PENNOD TRI

Cadarnle’r Gymraeg? Braslun Sosioieithyddol o Hanes Blaenau Ffestiniog

Yn y mynydd mae’r chwareli, llawer ohonynt
Erbyn hyn wedi cau - Cwmorthin, Y Wrysgen Fawr,
Rhosydd, Cwt y Bugail, Lord.
Ar y llechen y tyfodd y dref hon;
Blodyn glas ydyw a fwriodd ei wraidd i ddwfn y
mynyddoedd, i hollt ac ysgythredd meini a malurion caled.
Ac mae’r gwacterau lle tyfodd yn ymestyn o dan rai o’r cartrefi…

Detholiad o’r gerdd ‘Blaenau’ gan Gwyn Thomas

3.1 Datblygiad y Dref
Yng ngeiriau J. G. Jones (1990: 9), ‘Rhaid cofio mai’r unig reswm am fodolaeth y Blaenau oedd y diwydiant llechi’. Ni ellir gwadu’r datganiad hwn, ond rhaid cofio hefyd nad ym mhlwyf Ffestiniog yn unig y bu twf y diwydiant llechi’n gyfrifol am newidiadau cymdeithasol. Effeithiodd y datblygiadau a oedd yn gysylltiedig â’r diwydiant ar gyfundrefn ieithyddol yr ardal hefyd - datblygiadau fel gwella’r ffyrdd a dyfodiad y rheilffyrdd, mewnfudo ac wedyn allfudo, a sefydlu ysgolion a chapeli. Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn 1801, dim ond 732 oedd cyfanswm poblogaeth plwyf Ffestiniog (E. Jones 1988: 159). Oherwydd cyflwr gwael y ffyrdd, ni châi’r brodorion, a drigai mewn pentrefi a ffermydd anghysbell a gwasgaredig, fawr o gysylltiad ag ardaloedd eraill. Yr oedd yn ardal hollol anhygyrch ac ynysol, ac ar wahân i’r ychydig ffyrdd gwell eu cyflwr y cludid nwyddau ar hyd-ddynt o Dremadog a Llanrwst i Lan Ffestiniog, dibynnai’r trigolion ar yr economi leol, sef amaethyddiaeth, i’w cynnal eu hunain. Cludid nwyddau ar y ffyrdd cul a’r llwybrau mynyddig i’r ffermydd diarffordd, ac âi pobl yr ardal i Lan Ffestiniog, er mwyn mynychu Eglwys Sant Mihangel, siopa, mynd i’r ffeiriau cyflogi neu’r efail, neu yfed yn un o’r ddwy dafarn.

Cyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sefydlwyd nifer o chwareli bach yn yr ardal i godi llechi at doeau cartrefi ac eglwysi ym Mhrydain (gweler Williams a Lewis 1987 am hanes chwarelwyr cyntaf yr ardal). Er hynny, ni chafodd y diwydiant fawr o ddylanwad ar y boblogaeth tan y cyfnod rhwng 1798 a 1825, pan ddyblodd prisiau llechi (Senior 1997: 47). Gyda chodi prisiau llechi, daeth cynnydd hefyd yn nifer y chwareli mewn ymateb i’r galw diderfyn am lechi Cymreig i doi tai ym Mhrydain a’r Cyfandir. Canlyniad i hyn oedd yr angen am ddatblygu sustem drafnidiaeth well er mwyn cludo nid yn unig y cynnyrch, ond hefyd y gweithwyr a’u nwyddau. Agorwyd porthladd Porthmadog yn 1824 a chwblhawyd y rheilffordd oddi yno i’r ardal yn 1836. Gyda gwella cyflwr y ffyrdd a dyfodiad rheilffyrdd y Cambrian yn 1867 a’r London and North Western yn 1879, hyrwyddwyd mewnfudo o’r ardaloedd a’r pentrefi gwledig cyfagos (A. Rhydderch 1979: 3). Ymhen dim, yr oedd llechi Cymreig yn toi adeiladau dros y byd i gyd. Denodd y diwydiant llechi filoedd o weithwyr i’r ardal, a chwyddodd poblogaeth plwyf Ffestiniog o 1,648 yn 1831 i 11,274 yn 1881 (J. G. Jones 1990: 8). Yn ystod yr un cyfnod, datblygodd tref newydd sbon o’r enw Blaenau Ffestiniog uwchben Llan Ffestiniog yng nghysgodion y chwareli. Yn sgîl yr holl ddatblygiadau hyn, daeth cynydd sydyn i nifer y tai, y capeli, y tafarnau, y siopau, a’r ysgolion, i lenwi anghenion y teuluoedd a oedd newydd ymsefydlu ym Mlaenau Ffestiniog. Daeth y rhan helaethaf o’r boblogaeth o’r plwyfi cyfagos, a llwyddodd y dref i ddatblygu cyfundrefn gymdeithasol ac iddi gymeriad pur Gymreig (gweler G. J. Williams 1880 ac E. Jones 1988 am hanes manwl datblygiad y dref).

3.2 Mewnfudiad
Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, daeth Blaenau Ffestiniog yn ganolfan ddiwydiannol a diwylliannol sefydledig. Yr oedd lleoliad y dref yn ffactor hanfodol i ddiogelwch y Gymraeg yn iaith feunyddiol i’r trigolion. A hithau mewn safle eithaf anghysbell y tu mewn i bedol o fynyddoedd, amddiffynnid y dref gan ei lleoliad rhag y Seisnigeiddio a effeithia ar gyfundrefn ieithyddol canolfannau diwydiannol de Cymru. Yn ôl Gwenfair Parry (1998: 74):
Dichon fod lleoliad y Blaenau yn unigeddau Meirionnydd wedi bod yn foddion i ddiogelu’r Gymraeg oherwydd gwyddys mai yn y lleoedd mwyaf anhygyrch y cadwyd ei thraddodiad cryfaf...Yr oedd i’r diwydiannau yn Ffestiniog oblygiadau cymdeithasol cyrhaeddbell, a phan ddaeth gwerinwyr yno i gydweithio a chyd-fyw mewn awyrgylch hollol Gymreig, lluniasant gymdeithas wrengaidd ac iddi rwydweithiau amryfath, cryfion. Cyndyn i ildio i bwysau cymdeithasol ac ieithyddol allanol oedd y gymdeithas hon, a chyfeiriwyd droeon at yr agosrwydd a’r cymwynasgarwch llwythol hwnnw a roes iddi ei harbenigrwydd.

