PENNOD PUMP

Ble Arall yn y Byd? I’r Maes! - Cysylltu, Cyflwyno, Cyfweld

5.1 Cyrraedd
Pan gyrhaeddais Flaenau Ffestiniog, yr oeddwn yn llawn pryderon ond yn frwdfrydig ac yn awyddus i gael gafael yn y gwaith o’m blaen. O’m profiad blaenorol o drigolion y dref, disgwyliwn gyfarfod â llawer o bobl ddiddorol a chyfeillgar. Ni chefais fy siomi. Er hynny, yr oedd rhai anawsterau’n fy wynebu.

Nid yw Blaenau Ffestiniog yn dref hawdd ei thramwyo. Hyd yn oed wedi ymarfogi â map o strydoedd y dref, a gefais o’r ganolfan ymwelwyr leol, nid oedd yn rhwydd dod o hyd i rai llefydd. Ar wahân i un neu ddau o arwyddion, y mae Blaenau Ffestiniog yn dref heb arwyddion enwau strydoedd! Gan fod rhaid imi gerdded i’r cyfweliadau heb fawr o gymorth gan y map, na roddai ond bras olwg yn unig imi o leoliad y strydoedd, cychwynnwn ar y ffordd yn gynnar er mwyn sicrhau cyrraedd y cyfweliadau mewn pryd. Bid a fo am hynny, euthum ar goll ar y ffordd i’r cyfweliad cyntaf gyda’r ceidwad i Bobl y Pethau, sef y wraig a oeddwn yn dibynnu arni i roi enwau Pobl y Pethau eraill imi gael mynediad i’w rhwydwaith. Am fy mod yn adnabod y wraig dan sylw yn eithaf da ers sawl blwyddyn (ond heb wybod yn iawn ymhle’r oedd ei thŷ!), nid oedd hi wedi digio a chwarddasom am y digwyddiad ar ôl imi gyrraedd ryw ugain munud yn hwyr. Ychwanegid at y broblem o ddod o hyd i dai pobl gan y ffaith bod gan rai ohonynt gyfeiriadau ar un stryd ond bod rhaid mynd i lawr stryd a redai’n gyfochrog i stryd y cyfeiriad i gyrraedd y drws. Yn fuan iawn ar ôl dechrau’r gwaith maes a cheisio dod o hyd i lefydd, dysgais chwilio am y tai oriau – neu hyd yn oed ddyddiau pan oedd hynny’n bosibl! – cyn y cyfweliad. Lleihaodd y problemau ar ôl imi feistroli daearyddiaeth strydoedd Blaenau Ffestiniog.

Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r cyfweliadau dros gyfnod o wyth wythnos yn ystod yr haf. Cymerodd y gwaith maes gymaint o amser oherwydd adeg y flwyddyn. Yr oedd llawer o’r trigolion ar eu gwyliau neu ar fin mynd ar eu gwyliau, ac felly yr oedd rhaid imi gysylltu â rhai ohonynt sawl gwaith er mwyn trefnu amser cyfleus i’w cyfweld.

Yn ystod yr adeg hon, arhosais gyda gwraig weddw yn ei saithdegau hwyr. Gan ei bod yn fam i gyfaill imi a’m bod wedi aros yn ei thŷ sawl gwaith o’r blaen, yr oedd y croeso a gefais ganddi’n gynnes iawn. Aeth allan o’i ffordd i sicrhau fy mod yn teimlo’n gyfforddus yn y tŷ. Gwnâi brydau o fwyd imi bob dydd ac estynnai ei chroeso i’r siaradwyr a ddeuai i’w chartref i gael gafael ynof neu gael eu cyfweld. Daeth dau siaradwr i’r tŷ er mwyn cael eu cyfweld – un a oedd ar ei awr ginio a’r llall a ddywedodd fod gormod o lanast yn ei gartref ei hun gan ei fod newydd symud tŷ. Galwodd sawl siaradwr heibio i’r tŷ am wahanol resymau ac yr oedd y te a’r bisgedi ar gael bob tro. Awn i’r capel gyda hi bob bore Sul ac i siopa pan fyddai amser yn caniatáu. Fe’m cyflwynodd i bawb yn y capel ac i sawl person ar y stryd. Yn y diwedd, cynorthwyodd y cyfarfyddiadau hyn imi sefydlu hygrededd ymysg trigolion y dref. Yr oedd ei chymorth yn amhrisiadwy.

5.2 Cysylltu â’r Siaradwyr
Fel yr esboniwyd eisoes yn 2.2.4, fy mwriad oedd gweithredu’r dull ‘cyfaill i gyfaill’ gan ddechrau gydag enwau a awgrymwyd gan y bobl yr oeddwn yn eu hadnabod yn barod, sef y ‘ceidwaid’. Gobeithiwn y gallai’r fethodoleg hon fod yn llwybr imi amlygu rhwydweithiau naturiol y dref a’u dwyster ac y byddai hefyd yn fodd imi ddod o hyd i siaradwyr addas i’w cyfweld. Cysylltais â’r siaradwyr yn uniongyrchol dros y ffôn. Awgryma sawl awdur mai’r ffordd orau o gysylltu â siaradwyr yw ysgrifennu atynt yn gofyn am ganiatâd ac wedyn dilyn hyn gyda galwad ffôn. Er enghraifft, fel yr ysgrifenna Ives (1980: 36):

I have found it a good idea to write a letter first; not only is it polite, it identifies you very well and gives the informant something to think about. If your work is being sponsored by some organization (say a college or an historical society) whose letterhead stationery you can use, it helps some by giving you a sort of instant respectability. Once you have sent the letter, wait a few days and then follow up with either a phone call or a visit (or both) to make arrangements for the first interview.

Ac eto, ys dywed Johnson (1975: 65) wrth esbonio sut llwyddodd i gael mynediad i rwydweithiau:

I wrote and used two similar letters of introduction to the administrative officials of the two county departments of public welfare. Drafts of these letters were edited by several insider informants in the respective organizations. The rhetoric of science was used to persuade these officials to grant official clearance for the research. In addition, letterhead stationery from Western University and academic titles were used to lend academic respectability to both field researcher and faculty sponsor, and phrases such as “dedicated young scholar” and “reliable and trustworthy” were used in the letters.

Gan ei fod yn astudio perthnasau mewn cyrff llywodraeth leol swyddogol, yr oedd ‘the rhetoric of science’ a’r sumbolau o barchusrwydd academaidd yn hanfodol i Johnson gael mynediad i’r maes. Ac y mae’n rhaid cytuno ag Ives pan fo’n awgrymu bod defnyddio papur swyddogol yn helpu i’r ymchwilydd ennill parchusrwydd. Er hynny, teimlwn y gallai ysgrifennu at y siaradwyr godi problemau eraill wrth gysylltu â phobl ddwyieithog am y tro cyntaf, fel y pwysleisir gan A. E. Thomas (1997: 88):

Nid ysgrifennais at y bobl yn y sampl ymlaen llaw, am fy mod yn gobeithio y byddai cysylltu â hwy’n uniongyrchol a phersonol yn llai bygythiol nag anfon llythyr swyddogol ei naws ar bapur amgueddfaol (cymharer Thompson 1987: 207). Buasai iaith yr ysgrifennu hefyd yn broblematig, gan y gallasai llythyr yn Gymraeg beri braw i’r siaradwyr llai llythrennog. Ar y llaw arall, gallai ysgrifennu’n Saesneg a chyfweld yn Gymraeg ddrysu – neu hyd yn oed ddigio – y siaradwyr mwy llengar.

Er nad oedd gennyf gymaint o amheuaeth ynglŷn â llythrennedd Pobl y Pethau, nid oedd arnaf eisiau cymryd yn ganiataol eu bod yn gyffyrddus ag iaith swyddogol. Ar ben hynny, teimlwn y gallai anfon llythyr swyddogol at Bobl y Dafarn greu llu o broblemau gan gynnwys amlygu diffygion yn eu geirfa, peri iddynt feddwl fy mod yn grachfonheddwr ieithyddol, neu godi amheuaeth ynglŷn â’m gwaith yn y gymuned (gweler 5.3 isod). Fel y dywedodd un siaradwr:

Ma’ rhaid iti, yng Nghymru… addasu dy iaith ar gyfer bobl y pethe a bobl ddim y pethe neu ma’ ’na beryg ofnadwy iti gael dy ystyried, ar gam, o ryw snobiaeth ieithyddol. (GP71)

Trefnwyd cyfweliadau A. E. Thomas (1997) drwy gysylltu’n uniongyrchol - galwodd ar y siaradwyr er mwyn esbonio dibenion yr ymchwil a cheisio’u caniatâd i recordio’r cyfweliadau ar dâp pan fyddai’n gyfleus iddynt. Gweithredodd P. W. Thomas (1990) fethodoleg debyg ychydig flynyddoedd ynghynt yn ei astudiaeth o’r Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru a thrwy ddefnyddio’r dull ‘cyfaill i gyfaill’, llwyddodd y ddau ymchwilydd i gael croestoriad eang o bobl.

Rhai o rinweddau’r modd hwn o gysylltu â siaradwyr yn uniongyrchol ac wyneb yn wyneb yw ei bod yn:

1. llai bygythiol nag anfon llythyr swyddogol
2. rhoi cyfle i’r ymchwilydd ateb cwestiynau ynglŷn â phwrpas yr astudiaeth a’r modd o gasglu data
3. rhoi cyfle i’r siaradwr asesu’r ymchwilydd (er enghraifft o ran personoliaeth, cyflwyniad, ymddangosiad, acen)
4. llai tebygol o beri i’r siaradwr wrthod

Soniais uchod am y rhinwedd gyntaf, ac y mae’r ail a’r drydedd yn rhan o’r broses o sefydlu ac adeiladu perthynas â phobl y gymdeithas dan sylw. Yn ôl Schensul, Schensul, a LeCompte (1999: 75):

The researcher’s appearance, use of language (including humor), perceived comfort level, growing knowledge of the setting, and reactions to difficult or challenging new situations are all important in building the personal relationships that mark the entry process in ethnography.

