PENNOD PEDWAR
Rhaid Cropian cyn Cerdded: Yr Astudiaeth Ragarweiniol
4.1 Gwerthoedd Astudiaethau Rhagarweiniol
Gall gwneud ymchwil wreiddiol fod fel dilyn llwybr sy’n troi’n ddrysfa. Gellir
cymryd un ffordd neu’r llall gyda’r ddwy yn edrych yn addawol heb wybod yn sicr
pa un yw’r orau i gyrraedd pen y daith nes i’r teithiwr weld beth sydd o’i
flaen. Weithiau bydd rhaid troi’n ôl a chymryd llwybr arall neu ddyfeisio
strategaeth newydd fel dilyn un ochr o’r mur er mwyn dianc o’r ddrysfa. Cynebydd
Becker (1965: 602-03) y cymhlethdodau a all godi wrth wneud ymchwil wreiddiol:
As every researcher knows, there is more to doing research than is dreamt of in
philosophies of science, and texts in methodology offer answers to only a
fraction of the problems one encounters. The best laid research plans run up
against unforeseen contingencies in the collection and analysis of data; the
data one collects may prove to have little to do with the hypotheses one sets
out to test; unexpected findings inspire new ideas. No matter how carefully one
plans in advance, research is designed in the course of its execution. The
finished monograph is the result of hundreds of decisions, large and small, made
while the research is under way and our standard texts do not give us procedures
and techniques for making these decisions…. I must take issue with one point…
that social research being what it is, we can never escape the necessity to
improvise, the surprise of the unexpected, our dependence on inspiration….
Y ffordd orau o geisio osgoi cymryd y llwybr anghywir wrth gyflawni ymchwil
wreiddiol yw gwneud astudiaeth ragarweiniol. Erbyn heddiw, gyda datblygiadau
dulliau gwyddonol o gasglu data yn y gwyddorau cymdeithasol, y mae pwysigrwydd
astudiaethau rhagarweiniol i’r ymchwil derfynol wedi ei sicrhau. Gall astudiaeth
ragarweiniol gyfoethogi mewn sawl ffordd nid yn unig yr ymchwil ond hefyd yr
ymchwilydd. Asesu effeithiolrwydd yr holiadur yw’r prif reswm dros wneud
astudiaeth fach cyn symud ymlaen i wneud y gwaith maes gwirioneddol, fel yr
awgryma Seale a Filmer (1998: 131):
The best way to find out whether a question ‘works’ is to try it out on a number
of people. One of the more common problems that such piloting of a question can
then reveal is that it is not answerable, or that its meaning is ambiguous. The
respondent may say that he or she doesn’t really understand what the question is
getting at, or may give a reply that reveals they have interpreted it in a very
different way from what was intended.
A ydyw’r cwestiynau’n annog yr atebion y chwilir amdanynt? A oes rhai nad ydynt
yn glir neu sydd fel pe baent yn drysu’r siaradwr? Neu a ydyw’r cwestiynau’n
gamarweiniol neu’n awgrymu atebion? Nid yw’n bosibl i’r ymchwilydd ragweld yn
gyfan gwbl pa mor llwyddiannus y bydd ei holiadur, a gall astudiaeth
ragarweiniol amlygu pob math o broblemau gyda’r cwestiynau. Gan fy mod yn
bwriadu gweinyddu holiaduron, teimlaf fod rhaid eu profi cyn imi symud ymlaen i
wneud y gwaith maes gwirioneddol. Cytuna Clark a Causer (1991: 170) fod hyn yn
ddoeth gan ddweud:
In certain cases - e.g. research based on the large-scale use of structured
questionnaires - it will almost certainly be necessary to such a study to test
out the research instruments being used.
Un o ddibenion yr astudiaeth ragarweiniol, felly, yw profi’r holiaduron i
sicrhau eu bod yn llwyddo i ennyn y math o wybodaeth y chwilir amdani. Yn
ogystal, gall astudiaeth o’r fath arbed amser ac ymdrech i’r ymchwilydd a
sicrhau bod y data terfynol yn ddefnyddiol a gwerthfawr a bod y fethodoleg yn
ddilys a dibynadwy.