Yn anad dim, yr hyn sy’n bwysig i’w nodi yng nghyd-destun yr astudiaeth bresennol yw’r gwahaniaeth rhwng mannau genedigaeth y mewnfudwyr. Dengys John Davies (1990: 371) fod y mewnfudiad o Loegr ac Iwerddon yn rhoi cyfrif am gynyddu’r boblogaeth mewn llawer o’r ardaloedd diwydiannol, yn enwedig yn ystod cyfnod newyn brawychus 1846-49, pan ddaeth nifer fawr o Wyddelod i weithio yng Nghymru. Yn 1851, cofnodwyd 20,000 o Wyddelod yng Nghymru a 115,000 o bobl a anwyd yn Lloegr. O ganlyniad, dygid diwylliannau estron a phwysau Seisnigeiddio i’r ardaloedd cryfaf eu Cymreictod. Er hynny, ym mhlwyf Ffestiniog, cadwyd cyfansoddiad Cymreig y boblogaeth oherwydd, fel yr awgryma J. G. Jones (1990: 7):

Yn wahanol iawn i ardaloedd diwydiannol de Cymru, arbedwyd unrhyw fewnfudiad sylweddol o weithwyr di-Gymraeg gan fod y rhan helaeth ohonynt yn dod o’r ardaloedd gwledig cyfagos. Nid achosodd eu dyfodiad broblemau cymdeithasol chwaith am eu bod yn rhannu yr un cefndir diwylliannol.

Ac eto, haera R. O. Jones (1997: 248) fod cefndiroedd cyffredin y mewnfudwyr ac agosrwydd y gymuned yn ffactorau pwysig yn hanes ieithyddol yr ardaloedd chwarelyddol:
Cymry uniaith oedd mwyafrif y Cymry a fudodd i’r ardaloedd diwydiannol [hyn]. Dyna’n sicr paham y gorfu i rai di-Gymraeg feistroli’r iaith yn yr union ardaloedd hyn yn ystod hanner cyntaf y [bedwaredd ganrif ar bymtheg]. Hefyd mae’n dra phwysig nodi nad oedd yn angenrheidiol o gwbl i’r Cymry ddysgu’r Saesneg. Yn eu hardaloedd newydd ymffurfient yn rhwydweithiau cymdeithasol hunanddibynnol. Tueddai aelodau o’r un teulu neu bobl o’r un gymdogaeth i ymsefydlu yn agos at ei gilydd ac fel canlyniad hwy fyddai yn y mwyafrif mewn stryd neu ran o’r gymuned. Hawdd iawn wedyn oedd cadw hunaniaeth ac iaith mewn bro newydd.

Sicrhaodd y tueddiadau hyn le i’r Gymraeg mewn cymdeithas a oedd yn datblygu’n gyflym, tra oedd naws Gymreig y cymdeithasau yng nghymoedd y De yn cael ei herydu wrth gyfaddasu â’r newydd-ddyfodiaid. Yn 1891, dangosodd canlyniadau’r cyfrifiad cyntaf i rifo’r boblogaeth a oedd yn siarad Cymraeg yng Nghymru fod 98.2 y cant o drigolion Blaenau Ffestiniog yn medru’r iaith. Mewn cymhariaeth â phoblogaeth sir Feirionnydd (94.1%), Morgannwg yn y De diwydiannol (49.5%), a Chymru i gyd (54.5 %), disgleiriai’r Blaenau o ran cryfder ei Chymreictod (G. Parry 1998).

3.3 Y Rheilffyrdd
Hyd yn oed gyda dyfodiad y rheilffyrdd a’r gwelliannau mewn trafnidiaeth, arhosodd Blaenau Ffestiniog, at ei gilydd, yn dref drwyadl Gymraeg. Fel y gwelwyd uchod, datblygodd y rheilffyrdd gyda’r diwydiant llechi yng ngogledd Cymru. Yn y cymunedau diwydiannol a oedd yn tyfu yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd rhaid i rai o’r ymfudwyr di-Gymraeg ddysgu’r Gymraeg er mwyn ymsefydlu a gweithio yn y cymunedau. Er hynny, fel yr aeth y ganrif rhagddi, yr oedd canrannau’r boblogaeth a siaradai’r Gymraeg yn dirywio ledled Cymru. Rhestra C. H. Williams (1990: 24-25) ymfudo, polisïau addysg (gweler isod), ac amrywiol bwysau economaidd a chymdeithasol yn rhai o’r ffactorau a oedd yn gyfrifol am y dirywiad hwn, ond cyfraniad sylweddol i’r broses oedd dyfodiad y rheilffyrdd. Yn ôl Dot Jones (1999), ar ôl i gwmnïau o Loegr gymryd meddiant o reilffyrdd lleol Cymru, yr oedd polisïau cyflogi’r rheilffordd yn wrth-Gymraeg iawn. ‘Saesneg oedd iaith swyddogol y rheilffyrdd,’ chwedl John Davies (1990: 395). Yn ôl polisi cwmni London and NorthWestern Railway, ni ddyrchefid unrhyw weithiwr di-Saesneg i swydd uchel ei statws. Yr oedd rhaid i’r gweithwyr ddod i siarad ac i ddarllen Saesneg neu gael eu cyflogi’n llafurwyr yn unig (D. Jones 1999:138-144). Amlygai ystadegau Cyfrifiad 1891 fod 92.5% o’r llafurwyr yn siroedd gogleddol Cymru yn siarad Cymraeg tra nad oedd dim ond 23.1% o’r swyddogion a’r arolygyddion yn medru’r iaith (D. Jones 1999: 144). Nid diffyg cyfathrebu rhwng y teithwyr a’r gweithwyr oedd yr unig ganlyniad i’r anghyfartaledd galwedigaethol hwn, ond ychwanegodd y polisi at statws y Saesneg yn iaith ffyniant masnachol. Ni wyddys yn bendant pa effaith a gafodd hyn ar ddirywiad y Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yn ddiamau, newidiodd agweddau Cymry Cymraeg yr ardal tuag at eu hiaith o blaid y Saesneg o ganlyniad i’r polisïau annheg hyn a dylanwadau Seisnigeiddio eraill; cymharer D. Jones (1999: 149):

Fel y dymchwelai’r rheilffyrdd yr amddiffynfeydd a ynysai gefn gwlad, gwreiddiodd y syniad mai Saesneg oedd iaith llewyrch masnachol ac iaith y dyfodol. Yr oedd chwildro’r rheilffyrdd yn fater a oedd yn ymwneud â diwylliant a chymdeithas yn gymaint ag economeg; y mae’n un o brif achosion newid iaith yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ochr yn ochr â mudo ac addysg.

