud defnydd o’r Gymraeg yn gyhoeddus. Awgrymir hefyd fod yr ail garfan hon, sef y llai addysgedig a’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus, yn dangos mwy o ddylanwad y Saesneg yn ei hiaith. Fel y gwelsom yn y dyfyniad uchod gan Milroy a Milroy, gall rhwydweithiau dwys ac amlbleth wrthsefyll newyddbethau a newidiadau ieithyddol eraill. Gallant hefyd atgyfnerthu normau ieithyddol grwpiau agos gan gosbi aelodau sy’n gwyro o’r normau (gweler enghraifft o hyn yn Milroy 1987: 60-61).

2.2.5 Y Sampl Dynol
Y mae’r dull dewis siaradwyr yn dibynnu ar natur y gymdeithas dan sylw, ac y mae cymunedau llai a dwyieithog yn peri anawsterau nad ydynt yn codi mewn dinasoedd uniaith mawr. Wrth ystyried dulliau dewis siaradwyr, teimlwyd mai hapsamplo fyddai’r dull mwyaf gwyddonol a mwyaf tebygol o sicrhau croestoriad cynrychioliadol o’r boblogaeth: ‘A random sample is defined as one in which every member has an equal, non-zero chance of being selected’ (Sapsford 1999: 62). Oherwydd bod gan bob aelod o’r boblogaeth gyfle hysbys i gael ei ddethol, gall y dull hwn sicrhau bod y siaradwyr sy’n cael eu dewis yn cynrychioli pob haen o’r gymdeithas. Ond nid yw hyn yn wir ond pan haenir y gymdeithas yn ôl y ffactorau a drafodwyd uchod.

Er hynny, y mae llu o broblemau ynglŷn â hapsamplo. Fel yr awgryma Greer (1981: 104):
A random sample does not always give the best cross-section of a population, and it does not guarantee freedom from bias. It is only the selection which is bias free.

Er enghraifft, yn eu hastudiaeth yn Detroit, defnyddiodd Shuy, Wolfram a Riley (1967) hapsampl o blant ysgol a’u teuluoedd, ond nid oedd modd i bobl sengl neu deuluoedd heb blant gael eu dewis. Nid oedd y sampl, felly, yn hollol gynrychioliadol o’r ddinas. At hynny, nid yw pob ffrâm samplo’n hollol ddibynadwy ychwaith, fel y dengys Sapsford (1999: 96-98):

The first question is whether you have a sampling frame – a complete list of the population. If so, straightforward random sampling is possible. You need to check, however, that the list is complete. Voting lists are generally out of date; directories list only those who subscribe to the service and choose to be listed.

Er mai dull gwyddonol yw hapsamplo, gall fframiau samplo fod yn ddiffygiol eu cynnwys ac o ganlyniad effeithio ar gynrychioledd samplau terfynol. Yn enwedig mewn cymunedau llai a dwyieithog, nid yw fframiau samplo bob amser yn cynnwys digon o wybodaeth am y boblogaeth. Cyfeiria A. E. Thomas (1997: 76) at y broblem hon wrth iddi drafod ei phenderfyniad i ddefnyddio rhwydweithiau yn lle hapsamplo er mwyn cael hyd i siaradwyr y Gymraeg ym Mhont-rhyd-y-fen:

Un ffactor yn y penderfyniad oedd diffyg ffrâm samplo parod y gallwn ei ddefnyddio yn sail i ddewis hapsampl cynrychioliadol. Mae hyn yn broblem gyffredin mewn astudiaethau o ieithoedd neu grwpiau lleiafrifol, oherwydd nid yw’r fframiau samplo arferol, megis rhestri etholiadol, yn cynnwys gwybodaeth a fyddai’n galluogi’r ymchwilydd i wahaniaethu ar sail iaith neu gefndir ethnig.

Trwy weithredu’r dull ‘cyfaill i gyfaill’, y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan Milroy (1987: 45-9), llwyddodd A. E. Thomas (1997) i recordio 22 o siaradwyr. Aeth ymlaen wedyn i ddefnyddio rhestr etholiadol er mwyn dod o hyd i fwy o siaradwyr. Gyda chymorth tri chysylltwr lleol o’r pentref, sicrhaodd addasrwydd y rhestr derfynol o siaradwyr:
Llwyddais i gael rhestr weddol gyflawn o Gymry Cymraeg brodorol y pentref, ynghyd â gwybodaeth am oedran pob unigolyn, ei waith, aelodaeth o gapel a pharodrwydd i siarad yn gyhoeddus. Yn ogystal â nodi’r Cymry Cymraeg, cefais wybod gan y tri hyn pwy oedd wedi marw neu symud o’r ardal ers i’r rhestr gael ei llunio. Fe’m galluogwyd felly i chwynnu personau anaddas o’r boblogaeth cyn samplo. (A. E. Thomas 1997: 80)

Defnyddiwyd dull tebyg gan R.O. Jones (1983) yn ei astudiaeth o’r Gymraeg yn y Gaiman. Er hynny, y mae natur cymdeithasau a chaffaeledd fframiau samplo addas yn peri i’r ymchwilydd gyfaddasu ei ddull samplo. Mewn tref eithaf mawr fel Blaenau Ffestiniog, y mae’r enwau ar y rhestr etholiadol yn rhy niferus i fynd trwyddynt, ac fel yr awgrymwyd uchod, nid oes modd darganfod gwybodaeth bellach am gefndir y siaradwyr neu hyd yn oed pwy sy’n medru’r Gymraeg. Teimlwn fod gofyn i gysylltwyr lleol o Flaenau Ffestiniog i’m cynorthwyo i fynd drwy restr o dros bum mil o enwau er mwyn cael gwybodaeth bellach am y siaradwyr yn eithaf uchelgeisiol. Am hynny, penderfynais mai doeth fyddai peidio â hapsamplo.

Er bod samplo barn yn llai dibynadwy na hapsamplo o ran sicrhau croestoriad cynrychioliadol o’r boblogaeth, teimlaf fod y problemau sy’n gysylltiedig â hapsamplo yn rhy niferus a chymhleth i’w goresgyn heb roi gormod o egni ac amser i’r cam hwn. Y mae samplo barn yn galluogi i’r ymchwilydd ddod o hyd i siaradwyr addas yn gyflym. Yn ogystal, y mae’n fethodoleg hawdd ei chyflawni ac y mae’n osgoi’r angen am fframiau samplo. Ar y llaw arall, nid yw samplo barn yn atebol i ddadansoddi ystagedol (er enghraifft gwyriad safonol) ac nid yw’n bosibl atgynhyrchu’r astudiaeth yn fanwl (am y dadleuon dros ddefnyddio sampl barn ac yn erbyn hynny, gweler Moser a Kalton 1971: 133-35 a Sapsford 1999: 86-91). Er hynny, teimlaf mai samplo barn yw’r dull mwyaf ymarferol a chynhyrchiol i’w ddefnyddio mewn tref a chanddi dros bum mil o drigolion fel Blaenau Ffestiniog. Cyfeiria Milroy (1987: 28) at ddefnyddioldeb samplo barn gan awgrymu:

In view of the problems associated with strict representative sampling, it may be more realistic for researchers conducting, for example, an urban dialect survey, to judgement sample on the basis of specifiable and defensible principles, than to aim for true representativeness.

Am nad oes fframiau samplo parod ac addas ar gyfer poblogaeth y dref, ac oherwydd prinder amser er mwyn cysylltu â siaradwyr, gall samplo barn oresgyn yr anawsterau sy’n deillio o hapsamplo.

