PENNOD CHWECH
6.1 ‘Cyfaill i Gyfaill’: Pwy a Enwodd Pwy?
Eglurwyd eisoes sut y dosbarthwyd y siaradwyr yn ôl oedran a gogwydd diwylliannol (2.2.2-3 a 5.2) . Un o’r ffactorau pwysicaf yn ystod y gwaith maes, fel y gwelsom ym Mhennod 5, oedd y dull a ddefnyddiwyd i gysylltu â siaradwyr. Gan mai’r dull ‘cyfaill i gyfaill’ a ddefnyddiwyd, gall cipolwg ar y cysylltiadau rhwng y siaradwyr amlygu tueddiadau yn y gymuned: fel yr awgryma Milroy (2001: 5):
The general assumption is that variation in the structure of different individuals’ personal social networks will systematically affect both the vitality of the community language and the speech community’s vulnerability to language shift.
Y mae’n debyg, felly, y gall rhwydweithiau fod yn gyfrwng sy’n cyflyru ymddygiad ieithyddol, ac o edrych ar bwy a enwodd pwy, gellir llunio argraff o ba mor fewnblyg neu allblyg yw’r siaradwyr. Dengys Tabl 6.1 y nifer o siaradwyr a enwodd y siaradwyr eraill yn y sampl fesul person yn ôl y grŵp diwylliannol y maent yn aelod a priori ohono. Lliwir y celloedd i ddynodi oedran a rhyw’r siaradwyr.
Y peth mwyaf trawiadol yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp. Cyfwelwyd chwech o Bobl y Dafarn ar sail awgrym un person yn unig (siaradwr 32, 35, 36, 40, 48, a 59). Enwebwyd pob un o Bobl y Pethau gan fwy nag un person; ni cheir ond tri ohonynt – siaradwr 2, 16, a 18 – a enwebwyd gan y nifer isaf, sef dau; ac enwebodd gymaint â 25 ohonynt siaradwr 13. Ar gyfer Pobl y Dafarn, pedwar yw’r nifer fwyaf ohonynt a gynigiodd yr un enwau (siaradwr 41, 42, a 52), ond o gymharu â Phobl y
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pethau, enwebwyd 23, neu 77%, ohonynt gan fwy na phedwar, sef y nifer uchaf a geir ymysg siaradwyr y Dafarn. Y mae’r niferoedd o siaradwyr y Pethau a gynigiodd yr un enwau yn llawer uwch na’r Dafarn yn gyffredinol, ac y mae’n bosibl, felly, fod rwydweithiau Pobl y Pethau yn fwy cyfyngedig a chlòs nag eiddo Pobl y Dafarn.
Disgwylid darganfod bod y siaradwyr o wahanol gefndiroedd diwylliannol yn llai tebygol o gymdeithasu â’i gilydd, a chan amlaf, y mae’r didoliad hwn yn bodoli. Dengys y golofn ‘Nifer o’r Grŵp Arall a’i Henwodd’ yn Nhabl 6.1 fod deg o Bobl y Pethau wedi eu dethol gan 23 o Bobl y Dafarn, ond nad enwyd ond saith o Bobl y Dafarn gan wyth o Bobl y Pethau. Y mae’r gwahaniaeth sylweddol hwn yn awgrymu bod Pobl y Pethau’n llai bodlon – neu hyd yn oed yn llai galluog – i ddewis pobl nad ydynt yn perthyn i’r un grŵp ond bod Pobl y Dafarn yn fwy parod i awgrymu enwau pobl sy’n wahanol iddynt yn gymdeithasol. Hynny yw, y mae Pobl y Dafarn yn barotach i ‘groesi ffiniau’. Y mae’n bosibl bod cynifer o Bobl y Dafarn wedi enwi’r siaradwyr o’r grŵp diwylliannol arall oherwydd natur yr astudiaeth a chefndir addysgedig Pobl y Pethau. Gwelsom yn 5.4 fod rhai o’r siaradwyr wedi ystyried yr holiadur geirfaol yn brawf, ac efallai bod nifer o Bobl y Dafarn wedi cynnig enwau siaradwyr gydag addysg bellach mewn ymgais i’m cynorthwyo i ddarganfod yr atebion yr oeddwn yn chwilio amdanynt.
O edrych ar yr wyth benyw hynaf (siaradwyr 27-30 a 59-62), gwelir bod llawer o drawsgroesi rhwng y ddwy garfan ddiwylliannol. Magwyd ac addysgwyd y merched hyn yn y dref, ac y maent, felly, wedi adnabod ei gilydd ers eu plentyndod. Y mae siaradwyr 29 a 30 yn perthyn i’r Pethau a Phobl y Dafarn yw siaradwyr 60 – 62. Y mae’r pum benyw hyn yn gyfeillion agos ers blynyddoedd ac y maent yn rhannu diddordebau fel gwneud crefftau a choginio. O ganlyniad, ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r siaradwyr eraill, y maent wedi enwebu ei gilydd ar gyfer yr astudiaeth. Am hynny, y mae rhwydwaith y benywod hyn yn glòs a dyma lle y mae’r ffiniau rhwng y ddwy garfan yn gwanhau.