3.4 Addysg
Ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd yr Eglwys Wladol yn gyfrifol am addysg, sefydlodd Ymneilltuwyr yr ardal ysgolion ym Mlaenau Ffestiniog, ond agorwyd Ysgol Genedlaethol (addysg Anglicanaidd) yn 1840 a dwy Ysgol Frutanaidd (addysg an-enwadol) erbyn 1846 (Jones-Roberts 1956: 262-63). Cynyddodd nifer y disgyblion yn 1846 o 211 i bron dwy fil yn 1879 (Jones-Roberts 1956: 265). Cafodd addysg effeithiau erydol ar y Gymraeg yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond, at ei gilydd, gwrthsafodd trigolion Blaenau Ffestiniog yr erydiad hwn. Yn ôl cymalau Deddf Addysg 1861, yr oedd rhaid i’r athrawon mewn ysgolion yng Nghymru annog eu disgyblion i ddefnyddio’r Saesneg er mwyn i’r ysgolion gael eu cyllido gan y llywodraeth yn San Steffan. Cyfeiria T. V. Jones (1986: 29) at ganlyniadau’r ddeddf ar iaith lafar chwaraeon-gwerin plant yng Nghymru:

Fe welid y dylanwadau Seisnig yn ymwthio i’r traddodiad llafar mor gynnar â chwedegau y 19eg ganrif. O astudio rhai o lyfrau log yr ysgolion o’r cyfnod hwn mae’n ymddangos fod nifer o athrawon yn defnyddio’r rhigymau a’r brawddegau bach syml a geir yn y chwaraeon i gynefino’r plant uniaith Gymraeg â’r iaith Saesneg. Oherwydd goblygiadau Deddf Addysg 1861, rhaid oedd prysuro y gwaith hwn. Mynnai’r ddeddf fod cyflog pob athro i ddibynnu ar ganlyniadau’r arholiadau. Nid oedd lle i’r Gymraeg yng nghymalau’r ddeddf, ac felly roedd yn rhaid cynnal yr arholiadau hyn yn Saesneg. Gwthiwyd yr athrawon i’r eithafion yn eu hymdrech i gael y plant i fynegi eu hunain yn Saesneg. Un o ganlyniadau trist yr ymdrechion hyn oedd y Welsh Not. Yn ogystal fe danseiliwyd statws yr iaith Gymraeg gan ffactor arall yn y cyfnod hwn - nid amgen meddylfryd cymhleth y Cymry eu hunain ynglŷn â’u hiaith. Yn wir bu ymateb cadarnhaol o du’r Cymry eu hunain at ddysgu Saesneg i’r plant. Yn aml, penodwyd athro uniaith Saesneg ar ysgol o blant uniaith Gymraeg.

Effaith Deddf Addysg 1861 oedd dechrau erydu statws y Gymraeg yng Nghymru. Diau fod gan plant Blaenau Ffestiniog rigymau a geiriau Saesneg yn eu chwaraeon. Yn llyfrau log yr ysgolion yn y dref, cofnodwyd enwau rhyfedd y caneuon a ddysgasai’r disgyblion, enwau fel ‘June Lovely June’, ‘Old England’s Heart’, ac ‘Under the Willow’ (Jones-Roberts 1956: 264). Gyda’r egwyddor o gyllido yn ôl canlyniadau’r profion a’r ffaith bod y profion yn mesur yr wybodaeth o rifyddeg a’r gallu i ysgrifennu a darllen Saesneg, neilltuwyd y Gymraeg o’r ysgolion gan Ddeddf Addysg1861 (gweler R. O. Jones 1997: 282; J. Davies 1999: 49).
Sefydlwyd addysg orfodol gan Ddeddf Addysg 1870, ac o ganlyniad, cyflwynwyd y Saesneg a’r diwylliant Seisnig i’r bobl ifanc yng Nghymru. Dyma a bwysleisiai C. H. Williams (1990: 35) wrth drafod grymoedd Seisnigeiddio chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg:

Increasingly it was the state itself which came to be identified as the chief agent of anglicisation, particularly through its education policies. It is far too limiting to argue that the introduction of compulsory education subsequent to the Education Act 1870 was the turning point in this state-wide process of cultural readjustment. However, it is undeniable that this act, together with its associated educational legislation, the Welsh Intermediate Education Act 1889, enforced English as the sole medium of education and introduced, through the formal study of language, a new awareness of English values and culture, and gave a powerful institutional fillip to anglicisation.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd gwreiddiau’r Saesneg yn hydreiddio’n ddwfn i’r cymunedau Cymraeg. Saesneg oedd iaith addysg ac elw materol. Er mwyn llwyddo yn y byd economaidd ac er mwyn cael cydraddoldeb cymdeithasol yng Nghymru, yr oedd yn rhaid siarad Saesneg. Yn ôl R. O. Jones (1997: 280-87), diraddiwyd y Gymraeg gan sawl ymosodiad ar yr iaith, gan gynnwys y Deddfau Addysg a’r Llyfrau Gleision. O ganlyniad, effeithiwyd ar hunanhyder y Cymry Cymraeg tra cynyddodd yr ymdeimlad bod eu hiaith yn un annigonol ac israddol. Tueddai’r plant o oedran ysgol, a hyd yn oed rai o oedolion, i droi i’r Saesneg yn eu hymddiddanion. Fel yr awgryma G. Parry (1998: 76), nid oedd lle i’r Gymraeg yn ysgolion Blaenau Ffestiniog:

Dengys llyfr cofnodion un o ysgolion Brutanaidd y gymdogaeth mai Saesneg, a Saesneg yn unig, oedd iaith yr ysgolion dyddiol. Dau air Cymraeg a geir yn y llyfr drwyddo draw, ac er nad oes cyfeiriad at y Welsh Not fel y cyfryw, yr oedd yno gryn geryddu a chernodio am siarad Cymraeg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Er hyn, dengys Cyfrifiad 1891 fod tros 99 y cant o’r boblogaeth rhwng 6 a 24, megis y rhai a fagwyd ar ôl Deddf Addysg 1870, yn medru’r Gymraeg yn y Blaenau. Wrth edrych ar ystadegau’r cyfrifiad, y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf fod Cymraeg y bobl ifainc ym Mlaenau Ffestiniog yn gwrthsefyll y dylanwadau hyn. Ni chafodd y Saesneg afael sylweddol ar eu hiaith eto, ond o gofio bod dros chwarter o’r boblogaeth rhwng 15 a 24 yn ddwyieithog ar y pryd, fe ddaw dechrau’r erydiad ieithyddol yn amlwg (G. Parry 1998: 75).