Defnyddiodd Ball (1988) sampl barn yn ei astudiaeth o’r Gymraeg yng Nghwm Tawe. Ar ôl cael hyd i ddau rwydwaith cymdeithasol dwys yn yr ardal, samplodd y rhwydweithiau hyn a dethol y siaradwyr i gynrychioli rhai o wahanol garfanau’r gymuned. Cyfuniad, felly, o ddull Milroy a’r dechneg o sampl barn a geir yma. Gweithredwyd dull tebyg gan Treffers-Daller (1994) yn ei hastudiaeth o god-groesi’r Isalmaeneg a’r Ffrangeg ym Mrwsel. Defnyddiodd gysylltwr lleol i gael ei chyflwyno i ‘real Brusselers’ ac wedyn dewisodd y siaradwyr yn ôl oedran, rhyw, a dosbarth cymdeithasol. Cyfeiria at yr ymresymiad dros beidio â hapsamplo fel a ganlyn:
Although a clear advantage of a random sampling method is that one can claim that the informants are representative of the population under investigation, not all researchers agree that informants obtained through this approach can claim more representativeness than informants contacted through a social network approach. As it is hardly possible, for practical reasons, to analyse linguistic data from more than sixty persons, the number of informants in linguistic research is usually too small to claim true representativeness. (Treffers-Daller 1994: 32)

Gan fod samplau mewn astudiaethau sosioieithyddol, fel arfer, mor fach, nid ydynt yn gynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan. Hefyd, gwelsom eisoes yr anawsterau sy’n gysylltiedig â hapsamplo’n gyffredinol a’r problemau ynglŷn â gweithredu’r dull hwn mewn trefi a dinasoedd mawr. Gan fy mod yn ymweld â Blaenau Ffestiniog yn aml, rwyf wedi gwneud llawer o gysylltiadau â phobl leol. Cefais fy nghyflwyno i fodryb i ffrind i mi a oedd yn llywydd Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ac yn is-lywydd Cymdeithas y Fainc ’Sglodion. Trwyddi hi, rwyf wedi cyfarfod â llawer o drigolion eraill a chanddynt ddiddordebau a ffordd o fyw debyg. Hefyd, cysylltais â grŵp mewn tafarn leol a chefais fy nerbyn o’r dechrau cyntaf (gweler 2.2.7 isod). Oherwydd fy statws fel Americanwr sydd wedi gwneud ymdrech i ddysgu Cymraeg, datblygwyd adnabyddiaeth o’m presenoldeb yn y dref. Cefais, felly, fynediad i’r rhwydweithiau hyn. Gan weithredu’r dull ‘cyfaill i gyfaill’, deuthum o hyd i sampl digonol o siaradwyr (gweler Boissevain 1974: Pennod 2 a Milroy 1980: 45-49 am drafodaeth fanwl o’r dull hwn). Er bod y rhwydweithiau hyn yn debyg i’r cysyniad dadleuol o grwpiau buchedd, teimlaf eu bod yn cynrychioli dau grŵp cymdeithasol pendant ym Mlaenau Ffestiniog yn lle grwpiau cymdeithasol haniaethol. Gan fy mod eisoes wedi cael fy nerbyn i ddau o grwpiau cymdeithasol y dref, ddefnyddiais y rhwydweithiau hyn er mwyn dethol siaradwyr. Y mae gan y ddau grŵp hyn rwydweithiau eithaf dwys ond nid oes llawer o ryngweithio rhyngddynt (gweler 6.1 isod). Oherwydd gwahaniaethau yng ngogwydd cymdeithasol a diddordebau’r ddau rwydwaith, fy mwriad oedd dewis 32 o siaradwyr o’r naill rwydwaith a’r un nifer o’r llall. Er mwyn llenwi celloedd y sampl, sef 2 (rhyw) X 4 (oedran) X 2 (grŵp cymdeithasol), ceisiais sicrhau pedwar siaradwr ar gyfer pob un o’r celloedd, gan gael cyfanswm o 64 yn y sampl terfynol. Er hynny, wynebais anawsterau yn ystod y gwaith maes ac ni lwyddais i gyfweld ond 62 o bobl (gweler 5.2). Casglwyd gwybodaeth am gefndir y siaradwyr, eu cysylltiadau cymdeithasol a theuluol, a’u hagweddau tuag at ddefnyddio’r Gymraeg mewn ymgais i ddatgelu’r gwahaniaethau rhwng y ddwy garfan (gweler 2.5 isod am drafodaeth o’r holiadur a ddefnyddiwyd ac Atodiad II am yr holiadur ei hunan).

2.2.6 Y Sampl Geirfaol
Dewisais yr amrywiol dermau yn y sampl geirfaol yn newidynnau ieithyddol ar ôl arolygu sawl ffynhonnell. Er mwyn dod o hyd i nifer o eiriau traddodiadol, cymharol hen, a newydd, archwiliais sawl astudiaeth o erydiad geirfaol yng Nghymru (Cornelius 1999; A. W. Evans 1992; I. Gruffydd 1989; A. E. Jones 1984; N. G. Jones 1986; Wells 1998), The Linguistic Geography of Wales (LGW) gan A. R. Thomas (1973), a’r pedwar llyfr termau canlynol gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru:
Termau Chwaraeon ac Adloniant (1965)
Termau Egwyddorion Addysg, Addysg Iechyd a Thermau Ysgol Feithrin (1970)
Termau Coginio (1983)
Termau y Teulu a’r Cartref (1985)

Ymgymghorwyd hefyd â’r tair cyfrol ganlynol wrth ystyried y ffurfiau ar gyfer yr holiadur ieithyddol:
Geirfa Gwaith Plant (Prys 1993)
Geiriau’r Newyddion: Geiriau ac Ymadroddion (Y gyfres) (Hughes 1996).
Termau Llywodraeth Leol: yn Seiliedig ar Rhestr Termau Gwynedd (Lewis 1996)

Wedyn, ar ôl casglu rhestr o eiriau ar sail yr eitemau a geir yn y llyfrau a’r astudiaethau hyn, sicrheais ddilysrwydd a dyddiadau bathu’r eitemau a deuthum o hyd i amrywion i’r gwahanol eiriau a chysyniadau trwy groesgyfeirio gan ddefnyddio’r pum geiriadur hyn:
Geiriadur Prifysgol Cymru
Y Geiriadur Cyfoes - yr argraffiad diwygiedig (H. M. Evans1992)
Y Geiriadur Mawr (Evans a Thomas 1985)
Geiriadur yr Academi (Griffiths a Jones 1995)
The Pocket Modern Welsh Dictionary (King 2000).

Rhennir y rhestr yn hen dermau traddodiadol, termau diweddarach a geiriau newydd, a hefyd yn ôl meysydd (gweler Atodiad I am y sampl ieithyddol). Ceir cant o eitemau a ddosberthir fel a ganlyn:

‘Hen Gysyniadau’ Cysyniadau Cymharol Cysyniadau Newydd
Hen

Y Corff (20) Swyddi (10) Peiriannau (20)
Y Cartref (5) Y Dref (10) Swyddi (10)
Y Cartref (5) Y Cartref (10)
Y Dref (10)

Fel y gwelir, y mae 25 o wahanol eitemau ar gyfer y grŵp o ‘hen gysyniadau’, 25 o gysyniadau cymharol hen, a dwywaith y nifer o eitemau o ran y cysyniadau newydd.
Geiriau a ddysgir gartref wrth yr aelwyd yw’r termau traddodiadol ar gyfer yr ‘hen gysyniadau’. Fe’u ceir yn y Gymraeg cyn y drydedd ganrif ar ddeg, a chwmpasant rannau o’r corff a phethau o gwmpas y tŷ.