Wrth gysylltu â siaradwyr yn uniongyrchol, gall yr ymchwilydd reoli i ryw raddau’r argraff a wna ar y bobl ‘newydd’ hyn. Wrth gwrs, nid oes gan yr ymchwilydd reolaeth dros nodweddion personol megis rhyw ac oedran (gweler, er enghraifft, Hammersley ac Atkinson 1995: 96-99; LeCompte, Schensul, Weeks, a Singer 1999: 31-34), ond y mae’n bwysig ei fod yn creu’r argraff orau ar y siaradwyr wrth iddo’i gyflwyno’i hunan am y tro cyntaf wyneb yn wyneb. Ar adegau bydd rhaid iddo addasu’r argraff hon yn ôl y math o berson y mae’n cyfarfod ag ef, fel yr awgryma Hammersley ac Atkinson (1995: 87):

Speech and demeanor will require monitoring, though… it is not necessarily desirable for them to be matched to those of participants. The researcher must judge what sort of impression he or she wishes to create, and manage appearances accordingly. Such impression management is unlikely to be a unitary affair, however. There may be different categories of participants, and different social contexts, which demand the construction of different ‘selves’. In this, the ethnographer is no different in principle from social actors in general, whose social competence requires such sensitivity to shifting situations.

O ran y bedwaredd fantais o gysylltu â siaradwyr wyneb yn wyneb, y mae’n haws gwrthod cais moesgar am gymorth dros y ffôn neu mewn llythyr na chais a wneir wyneb yn wyneb. Er hynny, fel y gwelir yn A. E. Thomas (1997: 91-92), nid yw’r dull hwn – neu unrhyw ddull o ran hynny! – o gysylltu â siaradwyr yn hollol ddi-feth. Cafodd hi ei gwrthod gan sawl siaradwr ar ôl iddi gysylltu â hwy’n uniongyrchol ar eu trothwy a hyd yn oed ar ôl i rai ohonynt gytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Digwyddodd yr un peth i Trudgill (1974a: 25-26) yn ei astudiaeth enwog yn Norwich.

Er gwaethaf y rhinweddau hyn, pan gyrhaeddais Flaenau Ffestiniog, teimlwn bwysau trwm i geisio cwblhau’r gwaith maes cyn gynted â phosibl. Oherwydd prinder amser, y trafferthion gydag arwyddion y strydoedd, a’r ffaith nad oedd gennyf gar neu fodd arall o fynd o un pen o’r dref i’r llall, yr oedd rhaid rheoli faint o amser a dreuliwyd yn trefnu cyfweliadau, sefydlu perthnasau, a chwblhau’r cyfweliadau. Penderfynais, felly, gysylltu â’r siaradwyr dros y ffôn. Er hynny, nid yw pawb yn canmol y modd uniongyrchol hwn. Y mae Ives (1980: 37) yn codi amheuon ynglŷn â’r dull gan ddweud:

Some people tell me they hesitate to write a formal letter because they “don’t want to get the poor soul all worked up.” I suppose it could work that way, but I have never known it to. Others have said that if they write – or even call – the prospect has more of a chance to say no, while if they just drop in the battle is half won already. There may be special circumstances where the surprise attack is justified, but it is pushy, and I avoid it whenever I can…
Generally, then, a letter followed by a phone call is ideal. A letter alone is all right (and of course if there is no phone it is all you can do). A phone call alone may be all that is required, but think carefully about why you are not going to write a letter. Finally, try not to arrive on someone’s doorstep unannounced in any way; it may be necessary, but it usually isn’t.
(ef biau’r italeiddio)

Cytunaf ag Ives y gall ymddangos yn bersonol ar drothwy rhywun hollol ddieithr gael ei ddadansoddi gan y siaradwr yn ‘pushy’. At hynny, y mae’n cymryd o leiaf hanner awr i gerdded o un pen o’r dref i’r llall a chyda’r trafferthion â’r map ac arwyddion y strydoedd, nid oedd arnaf eisiau gwastraffu amser gwerthfawr yn chwilio’n ddiangen am dai. Ond cytunaf, hefyd, y gall cysylltu’n uniongyrchol â’r siaradwyr fod yn ffordd o leihau’r posibilrwydd iddynt wrthod cymryd rhan yn yr astudiaeth. Gan fy mod yn byw yn Aberystwyth, nid oedd arnaf eisiau dibynnu ar y post oherwydd pwysau amser. At hynny, teimlwn fod ysgrifennu at y siaradwyr yn ddull amhersonol a chlinigol iawn ar ôl meddwl pa mor bwysig oedd sefydlu perthynas â’r bobl yr oeddwn yn bwriadu eu cyfweld. Penderfynais, felly, y byddai ffonio pobl yn uniongyrchol yn ffordd ganol a theg o gysylltu am y tro cyntaf a hynny am nad yw’n amhersonol iawn nac ychwaith yn rhy ddigywilydd. At hynny, yr oedd yn bosibl imi arbed amser heb grwydro’r strydoedd heb wybod i ble yr oeddwn yn mynd! Ond fel y mae Ives (1980: 37) yn mynegi, ‘of course if there is no phone it is all you can do’ – nid oedd dewis ond cnocio ar ddrws ffrynt un siaradwr. Dywedodd bron pawb yng ngharfan Pobl y Pethau a rhai o Bobl y Dafarn fod yn rhaid imi siarad ag ef, ond nid oedd ganddo ond ffôn symudol. Er hynny, ni wyddai neb y rhif! Gweler 5.3 isod am drafodaeth o’r dyn arbennig hwn.

Ac felly y bu. Penderfynais ar ffonio’r siaradwyr posibl yn uniongyrchol er mwyn osgoi bod yn rhy ffurfiol, rhoi iddynt y cyfleu i ofyn cwestiynau am yr astudiaeth, arbed amser, ac osgoi bod yn rhy ffurfiol. Wrth gwrs, credwn hefyd fod gan y siaradwyr yr hawl i wrthod cymryd rhan, ac felly yr oedd ganddynt y cyfle i wneud hynny dros y ffôn os dymunent.
Trefnwyd y cyfweliad cyntaf gyda cheidwad Pobl y Pethau, a dibynnais ar yr effaith gaseg eira (snowball effect) er mwyn ychwanegu at y sampl (gweler Schensul et al. 1999: 269; Shaffir 1998: 51 am ddefnyddio’r dull hwn o gysylltu â phobl). Trwy ofyn i’r ceidwad awgrymu enwau pobl eraill, llwyddais i gael cyfeiriadau a rhifau ffôn dwy wraig arall. Fe’u ffoniais gan fy nghyflwyno fy hunan, crybwyll enw’r ceidwad, a dweud ei bod wedi awgrymu fy mod yn siarad â hwy. Yn dilyn awgrym Johnson (1975: 65), a ddyfynnwyd uchod, i fanteisio ar barchusrwydd academaidd er mwyn sefydlu hygrededd a chyfrifoldeb, esboniais fy mod yn fyfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a’m bod yn gwneud ymchwil i’r iaith Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog. Esboniwyd yn ogystal yr hoffwn gael recordio’r cyfweliadau er mwyn arbed amser a sicrhau cywirdeb yr wybodaeth a gesglid (cymharer Ives 1980: 42-44). Dilynwyd yr un patrwm ar gyfer pob siaradwr. Ar ôl recordio’r ddwy wraig a enwyd gan y ceidwad, gofynnais iddynt am enwau pobl eraill, a thyfodd y sampl yn gyflym. Ar ôl darllen am lwyddiant sawl astudiaeth a ddefnyddiodd y dull ‘cyfaill i gyfaill’ a sampl caseg eira (er enghraifft yr astudiaethau a drafodwyd yn 2.2.4 ac astudiaeth Shaffir 1998), ni chredwn ar y dechrau y byddai llawer o bobl yn gwrthod cymryd rhan. At hynny, yr oeddwn yn hyderus y byddai enwi’r bobl a awgrymodd y siaradwyr posibl yn llwybr imi sefydlu perthynas a hygrededd â hwy o’r dechrau cyntaf, yn enwedig pan oedd gan y siaradwyr a enwodd y bobl eraill elfen o barchusrwydd a bri yn y Blaenau:

Usually, when someone who is well thought of in the community introduces the researcher, only a limited cover story is necessary. This is because in most communities, relationships are based on trust. Introduction by a trusted acquaintance or friend is an endorsement of the person.

(Schensul, et al. 1999: 88)

Gan fod y ceidwad i Bobl y Pethau yn aelod o sawl cymdeithas diwylliannol yn y dref a’r sir ac wedi bod yn llywydd ar rai ohonynt, tybiwn y byddai’r bobl yr ochr draw i’r ffôn yn fwy parod i gymryd rhan ar ôl imi grybwyll ei henw. Llwyddodd y dacteg hon i ennyn diddordeb pobl eraill ac yr oedd gan siaradwyr eraill y garfan hon ddigon o fri yn y gymuned imi allu defnyddio eu henwau hwythau yn yr un modd er mwyn sicrhau cydweithrediad siaradwyr eraill.

Ond sôn am Bobl y Pethau yr wyf yma ac nid am Bobl y Dafarn. Wrth feddwl am statws y ceidwad, dechreuais boeni am Bobl y Dafarn. O ble y daw’r parch os nad o berthyn i gymdeithasau a sefydliadau parchus? Ar ôl cysylltu â siaradwyr, ac wrth sgwrsio â hwy am amrywiaeth o destunau, nodais o leiaf bedair rhinwedd sy’n arwyddo Pobl y Dafarn:

1. y gallu i gynnal sgwrs ddiddorol
2. y parodrwydd i drin pobl eraill â pharch
3. y dymuniad i gyfrannu at achosion da
4. y gallu i fod yn hael

Er nad oeddwn yn gwybod yn iawn ar y pryd fod gan geidwad Pobl y Dafarn y rhinweddau hyn i gyd, yr oedd yn amlwg ei fod yn ennyn parch gan y rhan fwyaf o bobl y garfan hon. Chwarelwr 51 oed yw’r ceidwad hwn, ac y mae’n mynd i dafarndai’r dref bron pob nos i gymdeithasu. Gyda’i synnwyr digrifwch a’i natur gyfeillgar a diffuant, y mae’n boblogaidd dros ben gyda’r rhan fwyaf o drigolion y dref. Yn ystod y gwaith maes, trefnwyd taith seiclo gan elusen gancr ym Mhorthmadog, a chymhellodd ef nifer fawr o bobl i gymryd rhan. Cefais dri enw gan geidwad Pobl y Dafarn a dilynais yr un fethodoleg wrth gysylltu â phobl eraill yn y garfan gyda’r un hyder yng ngallu’r dull i argyhoeddi pobl eraill i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Efallai fy mod braidd yn ddiniwed wrth bwyso cymaint ar barch enwau pobl, ond llwyddodd y dacteg hon i ennyn diddordeb ac i argyhoeddi pobl i gymryd rhan yn yr astudiaeth. Teimlwn yn ffodus iawn wrth gysylltu â siaradwyr oherwydd, yn wahanol i’r astudiaethau a grybwyllwyd uchod, ni chefais fy ngwrthod ond gan un person. Ffermwr oedd hwn ac yr oedd arno ofyn i rywun ddod i’r tŷ oherwydd clwyf y traed a’r genau. Efallai mai esgus oedd hynny, ond ni allaf feddwl am esgus gwell!