3.5 Capeli ac Ysgolion Sul
Gwyddys bod y capeli a’r ysgolion Sul a agorwyd yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mlaenau Ffestiniog yn ddatblygiadau hanfodol i gynnal y Gymraeg (Baker 1993:54). Adeiladwyd nifer fawr o gapeli ym mhlwyf Ffestiniog rhwng 1860 ac 1880 pan fu twf sydyn yn y boblogaeth. Yn 1850, yr oedd tua dwy fil o aelodau ysgolion Sul ym Mhlwyf Ffestiniog, ac erbyn diwedd y ganrif, chwyddodd yn niferoedd a fynychai’r ysgolion Sul i dros chwe mil (J. G. Jones 1990: 16-17). Yn ôl G. Parry (1998: 75), yn y capeli ‘y dysgasai’r trigolion ddarllen eu hiaith a’i siarad yn ei phurdeb,’ a dengys J.G. Jones (1990: 17) bwysigrwydd y capeli a’r ysgolion Sul ym mywyd cymdeithasol y fro. Bu’r capeli yn lleoedd i gyfarfod â phobl eraill yn y gymuned ac i gynnal cymanfaoedd amrywiol, a meithriniasant ddymuniad cryf yn eu haelodau am addysg. Buont hefyd, yn enwedig yn sgîl effeithiau erydol y Deddfau Addysg, yn gadarnleoedd i’r iaith Gymraeg. Yn 1846, dim ond saith y cant o ysgolion Sul y Methodistiaid Calfinaidd a deg y cant o ysgolion Sul yr Annibynwyr yng Nghymru a restrwyd yn rhai uniaith Saesneg (R. O. Jones 1997: 253-54). Ni thrigai ond un y cant o boblogaeth siroedd Môn, Caernarfon, Meirionnydd, a Cheredigion mewn plwyfi lle cynhelid y gwasanaethau yn Saesneg yn unig (D. Jones 1999: 131). Bu crefydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i gadw’r iaith yn fyw yn sgîl y deddfau addysg a’u pwyslais ar ddefnyddio’r Saesneg. Yn ôl G. Parry (1998: 77), ni chafodd addysg ym Mlaenau Ffestiniog:

dylanwad mor andwyol ag a wnaethai mewn parthau eraill. Mewn cymdeithas lle’r oedd y Gymraeg yn hollbresennol, diau fod diwylliant bro, capel a chartref yn drech nag ethos unrhyw gyfundrefn addysg.

Dichon fod y sefydliadau crefyddol hyn, gyda’u pwyslais ar ddarllen ac ar siarad y Gymraeg, yn gyfrifol am wrthsefyll y dylanwadau Seisnigeiddio a oedd yn trwytho rhai o gymunedau eraill Cymru.

3.6 Diboblogi
Ar ôl troad yr ugeinfed ganrif, dirywiodd y diwydiant llechi yn sgîl dirwasgiad erchyll. Cwympodd y galw am lechi Cymreig oherwydd y tollau a godid ar fewnforio llechi, y disgyn yn nifer y tai newydd a adeiladwyd, a’r gostwng ym mhrisiau’r defnyddiau eraill i adeiladu tai. Rhwng 1901 ac 1914, gostyngodd nifer y gweithwyr ym Mlaenau Ffestiniog o 3,515 i 2,030 (J.G. Jones 1990: 20) a chyfanswm y boblogaeth o 11,434 i 9,682, ac ymhen deng mlynedd yr oedd y boblogaeth wedi disgyn i 8,138 (E. Jones 1988: 159). Ailsefydlodd rhai o’r teuluoedd yn ne Cymru ac ymfudodd eraill i wledydd tramor megis Canada, yr Unol Daleithiau, ac Awstralia. Yn ystod yr un cyfnod, gorfodwyd saith o chwareli i gau a rhai o’r chwareli mawr i gwtogi ar oriau gweithio’r wythnos. Newidiwyd agweddau tuag at y diwydiant llechi a rhoddwyd pwyslais ar addysgu plant er mwyn cael eu hachub rhag bywyd o ansicrwydd ac afiechyd. Dangoswyd eisoes effeithiau addysg ar y Gymraeg, ond cyfrannodd y pwyslais ar addysg hefyd at ddiboblogi’r Blaenau wrth i’r bobl ifainc symud i ardaloedd eraill i chwilio am swyddi priodol.

Y Rhyfel Mawr oedd yr ail ergyd i ddiwydiant a phoblogaeth y dref. Ymunodd llawer o chwarelwyr â’r fyddin, a gorfodwyd niferoedd eraill gan gymalau Mesurau Gorfodaeth Filwrol 1916 i weithio mewn ffatrïoedd rhyfel mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain (C. Parry 1989: 5). Nid oedd yr ardal ond yn dechrau ailgryfhau pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd i’w siglo eto. Rhwng 1939 ac 1946, disgynnodd y nifer o brentisiaid yn chwareli’r sir o 735 i 183 (Lindsay 1974: 297). Yn wahanol i’r sefyllfa ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, newidiodd yr agwedd tuag at y diwydiant ac nid oedd y chwarelwyr a ymladdai neu a weithiai dros y rhyfel yn nechrau pedwardegau’r ugeinfed ganrif yn fodlon dychwelyd i’r chwareli ar ôl diwedd y rhyfel; cymharer Lindsay (1974: 299-300):

During World War II some of the workmen had joined the forces, while other [sic] had been directed to war-work outside the slate districts. This resulted in a loss of population, as many never returned to their former work. The danger and difficulty of most slate production, too, discouraged quarrymen’s sons from following their fathers’ occupation; and parents were often reluctant to allow this.

Yr oedd sawl rheswm dros yr anfodlonrwydd hwn, ond y pennaf oedd ‘ofn silicosis ai [sic] ganlyniad erchyll o gyfnod hir o salwch’ (Merched Grŵp Cefnogi’r Chwarelwyr 1986: 6). O ganlyniad i’r diffyg galw am lechi, caewyd nifer fawr o’r chwareli. Y mae’r diboblogi’n parhau.