Y mae’r termau am y cysyniadau cymharol hen yn cynnwys hen eiriau ond y mae’r cysyniadau y cyfeirir atynt yn gymharol newydd mewn cymunedau traddodiadol. Er enghraifft, y mae ‘fferyllydd’, ‘ystafell ymolchi’ a ‘llyfrgell’ yn eiriau cymharol hen ond ni ddatblygodd y cysyniadau’n gyffredinol mewn cymunedau Cymreig ond yn ystod y ganrif ddiwethaf. Dysgir y rhan fwyaf o’r geiriau hyn allan yn y byd wrth rhyngweithio â phobl eraill.

Gyda’r grŵp o gysyniadau newydd, y mae’r termau a’r cysyniadau’n newydd nid yn unig mewn cymunedau yng Nghymru ond hefyd mewn cymunedau dwy’r byd. Ceir 20 o beiriannau am eu bod wedi cael eu dyfeisio – y termau a’r gwrthrychau – yn ystod y ganrif ddiwethaf. Yn ogystal, ceir deg eitem yr un yn y tri grŵp semantaidd ‘Swyddi’, ‘Y Cartref’ ac ‘Y Dref’.

Penderfynwyd cynnwys 25 o eitemau traddodiadol a 25 o eitemau cymharol hen er mwyn eu cymharu â’i gilydd yn ogystal â chyda’r termau newydd. Ceir dwywaith y nifer o eitemau newydd nag o’r ddau grŵp arall. Gwnaethpwyd hyn er mwyn hwyluso casglu a dadansoddi’r data gan fy mod yn teimlo y gall mwy na chant o eitemau fod yn ormod i’r siaradwyr yn ystod y cyfweliad a hefyd fod yn faich wrth ddadansoddi. Wrth rannu’r sampl geirfaol yn ôl eu tarddiad Cymraeg, ceir parhawd a all ddangos dylanwad y Saesneg ar y gwahanol grwpiau o eitemau ac ateb tri chwestiwn penodol:

1) a ydyw’r termau Cymraeg traddodiadol yn colli tir i eiriau Saesneg?
2) a ydyw’r geiriau diweddarach wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau yn y gymuned?
3) pa mor amlwg yw’r termau newydd i’r siaradwyr?

Diben yr astudiaeth, felly, yw asesu gwybodaeth y siaradwyr o’r ffurfiau Cymraeg yn y sampl ieithyddol.

Y mae sawl astudiaeth dafodieithol Gymraeg, gan gynnwys LGW, wedi cynnwys sawl eitem amaethyddol yn eu sampl geirfaol am eu bod yn dermau traddodiadol. Ni chynhwyswyd geiriau amaethyddol yn yr astudiaeth hon am nad yw wedi ei lleoli mewn cymuned amaethyddol. Yn ogystal, ni cheir termau chwarelyddiaeth – sef y rheswm dros ddatblygu’r dref – yn y sampl geirfaol am na ellir disgwyl i holl aelodau’r sampl fod yn gyfarwydd â dulliau’r diwydiant.

Y mae Atodiad I yn cynnwys yr eitemau yn y sampl ieithyddol, ac fel y gwelir, geiriau eithaf cyffredinol ydynt i gyd. Awgryma Francis (1983: 57) fod yr eitemau yr holir amdanynt yn dod o’r:

core vocabulary: nouns for body parts, days of the week, numbers, common holidays, tools and utensils used about the house, articles of dress, trades and occupations... Most of these will be naming or onomasiological questions, in which the referent is indicated or described and the informant is to supply the word.

Er ei fod yn cynnig cyngor i dafodieithegwyr yma, teimlais fod dibenion astudiaethau tafodieithol a’r astudiaeth bresennol yn gorgyffwrdd â’i gilydd am eu bod yn asesu gwybodaeth y siaradwyr o dermau. Ceisiais gasglu geiriau cyffredinol a beunyddiol a dewis geiriau y disgwylid eu clywed yn aml. Er mwyn sicrhau hyn, penderfynais ganolbwyntio ar eiriau sy’n cyfateb i bethau sy’n agos mewn rhyw ffordd neu’i gilydd i’r unigolyn. Er enghraifft, ceir ugain eitem ym maes ‘Y Corff’ oherwydd bod agosrwydd rhwng person a’i gorff yn eithaf amlwg. Gall swyddi pobl arlliwio sut y maent yn rhyngweithio â’i gilydd a bod yn rhan ganolog o hunaniaeth person, felly ceir agosrwydd sosioseicolegol rhwng pobl a swyddi (gweler Kammeyer et al. 1990). Hefyd, y mae geiriau am swyddi’n eithaf cyffredin – y mae pawb wedi mynd at y meddyg, a bydd ar y rhan fwyaf o’r boblogaeth angen optegydd rywbryd – felly, agosrwydd sosioieithyddol sy’n cysylltu pobl â swyddi. Gyda maes ‘Y Cartref’, ceir geiriau beunyddiol am bethau o gwmpas y tŷ fel ystafelloedd ac offer. Ceir llefydd a phethau eithaf cyffredin mewn trefi a phentrefi dan y pennawd ‘Y Dref’. Geiriau a welir ar arwyddion yn y dref yw’r eitemau hyn. Ceir ugain eitem ym maes ‘Peiriannau’. Y mae’r peiriannau hyn, ar wahân i dri ohonynt, yn cael eu defnyddio’n feunyddiol neu’n aml iawn gan bobl gyffredin. Y mae eu hagosrwydd at fywydau pobl, felly, yn amlwg. Penderfynais gynnwys y tair eitem olaf yn y rhestr o beiriannau – sef (HELICOPTER), (SUBMARINE), a (MISSILE) – nid oherwydd eu bod yn anghyffredin, ond am eu bod yn cael eu defnyddio ers imi ddechrau’r astudiaeth hon mewn adroddiadau’r newyddion Cymraeg ar S4C ac mewn erthyglau papurau newydd Cymraeg. Gan eu bod yn sianelau pwerus a dylanwadol mewn ymdrechion i boblogeiddio termau newydd eu bathu (gweler 1.5), y bwriad oedd asesu a ydyw’r cyfryngau torfol yn llwyddo i gyflawni’r gorchwyl hwn. Ceir yn yr holiadur, felly, gasgliad o dermau eithaf cyffredin yng nghymunedau Cymru. At hynny, ceir parhawd o’r eitemau traddodiadol sy’n cynnwys yr hen eiriau a chysyniadau, yr eitemau diweddarach gyda’r geiriau cymharol hen ond gyda chysyniadau eithaf newydd, a’r termau newydd sy’n cynnwys geiriau a chysyniadau newydd.
Y mae Francis (1983: 57-58) yn trafod cynnwys holiaduron a grwpiau semantaidd yr eitemau ynddynt. Penderfynwyd trefnu’r geiriau yn ôl meysydd semantaidd oherwydd, fel yr awgryma N. G. Jones (1986:62), gall y fethodoleg hon hwyluso casglu data wrth gyfweld a hwyluso dadansoddi data:

Trwy drefnu’r holiadur yn ôl meysydd arbennig fe gyfyngir ar y posibiliadau llafar sydd ar gael i’r siaradwyr ac felly mae’n debyg y cofnodir deunydd dilys a chynrychioladol. Hefyd, wrth drefnu yn ôl maes, mae’n haws sylwi wrth ddadansoddi a oes yna eirfa arbennig yn diflannu. Mantais bellach o drefnu’r holiadur yn ôl testun yw ei bod yn haws cynnal y cyfweliad ar ffurf sgwrs gan roi bodolaeth wedyn i ffurfiau arferol y cyfrwng sgwrsio rhydd yn hytrach na’r ffurfiau safonol a gyfyd wrth ffurfioli’r sefyllfa. Mae’n hanfodol trefnu’r holiadur yn fanwl er mwyn osgoi cymhlethdod ac amwysedd ac i arbed amser.

Gan i’r eitemau gael eu trefnu yn ôl maes, gallwn gynnal y cyfweliadau ar ffurf sgwrs gan obeithio cael lleihau ffurfioldeb y sefyllfa.