Dewisais y ceidwaid hyn oherwydd eu hamlygrwydd ymhlith y ddwy garfan ym Mlaenau Ffestiniog. Nid wyf yn awgrymu mai dim ond dwy garfan o bobl sy’n bodoli yn y dref, ond y ddwy garfan hyn oedd y rhai amlycaf yn y dref. Y mae Emmett (1978b), fodd bynnag, yn trafod sawl grŵp cymdeithasol yn y dref yn y chwedegau. Yr oedd gennyf ddiddordeb yn y gwahaniaeth ieithyddol rhwng pobl y ddwy garfan hon, felly canolbwyntiais ar ddod o hyd i bobl amlwg yn y ddau grŵp er mwyn cael mynediad i’r grwpiau hyn. Fel yr awgryma Dimmendaal (2001: 61) wrth sôn am ddarganfod siaradwyr da:

What makes a good informant, and how do we select the person? The role I advocate is that of a co-investigator or colleague with intellectual curiosity, who not only speaks the language one intends to investigate, but also has intuitions about its structure and enjoys talking about it. I strongly subscribe to Pike’s perception of the native speaker as a person who is an observer of items and a talker about items (Pike 1981: 86). Interestingly, members of a speech community often are able to identify “good speakers” and they can direct the investigator towards such people. Preferably, one looks for someone of good social standing in the community, but of course one can’t always know in advance; sometimes one only finds out by trial and error.

Yr oedd gan y ddau geidwad ddiddordeb mawr yn y Gymraeg – ei defnydd a’i dyfodol – ac yr oeddent yn ymwybodol iawn o berthnasau yn y dref rhwng y trigolion Cymraeg a’r newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg, effaith y mewnfudo ar iaith y plant ysgol, hanes y dref a’r diwydiant llechi, a rôl y capeli fel cadarnleoedd y Gymraeg. Cyfarfûm â cheidwad Pobl y Pethau drwy gyfaill a fagwyd yn y dref, a thrwy hap a damwain y deuthum o hyd i geidwad Pobl y Dafarn (fel yr esboniwyd yn 2.2.7). Er bod y ddau’n siaradwyr da ac yn adnabod siaradwyr da eraill, ni chefais ond pum enw arall ganddynt. Er hynny, yr oedd y pump hyn yn awyddus iawn i gyfrannu at yr astudiaeth ac yn barod i gynnig rhestri eraill o enwau a rhifau ffôn. Tyfodd y sampl yn gyflym wrth i’r siaradwyr awgrymu enwau eraill ac nid oedd problem gyda’r dull caseg eira ar ôl imi gael yr enwau cyntaf.

Cyn imi wneud y cyfweliadau, gofynnais i’r rhai a enwodd bobl eraill am gefndiroedd y siaradwyr megis lle y’u magwyd, eu hoedran, eu swyddi, a’u cysylltiadau â chymdeithasau a grwpiau eraill yn y gymuned. Gwnaethpwyd hyn er mwyn sicrhau eu haddasrwydd ar gyfer yr astudiaeth ac i osgoi gorlenwi rhai celloedd oedrannol a chymdeithasol y sampl. Ar sail yr wybodaeth hon, gwrthodais rai o’r enwau a restrwyd am nad oedd y siaradwyr yn addas. Er fy mod wedi cael gwybodaeth anghywir ynglŷn ag oedran dau berson, digwyddodd hyn yn gynnar yn ystod y gwaith maes ac yr oeddwn yn fwy gofalus wrth i’r celloedd lenwi.

Cefais argraff eithaf da o gyfansoddiad a rhwydwaith y ddwy garfan gan y siaradwyr cyntaf hyn, ac wrth gwrs tyfodd fy nealltwriaeth wrth imi fynd ymlaen i siarad â phobl eraill yn y ddwy garfan. Teimlaf yn ffodus iawn fy mod wedi dewis y ddau geidwad a’u bod hwythau wedi enwi pobl allweddol i gynrychioli eu grwpiau priodol. Cyfeiria Schensul, et al. (1999: 85-86) at bwysigrwydd siaradwyr allweddol gan ddweud:

Key informants come from different sectors and have knowledge specific to cultural domains of interest to researchers. They are selected because of their ability to provide exploratory information and because they can connect researchers to other possible key informants and sources of information.

Gan fy mod yn dibynnu ar y dull ‘cyfaill i gyfaill’ er mwyn dod o hyd i siaradwyr addas, yr oedd yn hanfodol bod gan y siaradwyr allweddol wybodaeth nid yn unig o’r gwahanol garfanau yn y dref, ond hefyd wybodaeth o gefndiroedd y siaradwyr. Yr oedd yr wybodaeth hon gan y ceidwaid a’r siaradwyr a restrwyd ganddynt. Fel y gwelsom, llwyddodd y dacteg hon i ennyn diddordeb pobl y gwahanol grwpiau ac yr oedd yn llwybr imi ddod o hyd i siaradwyr addas er mwyn llenwi celloedd y sampl.

Sylweddolais cyn imi ddechrau’r gwaith maes y gallai trefniant y cyfweld achosi problemau pe bai unrhyw ddrwgdeimlad rhwng y ddau grŵp. Tybiwn y byddai’n ddoeth ystyried rhybudd Hammersley ac Atkinson (1995: 111) ynglŷn â’r anhawster hwn:

One may be identified with particular groups or individuals so that one’s social mobility in the field and relationships with others become impaired. More subtle, perhaps, is the danger of identifying with such members’ perspectives, and hence of failing to treat these as problematic.

Nid oeddwn am gael fy nghysylltu â’r naill grŵp neu’r llall os oedd drwgdybiaeth rhyngddynt, ond sut y gallwn oresgyn y posibilrwydd hwn wrth imi gysylltu â phobl a chymdeithasu â hwy? Awgryma Schensul, et al. (1999: 88):

To maintain a neutral position in the community, researchers should make sure that representatives from more than one sector of the community introduce them. In this way, researchers can avoid being identified with any single faction.

Er y gallai cael fy nghyflwyno gan wahanol siaradwyr o’r ddwy garfan fod yn ddull llwyddiannus mewn astudiaeth ethnograffig draddodiadol, teimlwn fod hynny’n mynd yn hollol groes i ddibenion yr astudiaeth bresennol. Gan fy mod yn dymuno amlygu gwahaniaethau cymdeithasol ac ieithyddol y ddwy garfan a’m bod yn dibynnu ar y dull ‘cyfaill i gyfaill’ i ddod o hyd i siaradwyr a sefydlu ymddiriedaeth, byddai crybwyll enwau o bobl a chanddynt ddull o fyw a diddordebau hollol wahanol wedi achosi cryn benbleth i’r siaradwyr. Er mwyn cadw safiad amhleidiol, felly, penderfynais gyfweld Pobl y Pethau yn gyntaf. Euthum i gyfarfodydd, i’r capeli, ac ambell ddigwyddiad cymdeithasol arall, ond gofelais rhag mynd i’r tafarndai ac i bartïon hyd yr oeddwn bron â chwblhau cyfweliadau Pobl y Pethau. Teimlwn y byddai cadw fy mhen dan y pared yn ystod y rhan gyntaf o’r gwaith maes yn syniad da, ond yn y diwedd sylweddolais nad oedd yn rhaid imi fod mor dawedog yn y dechrau. Ar ôl imi esbonio wrth y ddwy garfan fy mod am gyfweld gwahanol fathau o bobl gyda gwahanol fathau o safbwyntiau a phrofiadau er mwyn cael dealltwriaeth gyflawnach o’r defnydd o’r iaith a bywyd yn y dref, ni chefais fawr o broblem esbonio fy symudiadau a’m cysylltiadau.

Cyfwelais 62 o bobl. Dengys Tabl 5.1 niferoedd y siaradwyr a gyfwelwyd, eu hoedrannau, a’u grwpiau cymdeithasol. Byddai’r sampl ddelfrydol wedi cynnwys pedwar siaradwr ym mhob cell, ond fel y gwelir, ni lwyddais i ddod o hyd i ddigon o

 

Tabl 5.1: Nifer y Siaradwyr a Gyfwelwyd yng Nghelloedd y Sampl Dynol

 

POBL Y PETHAU

POBL Y DAFARN

GWRYW

BENYW

GWRYW

BENYW

-30

2

4

4

4

31-50

4

4

4

4

51-70

4

4

4

4

71+

4

4

4

4


ddynion ifanc yng ngharfan Pobl y Pethau (cymharer â’r problemau cyffelyb a godwyd yn astudiaeth Treffers-Daller (1994: 34) wrth iddi geisio dod o hyd i ddynion ifainc, addysgedig). Ni theimlaf mai methiant yn y fethodoleg a oedd yn gyfrifol am beidio â dod o hyd i siaradwyr addas ar gyfer y grŵp hwn. Esboniwyd wrthyf gan sawl person fod y dynion ifainc addysgedig yn tueddu i symud i ffwrdd yn niffyg y nifer a’r math o swyddi yn yr ardal. Ar ben hynny, awgrymwyd bod mwy o gyfleoedd i ennill cyflogau gwell mewn mannau eraill a defnyddio’r sgiliau a’r hyfforddiant a gafodd y bobl ifanc hyn yn ystod eu blynyddoedd yn y colegau a’r prifysgolion (cyfeiriwyd at effaith yr allfudo hwn yn 3.6 uchod). Ys dywed un siaradwr:

Dwi’n meddwl i ryw radda’ ma’ be’ sy’ ’di digwydd yn Stiniog ydy ma’ goreuon, ein pobol ifanc ni’n mynd o ’ma, ’sti. Dyn ni’n colli bobol y pethe o ’ma… Ma’ hwnnw ydy’r bwgan mwya s’gynnon ni, colli’r ifanc ’ma… (oherwydd) s’dim gwaith!
(GP71)

Adleisiwyd yr un teimlad gan nifer o siaradwyr. A dweud y gwir, wrth imi ddod i ben â’r gwaith maes, nid oedd ond un dyn o dan 30 oed yng Ngharfan y Pethau gennyf ar dâp. Bron imi roi’r gorau i geisio dod o hyd i rai eraill, ond ffoniais sawl person yn y garfan hon unwaith eto i esbonio’r broblem ac ymhen pythefnos cefais enw a rhif ffôn gŵr ifanc a oedd i ffwrdd ar ei wyliau ar y cyfandir dros yr haf. Erbyn imi ei ffonio, yr oedd yn disgwyl clywed oddi wrthyf ac yn barod i drefnu’r cyfweliad.