Awgrymwyd uchod y gall y gwahaniaeth rhwng Pobl y Pethau a Phobl y Dafarn o ran y nifer o siaradwyr a’u henwebodd darddu o natur gymharol gyfyngedig rhwydweithiau’r Pethau. Ond y mae esboniad arall yn bosibl am yr agendor niferoedd rhwng y ddwy garfan, sy’n ymwneud ag agwedd y siaradwyr tuag ataf fi fel ymchwilydd academaidd a chanddo ddiddordeb yn y dref. Llawer haws oedd argyhoeddi Pobl y Pethau na’r grŵp arall i awgrymu enwau eraill. Dengys Tabl 6.2 y nifer o bobl a enwyd gan y siaradwyr. O graffu ar y canlyniadau hyn, gwelir bod dros
Tabl 6.2: Nifer a Enwyd gan y Siaradwyr
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ddeg o enwau wedi eu rhestru gan hanner Pobl y Pethau a thros ugain gan bump ohonynt. O edrych ar y nifer o enwau a gynigiwyd gan Bobl y Dafarn, fodd bynnag, nid oedd ond un person (siaradwr 58) wedi cynnig dros ddeg o enwau ac yr oedd tri ohonynt wedi awgrymu cyn lleied ag un (siaradwyr 36, 37 a 47). Y mae’n bosibl bod Pobl y Pethau’n gallu dirnad arwyddocâd y prosiect yn well am eu bod wedi cael mwy o brofiad gydag addysg uwch, yn cymdeithasu mewn llefydd mwy ffurfiol, a’u bod, felly, yn debycach o gydymdeimlo ag ymdrechion academaidd. Gan fod cymaint o Bobl y Pethau wedi enwebu ei gilydd, y mae’n ymddangos eu bod yn grŵp ac iddo rwydwaith clòs iawn yn gymdeithasol cyn y prosiect yn ogystal ag yn ystod y gwaith maes. Efallai eu bod yn ystyried cael eu henwebu a chael enwebu pobl eraill yn ddull o godi eu bri personol yn eu rhwydweithiau. Ar y llaw arall, gan eu bod wedi cynnig cyn lleied o enwau, y mae’n bosibl bod Pobl y Dafarn yn teimlo ansicrwydd ynglŷn â dibenion yr astudiaeth ac yn llai tebygol o weld ei harwyddocâd. Er bod rhai ohonynt wedi enwebu ei gilydd, fel y dengys y niferoedd cymharol fach, nid yw’r gorgyffwrdd mor helaeth. Y mae’n bosibl bod y siaradwyr hyn yn perthyn i rwydweithiau clòs cyn yr astudiaeth ond bod rhyw ansicrwydd neu amharodrwydd wedi eu rhwystro rhag rhestru llawer o bobl eraill yn ystod y gwaith maes. Os felly, dichon mai grŵp clòs ydynt yn gymdeithasol fel Pobl y Pethau, ond o ran y prosiect y maent ar wasgar ac yn fewnblyg.
Dengys Tabl 6.3 y nifer uchaf o siaradwyr y sampl a enwodd siaradwyr
unigol fesul grŵp oedran. Y mae’r
dynion wedi eu hamlygu’n las a’r benywod yn goch. Wrth graffu ar y gwahaniaeth oedrannol,
gwelir bod y bobl ifanc yn llai tebygol o gael eu henwi na’r bobl hŷn, ac
y mae hynny’n eglurach gyda Phobl y Pethau.
Efallai mai un rheswm dros y canlyniadau hyn yw bod llai o bobl ifanc yn
debygol o aros yn y dref oherwydd y prinder swyddi (cymharer 5.2). Ceir darlun gwahanol o edrych ar y
Tabl 6.3: Y Siaradwyr a Enwyd Amlaf yn ôl Grŵp Oedran
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
niferoedd o bobl a enwebodd y siaradwyr yn y toeau hynaf ymysg Pobl y Pethau, a gall hyn awgrymu eu bod yn eithaf amlwg ac allblyg yn y gymuned. Nid oes llawer o amrywio yn ôl oedran gyda Phobl y Dafarn, ond ceir patrwm taclus o ystyried Dynion y Pethau. Fel y gellir gweld wrth symud o do i do yn ôl trefn oedrannol, y mae’r nifer o bobl a awgrymodd enwau Dynion y Pethau yn tueddu i godi wrth i oedran godi. Er enghraifft, enwyd siaradwr 1 gan bedwar o bobl, sef y nifer uchaf ymysg y genhedlaeth ieuaf. Y mae’r nifer hon yn cynyddu i 18 yn y to nesaf (siaradwr 4); yn y genhedlaeth hynaf ond un, enwebwyd siaradwr 9 gan 28 o bobl; a chyda’r grŵp hynaf oll, y mae 29 o bobl wedi cynnig enw siaradwr 13. O’r wyth o ddynion yn