3.7 Y Cymry Cymraeg

Yn 1901, yr oedd dros un fil ar ddeg yn byw yn y Blaenau. Dim ond pum mil o bobl sydd yno bellach a’r prif reswm am y diboblogi yw lefel uchel o ddiweithdra yn yr ardal. Adlewyrchir gostwng y boblogaeth yn y lleihad yn y nifer o siaradwyr yr iaith. Yng Nghymru, gostyngodd y canrannau o Gymry Cymraeg o 49.9% yn 1901 i 18.6% yn 1991. Ddechrau’r ugeinfed ganrif, yr oedd gan Feirionnydd y canrannau uchaf yng Nghymru o siaradwyr uniaith Gymraeg, 50.6%, ac o Gymry Cymraeg, 93.7% (C. H. Williams 1990: 37). Yn Nhabl 3.1 isod, dangosir dwysedd siaradwyr y Gymraeg fesul sir dros gyfnod o bron dwy ganrif gyda’r canrannau uchaf wedi eu duo. Fel y gwelir, ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, siaredid y Gymraeg gan bob un o’r trigolion mewn tair sir. Hyd yn oed hanner can mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd cant y cant o boblogaeth tair sir yn medru’r iaith. Wrth edrych ar ddwysedd daearyddol siaradwyr y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn, nid yw’n anodd gweld erydiad parhaol y ‘Fro Gymraeg’ yng ngogledd-orllewin Cymru yn ogystal â’r llefydd yn y De a’r Dwyrain lle yr oedd niferoedd y Cymry Cymraeg yn llai. Awgryma Aitchison a Carter (1991: 64) fod Ucheldiroedd Cymru yn ffactor ddaearyddol a gyfrannai at y gwahaniaeth yn hanes ieithyddol y ddwy fro. Yn ôl hwy, ni lwyddodd dylanwadau Seisnigeiddio o’r De a’r Dwyrain i groesi’r mynyddoedd oherwydd yr oedd y wlad hon gyda’i phoblogaeth denau yn wrthglawdd i’r hyn a alwant yn dryledu cyffyrddiol (contagious diffusion) (Aitchison a Carter 1991: 65; cymharer defnydd o’r un term 1.4 uchod). Digwydd tryledu cyffyrddiol mewn cymunedau lle caiff iaith leiafrifol, a siaredir yn feunyddiol ochr yn ochr ag iaith fwyafrifiol, ei thanseilio drwy gysylltiad â’r iaith fwyafrifiol. Nodwyd eisoes fod pwysigrwydd lleoliad anhygyrch Blaenau Ffestiniog ‘yn unigeddau Meirionnydd’ yn ffactor hanfodol i ddiogelu’r Gymraeg rhag dylanwadau Seisnigeiddio. Dangosir yn Nhabl 3.1 fod Meirionnydd wedi bod yn gadarnle i’r iaith dros gyfnod o ddwy ganrif gyda’r canrannau uchaf

Tabl 3.1: Canrannau o’r Boblogaeth a Siaradai’r Gymraeg fesul Sir, 1801-1981 

 

 

 

1801

 

1851

 

1871

 

1891

 

1901

 

1911

 

1921

 

1931

 

1951

 

1961

 

1971

 

1981

 

Môn

 

95.4

 

100

 

93.1

 

95.5

 

91.7

 

88.7

 

84.9

 

87.4

 

79.8

 

75.5

 

65.7

 

61

 

Caernarfon

 

100

 

88.8

 

92.9

 

89.5

 

89.6

 

85.6

 

75

 

79.2

 

71

 

68.3

 

62

 

59.7

 

Meirionnydd

 

100

 

100

 

94.4

 

94.3

 

93.7

 

90.3

 

82.1

 

86.1

 

75.4

 

75.9

 

73.5

 

68.2

 

Aberteifi

 

100

 

100

 

95.5

 

95.3

 

93

 

89.6

 

82.1

 

87.1

 

79.5

 

74.8

 

67.6

 

63.2

 

Caerfyrddin

 

88.7

 

97.5

 

94

 

89.5

 

90.4

 

84.9

 

82.4

 

82.3

 

77.3

 

75.1

 

66.5

 

60

 

Dinbych

 

67.6

 

73.9

 

77.1

 

65.5

 

61.9

 

56.7

 

48.4

 

48.5

 

38.5

 

34.8

 

28.1

 

24.2

 

Trefaldwyn

 

58

 

46.7

 

43.9

 

50.5

 

47.5

 

44.8

 

42.3

 

46.7

 

35.1

 

32.3

 

28.1

 

24

 

Y Fflint

 

77

 

82.1

 

69.9

 

68

 

49.1

 

42.2

 

32.7

 

31.7

 

21.1

 

19

 

14.7

 

13.5

 

Morgannwg

 

79.4

 

66.7

 

68.2

 

49.5

 

43.5

 

38.1

 

31.6

 

30.5

 

20.3

 

17.2

 

11.8

 

10

 

Mynwy

 

35.8

 

34.5

 

28.9

 

15

 

13

 

9.6

 

6.4

 

6

 

3.5

 

3.4

 

2.1

 

2.7

 

Brycheiniog

 

76.7

 

78.6

 

66.6

 

38

 

45.9

 

41.5

 

37.2

 

37.3

 

30.3

 

28.1

 

22.9

 

19.3

 

Penfro

 

39.7

 

36.4

 

35.6

 

32

 

34.4

 

32.4

 

30.3

 

30.6

 

26.9

 

24.4

 

20.7

 

18.1

 

Maesyfed

 

11

 

6.9

 

4

 

6

 

6.2

 

5.5

 

6.3

 

4.7

 

4.5

 

4.5

 

3.7

 

5

Ffynonellau: Aitchison a Carter (1994: 50) ac R. O. Jones (1997: 322-3 a 340)


yn saith o’r deuddeg cell. Dichon fod lleoliad Meirionnydd yn ymyl y gadwyn o fynyddoedd i’r dwyrain wedi bod yn allweddol o ran amddiffyn yr iaith. Mewn astudiaeth ddiweddarach gan Aitchison a Carter (1994: 39), haerir:
all the processes which were inimical to Welsh were at their most virulent where Welsh and English were in daily contact. Isolation had always been one of the major sustainers of Welsh. Industrialization, by increasing the mobility of populations (just as the railway provided the means), broke down that isolation, as did social upheavals like the First World War. But even so, until the coming of the mass media, direct contact had a strong geographical limitation…

Bydd agosrwydd daearyddol yn dod â gwahanol grwpiau at ei gilydd, ac o ganlyniad gellir gweld dylanwadau croes-ieithyddol yn iaith lafar aelodau’r grwpiau hyn. Ar y llaw arall, pan fydd cysylltiadau rhwng siaradwyr gwahanol grwpiau yn fwy cyfyngedig, ni ddisgwylir i’r dylanwadau hyn fod mor amlwg, fel y gwelsom ym Mhennod 1 uchod. Er hynny, yn sgîl yr holl ddatblygiadau i drafnidiaeth a’r cyfryngau torfol erbyn hyn, y mae ffiniau daearyddol yn llai tebygol o fod yn argaeau llwyddiannus sy’n gallu atal dylanwadau rhyngieithyddol yn gyfan gwbl. Y mae B. Thomas (1987: 74) yn sôn am ddylanwad y cyfryngau torfol ar gyfnewid iaith yng Nghymru, ac yn ôl Appel a Muysken (1987: 37), pan na fo’r cyfryngau torfol ar gael ond yn yr iaith fwyafrifol yn unig, gall siaradwyr yr iaith leiafrifol ddechrau ystyried eu hiaith yn un israddol a ffafrio defnyddio’r iaith fwyafrifol. Canlyniad posibl i hyn yw cyfnewid ieithoedd.