2.2.7 Perthynas yr Ymchwilydd â’r Gymuned Ieithyddol
Many important aspects of the structure of a given language are essentially beyond the reach of the scholar who is not a native speaker of it. (Hale 1969: 386)

Wrth adolygu’r llenyddiaeth ar y berthynas rhwng yr ymchwilydd sy’n ceisio astudio amrywio ieithyddol mewn cymuned â siaradwyr y gymuned, rhaid cyfaddef fy mod wedi colli ychydig o hyder ynglŷn â’m gallu i gyflawni gofynion yr astudiaeth. Gan fy mod yn Americanwr sydd wedi gwneud ymdrech i ddysgu’r Gymraeg, dechreuais deimlo y gall y statws hwn fod yn faen tramgwydd i mi. Yn ôl sawl awdur, os nad oes gan yr ymchwilydd nodweddion cymdeithasol ac ieithyddol tebyg i nodweddion y siaradwyr, nid oes modd i’r ymchwilydd ddod o hyd i normau gwirioneddol y gymuned ieithyddol. Yn ôl Wolfson (1976: 197), gall sawl ffactor effeithio ar ddylanwad yr ymchwilydd ar ddilysrwydd y data a’i allu i ddod o hyd i seiliaith y siaradwyr:

If the interviewer shares with the subject certain personal attributes such as age, sex, general attire, and very importantly, dialect or speech variety, then his chances for involving the subject in conversation and thereby obtaining data approaching the subject’s intimate speech, are greatly increased and the reverse is also true.

Wrth ystyried oblygiadau’r dyfyniadau uchod, teimlais y byddai’r gorchwyl o’m blaen yn afrwydd i’w gwblhau oherwydd yr annhebygrwydd rhwng fy nghefndir i ac eiddo siaradwyr Blaenau Ffestiniog. Ystyriais y gallai fy rôl ddeublyg, sef fel dysgwr ac Americanwr, fod yn faen tramgwydd i mi. Ar ben hynny, y mae trydedd rhan i’m rôl yn y gymuned, sef fel ymchwilydd. Cyfeiria A. E. Thomas (1997: 94) at hyn gan ddangos y gall y rôl hon naill ai ysgogi cydweithrediad ar ran y siaradwyr neu rwystro ymdrechion yr ymchwilydd, gan ddibynnu ar bersonoliaeth y siaradwyr a’r sefyllfa. Nid oes unrhyw fodd pendant i sicrhau lleihau dylanwad y rôl hon yn y gymuned ieithyddol. Mewn ymdrech i oresgyn y broblem hon, defnyddiodd Labov (1966) a Flikeid (1988) siaradwyr o’r cymunedau yr oeddent yn eu hastudio i gasglu’r data. Oherwydd tebygrwydd y casglwr i’r siaradwyr o ran rhyw, oedran, a chefndir cymdeithasol ac ieithyddol, llwyddodd y ddau ymchwilydd i leihau dylanwad y cyfwelydd ar arddull iaith y siaradwyr ac i gasglu deunyddiau gwerthfawr. Er hynny, nid oedd gennyf yr adnoddau dynol a oedd gan Labov a Flikeid, ac o ganlyniad, ni allwn ond rhoi cynnig ar leihau’r gwahaniaethau cymdeithasol rhyngof a thrigolion y Blaenau.

Wrth feddwl am fy mhrofiadau nid yn unig ymysg y Cymry Cymraeg ym Mlaenau Ffestiniog ond hefyd ymysg y Cymry Cymraeg yng Nghymru yn gyffredinol, sylweddolais y gallai fy rôl fel Americanwr sy’n astudio’r iaith Gymraeg fod yn gleddyf deufin. Y tro cyntaf yr euthum i dafarn ym Mlaenau Ffestiniog, dewisais un a ystyrid gan y trigolion yn ‘lle eitha’ ryff’ er mwyn dod o hyd i bobl gyffredin. Ar ôl archebu diod ac eistedd i lawr mewn cornel i ddarllen papur newydd, daeth dyn ifanc eithaf garw ei olwg tuag ataf. ‘Where’re you from?’ gofynnodd yn swta iawn. Yr oedd yn amlwg iddo fy mod yn ddieithryn. At hynny, cymerodd yn ganiataol nad oeddwn yn medru’r Gymraeg. Oherwydd ei acen ogleddol gref yn Saesneg, gwyddwn ei fod yn Gymro Cymraeg ac atebais yn ôl yn gwrtais, ‘Dwi’n dod o’r Unol Daleithiau’. ‘Be’?’ ebychodd yn syn, ‘a chdi’n siarad Cymraig?’ Ymhen pum munud, cefais fy nghyflwyno i bawb yn y dafarn fel ‘y ’Mericanwr sy’n siarad Cymraig’ ac nid oedd rhaid imi brynu diod arall y noson honno. Dyna oedd sut y cefais fynediad i un o’r rhwydweithiau ym Mlaenau Ffestiniog. Ni ddatgelais ar y pryd fy mod yn bwriadu gwneud ymchwil yn y dref, felly ni ddylanwadodd y rhan honno o’m rôl yn y gymuned ar fy mherthynas â’r grŵp. Yn lle hynny, yr oedd ochrau eraill o’m rôl yn berthnasol i’m mynediad i’r rhwydwaith: ‘Tydi’n grêt fod o wedi dod yr holl ffordd o ’Merica jyst i ddysgu Cymraig?’ meddai un fenyw wrth y dyn y tu ôl i’r bar.

Dro arall, cyfarfûm â grŵp o Gymry Cymraeg mewn tafarn yn y Bala. Yr oedd fy nghefndir unwaith eto’n allweddol imi gael mynediad i’r grŵp. Gwnaethant yn fawr o’r ffaith fy mod yn dod o’r Unol Daleithiau ac yn siarad Cymraeg. Er hynny, gwrthododd dau ddyn ifanc siarad â mi yn Gymraeg. Sgwrs ryfedd oedd siarad Cymraeg â phawb yn y grŵp, hyd yn oed y ddau ddyn, ac ateb yn Gymraeg gwestiynau a ofynnwyd yn y ddwy iaith. Ni allai’r ddau hynny dderbyn fy mod yn medru’r ‘hen iaith’. Hyd yn oed ar ôl siarad â hwy am dros awr heb imi yngan yr un gair o’r Saesneg, parhasant i ddefnyddio eu hail iaith wrth ymddiddan â mi.

Digwyddodd enghraifft arall o’m cefndir yn effeithio ar ymddygiad ieithyddol fy nghyd-siaradwr pan oeddwn yn trafod fy nymuniad i ddechrau doethuriaeth â pherson sy’n dysgu Cymraeg i oedolion. Yn ystod y sgwrs, ynganai ei eiriau’n araf a chyfieithai eiriau eraill i’r Saesneg yn syth ar ôl iddo ddefnyddio’r geiriau Cymraeg. Er enghraifft, yr oedd yn sôn am yr astudiaeth a defnyddiodd y gair ‘dilys’ gan ddilyn yn syth gyda’r Saesneg ‘valid’. Crwydrodd y sgwrs ychydig a digwyddodd yr un peth gyda’r geiriau ‘troednoeth’ a ‘barefoot’. Nid y ffaith fy mod yn Americanwr a oedd yn gyfrifol am hyn, ond cymerodd yn ganiataol nad oeddwn yn deall y geiriau eithaf anghyffredin hyn oherwydd fy rôl fel rhywun sy’n dysgu’r Gymraeg. Tynnais ei sylw at yr hyn yr oedd yn ei wneud gan ddweud pe na bawn yn deall gair, y gofynnwn am ei ystyr. Er hynny, parhaodd i gyfieithu geiriau nawr ac yn y man.