nau do hynaf y Pethau (Tabl 6.1), y mae pump yn awduron ac wedi cyhoeddi o leiaf un llyfr yn Gymraeg neu’n cyfrannu’n rheolaidd i’r papur bro a chyhoeddiadau eraill. O’r 28 o siaradwyr a enwebodd siaradwr 9, y mae’n drawiadol bod cynifer â chwech ohonynt yn Bobl y Dafarn. Dyn addysgedig sydd wedi ysgrifennu sawl llyfr yw hwn, ac y mae’n adnabyddus iawn ymhlith y Pethau. Er hynny, hawdd esbonio’r adnabyddiaeth ohono yn y garfan arall. Unwaith yr wythnos y mae’n treulio noson yn un o dafarnau’r dref. Y mae’n berson cymdeithasgar a diymhongar iawn sy’n fodlon siarad â phawb. Ceir sefyllfa debyg gyda siaradwr 13. O’r 29 o siaradwyr a gynigiodd ei enw, yr oedd pedwar ohonynt yn Bobl y Dafarn. Dyn 84 oed yw hwn ac y mae’n cyfrannu colofn fisol yn rheolaidd i’r papur bro. Bu hefyd yn pysgota’n ffyddlon dros y blynyddoedd yn y llynnoedd niferus yn y mynyddoedd sy’n cwmpasu’r dref, a bu’r gweithgaredd hwn yn llwybr iddo gysylltu â thrigolion o wahanol gefndiroedd diwylliannol. Nid oes syndod, felly, fod y ddau siaradwr hyn yn adnabyddus i bob math o bobl. Y maent yn gymeriadau amlwg yn y gymuned ac yn adnabyddus ymysg yr oedrannau i gyd, ac fel y dengys yn niferoedd o Bobl y Dafarn sydd wedi eu henwi, ymysg y ddwy garfan ddiwylliannol. Ceir patrwm oedrannol tebyg gyda Benywod y Pethau: y mae’r nifer o bobl a’u henwebodd hwythau’n codi fesul cenhedlaeth ar wahân i’r hynaf ond un. O’r wyth benyw yn y ddau do hynaf, y mae dwy sy’n cyhoeddi yn rheolaidd yn y Gymraeg ac y mae tair yn athrawon neu wedi ymddeol ar ôl gyrfa yn dysgu mewn ysgolion lleol. Er nad ydynt mor adnabyddus â’u cyfoedion gwrywaidd yn y gymuned, y mae’r nifer o bobl sydd wedi eu hawgrymu ar gyfer yr astudiaeth yn dal i fod yn uchel. Ni welir yr un patrwm yn datblygu gyda Phobl y Dafarn, sy’n awgrymu bod lefel bri siaradwyr y Dafarn yn fwy cyfyngedig nag eiddo’r Pethau.
Fel y gwelsom eisoes ym Mhennod 5, bu’r dull ‘cyfaill i gyfaill’ yn ffordd lwyddiannus o ddod o hyd i siaradwyr ac i gysylltu â hwy. I grynhoi, wedi edrych ar y nifer o bobl yn y sampl sydd wedi enwi siaradwyr eraill, amlygwyd sawl tuedd. Fel y dangoswyd uchod, y mae Pobl y Pethau, ar y cyfan, wedi rhestru llawer mwy o enwau na Phobl y Dafarn ac y maent yn tueddu i enwebu’r un siaradwyr. O ganlyniad, gellid ystyried Pobl y Pethau yn grŵp eithaf cyfyngedig o ran y nifer ohonynt sy’n perthyn i’r un cylchoedd cymdeithasol. Gwelsom hefyd fod siaradwyr hynaf y Pethau’n fwy tebygol o gael eu henwi na’r bobl ieuaf, yn enwedig ymysg y dynion. Ni cheir yr un patrwm gyda Phobl y Dafarn, sy’n fwy mewnblyg oherwydd nad oedd nifer fawr o siaradwyr eraill yn eu henwi ac y maent yn fwy tawedog o ran enwi siaradwyr eraill. Dynodwyd hefyd uchod nad oes llawer o drawsgroesi rhwng y carfanau diwylliannol ar wahân i’r benywod hynaf yn y sampl, sy’n perthyn i rwydwaith eithaf clòs. Gwelwyd hefyd fod Pobl y Dafarn yn fwy bodlon i awgrymu enwau pobl nad ydynt yn perthyn i’r un grŵp diwylliannol, sy’n awgrymu eu bod yn barotach i groesi ffiniau diwylliannol.
Wedi edrych ar sut yr ymatebodd y siaradwyr i’r
cais iddynt awgrymu enwau pobl eraill, gall edrych ar eu hymateb i’r sbardunau
ddatgelu gwybodaeth am y newidynnau a’r amrywion a ysgogwyd. Ni chynigiwyd ond un amrywyn i bedwar o’r
newidynnau, sef
(KNEE),
(FINGERNAIL),
(CHIN), a
(FOREHEAD). Mewn ymateb i newidynnau
eraill, codwyd nifer fawr o amrywion gyda chynifer â 38 o wahanol atebion ar
gyfer un ohonynt, sef
(RECYCLING CENTRE).