5.3 Fy Nghyflwyno fy Hunan
Ar ôl ffonio’r bobl ar y rhestri a chael caniatâd i’w cyfweld, cefais fy synnu sawl gwaith wrth imi ofyn am gyfarwyddiadau a threfnu amser y cyfweliad. Yn aml iawn, yr oedd ateb i’r cais am yr wybodaeth hon yn gwestiwn: ‘Wel lle ’dach chi rŵan, ’te?’ Gan amlaf, defnyddiais giosg ffôn cyhoeddus ar y sgwâr yng nghanol y dref er mwyn cysylltu â’r siaradwyr. Ar ôl esbonio fy mod yn y dref yn barod, awgrymodd un ar ddeg o bobl fy mod yn dod i’r tŷ ar unwaith! Am wahanol resymau, gan gynnwys tywydd garw, cyfarwyddiadau cymhleth, pellter, a’r drafferth gyda phrinder arwyddion y strydoedd, cynigiodd saith ohonynt ddod i’m nôl yn y car. Cefais lifft gan sawl person arall yn ôl i’r tŷ lle’r oeddwn yn aros a hyd yn oed o un cyfweliad i’r llall ambell waith. Meddyliais sawl gwaith, ‘Ble yn y byd mawr crwn y gallaf ddod o hyd i bobl cyn garediced â phobl Stiniog?’

Cefais groeso mawr hefyd yn nhai’r siaradwyr. Fel yr esboniwyd yn barod, yr oedd rhaid imi gnocio ar ddrws un dyn heb rybudd. Nid oeddwn am wneud hynny, ond heb rif ei ffôn symudol, nid oedd gennyf ddewis. Fe’i canmolwyd gan Bobl y Pethau a rhai o Bobl y Dafarn, ac yr oeddent, bron pob un ohonynt, yn mynnu y byddwn yn sicr o gael cyfweliad go ddiddorol. Atebodd dyn sionc yn ei wythdegau’r drws yn syth a bron cyn imi orffen esbonio fy mod yn fyfyriwr ymchwil, mynnodd fy mod yn eistedd wrth y bwrdd yn y gegin i gael cwpanaid o de a bisgedi. Treuliais ddwy awr yn sgwrsio a chwerthin â’r hen chwarelwr. Trefnwyd imi ddod yn ôl y diwrnod wedyn. Pan gyrhaeddais ei dŷ unwaith eto ar yr amser a gytunwyd, dechreuodd y dyn ymddiheuro ac yr oedd yn amlwg ei fod yn teimlo’n ofnadwy iawn oherwydd anghofiodd ei fod yn cael torri ei wallt ymhen awr. Awgrymodd ein bod yn dechrau’r cyfweliad nes iddo orfod mynd gan ddweud bod croeso imi aros amdano yn ei dŷ tra oedd i ffwrdd. Fel rhywun hollol ddieithr iddo’r diwrnod cynt, anodd oedd credu bod y dyn yma yn ymddiried ynof ar ôl dim ond ychydig oriau o siarad mân. Er imi esbonio nad oeddwn yn teimlo’n gysurus yn disgwyl amdano yn y tŷ ar fy mhen fy hun, mynnodd fy mod yn aros wrth iddo wneud te ffres a chasglu pentwr o lyfrau a chylchgronau i’m difyrru am ryw hanner awr. Aethom drwy’r holiadur geirfaol cyn iddo fynd a gorffennwyd y cyfweliad wedyn. Unwaith eto, meddyliais ‘Ble arall?’

Nid diben y drafodaeth hon yw dangos un enghraifft arbennig o un person caredig ac ymddiriedus, ond yn hytrach amlygu’r ffaith mai’r math hwn o groeso a derbyniad oedd y peth arferol ymysg pobl y ddwy garfan. Pan ddechreuais ar y gwaith maes, nid oedd neb ond ceidwaid y ddwy garfan a dyrnaid o Bobl y Dafarn wedi cyfarfod â mi o’r blaen. Wrth adolygu’r llenyddiaeth ethnograffig am gael mynediad i gymunedau, rhaid cyfaddef nad oeddwn yn hyderus iawn yn fy ngalluoedd i ennyn cydweithrediad ac ymddiriedaeth y trigolion. Yr oedd gennyf amheuon ynglŷn â dechrau a chynnal sgwrs, yn ogystal ag am fy ngallu i adeiladu perthnasau proffesiynol yn y maes. Yn ôl y llenyddiaeth, y mae llwyddiant yn ystod y gwaith maes yn dibynnu yn drwm ar sgiliau rhyngbersonol yr ymchwilydd:
Interviewing informants depends on a cluster of interpersonal skills. These include: asking questions, listening instead of talking, taking a passive rather than an assertive role, expressing verbal interest in the other person, and showing interest by eye contact and other nonverbal means. (Spradley 1979: 46; gweler hefyd Hammersley ac Atkinson 1995: Pennod 4).

Y mae’r sgiliau hyn yn bwysig nid yn unig i gael mynediad i’r gymuned, ond hefyd er mwyn sefydlu cysylltiadau a pherthnasau â siaradwyr:

Another unique feature of ethnographic entry is the fact that ethnographers generally bring with them few inducements for local people to cooperate with them other than the opportunity to build a trusting relationship and talk about topics of mutual interest. This process of establishing personal relationships in the field built upon trust is referred to as building rapport. Good ethnographers build relationships easily. Although sensitive to their surroundings, they have few reservations about asking questions that enable them to learn new things. (Schensul, et al. 1999: 74)

Er fy amheuon ynglŷn â’m galluoedd yn y cyfeiriad hwn, nid oedd yn anodd imi adeiladu perthnasau â thrigolion y dref. Nid yn unig yr oeddent bron i gyd yn groesawgar dros ben, ond yr oeddent hefyd yn ymddiried ynof yn ddisymwth (am wahanol resymau, fe’m gadawyd mewn tŷ ar fy mhen fy hun gan sawl person o’r ddwy garfan). Efallai mai un o’r pethau a’m cynorthwyodd i gael fy nerbyn a chael mynediad didrafferth oedd fy mod wedi penderfynu dod o hyd i wybodaeth am ddiddordebau neu gysylltiadau’r siaradwyr cyn eu cyfweld. Gwnaethpwyd hyn mewn ymgais i leddfu unrhyw deimladau o anghysur a oedd gan y siaradwyr – teimladau a all godi mewn sefyllfa wneud fel cyfweliad. Canfod tir cyffredin a sicrhau bod y siaradwyr yn addas oedd bwriadau ychwanegol y dacteg hon a gweithiodd yn wyrthiol. Gyda’r rhan fwyaf o’r siaradwyr, cefais ymddiddan go hir a hamddenol cyn eu recordio ac ar ôl hynny. Gan eu bod wedi gwirfoddoli eu hamser a’u cydweithrediad, teimlwn fod ganddynt hwythau hawl i’m hamser innau.

Fel yr awgrymwyd yn y dyfyniad uchod, nid oes gan yr ymchwilydd lawer o gymhellion i ddenu siaradwyr i gymryd rhan yn yr astudiaeth, ac y mae Schensul et al. (1999: 74-75) yn mynd ymlaen i gyfeirio at bwysigrwydd cydgyfnewid rhwng yr ymchwilydd a’r siaradwr:
All ethnographers should understand the importance of reciprocity in building relationships. Thus they may share their time, transportation, knowledge, relationships with service providers, or other resources valuable to research participants and communities. For the most part, however, when ethnographers enter the field, they do so armed only with their social skills, their intellectual persistence, commitment to the research topic, and personal good will.

Er nad oedd fy sefyllfa i’n wahanol i eiddo’r llu ymchwilwyr o’m blaen o ran y cymhellion i ddenu siaradwyr, teimlwn fy mod yn hynod o ffodus o ran fy mhrofiad gyda’r trigolion. Heb arfau ond y rhai y cyfeiriwyd atynt gan Schensul et al., dibynnwn ar ddod o hyd i dir cyffredin â’r siaradwyr er mwyn torri’r garw ac adeiladu cydberthynas. Gwneuthum ymdrech i sefydlu perthynas â’r siaradwyr ar sail cyfnewid gwasanaethau, a’r unig wasanaeth a gynigwyd gennyf oedd cwmni. Nid oedd problem gennyf adeiladu perthynas gydweithredol â phobl oedrannus er gwaethaf y gwahaniaethau cymdeithasol rhyngom. Credaf fod Ives (1980: 41) yn llygad ei le wrth sôn am y prif reswm dros hyn:
It is difficult, sometimes, for a younger person to imagine the loneliness of old age and the release from it a series of interviews – meaning a series of visits – may represent. For some informants, the most important aspect of the interview is companionship, the simple joy of sharing a common space with another human being even for a little while.

Nid oedd yn rhaid imi ymweld â siaradwyr fwy nag unwaith er mwyn cwblhau’r cyfweliad ond mewn dau achos. Gwnaethpwyd hyn pan aeth amser yn brin, ac yn y ddau achos hynny, y rheswm am y prinder o amser oedd y siarad mân. Er hynny, gallai cynnig gwasanaethau fel ychydig bach o gwmnïaeth a sgwrs hamddenol a chyfeillgar gan yr ymchwilydd fod yn union beth yr oedd ei angen ar y siaradwr.