Yn berthnasol i hyn, ac wedi gwneud yr astudiaeth fach, y mae gan yr ymchwilydd
fodd i brofi fframyn codio’r atebion. A yw’r codau’n rhoi cyfrif am atebion y
siaradwyr? A ydynt yn ddigonol neu’n rhy fanwl? Gall disgwyliadau’r ymchwilydd
gael eu cefnogi neu eu chwalu, ond ceir cyfle i ail-asesu ac ail strwythuro’r
cwestiynau a’u codau.
Y mae gwerth arall i wneud astudiaeth ragarweiniol sy’n eithaf amlwg ond er
hynny cyn bwysiced â’r lleill. Y mae’n gyfle i brofi’r offer recordio er mwyn
darganfod a ydyw’r meicroffon yn ddigon sensitif i godi llais y siaradwr, ac
asesu ansawdd sain y peiriant recordio. Nid yw’n anodd dychmygu siom yr
ymchwilydd sydd wedi treulio diwrnod cyfan yn cyfweld dim ond i sylweddoli wedyn
nad oes dim ar y tapiau!
Hefyd, canlyniad gwerthfawr arall i wneud astudiaeth ragarweiniol yw rhoi cyfle
i’r ymchwilydd aeddfedu. Gall y broses o holi ac ateb gynorthwyo’r ymchwilydd i
ddod yn fwy hyderus yn ei rôl fel rhywun sy’n arwain yr ymddiddan. Gyda chynnydd
ym mhrofiad y cyfwelydd wrth holi a gwrando, y mae’n dysgu sut i ymdopi â
phroblemau cyfathrebu sy’n codi, sut i wneud i’r siaradwr deimlo’n gyffyrddus yn
ei rôl fel rhywun a chanddo’r wybodaeth yr holir amdani, a sut i holi’n ddyfnach
a dilyn unrhyw drywydd diddorol a buddiol a all godi yn ystod y cyfweliad. Fel
yr awgryma Lummis (1987: 62):
The art of good interviewing lies in being able to keep
most of the interview conversational while following various digressions,
remembering which questions the flow of information has answered and yet being
prepared to question more deeply and precisely when necessary.
Gall gwneud astudiaeth ragarweiniol gynorthwyo’r ymchwilydd i ddysgu’r ‘art of
good interviewing’ drwy gynnig y profiad o ymdrin â’r ffactorau hyn. Yn ogystal,
y mae’r profiad o gyfweld yn hyfforddi’r ymchwilydd sut i sefydlu perthynas
gyfforddus â’r siaradwr. Amlygir pwysigrwydd hyn gan Keats (2000: 23):
The most important factors influencing rapport are the
conceptualisation of the situation by the participants, together with what is
conveyed to the respondent of the content and purpose of the interview. It also
has to be remembered that an interview is a social interaction; because it takes
place in a social milieu the cultural norms of social behaviour are involved.
When the conceptualisations of the interviewer and the respondent correspond to
a great degree, there is likely to be good rapport. However, the emotional
component can either support or negate such good effects. Anxiety, fear and
feelings of rejection and low self-esteem in the eyes of the interviewer make
for unfavourable emotional reactions. Politeness norms can mask these feelings.
Y mae pwysigrwydd astudiaethau rhagarweiniol, felly, yn ddiymwad, nid yn unig o
ran asesu effeithiolrwydd methodoleg a holiaduron yr astudiaeth, ond hefyd o ran
paratoi’r ymchwilydd ar gyfer y gwaith maes gwirioneddol.
4.2 Paratoi
Ni theimlaf fod dosbarthu holiaduron yn debygol o fod yn llwyddiannus am sawl
rheswm. Gall dosbarthu holiaduron yn anuniongyrchol effeithio ar ddilysrwydd y
canlyniadau, fel yr esboniwyd uchod yn 2.2.8. Yn ogystal, y mae cyfweld yn
sicrhau bod y siaradwr yn deall cyfarwyddiadau’r holiaduron, fel yr awgryma
Glastonbury a MacKean (1991: 227):
Interviewing has some obvious advantages. The
interviewer can encourage the potential respondent to participate, can keep her
or his attention and can interpret complex instructions. If opinion or attitude
questions are included, especially if they are open-ended, the interviewer can
make sure that the respondent understands the question, and can probe or prompt
if necessary, or pursue a point to ensure that the respondent is reflective
rather than superficial.
Yn ogystal, y mae cyfweld yn sicrhau bod y siaradwr yn ateb y cwestiynau heb
ymgynghori â phobl neu ffynonellau eraill. Gan fod rhai o’r cwestiynau’n
benagored, y mae’n bwysig bod unrhyw drywydd diddorol yn cael ei ddilyn er mwyn
amlygu ffeithiau eraill a all fod yn berthnasol i’r astudiaeth.