Yn Ffigur 3.1, ceir y canrannau o’r boblogaeth yng Ngwynedd a siaradai’r Gymraeg yn ôl ystadegau Cyfrifiad 1991. Fel y gwelir drwy gymharu Ffigur 3.1 a Thabl 3.1, gostyngodd canran y Cymry Cymraeg ym Meirionnydd rhwng 1981 ac 1991 o 68% i 63%. Mewn ymgais i leoli’n ddaearyddol y ‘Fro Gymraeg’, defnyddia Aitchison a Carter (1991: 64) 80% yn ganran angenrheidiol o’r boblogaeth a ddylai siarad Cymraeg. Er hynny, yn yr un erthygl, awgryma Aitchison a Carter (1991: 77) mai 70% yw’r trothwy sydd ei angen i’r Gymraeg gael ei defnyddio’n feunyddiol a bod 70% o’r boblogaeth:

Ffigur 3.1: Canrannau o Boblogaeth Gwynedd a Siaradai’r Gymraeg yn 1991
1991 LBS/SAS statistics © Crown copyright 1991 All rights reserved.
marks a critical trigger-point at which the level of social intercourse through the medium of Welsh will fail to hold a position of dominance, and below which it would start to decline sharply.

Ymhlith effeithiau’r dirywiad ieithyddol hwn y mae diflaniad y Gymraeg o beuoedd traddodiadol fel crefydd, gwaith, addysg, a hyd yn oed y teulu. Yn ôl y cysyniad o drothwy o 70% a Ffigur 3.1, Dwyfor ac Arfon yn unig yw cadarnleoedd y Gymraeg yng Ngwynedd. Ym Meirionnydd, yn ôl y cysyniad hwn, dylai’r Gymraeg arddangos arwyddion o gael ei herydu. Er hynny, y mae’n ymddangos bod y trothwy o 70% yn un mympwyol oherwydd yr oedd rhaid i Aitchison a Carter ostwng canran y trothwy o 80% er mwyn cael arf ddiagnostig a leolai galon y ‘Fro Gymraeg’ mewn un ardal barhaol a gwahanol i’r gweddill o Gymru.

Dengys Ffigur 3.2 y canrannau o’r boblogaeth ym Meirionnydd a siaradai’r Gymraeg yn 1991 ar lefel y wardiau. Dosbarthiad anghyfartal y Cymry Cymraeg oedd y rheswm am y ganran isel ym Meirionnydd gyda’r rhan fwyaf o’r bobl nad oeddent yn siarad Cymraeg yn trigo mewn wardiau ar yr arfordir. Y mae twristiaeth a chynnydd yn niferoedd pobl wedi ymddeol mewn ardaloedd glan môr yn gyfrifol am y rhan helaethaf o’r dirywio ieithyddol yn y wardiau hyn (D. Phillips 1998; Aitchison a Carter 1994: 52). Dengys Ffigur 3.2 fod dwy ward ym Mlaenau Ffestiniog, sef ward Bowydd a Rhiw a ward Conglywal a Maenofferen, yn dal yn gadarnleoedd i’r Gymraeg yn 1991, ac y mae’r wardiau ym Meirionnydd sy’n cwmpasu’r dref fel Penrhyndeudraeth, Trawsfynnydd, a Chynfal a Theigl i gyd yn uwch na’r trothwy o 70%. Gyda thros 80% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg, yr oedd Blaenau Ffestiniog yn ynys fach gref ei Chymreictod yng nghanolbarth Gwynedd. A’i chanran o siaradwyr yn uwch na’r ddau drothwy a awgrymwyd uchod, y mae’n ymddangos bod y Gymraeg yn iaith feunyddiol i drigolion y dref ac yn eithaf sefydlog yn y gymuned. Er hynny, nid yw canrannau’r cyfrifiad yn fesuriadau holl bwysig wrth ystyried ystod y Gymraeg. Yn ôl C. H. Williams (1991: 39):

Ffigur 3.2: Canrannau o Boblogaeth Meirionnydd a Siaradai’r Gymraeg yn 1991
1991 LBS/SAS statistics © Crown copyright 1991 All rights reserved.

The census records language ability and potential usage, not actual usage; we have to rely on detailed, local socio-cultural surveys to elicit the range and intensity of spoken Welsh, and then use these data to inform our interpretation of census results. (ef biau’r italeiddio.)

Nid y defnydd o’r Gymraeg, felly, ond y posibilrwydd o’r iaith yn cael ei defnyddio a fesurai’r cyfrifiad. Ni roddai ychwaith ddisgrifiad o’r math o Gymraeg a siaredid gan y trigolion nac o gyflwr Seisnigeiddio’r iaith.

Er bod y dref yn ynys fach yng nghanolbarth Gwynedd, nid yw iaith trigolion Blaenau Ffestiniog yn hollol ddiogel rhag dylanwadau tryledu cyffyrddiol o’r ardaloedd cyfagos na chan yr holl newidiadau economaidd a chymdeithasol a effeithiodd yn ddiweddar ar y Blaenau (gweler 3.8 – 3.11 isod). Fel y gwelsom ym Mhennod 1, gall nifer o newidiadau cymdeithasol chwarae rôl mewn cyfnewid ieithoedd. Gwrth-drefoli (counter-urbanization), dad-ddiwydiannu (de-industrialization), twristiaeth, swbwrbaneiddio, a chynnydd yn y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus a’r dinasoedd gweithrediadol (transactional cities) yw rhai o’r ffactorau a noda Carter (2002: 44-51) am ddirywiad Cymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym Mlaenau Ffestiniog heddiw, y mae rhai o’r ffactorau hyn yn gweithredu yn y gymuned ac yn effeithio ar gyflwr yr iaith yn y ‘Fro Gymraeg’.

3.8 Dad-ddiwydiannu
Mewn astudiaeth ethnograffig yn y 1980au cynnar, disgrifiodd Isabel Emmett (1982a: 180) gyflwr difreintiedig y Blaenau:

With the decline in the profitability of slate quarrying and a lack of new investment, the town has been left with huge tips of slate rubble, an ageing and declining population and few amenities. There is now too little work in the town, indeed in the area, for the population, though recent government schemes have kept many school-leavers from the dole, for a time at least. Large numbers of young and middle-aged people have left to find work; empty houses have been bought by English incomers and pushed up house prices uncomfortably high for the locals who remain.