Cofnodwyd, felly, bron naw cant o wahanol amrywion. Am fod tair set o newidynnau – ‘hen
gysyniadau’, ‘cysyniadau cymharol hen’, a ‘chysyniadau newydd’ (2.2.6) – y
mae’n bosibl bod ymateb y siaradwyr i’r eitemau’n amrywio yn ôl y math o
sbardun a gyflwynwyd iddynt. Ceir yn
Ffigur 6.1 raddfa yn dangos y newidynnau a’r nifer o amrywion a gynigiwyd ar eu
cyfer. Dengys y golofn ar y dde y nifer
o newidynnau ymhob rhes. Y mae’r
newidynnau am yr ‘hen gysyniadau’ wedi’u hamlygu’n las a’r cysyniadau cymharol
hen yn felyn.
Sylwir
bod y newidynnau’n ffurfio pedwar grŵp amlwg. Ysgogodd y rhan fwyaf ohonynt rhwng un a
phymtheg o amrywion. Cymysgiad o
newidynnau o’r tair set o gysyniadau – yr hen, y cymharol hen, a’r newydd –
yw’r rhain, ac y mae pob un o’r cysyniadau cymharol hen a phob un ond un o’r
‘hen bethau’ yn y grŵp hwn. Gall
hyn awgrymu bod normau’n brin yn y gymdeithas o ran ffurfiau ar gyfer nifer o’r
newidynnau newydd.
Esgorodd y
sbardunau a ysgogodd fwy na phymtheg o amrywion ar dri grŵp amlwg arall o
newidynnau. Ysgogodd chwe sbardun rhwng
deunaw a 22 o wahanol atebion, ac y mae pob un ond un o’r rhain, (SHIN), yn gysyniadau newydd. Nid yw’n
eglur paham y mae (SHIN) yn ymddwyn yn debyg i aelodau eraill
y grŵp hwn, ond y mae’n ymddangos mai’r atebion am y rhan hon o’r goes
yw’r rhai lleiaf unffurf ymysg y siaradwyr ar gyfer y rhannau o’r corff. Ceir tri newidyn yn y grŵp nesaf, ac y
mae i’r rhain rhwng 25 a 27 o wahanol amrywion.
Y mae hefyd un eithriad eithafol, sef
(RECYCLING
CENTRE), a
sbardunodd 38 o atebion. Os mae normau’n
lleihau wrth i’r nifer o amrywion y sbardunau godi, y mae’n debyg, felly, fod
normau’r siaradwyr ar gyfer (RECYCLING CENTRE) yn eithriadol o
brin.

Ffigur 6.1 Y Newidynnau a’r Nifer o Amrywion a Ysgogwyd
ganddynt
Gwelir nad yw pedwar newidyn wedi ysgogi ond un ateb yr
un. Rhannau o’r corff yw’r pedwar hyn a
ffurfiau Cymraeg oedd yr atebion.
Cynigiodd pawb talcen a gewin a 95% o’r sampl pen‑glin a gên; nid oedd ateb o gwbl gan y 5% arall ar gyfer (KNEE) a (CHIN).
Y mae’n debyg, felly mai talcen,
gewin, pen‑glin, a gên
yw’r ffurfiau gweithredol yn llafar y rhan fwyaf o’r siaradwyr. O ran (RECYCLING
CENTRE), ar y
pegwn arall, ni chynigiodd ond 19% o’r sampl canolfan ailgylchu, sef
yr enw ar arwyddion cyhoeddus.
Defnyddiwyd sawl strategaeth gan y 81% arall wrth ymateb i’r sbardun: er
enghraifft, yn ogystal â’r ffurf Saesneg, cynigiwyd termau Saesneg a Chymraeg
o’r un grŵp semantaidd â’r newidyn – bottle
bank, paper bank, clothes bank, banc poteli, banc papur, a banc dillad. Cafwyd hefyd enghreifftiau o symleiddio, sef ailgylchu a recycle, ond disgrifio’r safle oedd y strategaeth fwyaf
poblogaidd, sef lle i roi gwastraff,
lle ailgylchu, pethau ailgylchu, safle
gasglu gwastraff, cylchfan sbwriel,
a canolfan casglu sbwriel (gweler 6.3 am drafodaeth
bellach o’r strategaethau a ddefnyddiwyd ac Atodiad IV ar gyfer yr amrywion i
gyd a’r nifer o siaradwyr a’u cynigiodd).
Y mae’n ymddangos, felly, nad yw’r term swyddogol wedi llwyddo i fwrw
gwreiddiau yn iaith y rhan fwyaf o’r siaradwyr, ac nad yw’r normau allanol wedi
ymsefydlu yn y pentref hyd yn hyn.
Ysgogodd (SUPERMARKET) a (TELEVISION) chwe amrywyn yr un.