Sawl gwaith yn ystod y gwaith maes, cefais yr argraff fod hynny’n wir, ac ys dywed un siaradwr ar ôl imi ddiolch iddi ar ddiwedd y cyfweliad:
Iawn. Dim yn amal iawn dwi’n ca’l cyfle i siarad amdana fi fy hun. Wedi bod yn reit neis (chwerthin). (BP51)

Er nad yw’r siaradwr hwn yn oedrannus, adleisiodd werth cyfnewid gwasanaethau gan gyfeirio ato mewn ffordd gellweirus. Yn gyfnewid am y gwasanaethau hyn, gallai rhai pobl fod yn fwy na pharod i gynnig cydweithrediad, amser a gwybodaeth.
Cafodd A. E. Thomas (1997: 94) brofiad tebyg wrth gyfweld pobl oedrannus yn ei hastudiaeth ym Mhont-rhyd-y-fen, ond ni chafodd ei hymdrechion i argyhoeddi dynion ifanc ymateb mor llwyddiannus.

Awgrymwyd eisoes yn 5.2 uchod y gall llu o briodoleddau, y rhai a dadogwyd a’r rhai a enillwyd fel ei gilydd, fod yn feini tramgwydd i lwyddiant yr ymchwilydd i gael mynediad i’r gymuned. Er y rhwystrau hyn, cymharol hawdd oedd sefydlu perthynas gydweithredol rhyngof a gwahanol grwpiau yn y ddwy garfan yn y Blaenau. Dichon fod trigolion y dref yn anghyffredin o gyfeillgar a chroesawgar, ond cymerais gamau gofalus i sicrhau fy mod yn ymddangos mor naturiol a di-hid â phosibl mewn ymgais i sicrhau bod y siaradwyr yn teimlo mor gysurus â phosibl. Gwnaethpwyd hyn drwy gynnig sgwrsio’n rhydd ac yn hamddenol cyn dechrau’r recordio. Cyfeiria Hammersley ac Atkinson (1995: 89) at hyn gan ddweud:

The value of pure sociability should not be underestimated as a means of building trust. Indeed, the researcher must often try to find ways in which ‘normal’ social intercourse can be established. This requires finding some neutral ground with participants where mundane small-talk can take place. It may be very threatening to hosts if one pumps them constantly about matters relating directly to research interests. Especially in the early days of field negotiations it may be advantageous to find more ‘ordinary’ topics of conversation, with a view to establishing one’s identity as a ‘normal’, ‘regular’, ‘decent’ person.

Llwyddais i adeiladu perthynas gyfeillgar drwy geisio bod yn gymdeithasol a thrwy gynnig normaleiddio’r holl broses o gysylltu, fy nghyflwyno fy hunan, a chyfweld. Fel arfer, nid oedd gennyf amser i dreulio dyddiau yn sefydlu’r perthnasau hyn, felly yr oedd pwysau arnaf i greu’r argraff orau y tro cyntaf.

Er hynny, nid oedd fy nghynnig cyntaf ar dorri’r garw yn llwyddiannus ym mhob achos. Rhaid cyfaddef nad oeddwn yn teimlo’n hollol gyfforddus â’m rôl yn ymchwilydd ac yn ddieithryn, hyd yn oed gyda’r croeso cynnes a dderbyniais gan y rhan fwyaf o’r trigolion:
Fieldwork is simultaneously a professional and personal experience, which of course is the source of much of the tension it engenders. To my thinking, fieldwork is inherently stressful. Work undertaken in a strange setting depends on the goodwill of people whose traditions you’re not fully familiar with and whose values you’ll probably never completely fathom; and sooner or later (or more likely both) you’re bound to offend against local norms.
(Dorian 2001: 148)

Ar y lefel broffesiynol, cyfyngedig oedd fy mhrofiad o gynnal cyfweliadau a chyflawni gwaith maes. Ar wahân i’r astudiaeth ragarweiniol, prin y gwyddwn beth i’w ddisgwyl. Er nad awgrymaf fod y sefyllfa hon yn unigryw ymysg ymchwilwyr newydd, nid yw sylweddoli hyn yn llawer o gysur i’r unigolyn yn y maes am y tro cyntaf ychwaith. Crybwyllwyd eisoes fy amheuon ynglŷn â lefel bersonol y gwaith maes (2.2.7). Er hynny, yn lle cyfarfod â’r siaradwyr a cheisio creu argraff ffafriol arnynt, darganfûm mai’r rhan anhawsaf oedd cysylltu â hwy am y tro cyntaf a gofyn am eu cymorth. Dim ond gydag ychydig iawn o bobl y bu’n rhaid imi geisio eu hargyhoeddi bod ganddynt yr wybodaeth y chwiliwn amdani, ond digon naturiol oedd y teimlad annifyr o ymyrryd ym mywydau pobl hollol ddieithr. Er na chefais ddim ond un dyn yn gwrthod yn llwyr, ni ddiflannodd yr anghysur wrth gysylltu am y tro cyntaf.

Er bod Dorian (2001: 148) yn awgrymu bod yr ymchwilydd mewn cymuned ddieithr yn ‘bound to offend against local norms’ yn y dyfyniad uchod, ni chefais argraff amlwg o dramgwydd o’r fath. Ar ôl dweud hynny, cafodd fy ymgais i sgwrsio’n rhydd ei chamddeall ddwywaith nes i rywun arall roi gair drosof yn y lle cyntaf ac nes imi lwyddo i gael cyfle i warantu fy nghymwysterau a’m hewyllys da y tro arall. Yn ôl Hammersley ac Atkinson (1995: 78):

From a variety of contexts researchers report hosts’ suspicions and expectations often proving barriers to access. Such suspicions may be fuelled by the very activities of the fieldworker.

Yn y ddau achos arbennig hyn, arnaf i yr oedd y bai gan fod fy nghwestiynau’n codi gwrychyn y ddau berson. Y tro cyntaf, fe’m cyflwynais fy hunan mewn tafarn i rywun yr oeddwn wedi bod yn ceisio cael gafael ynddo dros y ffôn ond heb fod yn llwyddiannus. Yr oedd gennyf ddisgrifiad o’r dyn a’r adegau yr oedd yn debygol o fod yn y dafarn benodol, ac felly yr oeddwn yn eithaf sicr mai ef oedd yr un yr oeddwn yn chwilio amdano. Ar ôl esbonio fy musnes yn y Blaenau a dweud bod cyfeillion iddo wedi awgrymu fy mod yn siarad ag ef, cawsom sgwrs gyfeillgar am ryw chwarter awr nes i’r ferch y tu ôl i’r bar alw am yr archebion olaf. Yr oedd hi’n dri o’r gloch yn y prynhawn, ac nid oeddwn yn gyfarwydd â’r arfer o gau tafarndai am ddwy awr yn y prynhawn. Gofynnais i’r dyn, felly, pam yr oedd y dafarn yn cau mor gynnar. Gofynnais yn ogystal a oedd y dyn yn arfer mynd i rywle arall ar ôl i’r dafarn gau. Cwestiynau diniwed oeddent i mi, ond daeth yn amlwg iawn eu bod wedi codi amheuon ynddo. ‘Pam? Plisman wyt ti, neu be’? Ti’m yn yfed so ma’ rhaid bo’ ti’n blisman!’ oedd ei ymateb. Treuliais y chwarter awr nesaf yn ceisio ei argyhoeddi nad oeddwn yn ‘blisman’, ond ni lwyddais nes imi ei weld eto yng nghwmni’r cyfeillion a awgrymodd ei enw yn y lle cyntaf. Yr oedd yn fodlon siarad â mi ar ôl iddynt dystio o’m plaid.

Y tro arall, cyfarfûm â siaradwr mewn tafarn ar ôl cael tipyn o’i hanes gan ei gyfaill. Yr oedd yn eithaf adnabyddus ei fod yn ychwanegu at ei gyflog drwy wneud a gwerthu brandi, ond pan godais y pwnc mewn ymgais i ddechrau sgwrs gyfeillgar gan esgus fy mod wedi bragu cwrw i mi fy hunan yn y gorffennol, aeth yn fud. Parhaodd yr oerni hwn rhyngom am sawl awr wedyn. Ymunodd pobl eraill â ni wrth y bwrdd. Ar ôl iddo fy ngweld yn sgwrsio’n rhydd â rhai o’r bobl hyn a oedd wedi cael eu cyfweld gennyf, ac ar ôl i rywun arall rolio ‘joint’ a’i ysmygu wrth y bwrdd, cyfaddefodd y dyn a oedd yn gwneud brandi cartref ei fod yn poeni mai heddwas oeddwn. Gydag ychydig bach o anogaeth gan y bobl eraill, cytunodd i gael ei gyfweld.

Sylweddolais mai rhan o’r broblem oedd fy mod yn ymddangos yn fusneslyd a bod fy nghwestiynau’n rhy bersonol. Rhan arall o’r broblem oedd fy mod yn ddieithryn i’r gymuned a bod fy rôl fel ymchwilydd yn peri i rai pobl amau fy mhresenoldeb a’r esboniad o’m gwaith:

Ethnographic researchers hold an identity that is never fully coterminous with the individuals who are members of the community or research setting in question. Whether or not researchers view themselves as holding membership in the community of study, they are always marginal to some degree while they are conducting research. The process of ethnographic research demands that the researcher learn how it is to “not be me” in a physical setting that is “not mine” with rules and guidelines for verbal and physical behaviour that “I do not know” and may understand only in a limited way.
(Schensul, et al. 1999: 71)

Gan fod pobl o’r ddwy garfan yn gwneud imi deimlo’n eithaf cartrefol wrth gymdeithasu â hwy, anodd oedd cofio weithiau nad oeddwn yn ‘un ohonynt’ mewn gwirionedd. Dysgodd y ddau brofiad pan gafodd fy ymgais i sgwrsio’n rhydd ei chamddeall imi fod fy statws fel ymchwilydd yn y gymuned yn fy ngosod ar wahân. Er mai dim ond dwy enghraifft o dros chwedeg oedd y rhain, diddorol oedd sylwi bod y ddau siaradwr hyn yn perthyn i Bobl y Dafarn. Fel yr awgrymwyd gan Hammersley ac Atkinson (1995: 80), gall ymateb pobl i’r ymchwilydd yn y maes amrywio o un garfan i’r llall:

Like gatekeepers and sponsors, people in the field will seek to place or locate the ethnographer within their experience. This is necessary, of course, for them to know how to deal with him or her. Some individuals and groups have little or no knowledge of social research; and, partly as a result, field researchers are frequently suspected, initially at least, of being spies, tax inspectors, missionaries, etc.