Diben y drafodaeth hon yw amlygu rhai o’r senarios a allai godi wrth imi ryngweithio â darpar siaradwyr ar gyfer yr astudiaeth. Fel y gwelsom, gall amrywiol rannau o’m rôl yn y gymuned ysgogi gwahanol adweithiau ac ymddygiadau ieithyddol. Fel yr awgryma Hymes (1974a: 50): ‘To participate in a speech community is not quite the same as to be a member of it’. Cyfeiria Trosset (1986) at adweithiau tebyg i’w rôl fel dysgwr wrth iddi hi siarad â Chymry Cymraeg. Yn y diwedd, cymerodd arni fod y Gymraeg yn iaith gyntaf iddi er mwyn osgoi’r cymhlethdodau hyn. Nid wyf yn awgrymu bod y ffenomenâu hyn yn unigryw i’r gymuned Gymraeg: y mae sefyllfaoedd cyffelyb yn codi ymysg dysgwyr mewn sawl cymuned ieithyddol (gweler er enghraifft Hatch 1983 am yr hyn a eilw yn foreigner talk). Rwy’n ceisio dangos bod fy mhrofiadau wedi gwneud imi ystyried yr effaith rwy’n ei chael ar siaradwyr oherwydd fy nghefndir ac amlygu’r hyn sy’n gallu bod yn faen tramgwydd wrth imi geisio cymell siaradwyr i siarad yn naturiol. Y mae’n amlwg bod siaradwr sy’n siarad yn araf, yn cyfieithu i’r Saesneg, a hyd yn oed yn gwrthod siarad yn Gymraeg wrth ymddiddan â mi yn anaddas ar gyfer yr astudiaeth bresennol. Fel y gwelsom, gallai fy statws fel Americanwr fy nghynorthwyo i gael mynediad i’r gymuned. Ar y llaw arall, gallai fy rôl fel rhywun a oedd wedi gwneud ymdrech i ddysgu’r Gymraeg beri i siaradwyr yr iaith gyflyru eu hymddygiad ieithyddol wrth ryngweithio â mi.

Er hynny, gallai fy nghefndir fod yn fantais imi hefyd. Y mae fy statws fel Americanwr wedi fy nghynorthwyo yn y gorffennol i ennill ymddiriedaeth a diddordeb siaradwyr y Gymraeg. At hynny, bu’r statws hwn yn destun trafod ymysg fy nghyd-ymddiddanwyr ac fe ysgogodd ddyfnhau eu dymuniad i barhau i siarad â mi. Er bod fy rôl fel dysgwr wedi achosi i rai o’r Cymry Cymraeg rwyf wedi cyfarfod â hwy siarad yn ‘annaturiol’ wrth sgwrsio â mi, nid yw hyn yn wir fel arfer. Gan amlaf, y mae pobl yn dechrau siarad yn naturiol ar ôl ychydig o funudau ac ar ôl iddynt sylweddoli fy mod yn deall eu Cymraeg heb drafferth. Camp fy ngwaith ym Mlaenau Ffestiniog, felly, fydd sicrhau bod y siaradwyr a fydd yn rhan o’r astudiaeth yn peidio â chyflyru eu hiaith wrth ymateb i’r rhan hon o’m rôl yn y gymuned. Gwneir hyn drwy ddewis dim ond y siaradwyr sy’n ymddangos fel petaent yn defnyddio’r iaith yn naturiol wrth iddynt ymwneud â mi. Gallai cyfweld â siaradwyr a ynganai eu geiriau’n annaturiol o araf ac a gyfieithai i’r Saesneg effeithio ar ddilysrwydd y data a phrofi’n hollol wrthgynhyrchiol ar sawl lefel.

Ffactor arall o bwys yw y gallai’r ffaith fy mod yn dod o gymuned ieithyddol a diwylliant gwahanol ychwanegu at effeithiolrwydd fy ymdrechion i ddatgelu amrywiadau ymysg trigolion Blaenau Ffestiniog. Yn wahanol i’r datganiadau a gynigiwyd gan Hale (1969) a Wolfson (1976) ynglŷn ag anawsterau’r ymchwilydd nad yw’n dod o’r gymuned dan sylw nac yn siarad iaith y gymuned yn iaith gyntaf, cred Zentella (1997: 7) y gall y gwahaniaethau hyn fod yn fanteisiol:

Membership in the ethnic group which is being studied should enable the researcher to dispense with interpreters, to be sensitive to cultural norms, and to have easier access to and more profound relationships with a larger number of community members. The closer the researcher is to the group, however, the more myopic the researcher may become about the significance of everyday acts that group members take for granted… Any researcher who comes from the racial and/or ethnic group s/he is studying and assumes ‘I know that community because I lived in one like it’ may ignore significant regional, generational, and intra-cultural differences that distinguish one community from another. This is particularly harmful because there is a special pressure on the indigenous ethnographer to be all encompassing, to include every sub-group within the community, and to record a wealth of linguistic and cultural details accurately.

Er nad wyf yn cytuno’n llwyr â’r farn y gall yr ymchwilydd brodorol fod yn ‘fyr ei olwg’ ynglŷn ag arwyddocâd gweithredoedd beunyddiol ac amrywiadau rhwng gwahanol garfanau yn y gymuned, ymgysuraf yn y ffaith nad yw’r gorchwyl o’m blaen yn amhosibl ei gwblhau. Gwelsom eisoes y gallai fy rôl ddeublyg fel Americanwr ac fel dysgwr agor drysau imi yn y gymuned Gymraeg. Y mae unrhyw astudiaeth sydd yn werth yr ymdrech yn gofyn am driniaeth ofalus gan yr ymchwilydd, ni waeth am ei gefndir, o ddylanwad amrywiol ffactorau ar ganlyniadau. Gyda sylwadaeth graff a llygad barcud, felly, y mae’n bosibl i’r ymchwilydd nad yw’n frodor o’r gymuned ieithyddol na’i diwylliant oresgyn y rhwystrau a all godi oherwydd y gwahaniaethau cefndirol hyn.

2.2.8 Cyfweld

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb â’r siaradwyr gan recordio eu hatebion i gwestiynau’r holiaduron. Fel y gwelsom eisoes yn 2.1 uchod, er i A. R. Thomas (1973) lwyddo i gasglu nifer fawr o eitemau geirfaol traddodiadol yn ei astudiaeth o dafodieithoedd yng Nghymru, nid oedd ganddo fawr o reolaeth dros gasglu’r data na thros ddewis y siaradwyr. Ceir yr un broblem mewn astudiaethau tafodieithegol eraill lle nad yw’r siaradwyr yn cael eu cyfweld yn bersonol gan yr ymchwilydd neu ei gynorthwywyr. Gan hynny, teimlaf fod cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb â’r siaradwyr yn fwy tebygol o sicrhau cysondeb yn y dull cyfweld a dilysrwydd yr astudiaeth. Trwy ddefnyddio’r fethodoleg uniongyrchol hon, gellir osgoi ffactorau hap a chael mwy o reolaeth dros y cyfweliadau a hefyd dros ddewis y siaradwyr, problemau sy’n effeithio ar ddilysrwydd data a gesglir o weithredu methodoleg anuniongyrchol fel dosbarthu holiaduron drwy’r post neu fethodolegau eraill lle nad yw’r ymchwilydd yn bresennol (gweler er enghraifft Petyt 1980: 114-115). Fel yr awgryma Romaine (1989: 269-70):

If the questionnaires are simply distributed rather than administered personally, the investigator loses a major degree of control over the results …. He may not know whether the person to whom it is given is the one who actually fills it out. If he is not there while it is being filled out, he loses the opportunity to clarify terms and any misunderstandings the informant may have which will affect the answers given. (Conversely, however, the investigator may unconsciously bias the results in a particular direction if he is present.)