Cynigiwyd y ffurfiau Cymraeg – archfarchnad
a teledu – a Saesneg – supermarket a television – am y ddau newidyn
newydd hyn, ond o gymharu’r amrywion eraill a gynigiwyd ar eu cyfer, y mae’r
math o atebion am y ddau newidyn yn dra gwahanol:
Archfarchnad Teledu
Siop Teledydd
Siop (b)fwyd Y bocs
Siop gwerthu bwyd Telly
Lle gwerthu bwyd TV
Supermarket Television
Fel y gwelir, am (SUPERMARKET), codwyd un enghraifft o ffurf yn perthyn i’r un grŵp
semantaidd, sef siop, a thri ateb
disgrifiadol – siop fwyd, siop gwerthu bwyd, a lle gwerthu bwyd. Ar gyfer
(TELEVISION), cynigiwyd ffurf eithaf
anghyffredin ond cywir yn ôl geiriaduron Cymraeg, sef teledydd, enghraifft o ateb slang gydag y bocs, a dwy ffurf symleiddiedig o’r Saesneg, sef TV a telly. Er bod y ddau
newidyn newydd hyn wedi sbarduno’r un nifer o amrywion, y mae’r amrywion hynny
yn dra gwahanol i’w gilydd (gweler 6.3 am y math o atebion a gynigiwyd gan y
siaradwyr wrth ymateb i’r sbardunau a 8.4.3 am drafodaeth fanylach o’r
siaradwyr a gynigiodd yr amrywion am y ddau newidyn hyn).
O ystyried rhai o’r sbardunau a ysgogodd nifer gymharol uchel o amrywion, y mae’n bosibl darganfod rhai o’r ffactorau a all fod yn gyfrifol am gynnydd yn y nifer o amrywion. Er enghraifft, o ran dau o’r newidynnau newydd, codwyd 13 o wahanol atebion ar gyfer (PSYCHIATRIST) a 14 am (MICROWAVE). Yn debyg i (MICROWAVE), ysgogodd (POLICEMAN), newidyn cymharol hen, 14 o amrywion hefyd:
PSYCHIATRIST MICROWAVE POLICEMAN
Seiciatrydd Meicrodon Heddwas
Seicolegydd Meicrogell Heddgeidwad
Doctor meddwl Meicro Heddlu
Doctor pen Popty ping Gwas heddlu
Dyn mymbo jymbo Popty ding Moch
Shrink Popty bach Mochyn
Quack Popty gwyllt Cwnstabl
Therapist Popty meicro Heddlwr
Analyst Popty sydyn Glas
Counselor Popty dau funud Copar
Psychiatric Popty cyflym Plismon
Social worker Popty microwave Cops
Psychiatrist Dingar Bobby
Microwave Police
Y mae nifer o wahanol fathau o atebion yma. Fel y gwelsom gyda (SUPERMARKET) a’r amrywyn siop, ceir atebion sy’n perthyn i’r un grŵp semantaidd gyda’r amrywion counselor a social worker am (PSYCHIATRIST) a cwnstabl am (POLICEMAN). Yn debyg i teledydd uchod, cynigiwyd un ffurf sy’n llai cyffredin ond cywir yn ôl geiriaduron Cymraeg, sef heddgeidwad am (POLICEMAN). Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC), y mae’r gair hwn wedi bod yn y Gymraeg ers 1798, sef hanner canrif yn hwy na’r ffurf fwy cyffredin heddiw, heddwas, sy’n dyddio o 1848 (GPC: 1834, 1835). Trafodwn y ffurfiau hyn ymhellach yn 6.3.5 isod, ond cynigiwyd heddwas dair gwaith yn amlach na heddgeidwad. Y mae hyn yn awgrymu mai’r gair diweddarach yw’r ffurf Gymraeg sy’n uwch yn ymwybyddiaeth y siaradwyr er bod y ffurf arall wedi bod yn y Gymraeg yn hwy. Gwelsom fod (SUPERMARKET) wedi ysgogi atebion disgrifiadol fel siop gwerthu bwyd a lle gwerthu bwyd, a cheir enghreifftiau tebyg am (PSYCHIATRIST): doctor meddwl a doctor pen. Mewn ymateb i (POLICEMAN) cofnodwyd ffurf idiosyncratig gwas heddlu, ateb a all fod wedi ei seilio ar y term safonol heddwas. Ar gyfer (MICROWAVE), cafwyd yr atebion disgrifiadol popty sydyn a popty cyflym. Gan fod y tri siaradwr a gynigiodd y ddwy ffurf hyn wedi ateb gyda meicrogell hefyd, y mae’n bosibl bod y bathiadau hyn yn ffurfiau slang i’r siaradwyr hyn. Esgorodd (TELEVISION) ar ffurfiau symleiddiedig, sef TV a telly, ac y mae un enghraifft o symleiddio yma, sef meicro am (MICROWAVE). Cofnodwyd uchod enghraifft o’r ffurf slang y bocs ar gyfer (TELEVISION), a chafwyd nifer o atebion tebyg mewn ymateb i (PSYCHIATRIST), sef dyn mymbo jymbo, quack, a shrink. Ar gyfer (POLICEMAN), codwyd copar, mochyn, glas, a bobby. Atebion tebyg a all ychwanegu at y nifer o amrywion yw ffurfiau unigol nad ydynt yn perthyn ond i’r siaradwr, neu efallai i’r siaradwr a’i deulu. Ar gyfer (MICROWAVE), codwyd ffurfiau creadigol fel popty ping, popty ding, popty gwyllt, popty dau funud, a dingar. Er bod popty ping yn ymddangos ar bosteri yn yr Amgueddfa Werin, nid oes modd awgrymu bod y ffurf hon yn gyffredin iawn ym Mlaenau Ffestiniog: ni chynigiwyd y term hwn ond gan bedwar siaradwr, ac am fod y ffurf yn enghraifft o onomatopeia, nid yw’n syndod bod rhai o’r siaradwyr wedi cynnig yr un term. Gall hyn fod yn wir am popty ding hefyd, term a gynigiywd gan ddau siaradwr. Nid atebodd ond un siaradwr yr un gyda popty gwyllt, popty dau funud, a dingar, ac nid yw’n debygol, felly, fod y tair ffurf hyn yn gyffredin iawn ym Mlaenau Ffestiniog.