Yr oedd yn eithaf amlwg bod gan rai pobl lai o wybodaeth a phrofiad o’r byd academaidd ac ymchwil, ac efallai i hyn chwarae rhan mewn codi’r amheuon a fynegwyd gan y ddau ddyn yn y dafarn. Lleisiodd sawl person o garfan y Dafarn eu hanghrediniaeth bod rhywun am wneud ymchwil ym Mlaenau Ffestiniog drwy ofyn cwestiynau fel ‘Pam Stiniog?’ a ‘Pam ein hiaith ni?’ Ni ofynnwyd cwestiynau cyffelyb gan Bobl y Pethau. Yr oedd Pobl y Dafarn yn fwy tebygol o fod yn llai hyderus o’u gallu i gyfathrebu yn Gymraeg, ac efallai mai’r meddwl isel hwn oedd wrth wraidd yr amharodrwydd i gredu bod gennyf ddiddordeb yn nhrigolion y dref a’u hiaith. Er hyn ei gyd, ni chredaf mai diffyg profiad o ymchwil neu feddwl isel o fedrau ieithyddol a oedd yn gyfrifol am yr amheuon a godwyd. Yn hytrach, natur sensitif fy nghwestiynau a’m hyfdra a achosodd i’r ddau amau fy mwriadau, ac nid unrhyw ddiffygion yn hunanhyder y siaradwyr. Ni chododd enghraifft arall o ansicrwydd ynglŷn â’m cymwysterau, a chan amlaf nid oedd angen ond eglurhad byr o fras amcan yr ymchwil er mwyn ennyn cydweithrediad y siaradwyr.

Cefais groeso hynod o gynnes gan drigolion Blaenau Ffestiniog. Pobl gyfeillgar a charedig oedd y siaradwyr a’u teuluoedd, ac yr oeddent yn barod i wneud popeth dan haul i’m cynorthwyo i gyflawni’r ymchwil a gwneud imi deimlo’n gartrefol. Cynigiodd un siaradwr o garfan y Pethau roi lifft imi pryd bynnag y byddai angen arnaf fynd rhywle yn y dref ac estynnodd wahoddiad imi i aros gydag ef a’i deulu unrhyw bryd. Gofynnodd siaradwr arall am gopi o’r traethawd ar ôl imi ei gwblhau. Cafodd y rhaglen ‘Pawb a’i Farn’ ei darlledu tua diwedd y gwaith maes, a sicrhawyd lle imi yn y gynulleidfa gan un o’r siaradwyr. Yn ystod y derbyniad cyn y rhaglen, cefais restr hir o enwau a rhifau ffôn Pobl y Pethau gan siaradwraig a gyfwelais yn gynt yr un diwrnod, ac at hynny fe’m cyflwynodd i’r bobl ar y rhestr. Er fy mod wedi llenwi’r rhan fwyaf o’r celloedd oedrannol ar gyfer Pobl y Pethau erbyn hynny, yr oeddwn yn ddiolchgar iawn am ei chymorth. Llanwyd bylchau’r celloedd â phobl o’r rhestr hon. Ar ben hyn i gyd, yr oedd nifer y gwahoddiadau i swper mor niferus nes bod rhaid imi fynd yn ôl i’r dref dim ond i dderbyn y gwahoddiadau hyn! Unwaith eto, ‘ble arall?’

5.4 Cyfweld
Codais bwnc recordio cyn gynted â phosibl wrth gysylltu â phobl a threfnu’r cyfweliadau dros y ffôn. Teimlwn mai gorau arf oedd gwirionedd ynglŷn â’r peiriant recordio gan fod rhai pobl yn llai parod i wisgo meic na phobl eraill. Penderfynais ddilyn cyngor Ives (1980: 42 - 43):

When should you bring up the business of the tape recorder? If you are reasonably certain that the prospect will respond positively to the idea, you can bring it up in your initial letter when you explain all about what you are doing. The great advantage of this method is getting everything out into the open to begin with, and I am coming more and more to believe that this is a good plan… If, however, your informant refuses to let you use the tape recorder, there is an alternative to calling the whole thing off. Make your appointment anyhow, and when you come to do the interview just start taking notes (bring the tape recorder with you in the car). At some point, after some desperate note-taking and a few yelps like ‘Hold it’ or ‘Would you repeat that again,’ request permission once more to use the tape recorder.

Ni wrthodwyd fy nghais i recordio ond gan un person, un o bobl y Pethau. Yr oedd y gwrthodiad hwn yn hollol annisgwyl gan fod y siaradwr hwn wedi ysgrifennu sawl llyfr ac wedi cael ei gyfweld sawl gwaith ar y teledu a’r radio. Er hynny, dilynais gyngor Ives a dod â’r meic a’r peiriant recordio gyda mi. Estynnais y ffolder a gynhwysai’r holiaduron ac esgus bod rhaid tynnu’r peiriant recordio o’r cwdyn hefyd er mwyn dod o hyd i’r ffolder. Gofynnais i’r siaradwr, ‘Dych chi’n siŵr bo’ chi ddim yn fodlon cael eich recordio? Dyma’r offer recordio’. Ar ôl i’r siaradwr weld pa mor fach oedd y meic, cytunodd ar unwaith i’w wisgo. Credai cyn hynny y byddai’n rhaid iddo eistedd ymlaen yn y gadair a phlygu drosodd i siarad i mewn i feic mawr ar ben stand yng nghanol yr ystafell. Llwyddais, felly, i’w argyhoeddi i gael ei recordio, a chefais gyfweliad go ddiddorol a defnyddiol.

Fel yr awgrymwyd eisoes, ceisiais ddechrau’r cyfweliad cyn recordio gyda sgwrs hamddenol pan fyddai’r amser yn caniatáu. Gwnaethpwyd hyn am ddau reswm: yn gyntaf er mwyn ceisio normaleiddio’r sefyllfa a gwneud i’r siaradwyr deimlo’n gyfforddus ac yn ail i ddangos iddynt fy mod yn deall eu Cymraeg yn iawn er mai dysgwr ydwyf. Yr oedd yn amlwg i’r siaradwyr fy mod wedi dysgu’r iaith a theimlwn y gallai hyn fod yn faen tramgwydd wrth imi gyflwyno’r holiaduron, yn enwedig yr holiadur geirfaol. Yr oedd yn bwysig nad oeddent yn symleiddio’r geiriau ar gyfer dysgwr, felly treuliais yr amser cyn y recordio’n ceisio eu hargyhoeddi fy mod yn eu deall yn ddidrafferth drwy gynnal sgwrs naturiol â hwy. Yr oeddwn yn ymwybodol o’m cefndir fel Americanwr yn ogystal. Gofynnodd sawl siaradwr nad oeddynt yn gwybod cyn iddynt gyfarfod â mi o ble y deuwn, ac yr oedd yr ateb yn peri syndod bob tro. Hefyd, yr oedd yn fy meddwl geiriau Janet Davies (1999: 86) am ymateb rhai o’r Cymry Cymraeg i ddysgwyr:

Over the centuries, many Welsh-speakers have taken perverse pride in their belief that their language could not be learned by those not brought up to speak it, and George Borrow noted in Wild Wales (1862) the suspicion with which adult learners of Welsh were regarded. Such notions lost ground in the second half of the twentieth century (although they did not vanish completely)…

Er fy mod yn teimlo bod y syniad hwn yn eithaf llym hyd yn oed gyda’r mynegiad amodol yn y diwedd, yr wyf wedi profi’r math o anghrediniaeth yn y gorffennol pan wrthododd pobl â siarad â mi am hydoedd am fy mod wedi dysgu’r Gymraeg. Esboniasant wedyn nad oeddent yn credu fy mod yn deall oherwydd nad oeddent wedi cyfarfod o’r blaen â dysgwr a oedd yn hollol gyfforddus yn sgwrsio yn yr iaith. Er hynny, yr oedd gennyf baradocs i’w wynebu wrth feddwl am eiriau Spradley (1979: 50-51) am ymchwilwyr o’r un cefndir diwylliannol â’r bobl dan sylw:

An informant from a familiar cultural scene creates problems for interviewing. At the same time you study an informant’s culture, your informant is gathering information about what you know. If informants believe your background has already taught you the answer to your own questions, they will feel you are asking dumb questions and that you may be trying to test them in some way. When informants believe you are really ignorant, that you don’t know anything about their way of life, these problems do not arise.

Sut yr oeddwn i fod i argyhoeddi’r siaradwyr fod fy nealltwriaeth a’m gallu o’r Gymraeg yn ddigon da iddynt beidio â symleiddio eu hiaith, ymddangos yn ddigon anwybodus o eiriau’r holiadur geirfaol, ac ar yr un pryd beidio â rhoi’r argraff mai prawf oedd y rhan hon o’r cyfweliad? Yr oedd y gorchwyl hwn yn anodd i’w gyflawni ar adegau oherwydd yr angen i sefydlu fy ngalluoedd ieithyddol er mwyn cael cyfweliad cymwys. Weithiau yr oedd yn bosibl cael cydbwysedd, droeon eraill tybiai’r siaradwyr fy mod yn gwybod yr ateb a bod y rhan hon yn brawf o ryw fath. Gwneuthum fy ngorau i leihau’r teimlad hwn. Sawl gwaith, gofynnodd siaradwr i mi beth oedd y gair yn Gymraeg, a chymerwn arnaf nad oeddwn yn gwybod gan esbonio nad oedd gennyf ddim ond y geiriau yn Saesneg ar yr holiadur a’m bod wedi clywed cymaint o wahanol eiriau am yr un gwrthrych nes ei bod yn anodd i mi gofio’r ‘gair iawn’. Er fy ymdrechion gorau, cyfaddefodd sawl siaradwr fod y rhan hon o’r cyfweliad yn teimlo fel prawf pan ofynnais am eu teimladau ar ôl inni orffen y rhan hon. ‘Faint o farcia’ dwi’n cael?’ gofynnodd un gŵr (GP56). Holais, ‘Oedd o’n teimlo fel prawf?’ ‘Ym…o…ychydig…ie,’ oedd ei ateb. Ar yr adegau hynny, ceisiwn leddfu unrhyw deimladau o anghysur gan ddweud bod y gweddill o’r cyfweliad yn gwestiynau syml a chyffredin iawn.