Hefyd, gall siaradwyr ymgynghori â phobl eraill neu hyd yn oed ddefnyddio geiriaduron wrth ateb cwestiynau ar holiadur a ddosberthir yn anuniongyrchol. Er hynny, fel y mae brawddeg olaf y dyfyniad yn awgrymu, nid yw’r fethodoleg uniongyrchol heb ei anfanteision. Ni thâl anghofio rhybudd Labov (1970: 70):

We must somehow become witness to the everyday speech which the informant will use as soon as the door is closed behind us - the style in which he argues with his wife; scolds his children or passes the time of day with his friends. The difficulty of the problem is considerable.

Yn ôl Milroy (1987) a sawl awdur arall, y mae siaradwyr yn tueddu i safoni mewn cyfweliadau, ac y mae’r ffaith bod yr ymchwilydd, fel arfer, yn ddieithr i’r siaradwyr yn peri iddynt siarad yn fwy gofalus (gweler 2.5 isod am drafodaeth o’r broblem hon). Cyfeiria Francis (1983: 70) at hyn ac at broblem yr holwr sy’n defnyddio methodoleg uniongyrchol gan ddweud:

Unlike the intermediaries of the indirect method, who are at least residents if not natives of the communities, the fieldworker is a stranger, with limited time and relatively little local knowledge. He must locate potential informants rapidly, make sure of their qualifications, and ingratiate himself with them to the point where they are willing to spend many hours answering questions. It is no wonder that many experienced fieldworkers consider this the hardest part of their work.

Camp yr ymchwilydd, felly, yw lleihau ei statws o ran bod yn ddieithryn yn y gymuned a cheisio casglu llafar rhydd ac anffurfiol – oni bai ei fod yn dymuno casglu iaith ffurfiol.

Teimlaf yn ogystal fod y modd y cysylltir â’r siaradwyr yn bwysig i sicrhau eu parodrwydd i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Gall hyn fod yn arbennig o wir mewn cymuned Gymraeg, fel yr awgryma B. Thomas (1982: 61):
I did not send introductory letters to potential informants before hand, as I thought that my presence in the flesh might be less intimidating than the image conveyed by an official letter. There was also the problem of language choice. Had I written a letter in Welsh, some of the less literate informants might have been intimidated by it. On the other hand, writing in English and subsequently interviewing in Welsh might have puzzled or perhaps even offended those who were literate in Welsh.

Cytunaf fod rhaid ystyried llythrennedd y siaradwyr er mwyn osgoi peri teimladau o annigonolrwydd ieithyddol neu unrhyw deimladau negyddol eraill. Am hynny bwriadaf osgoi’r broblem ynglŷn â llythrennedd drwy gysylltu â’r siaradwyr yn uniongyrchol. Manteision eraill o fabwysiadu’r dull hwn yw ei fod yn fodd imi fy nghyflwyno fy hunan yn bersonol, profi fy mod yn medru siarad a deall Cymraeg, a sefydlu ymddiriedaeth y siaradwyr.

2.3 Yr Holiadur Geirfaol
Yn Atodiad I, ceir rhestr o eitemau’r holiadur geirfaol a baratowyd ar gyfer cyfweliadau. Ar gyfer ‘Y Corff’, byddaf yn cyfeirio at y gwahanol rannau o’m corff fy hun a gofyn i’r siaradwyr am eiriau ar gyfer y rhannau hyn. Cesglais luniau priodol o’r peiriannau, ystafelloedd a phethau eraill o gwmpas y tŷ, a phobl mewn gwisgoedd swyddogol ar gyfer swyddi dan y penawdau ‘Peiriannau’, ‘Y Cartref’, a ‘Swyddi’ (gweler Atodiad III am y lluniau a ddefnyddiwyd). Am mai enwau yw’r eitemau i gyd, nid oedd yn anodd dod o hyd i luniau addas sy’n cynrychioli’r eitemau a gobeithiaf y bydd yn hawdd codi’r geiriau penodol sy’n cyfateb i’r lluniau yn ystod y cyfweliad. Wrth gwrs, ni ddisgwyliaf i bob llun lwyddo’n ddi-feth i ysgogi’r atebion priodol bob tro oherwydd gall pobl ymateb i symbyliadau mewn gwahanol ffyrdd. Os na fydd siaradwyr yn ymateb i’r lluniau gyda’r eitemau geirfaol priodol, fe’u hysbardunaf drwy esbonio neu ddisgrifio’r eitem ymhellach. Er enghraifft, am y sbardun (WAITER), gallwn geisio ysgogi’r ymateb drwy ddweud, ‘Y person sy’n dod â bwyd a diod i’ch bwrdd pan ’dych chi’n mynd allan i fwyta’. Diben y modd hwn o holi yw osgoi defnyddio geiriau Saesneg er mwyn sicrhau dilysrwydd y fethodoleg ac er mwyn gofalu nad wyf yn awgrymu atebion yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mewn astudiaethau ffonolegol, gall y dull o ofyn i’r siaradwyr drosi geiriau o un iaith i’r llall fod yn llwyddiannus a chynhyrchu digon o ddata defnyddiol a dilys. Fodd bynnag, mewn cyd-destun geirfaol fel yn yr astudiaeth bresennol, teimlir y byddai’r dull hwn o holi yn arwain at annilysrwydd oherwydd ei fod yn awgrymu atebion i’r siaradwyr. Cytuna R.O. Jones (1983) fod gwahanol ddulliau o holi’n addas ar gyfer ysgogi rhai mathau o ddata ond ei bod yn bwysicach mewn astudiaethau geirfaol i beidio â defnyddio geiriau a all awgrymu i’r siaradwyr yr eitemau y chwilir amdanynt. Ceir yn G. M. Awbery (1982) ddisgrifiad o weithredu’r dull hwn wrth iddi lwyddo i gasglu enwau Cymraeg am blanhigion drwy ddangos lluniau i’r siaradwyr. Defnyddiodd Cromdal (1999) fethodoleg debyg yn ei astudiaeth o sgiliau ieithyddol siaradwyr dwyieithog y Swedeg a’r Saesneg. Teimlir hefyd fod dangos lluniau’n osgoi undonedd yn ystod y cyfweliadau, ond yn bwysicach fyth, fod y dull hwn yn osgoi ysgogi’r siaradwyr i feddwl am safon eu hiaith. Cofier am a ddywed B. Thomas (1992: 63):
Yng Nghymru, fel yn yr Alban a’r Iwerddon [sic], mae’r broses o gyfnewid iaith wedi arwain at dwf yn ymwybyddiaeth y siaradwyr o ddylanwad y Saesneg. Yn aml, bydd meddwl isel o’r dafodiaith leol o achos hynny.

Gall gofyn cwestiynau fel ‘Oes gair Cymraeg gennych am…’ neu ‘Beth fyddech chi’n ei ddweud yn Gymraeg am…’ achosi i’r siaradwyr deimlo’n annigonol eu Cymraeg os nad oes ganddynt air Cymraeg am yr eitem ond gair Saesneg. Er hynny, y mae’n fwy na thebyg y bydd rhaid imi annog y siaradwyr rywsut, ond drwy osgoi defnyddio’r gair ‘Cymraeg’ yn y cwestiwn, y mae’n bosibl nad amlygir meddwl isel y siaradwyr. Gall gofyn ‘Beth yw eich gair chi am…’ osgoi’r pwyslais ar y Gymraeg pan nad oes ond y term Saesneg gan y siaradwr. Wrth gwrs, y mae perygl y bydd pobl yn adrodd am ‘bobl eraill’ yn hytrach na chyflwyno’u geiriau eu hunain, ond y byddai hynny yn dangos eu bod yn gyfarwydd â’r term hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio’r gair eu hunain. Manteisiaf hefyd ar fy rôl fel dysgwr yn ystod y rhan hon o’r cyfweliad. Esboniaf wrth y siaradwyr fy mod wedi dysgu Cymraeg yn y De a bod arnaf eisiau dod o hyd i’r geiriau a ddefnyddir yn y Gogledd, yn enwedig ym Mlaenau Ffestiniog. Teimlaf, felly, y gall dangos lluniau o’r eitemau dan sylw ac amlygu fy rôl fel siaradwr ail-iaith gyfrannu at osgoi ysgogi teimladau o annigonolrwydd ieithyddol.