Y camau cyntaf cyn cyfweld oedd paratoi’r holiadur geirfaol a’r holiadur
sosioieithyddol. Penderfynu ymhle a phryd y dylwn gynnal y cyfweliadau, pwy i’w
gyfweld, a’r ffordd orau o ddod o hyd i atebwyr oedd y camau nesaf.
4.2.1 Paratoi’r Holiadur Geirfaol
Penderfynais gynnal y cyfweliadau cyn gynted â phosibl ar ôl paratoi’r lluniau
ar gyfer yr holiadur geirfaol. Chwiliais drwy nifer fawr o gylchgronau a
chatalogau er mwyn cael lluniau addas a chlir o’r gwrthrychau yn y sampl.
Deuthum o hyd i tua chwarter o’r delweddau drwy wneud hynny, ac felly, yr oedd
rhaid chwilio am ffynonellau eraill. Defnyddiais y rhyngrwyd i chwilio am
safleoedd sy’n cynnig lluniau difreindal, ac o’r safleoedd hyn cefais ddelweddau
o tua chwarter arall o’r sampl. Bu bron yn amhosibl cael lluniau o bobl mewn
gwahanol swyddi. Penderfynais, felly, fynd i’r gweithleoedd a gofyn a oedd yno
gylchgronau masnachol yn cynnwys lluniau o bobl wrth eu gwaith. Gan mai mewn dim
ond pedwar achos yr oedd y trywydd hwnnw’n llwyddiannus, nid oedd dewis arall
ond dychwelyd gyda chamera a gofyn a oedd y gweithwyr yn fodlon imi dynnu eu
lluniau. Ar ôl imi esbonio iddynt y rheswm dros ofyn am gymwynas mor rhyfedd,
cytunodd rhai ohonynt imi dynnu eu lluniau. Ar gyfer y gweddill o ddelweddau’r
sampl geirfaol, sef gwrthrychau cyffredin o gwmpas y tŷ, fe dynnais luniau â
chamera. Yr oedd rhaid imi chwilio mewn llyfrgelloedd am sawl llun arall sef
‘hofrennydd’, ‘taflegryn’, a ‘llong danfor’. Erbyn hynny, ac oherwydd fy mod yn
byw yn agos i’r dref, yr oeddwn wedi penderfynu cynnal y cyfweliadau yn
Aberystwyth er mwyn arbed amser a chostau teithio. Teimlais, felly, mai doeth
fyddai casglu lluniau o adeiladau a phethau eraill o gwmpas y dref ei hunan
oherwydd fy mod yn tybied y gallai’r siaradwyr adnabod y gwrthrychau yn syth, yn
enwedig adeiladau fel y Llyfrgell Genedlaethol.
Ar ôl casglu’r holl ddelweddau hyn, defnyddiais sganiwr a rhaglen gyfrifiadurol
er mwyn cael gwared o nodau masnachol a geiriau eraill ar y lluniau a allai
dynnu sylw’r siaradwyr neu gynnig ateb iddynt. Sganiais y delweddau i gyd a’u
haddasu fel y byddent yr un maint, sef rhwng 4X6 modfedd a 5X7 modfedd.