Y mae (PSYCHIATRIST), (POLICEMAN), a (MICROWAVE) wedi sbarduno dros ddwywaith y nifer o atebion a gofnodwyd ar gyfer (SUPERMARKET) a (TELEVISION) a cheir amrywion tebyg o ran y math o atebion, ond sylwer ar yr amrywion seicolegydd, meicrogell, a heddlwr. Efallai mai enghreifftiau o ddysgu anghyflawn yw’r atebion hyn am eu bod yn debyg i’r ffurfiau ‘cywir’ ac yn dangos bod y siaradwyr a’u cynigiodd yn gyfarwydd â’r geiriau ‘priodol’ ond bod eu gwybodaeth o’r ffurfiau’n ansicr (gweler 6.3.6 isod am drafodaeth bellach o enghreifftiau o ddysgu anghyflawn).
Gwelsom fod y rhan fwyaf o’r newidynnau am yr ‘hen gysyniadau’ a’r cysyniadau cymharol hen yn ymgasglu tua gwaelod y raddfa o amrywion ac yn llai gwasgaredig na’r rhai newydd (Ffigur 6.1). Wrth ystyried rhai o’r newidynnau a’u hamrywion, gwelwyd bod y siaradwyr yn defnyddio sawl strategaeth. Cynnig geiriau slang, termau o’r un grŵp semantaidd, ffurfiau Saesneg, neu ddisgrifio’r gwrthrych, oedd rhai o’r strategaethau a gofnodwyd, a gall gwybodaeth o’r ffurfiau hyn a gweithredu’r strategaethau ychwanegu at y nifer o amrywion a gynigiwyd. O adolygu rhai o’r astudiaethau o eirfa’r Gymraeg, fe welir nad yw’r strategaethau a weithredir wrth gasglu gwybodaeth y siaradwyr o’u geirfa yn cael eu hystyried. Y mae’n bosibl, felly, y gall ystyried y strategaethau hyn fod yn llwybr i ddatgelu gwybodaeth bellach am y siaradwyr a’u hiaith.
6.2.1 Amrywion mewn Rhai Astudiaethau o
Dafodieithoedd y Gymraeg
Mewn astudiaeth o erydiad geirfaol ym Mhontyberem, y mae N. G. Jones (1986:115) yn rhannu’r amrywion a gynigiwyd gan ei siaradwyr yn dri math o atebion, sef ‘ffurfiau tafodieithol’, ‘ffurfiau anlleol’, a ‘ffurfiau Saesneg’. Y mae’r darlun ychydig bach yn wahanol mewn astudiaeth debyg gan A.E. Jones (1984: 196) lle ceir pedwar categori ar gyfer yr atebion: y mae geiriau traddodiadol yn cael eu cofnodi fel ffurfiau tafodieithol ond y mae’r geiriau ‘eraill’ yn cael eu gwahanu yn dri grŵp, sef ‘ffurfiau Cymraeg brodorol diddorol’, ‘benthyciadau diweddar moel’, a ‘calques’, neu gyfieithiadau yn syth o’r Saesneg. Ni ellir gwadu fod dosbarthu’r amrywion a gynigir yn hwyluso dadansoddi’r data, ond nid yw’r categorïau hyn yn amlygu’r strategaethau a weithredir.
Y mae’r pwynt yn amlycach o droi at ‘Y Corff’, sef yr unig grŵp semantaidd sydd gan y ddwy astudiaeth uchod yn gyffredin â’r astudiaeth gyfredol. Cofnodais 14 o wahanol amrywion ar gyfer y newidyn (HAIR PARTING) (gweler 6.2.2 am drafodaeth gyflawnach o’r amrywion a gofnodwyd am rannau o’r corff). Am yr un amrywyn, ni chofnododd N. G. Jones (1986: 223), ar ôl cyfweld 74 o siaradwyr, ond dau amrywyn, sef r(h)anad a parting. Anodd yw credu mai dim ond dau amrywyn a gynigiwyd gan siaradwyr Jones o ystyried bod siaradwyr Blaenau Ffestiniog wedi cynnig 14. Nid yw diben astudiaeth N. G. Jones a’r astudiaeth bresennol yn gwbl wahanol i’w gilydd, ond y mae’n ddigon posibl mai’r gwahaniaethau rhwng y ddwy astudiaeth o ran eu methodoleg casglu a’u dadansoddi sy’n gyfrifol am gymaint o wahaniaeth yn y canlyniadau. Wrth gwrs y mae posibilrwydd arall, sef nad yw’r ffurfiau am y cysyniad (HAIR PARTING) yn amrywio cymaint yn ardal ddeheuol N. G. Jones. Nid oedd (HAIR PARTING) yn astudiaeth A. E. Jones (1984).