2.4 Yr Holiadur Sosioieithyddol
Bwriad yr holiadur sosioieithyddol yw casglu gwybodaeth am fywyd cymdeithasol a theuluol y siaradwr yn ogystal â gwybodaeth am sawl agwedd o’r Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog. Y mae’r holiadur hwn yn elwa ar yr ymresymu a’r dulliau a gyflwynir mewn tair astudiaeth sosioieithyddol wahanol eu cyd destunau. Diben astudiaeth Treffers-Daller (1994) oedd asesu cod-groesi ym Mrwsel, ymchwiliodd A. E. Thomas (1997) i amrywiaeth o arddulliau ieithyddol ac amrywiol newidynnau ffonolegol yn iaith Pont-rhyd-y-fen, a mesurodd Allard a Landry (1994) fywiogrwydd ethnoieithyddol – goddrychol a gwrthrychol – mewn cyd-destun Ffrangeg-Saesneg yn Québec a hefyd y defnydd a wneid o’r ddwy iaith gan y siaradwyr yn eu rhwydweithiau cymdeithasol. Er bod gwahaniaethau rhwng y tair astudiaeth hyn, y mae gorgyffwrdd sylweddol yn y cwestiynau sy’n ymddangos yn yr holiaduron. Ceir yn Atodiad II holiadur sosioieithyddol yr astudiaeth bresennol. Y mae’r holiadur yn ddetholiad o’r cwestiynau yn holiaduron y tair astudiaeth hyn - cwestiynau yr ystyriaf eu bod yn berthnasol i’r ymchwil bresennol.

Er mwyn casglu gwybodaeth am gefndir cymdeithasol y siaradwr, gofynnir sawl cwestiwn ynglŷn â bywyd cymunedol – presennol a blaenorol – y siaradwr. Ceir cwestiynau am oedran, ardal enedigol, trigfannau, addysg, gwaith, a phatrymau addoli. Cesglir gwybodaeth am gysylltiadau teuluol, sef rhieni, cymar, a phlant y siaradwr, yn ogystal â’r iaith a ddefnyddir wrth ymwneud â hwynt. Teimlaf fod yr wybodaeth a gesglir drwy ofyn y cwestiynau hyn yn berthnasol o ran asesu’r cysylltiad rhwng ymddygiad ieithyddol a chefndir cymdeithasol y siaradwyr.

Gofynnir am ddefnydd o’r Gymraeg hefyd. Credaf fod dwy ochr i’r geiniog ynglŷn â defnyddio’r iaith – sef defnydd gweithredol a defnydd goddefol. Er mwyn casglu gwybodaeth am yr agwedd weithredol, gofynnir am yr iaith a ddefnyddir gan y siaradwr wrth iddo fynd o gwmpas ei bethau yn y dref a chyda’r bobl yn ei rwydwaith cymdeithasol. Er enghraifft, ceir cwestiynau yn yr holiadur am ddewis iaith wrth siopa yn yr archfarchnad, mynd i’r banc, a chyfarch rhywun ar y stryd yn ogystal â’r iaith a ddefnyddir wrth siarad â ffrindiau a phobl y mae’r siaradwr yn eu hadnabod. Cesglir hefyd wybodaeth am ddefnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg. Gyda’i gilydd, bwriad y cwestiynau hyn yw asesu’r defnydd gwirioneddol a wneir o’r Gymraeg ym mywyd beunyddiol y siaradwr yn ogystal ag asesu a ydyw defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn effeithio ar wybodaeth o’r eitemau dan sylw.

Er nad wyf yn bwriadu cyflwyno cwestiynau’r holiadur yn nhafodiaith yr ardal fel y gwnaethpwyd gan A. E. Thomas (1997) ym Mhont-rhyd-y-fen, manteisiaf ar y ffaith fy mod yn ddysgwr drwy ofyn y cwestiynau yn y modd sy’n teimlo’n fwyaf naturiol i mi ar y pryd. Gan fy mod yn ceisio ysgogi arddull anffurfiol y siaradwr wrth recordio’r rhan hon o’r cyfweliad (gweler 2.5 isod), credaf y gall fy rôl fod yn fanteisiol mewn sawl ffordd. Gall fy anwybodaeth annog y siaradwr i ymhelaethu ar sawl pwnc a godir yn ystod y cyfweliad, ac o ganlyniad achosi iddo anghofio am y peiriant recordio (gweler Labov 1972b: 113-18). Hefyd, fel yr awgrymwyd yn 2.2.7 uchod, gall fy rôl fel dysgwr leihau teimladau posibl o annigonolrwydd wrth i bobl siarad â mi.

2.5 Y Seiliaith, Arddulliau Ieithyddol, a Pharadocs y Sylwedydd
A basic sociolinguistic principle is that in a heterogeneous speech community with varying degrees of linguistic diversity and social complexity, speakers interact using different speech varieties drawn from a repertoire of choices, which for the most part is not random. (Elias-Olivares 1976: 3)

Dengys Labov (1972a ac 1972b) fod y gallu i godi gwahanol arddulliau ieithyddol yn deillio o ddefnyddio gwahanol ddulliau casglu data. Ceir gwahaniaeth rhwng llafar rhydd, cwbl anffurfiol; llafar ffurfiol mewn sefyllfa gyfweld; llafar mwy ffurfiol wrth ddarllen yn uchel; a llafar tra ffurfiol wrth ddarllen rhestr o eiriau. Ar ben hynny, gellir dadlau bod yma ddau ddimensiwn, sef yr iaith lafar a’r iaith ddarllen. Yn ôl Labov (1972b: 112), y mae’r amrywiadau yn dibynnu ar y sylw a roddir gan y siaradwyr i’w hiaith mewn gwahanol sefyllfaoedd ac mai ‘the style which is most regular in its structure and in its relation to the evolution of the language is the vernacular, in which the minimum attention is paid to speech.’ Wrth drafod y gwahanol arddulliau ieithyddol mewn astudiaethau sosioieithyddol, cyfeiria Labov at bwysigrwydd y seiliaith. Yn ei dyb ef:
Not every style or point on the stylistic continuum is of equal interest to linguists.... Observation of the vernacular gives us the most systematic data for our analysis of linguistic structure.
(Labov 1972a: 208)

Clywir seiliaith pan nad yw’r siaradwr sylwi ar ei iaith neu yn ei rheoli, ac oherwydd hynny, y seiliaith yw’r arddull fwyaf anffurfiol. Gan hynny, y mae’n dilyn yn ôl Labov fod gan y seiliaith gysondebau a thueddiadau ar eu mwyaf eglur oherwydd ei natur sustematig. Dengys Labov sustematigedd y seiliaith drwy ddisgrifio rheolau yn iaith anffurfiol siaradwyr yn ôl eu gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol yn ogystal ag yn ôl eu rhyw a’u hoedran. Hefyd, gall y sustematigedd hwn amlygu amrywiol arddulliau ieithyddol wrth gasglu data:
Its (the vernacular’s) highly regular character is an empirical observation. The vernacular includes inherent variation, but the rules governing that variation appear to be more regular than those operating in the more formal ‘superposed’ styles that are acquired in later life. Each speaker has a vernacular form in at least one language… in some cases, systematic data can be obtained from the more formal styles, but we do not know this until they have been calibrated against the vernacular.
(Labov 1981: 3 yn Milroy 1987: 23)