4.2.2 Paratoi’r Holiadur Sosioieithyddol
Y mae’r holiadur sosioieithyddol yn elwa ar fethodoleg yr astudiaethau o erydiad
geirfaol yng Nghymru a grybwyllwyd yn barod yn 2.2.6 (W. Evans 1992; A. E. Jones
1984; N. G. Jones 1986, A. Wells 1998) yn ogystal â’r tair astudiaeth a
drafodwyd yn 2.4 (Allard a Landry 1994; A. E. Thomas 1997; Treffers-Daller
1994). Er bod gwahaniaethau rhwng yr astudiaethau hyn o ran eu dibenion, ceir
gorgyffwrdd sylweddol yn y cwestiynau sy’n ymddangos yn yr holiaduron a
detholiad ohonynt a geir yn holiadur yr astudiaeth bresennol. Cysylltais yn
uniongyrchol a Rodrigue Allard a Réal Landry, dau arbenigwr sydd wedi cyhoeddi
nifer o astudiaethau ar sawl agwedd o fywiogrwydd ethnoieithyddol. Anfonodd yr
ymchwilwyr hyn gopïau gwreiddiol o’r holiaduron a ddefnyddiwyd yn eu hastudiaeth
o ddefnydd o’r Ffrangeg a’r Saesneg yn Québec (Allard a Landry 1994). Oherwydd
eu bod wedi cyfweld disgyblion ysgol ac yn ymchwilio i sawl agwedd arall o
ddefnyddio’r ddwy iaith, nid oedd y cwestiynau i gyd yn addas ar gyfer yr
astudiaeth bresennol. Dewisais, felly, y rhai sy’n ymdrin â defnydd gwirioneddol
o’r ieithoedd gan y siaradwyr. Gofynna A. E. Thomas (1997) am gefndir teuluol,
addysg, gwaith, bywyd cymdeithasol, rhwydweithiau, ac agweddau tuag at y
Gymraeg. Ceir cwestiynau tebyg yn yr astudiaethau eraill. Detholwyd y gweddill o
gwestiynau’r holiadur sosioieithyddol o’r rhai a gyflwynir yn yr astudiaethau
hyn oherwydd teimlais eu bod yn berthnasol i ddibenion fy ngwaith ym Mlaenau
Ffestiniog ac o ran asesu’r cysylltiad rhwng ymddygiad ieithyddol a chefndir
cymdeithasol y siaradwyr. Oherwydd i’r cwestiynau hyn i gyd brofi’n llwyddiannus
i gasglu gwybodaeth ddwys a gwerthfawr yn yr astudiaethau hyn, yr oeddwn yn
hyderus y gallai’r holiadur sosioieithyddol fod yn arf fethodolegol fuddiol
(gweler Atodiad II am yr holiadur).
4.3 Cysylltu â’r Siaradwyr
Wedi penderfynu cynnal y cyfweliadau yn Aberystwyth, teimlais mai’r ffordd orau
o gysylltu â siaradwyr fyddai mynd i’r brifysgol yn y dref a cheisio cael
cymorth gan Adran y Gymraeg. Trefnais gyfarfod â phennaeth yr adran, yr Athro
Gruffydd Aled Williams, er mwyn trafod y posibilrwydd o gyfweld myfyrwyr y
Gymraeg. Esboniais wrtho ddiben yr ymchwil a’m bod yn bwriadu gwneud y gwaith
maes ym Mlaenau Ffestiniog. Yr oedd yr Athro yn fwy na pharod i’m cynorthwyo.
Gwirfoddolodd i gysylltu â’i fyfyrwyr ac awgrymodd ei fod yn casglu enwau a
chyfeiriadau myfyrwyr o ogledd Cymru yn unig er mwyn cadw’r ymchwil i gyd yn
agos at yr ardal yr oeddwn yn bwriadu ei hastudio. Hefyd, cynigiodd drefnu
ystafell yn yr adran imi gael cynnal y cyfweliadau ynddi. Casglodd enwau,
cyfeiriadau, a chyfeiriadau e-bost pymtheg myfyriwr blwyddyn gyntaf o’r Gogledd
a ddywedodd eu bod yn fodlon cymryd rhan yn yr astudiaeth.
Cysylltais â’r myfyrwyr drwy’r post a thrwy anfon e-bost atynt i gyd. Atebodd un
ar ddeg ohonynt, naw menyw a dau ddyn, a threfnais amserau i’w cyfweld. Nid oedd
gennyf unrhyw syniad am faint y byddai’r cyfweliadau’n parhau, felly yr oeddwn
wedi trefnu i gyfweld y myfyrwyr ar ôl ei gilydd gan neilltuo awr a hanner i bob
cyfweliad. Rhaid cyfaddef imi gael fy siomi pan nad ymddangosodd tair o’r
menywod (a oedd yn gyfeillion ac yn cyfathrebu â mi dros y rhyngrwyd fel grŵp yn
lle bob yn un). Am hynny, treuliais bedair awr a hanner y diwrnod cyntaf yn
disgwyl am y tair menyw nad oeddent wedi ymddangos. Serch hynny, ymddangosodd un
fenyw arall a chefais fy nghyfweliad cyntaf. Ni pharhaodd y cyfweliad ond
ychydig dros hanner awr. Unwaith eto, yr oeddwn yn eithaf siomedig am fy mod yn
disgwyl i’r cyfweliad gymryd o leiaf awr i’w gwblhau, a dechreuais boeni nad
oedd digon o ddata ar gyfer y dadansoddi. Ond ar ôl meddwl am gyfweld pobl yn eu
cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog - y siarad mân cyn y cyfweliad, y cyfweliad ei
hunan, a’r diolchiadau a’r canu’n iach - teimlais y byddai ‘dim ond rhyw hanner
awr’ ar gyfer y cyfweliad yn berffaith rhag gor-drethu amynedd ac ewyllys da y
siaradwyr. Fel yr awgryma Glastonbury a MacKean (1991: 237-8): ‘As a rule of
thumb it is probably sensible to keep an interviewed questionnaire to a maximum
of forty-five minutes for most respondents’.