Cyflwynais yr holiaduron yn yr un modd ar gyfer pob cyfweliad. Y rhan gyntaf oedd yr holiadur geirfaol. Dechreuais gyda rhannau’r corff drwy gyfeirio atynt. Dangoswyd lluniau’r gwrthrychau wedyn. Pan na chynigiai’r siaradwr ateb yn syth, rhoddwn amser iddo feddwl. Gofynnwyd a oedd gan y siaradwr air neu eiriau eraill am yr eitemau a beth yr oedd pobl eraill ym Mlaenau Ffestiniog yn ei ddweud er mwyn ceisio cymell gwir wybodaeth y siaradwr am y geiriau, yn enwedig pan gynigiwyd y ffurf Saesneg ar y dechrau. Llwyddodd y dechneg hon i ysgogi sawl gair ar gyfer llawer o’r gwrthrychau, felly teimlwn yn eithaf hyderus fod y dull hwn yn effeithiol iawn.

Er llwyddiant y rhan hon o’r cyfweliad, yr oedd tair o’r eitemau’n broblemus. Wrth baratoi’r holiadur geirfaol, gofynnais i gyfaill a gafodd ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog am leoliad sawl adeilad er mwyn tynnu eu lluniau ar gyfer yr astudiaeth. Er ei gymorth a’i gyfarwyddiadau, nid amlygwyd y problemau tan ar ôl imi ddechrau’r gwaith maes. Yr oedd dau lun yn amheus iawn, sef y rhai ar gyfer (TOWN HALL) a (COMPREHENSIVE SCHOOL). Yn ystod ei hanes, bu llawer o wahanol bethau yn yr adeilad lle yr oedd neuadd y dref ym Mlaenau Ffestiniog: bu marchnad yno ar un adeg, dro arall ffatri ddillad, ac ar hyn o bryd y mae trafodaeth ynglŷn â dyfodol yr adeilad a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio. O ganlyniad, cymhellodd y llun hwn amrywiaeth o atebion, ac nid yw’r eitem hon yn ddilys. Y mae adeilad ysgol gyfun y dref wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer sawl math o ysgol yn ystod hanes y dref, ac o’r herwydd nid oedd y llun yn sbarduno atebion cyson. Yr oedd y trydydd llun yn broblemus oherwydd na lwyddais i ddod o hyd i lun addas ar gyfer (MUSEUM) neu lun a fyddai’n ysgogi’r gair yn syth. Cynigiodd y siaradwyr y geiriau arddangosfa, oriel, a canolfan celf oherwydd nid oedd yn ddigon eglur beth oedd y cysyniad pendant y chwilid amdano. Yn ystod bron pob un o’r cyfweliadau, yr oedd rhaid imi esbonio fy mod yn chwilio am y gair am ‘adeilad mawr gyda darluniau, cerfluniau, ac weithiau esgyrn deinosor ynddo’. Fel arfer, cefais yr ateb iawn yn y Gymraeg neu’r Saesneg ar ôl symbylu’r siaradwyr â’r esboniad hwn. Nid amlygwyd y problemau hyn yn ystod yr astudiaeth ragarweiniol oherwydd yr oedd rhaid newid rhai o’r lluniau am fod rhai o’r adeiladau yn Aberystwyth yn wahanol i’r adeiladau ym Mlaenau Ffestiniog wrth reswm. Oherwydd y problemau hyn, nid yw’r eitemau hyn yn ddilys. Nid oedd problemau gyda’r lluniau eraill.

Yr oedd ymateb y siaradwyr i’r rhan hon o’r cyfweliad yn amrywio’n sylweddol. Gyda rhai, nid oedd unrhyw oedi o gwbl ac aethom drwy’r lluniau’n gyflym. Droeon eraill, yr oedd rhaid i’r siaradwr feddwl am ychydig cyn ateb. ‘Ma’n dipyn o straen yn trio i feddwl am y geiria’’ (BD65), meddai un wraig. Gofynnais am ymateb y siaradwr i’r holiadur geirfaol bob tro ar ôl ei orffen mewn ymgais i leddfu unrhyw deimladau o annigonolrwydd oherwydd yr oedd yn amlwg weithiau bod sawl person yn teimlo’n anghyfforddus iawn wrth fynd drwy’r lluniau. Dywedodd un ferch fod ‘y peth yn iawn, heblaw mod i’n teimlo’n stupid’ (BD33). Ar adegau fel hyn, ceisiais argyhoeddi’r siaradwyr nad oeddent yn annigonol o gwbl, gallai’r rhan honno fod yn anodd, ac addewais fod gweddill y cyfweliad yn hawdd iawn. Nid oedd yn rhwydd gwneud i’r siaradwyr deimlo’n gyfforddus er fy ymdrechion i’w canmol gyda geiriau bach o anogaeth. Ys dywedodd un gŵr, ‘Rhyfedd fel ma’ rhywun yn mynd yn hollol blank, yndê?’ (GP63) Cafodd teimladau tebyg eu lleisio gan sawl siaradwr, ac yr oedd hynny’n dangos bod y sefyllfa’n peri cryn dipyn o nerfusrwydd ar brydiau. Cyfaddefodd sawl person fod yr holiadur geirfaol yn amlygu diffygion yn eu Cymraeg:

Ti’n gwbo’ be’? Sbia ar y llunia’ ’ma rwan a gweld petha’ – yndê – yn dangos faint mor sal ydy ’n Gymraig i. (GD39)

God! Dwi’n mynd i wella ’n Gymraig! Dwi’m wedi sylweddoli bod ’n Gymraig mor ddrwg! (BD31)

Ymateb arall i’r rhan hon oedd y teimlad bod y Saesneg yn ennill tir drwy ddisodli geiriau’r Gymraeg, a mynegodd y siaradwyr deimladau o gyfrifoldeb mewn ffordd am y ffenomen hon gan gyfeirio at wendidau personol:

Mae’n neud i rywun sylweddoli faint o eiria’ Sisneg sy’ yn y Gymraig. Faint dyn ni’n defnyddio ohonyn nhw hefyd – yn ddiog yn hytrach na meddwl am y gair Cymraig. Defnyddio’r gair Sisneg a’i Gymrageiddio fo… sy’n dwp! (BP24)

Dwi’n fwy Sisinigadd nac o’n i’n meddwl o’n i. Ma’n sobor o beth, yndê… ’R unig beth na’th synnu rhywun – faint o eiria’ Sisneg ’dyn ni’n iwsio. (GD57)

Wrth reswm, nid oeddwn am greu’r teimladau hyn, ond yr oedd yn amhosibl rheoli yn llwyr ymateb pob siaradwr i’r dasg. Yn naturiol, yr oedd rhai bobl yn fwy cyfforddus â’r cyfweliad nag eraill, felly ceisiwn fy ngorau glas i’w hesmwytho pan sylweddolwn fod rhywbeth wedi eu cyffroi. Cofiais yr hyn a ddywedwyd yn ystod cyfweliad cynnar gan un o ferched y Pethau wrth sôn am ddiffyg yn ei geirfa: ‘Os ’dach chi ddim yn defnyddio n’w [y gwrthrychau], ’dach chi ddim yn defnyddio’r gair, nac ‘dach?’ (BP73). Defnyddiwn y rhesymeg hon wrth geisio lleddfu unrhyw anesmwythder a godwyd ynglŷn â diffyg yng ngwybodaeth y siaradwr yn ogystal ag esbonio bod rhai o’r geiriau yn anghyffredin iawn ac nad oeddwn yn disgwyl i’r rhan fwyaf o bobl wybod y geiriau.

Cododd rhai bygythiadau yn ystod y recordio. Digwyddodd hyn pan fyddai rhywun arall yn yr ystafell ar yr un pryd. Wrth gyfweld un dyn eithaf bregus ei iechyd yn ei wythdegau, yr oedd ei wraig yn eistedd wrth ei ochr i ofalu amdano. Pan oedai’r gŵr cyn ateb wrth edrych ar y lluniau, cynigiai ei wraig yr atebion iddo yn Saesneg. Am fod y dyn yn mynd yn fyddar, ni chlywai atebion ei wraig. At hynny, cefais yr argraff nad oedd y gŵr yn gwrando ar ei wraig! Ni chredwn fod ei hatebion hi yn amharu ar ddilysrwydd atebion ei gŵr. Er hynny, ac er mwyn sicrhau dilysrwydd y cyfweliad, stopiais y tâp i esbonio wrth y wraig pa mor bwysig oedd yr angen imi gael atebion gan un person yn unig. Dywedodd ei bod yn deall gan addo peidio â chynorthwyo rhagor. Dechreuais recordio eto, ond ar ôl rhyw ddeng munud pan oedodd y dyn eto, ysgrifennodd y wraig y gair ‘extinguisher’ ar ddarn o bapur a rhoi’r papur i’w gŵr. Gwthiodd y dyn y papur i ffwrdd yn ddisymwth er mwyn iddo gael edrych ar y llun yn well. Stopiais y tâp eto i ofyn iddi beidio â rhoi unrhyw fath o gymorth i’w gŵr, ac esboniodd ei bod yn meddwl nad oeddwn am recordio ei llais. Ar ôl imi egluro y gallai ei hatebion amharu ar yr astudiaeth, nid ymyrrodd eto yn ystod gweddill y cyfweliad. Gan nad oedd y gŵr yn talu sylw i’w wraig, ni chredaf fod y cyfweliad hwn yn annilys. Digwyddodd hyn yn nyddiau cynnar y gwaith maes, felly dysgais yn fuan wers werthfawr a rhybuddiwn bobl eraill a oedd yn bresennol yn ystod y cyfweliadau nesaf i beidio â chynnig atebion. Dilynwyd fy nymuniadau ac eithrio mewn un achos lle dechreuodd gŵr gynnig ateb i’w wraig, ond ar ôl imi ei atgoffa am yr angen am gael atebion gan un person yn unig, nid ymyrrodd eto.