Yn sgîl pwysigrwydd y seiliaith mewn astudiaethau sosioieithyddol, teimlaf fod rhaid rhoi cynnig ar gasglu deunydd o lafar rhydd ac anffurfiol. Am yr un rhesymau ag a gynigir gan A. E. Thomas (1997: 84), ni theimlaf mai’r dull Labovaidd yw’r un mwyaf priodol i’w ddefnyddio er mwyn ysgogi gwahanol arddulliau ieithyddol. Gall defnyddio rhestri o eiriau a gofyn i’r siaradwyr ddarllen yn uchel beri teimladau o annigonolrwydd ieithyddol i’r siaradwyr, yn enwedig i siaradwyr llai llythrennog yn Gymraeg.
Nid yw denu llafar rhydd ac anffurfiol heb ei anawsterau. Ni thâl anghofio sylw Labov (1972a: 209) wrth iddo gyfeirio at baradocs y sylwedydd:
The aim of linguistic research in the community must be to find out how people talk when they are not being systematically observed; yet we can only obtain these data by systematic observation.

Camp yr ymchwilydd, felly, yw goresgyn paradocs y sylwedydd drwy dynnu sylw’r siaradwyr oddi ar eu hiaith yn ystod y cyfweliadau. Bu cryn dipyn o feirniadaeth ar ddulliau Labov o geisio ysgogi gwahanol arddulliau ieithyddol. Yn y lle cyntaf, gellid edrych ar gyfweliad fel digwyddiad llafar (speech event) a ddiffinnir gan Hymes (1967: 19) yn ‘activities, or aspects of activities, that are directly governed by the rules for the use of speech.’ At hynny, y mae cyfweliadau’n cynnwys o leiaf ddau ryngweithiwr - yr holwr a’r siaradwr - yn ogystal â diben y cyfweliad, sef casglu data o fath penodol. Y mae gan gyfweliadau, felly, normau a disgwyliadau fel digwyddiadau llafar. Fel y cydnabu Gumperz (1972: 219): ‘Verbal interaction is a social process in which utterances are selected in accordance with socially recognised norms and expectations’. Gall y normau hyn gyflyru rhyngweithio ac ymddygiad ieithyddol yn ôl gwahanol sefyllfaoedd. Hefyd, y mae’r sefyllfaoedd hyn yn setiau o ‘social relationships enacted about a set of schemata in relation to some communicative goal,’ ac y maent yn ‘imply certain expectancies about thematic progression, turn taking rules, form, and outcome of the interaction as well as constraints on context’ (Gumperz 1982: 166). Y mae ystyriaethau fel hyn wedi arwain sosioieithyddion eraill fel Hudson (1980: 150) i amau dilysrwydd y cysyniad o’r seiliaith fel yr arddull fwyaf anffurfiol lle y telir cyn lleied o sylw â phosibl gan y siaradwyr at eu hiaith mewn sefyllfa gyfweld:

However casual and informed a stranger may try to be, an interview remains an interview and there is no guarantee that what Labov and Trudgill referred to as casual speech is at all close to the most relaxed speech of the speakers concerned.

Am fod gan gyfweliadau eu normau a’u disgwyliadau eu hunain fel digwyddiadau llafar, ni ellir disgwyl i siaradwyr ddefnyddio eu hiaith fwyaf anffurfiol wrth gael eu cyfweld (gweler hefyd Milroy 1987: 24-26).

Yn ail, fel yr awgrymir gan Wolfson (1976: 203), ceir dadlau am beth yn union yw’r cysylltiad rhwng maint y sylw a delir gan siaradwyr i’w hiaith a ffurfioldeb yr arddull ieithyddol:

In addition to the issue of a casual vernacular or speech style, there seems to be a certain amount of confusion here over what is meant by attention paid to speech, it is a psychological reaction about which a great deal is assumed but very little is really known. The relationship between audio-monitoring and speech style has yet to be proved. Before we use it as an index of style, it would seem a good idea to measure attention paid to speech independently in order to find out just what it involves… we do not really have the right to equate formality of style with the attention paid to speech.

At hynny, nid yw’r esboniad o faint o sylw a delir gan siaradwyr yn ystyried y posibilrwydd o siaradwyr yn defnyddio’n ymwybodol arddull fwy neu lai ffurfiol. Ceir beirniadaeth o’r agwedd hon ym methodoleg Labov gan Gal (1979: 69), sy’n dangos y gall unigolion beidio ag amrywio arddulliau ieithyddol mewn sefyllfaoedd cyfweld. Cyfeiria Milroy (1980: 100) ac A. E. Thomas (1997: 85-86) at yr un broblem, a dengys Giles a Coupland (1991: 60-61) fod pobl yn dewis yn fwriadol i gyflyru arddull y cyfathrebu yn ôl pwy yw’r gwrandawyr. Gall unigolyn gymhwyso ei iaith o ran ynganiad, geirfa, cywair, a hyd yn oed ddewis
swnio’n debycach neu’n fwy gwahanol i’w gyd siaradwr. Gwneir hyn, yn ymwybodol neu’n anymwybodol, er mwyn amlygu undod neu arwahanrwydd cymdeithasol. Y mae sawl rheswm arall paham y gallai siaradwyr newid arddull ieithyddol gan gynnwys bod yn foesgar, gwneud i’r person arall deimlo’n gysurus, ac ennyn cydweithrediad (gweler Giles a Smith 1979 am drafodaeth drylwyr ar Theori Gyfaddasu (Accomodation Theory) ac am resymau eraill dros gyfaddasu iaith). Gyda’r problemau ynglŷn â disgrifio beth yn union y mae maint y sylw a delir gan siaradwyr yn ei olygu yn ogystal â’r posibilrwydd o wahanol arddulliau’n cael eu hysgogi gan ffactorau niferus eraill, teimlir bod cysyniad a methodoleg Labov yn rhy broblematig i’w gweithredu. Ni fyddai’r technegau a ddyfeisiwyd gan Labov i ennyn gwahanol arddulliau (er enghraifft darllen yn uchel stori fer a rhestr o eiriau tebyg eu hynganiad) yn addas ar gyfer astudiaeth eirfaol. Yn ogystal, er y gall geiriau arbennig gael eu defnyddio mewn gwahanol beuoedd a chyweiriau fel y gwelsom yn 1.4, diben yr astudiaeth bresennol yw asesu gwybodaeth y siaradwyr o dermau ar gyfer yr eitemau ac nid eu hynganiad o’r geiriau.

2.6 Casgliadau
Datblygodd sosioieithyddiaeth yn ystod hanner olaf yr ugeinfed ganrif mewn adwaith i ddaliadau ffurfiolaeth ieithyddol a’i phwyslais ar y delfrydol. Yn wahanol i ffurfiolaeth ieithyddol, y mae sosioieithyddion yn cydnabod pwysigrwydd ffactorau allieithyddol a’u dylanwad ar ymddygiad ieithyddol. Datblygodd sosioieithyddiaeth fethodolegau llawer mwy gwyddonol na disgyblaeth tafodieitheg draddodiadol, a thrwy ystyried newidynnau fel rhyw, oedran, dosbarth cymdeithasol, a rhwydweithiau, y mae sosioieithyddion wedi llwyddo i leihau’r agendor rhwng yr ieithyddol a’r cymdeithasol a dangos y gall y newidynnau hyn gyflyru ymddygiad ieithyddol. O ganlyniad, y mae’r ddisgyblaeth newydd hon wedi ennill cryn dipyn o fri ac wedi sicrhau ei lle yn y byd academaidd.