Yr un diwrnod pan oeddwn yn disgwyl un o’r menywod nad ymddangosant, gwelais
fenyw yr oeddwn yn ei hadnabod a ddeuai o Fethesda ac a oedd yn gwneud
doethuriaeth yn yr adran. Esboniais wrthi fy mod yn cynnal cyfweliadau ar gyfer
astudiaeth ragarweiniol a’m bod wedi aros am dros hanner awr am un siaradwr yr
oeddwn yn sicr erbyn hynny nad oedd yn mynd i ymddangos. Erfyniais arni am ei
chymorth a’i hamser a chytunodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Siaradodd am awr
gyfan! Ni wastraffwyd y diwrnod yn llwyr felly. Y noson honno, anfonais e-bost
at y rhai yr oeddwn i fod i’w cyfarfod y diwrnod wedyn i’w hatgoffa am yr
amseroedd penodedig. Trannoeth, cyfwelais ddwy fenyw, ond nid ymddangosodd y
ddau ddyn. Collais, felly, dair awr arall yn disgwyl. Bu rhaid imi aros tan yr
wythnos wedyn er mwyn cyfweld y lleill, ond yn y cyfamser, ysgrifennais at y
rhai nad oeddent wedi ymddangos yn ogystal â’r rhai nad oeddent wedi ateb fy
llythyrau cyntaf. Anfonwyd ymddiheuriadau gan y tair menyw, a threfnasom i
gyfarfod unwaith eto. Ni chlywais gan y ddau ddyn eto ac ni chefais atebion gan
y myfyrwyr eraill. Yr wythnos wedyn, cyfwelais dair menyw arall. Yr oedd gennyf,
felly, saith o gyfweliadau ar dâp a oedd yn para am rhwng hanner awr ac awr.
Bwriadais gyfweld y tair menyw o’r wythnos gynt ond nid ymddangosasant unwaith
eto. Treuliais, felly, fwy o’m hamser yn disgwyl amdanynt. Er hynny, fe’m
cysurais fy hunan â’r ffaith fy mod wedi cael saith cyfweliad llwyddiannus, ond
ar ôl imi fynd adref i wrando ar y tapiau, sylweddolais fod batri’r meicroffon
wedi darfod yn syth ar ôl dechrau’r cyfweliad olaf. Ffordd anffodus o sylweddoli
pa mor hir y mae batrïau’n para oedd hynny, ond ar y llaw arall, gwers werthfawr
oedd y digwyddiad. Nid oedd gennyf, felly, ond chwech o gyfweliadau. Anfonais
e-bost at y tair merch a’r ddau ddyn eto, ond ni chefais ymateb ganddynt. Yr
oedd rhaid imi fodloni ar y data a oedd gennyf a pheidio â gwastraffu rhagor o’m
hamser.
4.4 Recordio
Er mwyn recordio, defnyddiais recordydd tâp Sony TCM-818 a meicroffon stereo
aml-gyfeiriadol a wisgid gan y siaradwr. Recordiwyd y cyfweliadau ar dapiau crôm
BASF mewn ymgais i gael yr ansawdd sain gorau. Er mwyn ceisio lleihau effaith
presenoldeb y peiriant recordio ar ymddygiad y siaradwyr, fe’i cedwais wrth ochr
y bwrdd allan o’r golwg. Yr oeddwn yn gobeithio y byddai gwneud hyn yn peri i’r
siaradwr anghofio am y recordio a’i gynorthwyo i ganolbwyntio ar y cwestiynau.