Y mae dad-ddiwydiannu wedi arwain at ddirywiad o’r diwydiant llechi, ac y mae hyn, a’r diffyg buddsoddi mewn mentrau newydd, wedi achosi dirywiad cyffredinol yn y gymdeithas. Heb ddim sicrwydd am swyddi diogel a chyda’r prisiau uchel sydd i dai’r ardal, bu’n rhaid i bobl ifainc adael y gymuned i chwilio am waith. O ganlyniad i hyn a mewnfudo pobl ddi-Gymraeg yn ddiweddar (gweler 3.10 isod), gostyngodd dwysedd Cymry Cymraeg yr ardal. Yn ôl Carter (2002: 47) ac ystadegau Cyfrifiad 1991, daeth 78.7% o’r mewnfudwyr i Feirionnydd o’r tu allan i Gymru ac nid oes ond 24.1% ohonynt yn medru’r iaith. Canlyniad arall fu Seisnigeiddio’r rhai a adawodd. Wrth sôn am bapur a ysgrifennwyd ganddi yn 1960, cymhara Emmett (1982b: 211) y cyfnod hwnnw â’r sefyllfa yn yr 1980au:

At that time anglicisation was seen as a way of climbing socially or simply being modern... Welshness still had ‘square’, old-fashioned connotations which it has lost for many young people now... It was also the case, far more than it is now, that to achieve a career, or to rise socially, entailed leaving Wales and so risking or achieving anglicisation. There are now more opportunities to achieve a career within the country.

Y mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau ddegawd yn tarddu o ddatblygiadau i ffactorau cefnogaeth sefydliadol (institutional support factors, gweler Giles a Coupland 1991) a newidiadau mewn agweddau tuag at yr iaith. Datblygodd y cyfryngau torfol Cymraeg fel S4C a Radio Cymru, pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg a’i hegwyddor o ‘ddilysrwydd cyfartal’ i’r Gymraeg a’r Saesneg yn 1967 a 1993, a daeth Caerdydd yn ddinas weithrediadol lle ceir twf mewn gweinyddiaeth fusnes a chyllid, bancio, a chynnydd yn y diwydiant hamdden. Creodd y datblygiadau hyn alw am bobl ifainc, dalentog, addysgedig, a phobl sy’n medru’r Gymraeg - yr hyn a eilw Aitchison a Carter (1994: 93) ‘the urbanization of the Welsh-speaking population’. Diau fod rhai o’r bobl ifainc a adawodd Blaenau Ffestiniog yn ystod y cyfnod hwn wedi ailsefydlu yng Nghaerdydd neu Abertawe, ond erys y ffaith bod diboblogi wedi gwanhau’r gymuned Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog.

3.9 Gwrth-drefoli
Gydag allfudo’r bobl ifainc, gostyngodd prisiau tai a gwelwyd mewnfudo ymwelwyr canol oed ac oedran ymddeol i chwilio am hafdai ac ail-dai. Daw’r rhan fwyaf o’r rhain o Loegr neu o’r ardaloedd y tu allan i’r ‘Fro Gymraeg’. Hyd heddiw, gwelir gwrth-drefoli ym Mlaenau Ffestiniog gyda dyfodiad pobl sy’n chwilio am fywyd amgen ymhell o’r dinasoedd a’u pwyslais ar elw materol. Cafodd y mewnfudo hwn sgîl-effeithiau nid yn unig ar brisiau tai ac ar gyfundrefn y gymuned, ond effeithiwyd hefyd ar statws y Gymraeg, fel yr awgryma Emmett (1982b: 215):

Incomes, job security and financial prospects for locals remain poor. There is much resentment that houses are taken by incomers while local couples cannot afford to buy one. To this is added the fear that more English-speaking children in schools, more English conversation in pubs and shops, more English (-speaking) people attending meetings which earlier would have been conducted entirely in Welsh all combine to threaten the survival of the language, here in one of its most important strongholds.

Fel y dangosir, y mae pwysau Seisnigeiddio wedi treiddio i ffabrig y gymuned yn y Blaenau. Wrth sôn am effeithiau’r Seisnigeiddio ar iaith y trigolion, haera Emmett (1982b: 219) yn yr un astudiaeth:
In the Welsh spoken in Blaenau there are very many English terms, including technical terms which have Welsh equivalents, often recently created, which might be used by graduates. But most often the English terms used are made to conform to Welsh rules of mutation and grammar.

Yn ôl y disgwyl, nid oes gan bobl heb lawer o addysg dermau technegol newydd eu bathu yn eu geirfa, ond collir geiriau Cymraeg eithaf cyffredin yn ogystal. Cadarnha Glyn Banks (1993) fod y broses o Seisnigeiddio’r Gymraeg ar waith yn ei astudiaeth ar iaith lafar yng Ngwynedd. Nid yn unig y ceir geiriau benthyg fel ‘wefio’ a ‘packed’ yn lle ‘codi llaw’ a ‘gorlawn’ yn iaith lafar y trigolion, ond dengys Banks fod berfau ymadroddol, priod-ddulliau, a dylanwadau o gystrawen Saesneg hefyd yn ymddangos. Cynnydd yn nifer y mewnfudwyr o Loegr i’r ardal yw un o’r ffactorau a awgrymir am gynyddu ffurfiau Saesneg yn iaith lafar y Cymry Cymraeg yng Ngwynedd.

3.10 Dirywiad Economaidd a’r Twf mewn Twristiaeth
Y mae nifer o ffactorau eraill yn effeithio ar gyflwr y Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog heddiw. Mewn adroddiad ar gyfer Cyngor Dosbarth Meirionnydd, disgrifia D. E. F. Williams (1993: 3-4) y problemau cymdeithasol yn y Blaenau:

Mae’r dirywiad yn y ffynonellau traddodiadol o waith a’r anawsterau wrth ddenu mathau newydd o ddiwydiant i leoliad ymylol iawn wedi arwain at brinder cyfle gwaith a dirywiad yn y ffabrig cymdeithasol a safon yr amgylchfyd trefol… Mae sefyllfa ddifreintiedig Blaenau Ffestiniog o safbwynt economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol wedi ei dogfennu mewn adroddiadau a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Gymreig, awdurdodau lleol ac asiantaethau datblygu. Dengys Mynegai’r Difreintiedig o hyd bod y gymuned yn un o’r rhai mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl rhestr gynhwysfawr o feini prawf.