O edrych ar yr unig newidyn sydd gan astudiaethau A. E. Jones ac N. G. Jones yn gyffredin â’r astudiaeth bresennol, sef (PALM), ceir darlun eglurach o’r gwahaniaeth rhwng amrywion yr astudiaethau hyn a’r un bresennol. Ni chofnododd N. G. Jones (1986: 223) ond dau amrywyn, sef cledr a torr, ar gyfer y newidyn hwn. I dri o grwpiau oedran ei hastudiaeth hi, nid oedd y geiriau hyn yn hysbys o gwbl. I’r tri grŵp oedran arall, nid oedd y geiriau yn hysbys ond i 21.4%. O edrych ar ganlyniadau A. E. Jones (1984: 257) ar gyfer yr un newidyn, y mae’r darlun yn fwy diddorol. Yn ogystal â dau amrywyn yr astudiaeth arall, cledr a torr, y mae hi’n cofnodi canol, ac o dan y grŵp ‘arall’, ceir llaw a cefn llaw. Cynigiodd siaradwyr Blaenau Ffestiniog naw o amrywion ar gyfer (PALM), ac o’r atebion hyn, nid oes ond dwy ffurf, sef cledr a llaw, yn gyffredin â’r ffurfiau yn y ddwy astudiaeth hyn.
O ystyried enghraifft arall o astudiaeth A. E. Jones (1984) ar gyfer newidyn sydd yn yr astudiaeth gyfredol yn ogystal, sef (CALF), cofnododd A. E. Jones bum amrywyn ar gyfer y dadansoddi – bola coes, croth y goes, tewdra’r goes, ac unwaith eto, ‘arall’ lle ceir y ddau amrywyn ychwanegol poten a cig y goes. Cofnodwyd 12 o wahanol amrywion ar gyfer y newidyn hwn ym Mlaenau Ffestiniog (gweler 6.2.2 isod). Ni fyddwn wedi tynnu sylw at yr ‘arall’ hwn yn astudiaeth A. E. Jones, ond o ystyried bod 65% o siaradwyr ei chenhedlaeth hynaf hi a 5% yr un yn y ddwy genhedlaeth iau wedi cynnig yr atebion ‘eraill’, tybed paham y dosbarthwyd y ffurfiau hyn i’r grŵp ‘arall’? Y mae hyn yn fwy trawiadol o ystyried y canlynol: o’r tri amrywyn a ddisgwylid, sef bola coes, croth y goes, a tewdra’r goes, ni chynigiwyd yr un enghraifft ohonynt gan siaradwyr A. E. Jones! Y mae 35% o’r genhedlaeth hynaf, felly, a 95% o’r ddwy ieuaf wedi peidio â chynnig ateb o gwbl (A. E. Jones 1984: 257). Y mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu mai’r ddwy ffurf a ddosbarthwyd i’r grŵp ‘arall’, sef poten a cig y goes, yw’r ffurfiau tafodieithol gwirioneddol, a chan mai’r siaradwyr hynaf yw’r rhai mwyaf cynefin â’r ffurfiau hyn, y mae’n ymddangos eu bod yn colli tir yn iaith y siaradwyr ieuaf. Ni chofnodwyd yr amrywion bola coes na tewdra’r goes yn y data presennol, ond cynigiwyd croth coes gan 10% o’r siaradwyr ym Mlaenau Ffestiniog.
Mewn astudiaeth gyffelyb a gynhaliwyd yn Nhreorci gan A. W. Evans (1992), ceir darlun tebyg o ran dosbarthu’r atebion a gynigiwyd gan y siaradwyr. Gyda’r newidynnau yn yr astudiaeth sy’n enwau, dosbarthwyd yr amrywion yn dri grŵp fel yn astudiaeth N. G. Jones (1986), sef ‘tafodieithol’, ‘anlleol’, a ‘Saesneg’. Unwaith eto, gall categoreiddio’r amrywion er mwyn hwyluso’r dadansoddi orsymleiddio’r realiti. Ni cheir trafodaeth o’r prosesau a’r strategaethau a weithredwyd gan y siaradwyr yn Nhreorci.