Er syndod imi, gweithiodd y cynllun hwn i’r dim. Gofynnais i’r siaradwyr ar
ddiwedd pob cyfweliad a oeddent yn ymwybodol iawn o’r recordydd tâp. Atebodd pob
un eu bod wedi anghofio am y peiriant ar ôl ychydig o amser. A dweud y gwir,
dechreuodd un fenyw godi i fynd cyn imi gael cyfle i ofyn y cwestiwn olaf hwn a
chyn imi gael tynnu y meicroffon oddi arni! Llwyddais i gael recordiadau o safon
gydag ansawdd sain uchel a chlir.
4.5 Cyfweld
Ar ddechrau’r cyfweliad, cyflwynais fy hunan a dweud diolch i’r siaradwr am
gytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Dechreuais y cyfweliad drwy esbonio fy
mod yn fyfyriwr yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac yn ymchwilio i Gymraeg
y Gogledd cyn symud ymlaen i weinyddu’r holiaduron. Ar gyfer y rhan gyntaf o’r
cyfweliad, yr holiadur geirfaol, dechreuais gyda rhannau’r corff drwy gyfeirio
atynt. Gwnaethpwyd hyn ar gyflymdra cyson er mwyn cael asesu a oedd y siaradwr
yn oedi neu beidio. Euthum ymlaen wedyn i ddangos lluniau’r eitemau, un llun ar
ôl y llall ar gyflymdra cyson am yr un rheswm ag a esboniwyd uchod. Pan na
chynigiai’r siaradwr ateb yn syth, rhoddwn amser iddo feddwl. Os ymddangosai nad
oedd ateb yn debygol o gael ei gynnig, gofynnwn i’r siaradwr beth oedd yn ei
feddwl. Gan amlaf, cynigiwyd y ffurf Saesneg. Er hynny, pan na fyddai’r dacteg
honno’n gweithio, anogwn y siaradwr gan esbonio rhywbeth am yr eitem yn y llun.
Er enghraifft, nid oedd y rhan fwyaf o’r siaradwyr yn gyfarwydd ag adeilad y
ganolfan hamdden yn Llanbadarn Fawr, felly esboniais fod pobl yn mynd i’r lle i
wneud ymarfer corff ac i nofio. Yn y diwedd, cefais ateb i bob un o’r sbardunau.
O’r cant o newidynnau, nid oedd ond un nad esgorodd ar y ffurf Gymraeg
‘safonol’. Ni atebodd yr un siaradwr gyda’r hen ffurf Gymraeg am (FOREARM), sef
elin. Cesglais, felly, fod y newidyn hwn yn annilys, ac felly, tynnir (FOREARM)
o’r sampl geirfaol.
Teimlais fod y rhan hon o’r cyfweliad yn llwyddiannus iawn ym mhob achos ar
wahân i un. Yn yr achos hwnnw, yr oedd yn amlwg bod y siaradwr yn cynnig atebion
dim ond er mwyn gorffen y cyfweliad yn gynt. Yr oedd ei atebion i gyd yn Saesneg
ar ôl yr adran am rannau’r corff, ac nid oedd yn fodlon iawn i gymryd yr amser i
feddwl am atebion eraill. Penderfynais, felly, fynd yn ôl i ddechrau’r lluniau a
gofyn a oedd gan y siaradwr ffurfiau Cymraeg am y gwrthrychau. Wedi gwneud
hynny, cynigiodd y siaradwr, gan amlaf, eiriau Cymraeg.
Daeth enghraifft ddiddorol arall i glawr wrth wrando ar y canlyniadau. Cynigiodd
un fenyw y ffurf Saesneg am yr eitem (WAITER). Yn ddiweddarach, wrth imi
weinyddu’r holiadur sosioieithyddol a gofyn am swyddi, dywedodd ei bod wedi
gweithio mewn gwesty yn Llandudno. ‘Yn gwneud beth?’ gofynnais. ‘Gweini
byrddau’, oedd yr ateb. Yn nes ymlaen yn ystod y cyfweliad, cofiais ei hateb
Saesneg a’i defnydd o’r berfenw a gofynnais a oedd hi’n gyfarwydd ag ystyr y
gair ‘gweinydd’. ‘Ie’, meddai, ‘waiter yn Saesneg’. O ganlyniad, sylweddolais
fod yr holiadur yn mesur y geiriau sy’n dod yn rhwyddach ar y pryd i feddwl y
siaradwr yn unig, nid eu gwybodaeth wirioneddol o’r ffurfiau.