Y mae D. E. F. Williams (1993:5) yn parhau i awgrymu
bod cymunedau gwledig mewndirol mewn dirywiad cymharol o hyd. Mae gan y gwendidau strwythurol yn economi’r ardaloedd hyn effaith uniongyrchol ar nodweddion cymdeithasol cymunedau lleol. Mae dirywiad parhaus yn fygythiad i ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Gall sefyllfa ddifreintiedig y gymuned effeithio ar bob agwedd sylfaenol o fywydau’r trigolion, gan gynnwys eu hiaith. Y mae diffyg mewn mwynderau bywyd a diweithdra uchel yn nodweddu’r dref, ac ystyria’r Cyngor fod datblygiad yn y diwydiant twristiaeth yn ateb i’r problemau hyn. Yn ddiamau, y mae twristiaeth wedi dwyn swyddi ac arian i’r Blaenau. Y mae Cloddfeydd Llechwedd a Rheilffordd Ffestiniog yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i ryfeddu at y perygl a’r caledi a wynebai’r chwarelwyr ac at brydferthwch garw’r golygfeydd y rhed cledrau’r rheilffordd gul trwyddynt. I raddau, y mae twristiaeth wedi helpu i adnewyddu’r economi leol, o leiaf yn ystod yr haf. O safbwynt yr iaith, honna Emmett (1982b: 217-18) fod rhai o’r bobl ym Mlaenau Ffestiniog ‘see this development as a further and ominous threat to the language and culture, as well as to the town’s unique character’. Y mae ganddynt reswm i bryderu am ddyfodol yr iaith. Dengys D. Phillips (1998 a 2001) y cysylltiad uniongyrchol rhwng cynnydd mewn twristiaeth a dirywiad ieithyddol yn sir Fôn, ac yn ôl Aitchison a Carter (1991: 65), ‘it is undoubtedly true... that a close relationship exists between the extent of tourist facilities and language decline’. Y mae’n ymddangos, felly, y gall twf y diwydiant twristiaeth argoeli’n ddrwg i’r iaith yn y Blaenau.

3.11 Addysg Heddiw
Fel y dangoswyd uchod, yr oedd y capeli a’r ysgolion Sul yn sefydliadau pwysig wrth amddiffyn y Gymraeg rhag dylanwadau Seisnigeiddio. Gyda gostwng dros y degawdau diwethaf yn nifer y bobl sy’n mynychu’r capeli, collodd cymunedau Cymraeg un o’u prif gadarnleoedd i’r iaith (gweler A. D. Rees 1950; I. Emmet 1982a). Er hynny, hyd yn oed os oedd yr ysgolion ac addysg yn gyfrifol am ddod â phlant i gysylltiad â’r Saesneg yn y gorffennol, erbyn heddiw y maent wedi cymryd lle’r capeli a’r ysgolion Sul yn llwybrau i gadarnhau a chynnal y Gymraeg yng Ngwynedd ac yng Nghymru. Fel yr awgryma A. Meredith (2001):

Despite the fact that the number of Welsh speakers is now continuing to grow with experts declaring that it is far healthier than 30 years ago, there are concerns that the decline of traditional cornerstones of Welsh life such as the chapel are still threatening the language… Schools are the best hope of preserving the Welsh language and ensuring that the number of people who can speak the language grows.

Ceir yr un pwyslais yn Appel a Muysken (1987: 37) ar safle canolog addysg drwy gyfrwng yr iaith leiafrifol a’i phwysigrwydd o ran cynnal iaith.

Sefydlwyd polisi dwyieithog gan Awdurdod Addysg Gwynedd yn 1975. Cyfeiria R. O. Jones (1997: 371-72) at ganlyniadau positif y polisi hwn fel a ganlyn:

Dysgir y Gymraeg ym mhob ysgol drwy’r sir. Yn yr adran gynradd yn 1993 dysgid yn bennaf neu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg mewn 82.7% o ysgolion y sir ac yn y gweddill defnyddid y Gymraeg fel cyfrwng dysgu yn ychwanegol i’r gwersi Cymraeg. Y bwriad cyffredinol yw rhoi’r cyfle i bob plentyn yn y sir allu datblygu’n ddwyieithog, pa iaith bynnag yw ei famiaith.

Yn ôl adroddiad arolygol o Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog, y mae’n ymddangos bod yr ymgais hon ar gynllunio ieithyddol wedi llwyddo. Disgrifia’r Arolygydd Cofrestredig, H. A. Roberts (1996: 5) alluoedd ieithyddol y disgyblion:
I 96% o’r disgyblion, mae’r Gymraeg naill ai’n iaith y cartref neu gallant siarad yr iaith i safon gyfatebol, a daw dros dri chwarter ohonynt o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn brif iaith.

Y mae pwysigrwydd newydd yr ysgolion mewn cadwraeth iaith yn amlwg, a sefydlu polisïau dwyieithog mewn nifer o ysgolion ledled Cymru yw’r prif reswm am y cynnydd yn siaradwyr y Gymraeg rhwng 3 a 15 oed dros ddau ddegawd olaf yr ugeinfed ganrif (Aitchison a Carter 1994: 103). Unwaith eto, rhaid bod yn ofalus wrth ddadansoddi ystadegau. Efallai fod safon iaith y disgyblion yn eithaf uchel yn yr ysgol, ond ni cheir disgrifiad o’u hiaith mewn peuoedd eraill. Nid yw’n sicr ychwaith eu bod yn defnyddio’r Gymraeg ar ôl iddynt adael yr ysgol. Er hynny, y mae’r ymgais hon yn bwysig yn y broses o atal erydu’r iaith trwy ychwanegu at gefnogaeth sefydliadol y Gymraeg a thrwy geisio cadarnhau dwyieithrwydd y disgyblion.

3.12 Seisnigeiddio’r Cadarnle?

Fel y gwelsom, y mae Blaenau Ffestiniog a’i phoblogaeth wedi profi sawl tro ar fyd yn ystod ei hanes cymharol fyr. Er gwaethaf mewnfudo pobl ddi-Gymraeg ac allfudo pobl ifainc, y diweithdra uchel, pwysau Seisnigeiddio, ac yn bennaf, ddirywio’r diwydiant llechi, y mae Blaenau Ffestiniog wedi aros yn dref gref ei Chymreictod ar hyd ei hoes. Gyda thros 80% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, y dref yw cadarnle’r iaith yng Ngwynedd ac yng Nghymru. Gellid disgwyl, felly, ddarganfod llai o ddylanwadau Seisnigeiddio yn iaith lafar trigolion y dref nag yn y llefydd y tu allan i’r ‘Fro Gymraeg’ lle y mae’r Saesneg wedi ennill tir ar draul yr hen iaith. Er hynny, y mae’n fwy na thebyg bod dylanwadau Seisnigeiddio wedi treiddio i’r gymuned a’i hiaith. Y mae’n bwysig cael gwybod pa mor ddwfn yw gwreiddiau Seisnigeiddio mewn tref mor ganolog i hanes diwydiannol Cymru a hanes yr iaith Gymraeg.