Yr oedd yr ail ran o’r cyfweliad ychydig bach yn broblemus hefyd, ond wrth ystyried nifer y cwestiynau yn y rhan hon, nid oedd y problemau’n niferus iawn. Pan fyddai’n bosibl, cyflwynwyd cwestiynau’r holiadur sosioieithyddol ar ffurf sgwrs. Gadawn i’r siaradwyr ymhelaethu fel y dymunent, ac fel arfer atebwyd llawer o gwestiynau’r holiadur heb imi eu gofyn.

Er fy mod wedi esbonio pan gysylltais â’r siaradwyr yn y dechrau fy mod yn ymchwilio i’r iaith Gymraeg yn y Blaenau, nid oedd diben yr astudiaeth yn hollol glir i bawb. Fel arfer, yr oedd rhaid imi esbonio’n fanwl pa fath o gwestiynau yr oeddwn yn mynd i’w gofyn. Gwnaethpwyd hyn yn ystod y sgwrs anffurfiol cyn dechrau recordio. Fel yr awgryma Schensul et al. (1999: 75):

Ethnographers undergoing the discomforts of the entry process should be encouraged by the knowledge that most people in a community or institutional setting pay little attention to the cover story or explanation of the project.

Wrth ystyried hanes a datblygiad Blaenau Ffestiniog (Pennod 3), ni chefais fy synnu fod y rhan fwyaf o’r siaradwyr yn disgwyl imi ofyn cwestiynau ynglŷn â dylanwad y diwydiant llechi yn y dref. Yr oedd amcan yr astudiaeth yn hawdd ei esbonio wrth y siaradwyr er nad oeddwn yn hollol agored am y dibenion i gyd. Nid achosodd y ffaith nad oedd y siaradwyr yn deall bwriad yr ymchwil yn y dechrau unrhyw deimladau amlwg o anesmwythyd iddynt hwy nac i minnau ond mewn un achos, pan oedd siomedigaeth un gŵr yn blaen – gŵr a wnaeth gryn dipyn o ymchwil ei hunan i hanes y diwydiant llechi. Er hynny, twymodd i bynciau’r cyfweliad a siaradodd am bron tair awr.

Fel y byddid yn disgwyl, yr oedd rhai pobl yn fwy parod i ymhelaethu nag eraill, ac fel arfer yr oedd y crwydro hwn yn arbed amser gan fod y siaradwr yn ateb cwestiynau’r holiaduron heb imi eu gofyn. Droeon eraill, crwydrodd yr ymddiddan mor bell oddi wrth y testun nes ei bod yn anodd imi arwain y sgwrs yn ôl. Gan amlaf, ac yn union fel y rhybuddiodd Labov (1972a: 91), y siaradwyr hŷn oedd y rhai a grwydrai fwyaf:
Some older speakers, in particular, pay little attention to the questions as they are asked. They may have certain favorite points of view which they want to express, and they have a great deal of experience in making a rapid transition from the topic to the subject that is closest to their hearts.

Er enghraifft, cafodd un gŵr yn ei wythdegau ei gyfweld ar dâp o’r blaen. Diddordeb yr ymchwilydd blaenorol oedd caneuon gwerin. Gan fod yr hen ddyn wedi bod yn aelod o gôr am flynyddoedd maith, yr oedd caneuon yn un o’i brif ddiddordebau. Yn y diwedd, felly, ar ôl iddo godi’r pwnc am y cyfweliad blaenorol a chaneuon, dechreuodd ganu cân werin. Gadewais iddo orffen y gân ond cymerodd gryn dipyn o ymdrech i arwain y cyfweliad yn ôl at y testun. Llwyddais i wneud hyn drwy droi at y cwestiwn am wrando ar gerddoriaeth Gymraeg ac wedyn mynd yn ôl at y cwestiynau eraill. Er ei fod yn gyfweliad afrwydd, yr oedd yn gyfweliad llwyddiannus mewn sawl ffordd ac yr oeddwn yn falch o gael yr wybodaeth werthfawr a gefais ar dâp ganddo. Crwydrodd sawl siaradwr oedrannus arall yn bell oddi ar y pwnc ac yr oedd rhaid imi fod yn greadigol yn ôl y sefyllfa er mwyn troi’r sgwrs yn ôl i’r testun ac arbed amser.

5.5 Recordio

Defnyddiwyd tapiau fferrig ar gyfer y recordio. Recordiais gyfweliadau’r astudiaeth ragarweiniol ar dapiau crôm ac yr oedd ansawdd y sain yn uchel. Er hynny, yr oeddwn am gael yr ansawdd sain gorau, ac felly cyn imi ddechrau’r gwaith maes ym Mlaenau Ffestiniog, arbrofais â gwahanol fathau o dapiau cyn dod i’r casgliad bod ansawdd y sain yn llawer uwch ar y tapiau fferrig na thapiau eraill. Defnyddiwyd yr un peiriant recordio a meic ar gyfer y gwaith maes ag a ddefnyddiwyd yn ystod yr astudiaeth ragarweiniol. Ceisiais sicrhau bod batrïau’r meic yn gryf a bod pob un o’r tapiau’n codi lleisiau drwy recordio rhyw ddeg eiliad ohonof fy hunan yn siarad cyn dechrau recordio’r cyfweliad. Er pob gofal, yr oedd pedwar o’r tapiau’n ddiffygiol. Ar dri ohonynt, yr oedd atebion y siaradwyr yn ddigon dealladwy i’w codio ond cododd sŵn clindarddach yn fuan ar ôl dechrau’r cyfweliadau. Ar y pedwerydd tâp, yr oedd y clindarddach mor uchel nad oedd yn bosibl clywed yr atebion. Yr oedd rhaid imi chwilio am siaradwr arall o’r un oedran, rhyw, a charfan gymdeithasol i’w recordio i gymryd lle’r siaradwr ar y tâp diffygiol. Bydd tapiau’r astudiaeth ar gael yn archif sain Amgueddfa Sain Ffagan.

Er gwaethaf y problemau bychain hyn a gododd yn ystod y cyfweliadau, nid oeddent yn amhosibl eu gorchfygu. Yr oedd bygythiadau i ddilysrwydd yr astudiaeth wrth gyflwyno’r holiaduron yn annisgwyl, ond credaf nad oeddent yn rhy ddifrifol yn y bôn. Creodd diffygion y tapiau gryn dipyn o broblemau wrth godio’r atebion, ond oherwydd nad astudiaeth ffonolegol yw hon – a allai fod wedi creu problemau na ellid eu goresgyn! – nid oedd y problemau hyn yn achosi gormod o anhawster. Ar y cyfan, yr oedd y gwaith maes yn bleserus wrth gwrdd â phobl newydd.

5.6 Cefndir yr Ymchwilydd

Fel yr awgrymwyd eisoes, yr oedd gennyf amheuon ynglŷn â sut yr oedd trigolion y dref yn ymateb imi fel dysgwr ac Americanwr. Amheuwn hefyd fy ngallu i gymysgu a chynnal sgwrs naturiol am fy mod yn dod o gefndir ieithyddol a chymdeithas wahanol. Er fy mhryderon, nid achosodd y gwahaniaethau hyn unrhyw fath o broblemau imi yn y maes; yn wir, fel y crybwylla Hammersley ac Atkinson (1995: 96), gall gwahaniaethau fod yn fanteisiol i’r ymchwilydd sy’n dod o ddiwylliant gwahanol:

Sometimes, belonging to a different ethnic or national group can even have distinct advantages. Hannerz (1969), discussing his research on a black ghetto area in the United States, points out that, while one of his informants jokingly suggested that he might be the real ‘blue-eyed blond devil’ that the Black Muslims talked about, his Swedish nationality distanced him from other whites.

Yn aml, yr oedd fy nghefndir gwahanol yn fan cychwyn i sgyrsiau ac yr oedd y ffaith fy mod yn ddysgwr yn allweddol i’m persona yn fy rôl fel rhywun yn chwilio am wybodaeth. Sawl gwaith yn ystod y gwaith maes, cymerais arnaf nad oeddwn yn gyfarwydd â llawer o arferion, digwyddiadau, a geiriau er mwyn annog i’r siaradwyr barhau’r sgwrs. Ni chefais broblemau yn adeiladu perthnasau gyda’r trigolion ac ni theimlais unrhyw anesmwythyd wrth siarad â hwy. Codais y pwnc hwn gydag un o Bobl y Pethau a gyfwelais yn gynnar yn ystod y gwaith maes ac a ddaeth yn gyfaill imi bron yn syth ar ôl y cyfweliad. Awgrymodd fod fy agwedd gyfeillgar a’m diddordeb yn y dref a’i phobl yn amlwg iawn ac yr oedd ymateb croesawgar y trigolion yn adwaith naturiol i sut y cyflwynwn fy hunan. Mewn astudiaeth yn Québec gan ymchwilydd a ddysgodd Ffrangeg fel ail-iaith, y mae Stebbins (1998: 69) yn sôn am sut y cafodd ei dderbyn fel mewnwr yn y gymuned ymysg siaradwyr Ffrangeg:

A mastery of the [French] language…, a profound interest in and respect for francophone culture and an unmistakeable desire to help the local community survive and flourish by volunteering…have been the main conditions for my success in this regard. It seems that, once these three conditions were met, being a mother-tongue Anglophone of English stock became largely irrelevant.

Ar y cyfan, cefais fy nerbyn yn syth ar ôl imi gyrraedd y dref. Yr oeddwn yn frwdfrydig iawn ac yn fodlon siarad â phawb, ac yr oedd diddordeb y trigolion ynof yn amlwg imi yn ogystal. Credaf fod i’m statws fel Americanwr a chanddo ddigon o ddiddordeb yn y Gymraeg a diwylliant Cymru i ddysgu’r iaith fod yn allweddol i’r derbyniad a gefais. Agorodd fy nghefndir a’m diddordebau ddrysau ac yr oeddent yn ddigon i godi chwilfrydedd pobl Blaenau Ffestiniog. Oherwydd hynny, teimlwn fod y siaradwyr yn fwy bodlon i gymryd rhan yn yr astudiaeth am eu bod yn cael cyfle i siarad â’r person neilltuol hwn a ymddiddorai ynddynt.