Gweinyddwyd yr holiadur sosioieithyddol a gadawyd i’r siaradwyr ymhelaethu ar y
pynciau a godwyd. Nid oedd unrhyw broblem gyda’r rhan hon o’r cyfweliad.
Siaradodd rhai o’r myfyrwyr yn fwy am eu teuluoedd, eu bywyd cymdeithasol, a’u
rhwydweithiau na rhai eraill, ond yr oedd gan bron pob un ohonynt ddiddordeb
mewn mynegi eu barn am ddefnyddio’r Gymraeg, ac am agweddau tuag at yr iaith.
Daeth yn amlwg pa mor bwysig a chanolog i fywydau beunyddiol y siaradwyr yr oedd
y Gymraeg am fod yr iaith yn rhan annatod o’u bywydau ac yn arlliwio bron pob
agwedd arnynt. Er hynny, rhaid cofio mai myfyrwyr yn Adran y Gymraeg yn y
brifysgol oeddent, felly nid yw eu brwdfrydedd ynglŷn â’r iaith mor annisgwyl.
Teimlais fod yr holiadur wedi llwyddo i godi llawer o ddata gwerthfawr a
diddorol a’i fod yn gyfrwng addas er mwyn ennyn diddordeb y siaradwyr. Er hynny,
wrth wrando ar y recordiadau sylweddolais y gallwn fod wedi dilyn sawl trywydd a
godwyd, strategaeth nas dilynwyd am nad oeddwn am golli amynedd nac ewyllys da’r
siaradwyr.
4.6 Edrych yn ôl
The fact of having a pilot study introduces a two-stage process. The first (pilot)
stage is based on estimates of how it is best to proceed: the second stage is
informed by the findings and experiences of the pilot, and so can convert
earlier estimates into clear decisions. (Glastonbury a MacKean 1991: 241)
Wrth wrando ar y data a gasglwyd, nodwyd sawl enghraifft o’r siaradwyr yn cynnig
ateb yn Saesneg gan ei ddilyn yn syth gyda’r ffurf Gymraeg. Yr oedd ambell
enghraifft o atebion y ffordd arall hefyd, ac fel y gwelsom, dechreuodd un o’r
siaradwyr ateb gyda geiriau Saesneg yn unig ac yr oedd un arall yn ymwybodol o’r
term ‘gweinydd’ a’i ystyr ond heb ei gynnig. Wrth gyfeirio at y gwrthrychau,
gofynnwn, ‘Beth yw eich gair chi am…?’ gan symud ymlaen yn syth at y llun nesaf
ar ôl cael ateb, ac fel y mae’r achosion hyn yn dangos, ni lwyddodd y dacteg hon
bob tro i ddatgelu gwybodaeth wirioneddol y siaradwr o’r termau. Yn ogystal â
gofyn ‘Beth yw eich gair chi am…?’, penderfynwyd, felly, ofyn yn ystod y gwaith
maes gwirioneddol y cwestiynau ‘Beth mae pobl eraill ym Mlaenau Ffestiniog yn ei
ddweud am…?’ ac ‘Oes gynnoch chi air arall am…?’ Teimlaf fod y fethodoleg hon yn
fwy cynhwysfawr o ran ei gallu i ddatgelu gwybodaeth o’r termau gan ei bod yn
annog y siaradwyr i ystyried y gwrthrychau ac yn rhoi mwy o amser iddynt i
feddwl am atebion. At hynny, y mae’r dull hwn o holi’n dal i osgoi y pwyslais ar
y ffurfiau Cymraeg a all amlygu teimladau o annigonolrwydd ieithyddol os nad oes
ffurf Gymraeg gan y siaradwr (cymharer 2.3 uchod).
Nid oedd problemau gyda’r rhan arall o’r cyfweliad. Am fy mod wedi gadael i’r
siaradwyr ymhelaethu ar destunau a godwyd gan yr holiadur sosioieithyddol, yr
oedd rhai o’r atebion yn fwy cymhleth nag eraill. Sylweddolais, felly, fod rhaid
chwilio am dueddiadau cyffredinol yn yr atebion a dyfeisio codau ar sail y
tueddiadau hynny ar ôl casglu’r data terfynol.
Yn ystod y cyfweliad cyntaf, gwnâi fy niffyg profiad imi
deimlo’n eithaf nerfus. Ni wyddwn a fyddai’r holiaduron yn llwyddo i ennyn y
math o ddata yr oeddwn yn chwilio amdanynt na pha fath o anawsterau eraill a
oedd yn debygol o godi yn ystod y cyfweliad. Hefyd, nid oeddwn yn gyffyrddus â’m
rôl fel ymchwilydd. A fyddai’n bosibl imi ymddangos yn awdurdodol er mwyn ennyn
parch a chydweithrediad ac, ar yr un pryd, geisio sicrhau bod y siaradwr yn
teimlo’n gyffyrddus â’i rôl fel rhywun a chanddo’r wybodaeth a’r profiadau yr
oeddwn yn chwilio amdanynt? Yr oedd sawl cwestiwn tebyg yn fy meddwl. Er hynny,
ar ôl pum munud gyntaf y cyfweliad cyntaf, anghofiais am fy hunanamheuaeth a
chanolbwyntio ar sicrhau cyffyrddusrwydd y siaradwr drwy fynegi geiriau bach o
anogaeth yn awr ac yn y man. Ar ddiwedd pob cyfweliad, gofynnais sut yr oedd y
siaradwr yn teimlo pan oeddwn yn holi: a oedd yn teimlo’n lletchwith, yn
anwybodus neu’n wybodus, yn nerfus neu’n gyffyrddus? Atebodd rhai eu bod yn
nerfus ar y dechrau ond dywedodd pob un eu bod yn gallu ymlacio ar ôl ychydig.
Gan fy mod yn adnabod yr ail siaradwr, nid oedd yr amheuon hyn yn fy mhoeni a
theimlais yn gartrefol iawn o’r dechrau. Ar ôl hynny, yr oeddwn yn ymwybodol o’m
rôl fel ymchwilydd o hyd, ond nid oedd hynny yn broblem am ei bod yn fy nghymell
i gofio am fy nghyfrifoldebau am deimladau’r siaradwr a’r sustem gyfnewid sy’n
rhan annatod o gyfweliadau fel digwyddiadau llafar.
Yn ogystal, gofynnais ar ôl gweinyddu’r holiaduron i gyd a oedd unrhyw ran o’r
cyfweliad yn ymddangos yn debyg i arholiad neu brawf ysgol. Tybiais y byddai
ateb i’r cwestiwn hwn yn datgelu a oedd unrhyw ran o’r cyfweliad wedi ysgogi
teimladau o anghysur. Atebodd pob un nad oedd y cyfweliad yn debyg i brawf. Er
imi gael ymateb ffafriol i’r cwestiynau hyn, yr oedd yn rhaid cofio mai myfyrwyr
oedd y siaradwyr i gyd a’u bod yn gyfarwydd â sefyll arholiadau. Hefyd, gan eu
bod i gyd yn gymharol ifanc, rhwng 18 a 22 flwydd oed, y mae’n bosibl bod
ganddynt fwy o brofiad gyda chyfweliadau a’u bod yn fwy cyffyrddus â
disgwyliadau a rheolau cyfweliadau na phobl hŷn. Yr oedd yn bosibl, felly, y
cawn atebion llai ffafriol i’r cwestiynau hyn wrth gyfweld pobl oedrannus yn
ystod y gwaith maes ym Mlaenau Ffestiniog. Ar y llaw arall, gall cyfweld yn
uniongyrchol bobl oedrannus fod yn fuddiol mewn sawl ffordd, fel yr awgryma
Keats (2000: 116):
Interviewing is a more effective way of obtaining data from many old people than
expecting them to provide written responses. For their part, many old people do
not like to be asked to fill in questionnaires. Their reasons include a lack of
familiarity with written questionnaires, difficulty in reading, especially
anything in small print, a lack of patience with the simplistic approach of some
questionnaires, and because of their frailty in writing.
On the one hand, an interview allows the interviewer to
be much more confident about the responses because of the opportunity for
probing to amplify and verify. On the other hand, and more importantly from the
respondent’s point of view, the interaction with the respondent can be a
pleasant social interlude. For older people who live alone or are in nursing
homes, an interview with a receptive person offers companionship and stimulation,
however transitory.
Am fod cyfweld yn ennyn perthynas cyfnewid rhwng yr ymchwilydd a’r siaradwr,
gall y ddau berson elwa ar y profiad (gweler hefyd A. E. Thomas 1997: 94). At
hynny, yr oeddwn yn falch bod y siaradwyr wedi ymateb yn bositif i’r profiad a’m
bod i fy hunan wedi cael y profiad o wisgo het yr ymchwilydd.