Mewn dwy astudiaeth eirfaol arall, ni cheir ond tri newidyn yn I. Gruffydd (1989) a dau yn Cornelius (1999) yn gyffredin â’r astudiaeth bresennol. Astudiodd Gruffydd iaith siaradwyr Plwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, a Cornelius iaith plant Cwm Tawe Uchaf. Y tri newidyn yn gyffredin ag astudiaeth Gruffydd yw (SHIN), (EYEBROW), a (HAIR PARTING). Ar gyfer (SHIN), cofnododd Gruffydd (1989: 187) bedwar amrywyn – crimog, coes, gwaelod y goes, a shin – ac ni chynigiodd 12% o’i siaradwyr ateb o gwbl am y rhan hon o’r goes. Cofnodwyd y pedwar ateb hyn ym Mlaenau Ffestiniog yn ogystal â 14 o amrywion eraill (trafodwn yr amrywion hyn yn fanylach yn 6.2.2 isod). Newidyn arall yn gyffredin yw (EYEBROW), ac atebodd siaradwyr Gruffydd gyda’r Saesneg yn amlaf (58%), a chynigiodd 40% ohonynt aeliau. Nid oedd ateb gan y 2% arall. Ceir canlyniadau tebyg yn yr astudiaeth bresennol (gweler Tabl 6.5 isod), ond cynigiwyd tair amrywyn arall ym Mlaenau Ffestiniog, sef blew llygaid, amrant, a gruddiau. Ni chofnodwyd ond pedwar amrywyn gan Gruffydd (1989: 187) ar gyfer (HAIR PARTING), sef rhesen wen, rhesen, llinell wen, a parting. Rhoddwyd y pedair ffurf hyn gan siaradwyr Blaenau Ffestiniog yn ogystal â deg o atebion eraill (6.2.2 isod). Y mae’n ymddangos, felly, y ceir llai o amrywiaeth yn iaith siaradwyr Gruffydd o ran y tri newidyn hyn.
O droi at astudiaeth Cornelius (1999), nid oedd ond dau newidyn yn gyffredin, sef (COMPUTER) a (COMPACT DISC). Canolbwyntiodd Cornelius ar iaith plant, ac ni cheir, felly, gymhariaeth â siaradwyr hŷn Cwm Tawe Uchaf. Yr oedd 100% o’i siaradwyr yn gynefin â’r ffurf Gymraeg safonol am (COMPUTER), sef cyfrifiadur, canlyniad sy’n cyd-daro â’r hyn a geir ym Mlaenau Ffestiniog gyda phob un o’r siaradwyr 30 oed ac iau yn cynnig y ffurf hon. Cofnodwyd dau amrywyn arall yn yr astudiaeth bresennol, sef y Saesneg a’r ffurf symleiddiedig PC. O ran (COMPACT DISC), y mae canlyniadau’r astudiaeth bresennol yn wahanol iawn i’r hyn a geir yn Cornelius. Cynigiodd 60% o siaradwyr Blaenau Ffestiniog cryno-ddisg am (COMPACT DISC), cynigiwyd y ffurf hon gan 79% o’r siaradwyr hyd at 30 oed yn yr astudiaeth bresennol, ond nid atebodd ond 4% o blant Cwm Tawe Uchaf gyda’r term swyddogol hwn. Iddynt hwy, y ffurfiau symleiddiedig CD a disg oedd yr atebion mwyaf poblogaidd. Cofnodwyd y tair ffurf hyn ym Mlaenau Ffestiniog yn ogystal â’r Saesneg, compact disc.
Mewn astudiaeth o erydiad geirfaol yn nhafodiaith Cwm Tawe gan Wells (1998) lle yr holwyd 160 o siaradwyr am 800 o eitemau, ceir darlun cyflawnach. Y mae’r astudiaeth hon yn fwy trawiadol o ran ei chymharu â’r un bresennol oherwydd o’r cant o newidynnau a geir yn sampl ieithyddol yr astudiaeth gyfredol, y mae 34 wedi eu cynnwys yn astudiaeth fwy cynhwysfawr Wells. Nid oes lle i drafod yn drylwyr y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng canlyniadau’r ddwy astudiaeth hyn, ond gall cymhariaeth fras fod yn werthfawr. O’r 34 newidyn sy’n gyffredin i astudiaeth Wells a’r un bresennol, cynigiodd siaradwyr Cwm Tawe a Blaenau Ffestiniog yr un nifer o amrywion ar gyfer saith. O’r gweddill, ni cheir ond gwahaniaeth bach o un neu ddau yn y nifer o amrywion a gofnodwyd yn y ddwy astudiaeth am 14 o’r newidynnau. Ar gyfer (COMPUTER), cofnodais dri amrywyn – cyfrifiadur, computer, a PC – ac yn astudiaeth Wells ceir yr un amrywion gyda grŵp arall o ffurfiau wedi ei ddosbarthu yn ‘eraill’. Unwaith eto, beth yw’r ffurfiau yn y grŵp ‘eraill’ ac a ydyw’n bosibl bod yr atebion ‘eraill’ hyn yn amlygu enghreifftiau o strategaethau ateb’r siaradwyr wrth iddynt ymateb i’r sbardunau? O ran y gweddill o’r newidynnau yn gyffredin, y mae 13 ohonynt lle y mae’r nifer o amrywion a godwyd yn wahanol iawn. Dengys Tabl 6.4 y newidynnau hyn a’r nifer o amrywion a gofnodwyd yn y ddwy astudiaeth.
Tabl 6.4: Newidynnau ac Amrywion yn Astudiaethau Wells a Jilg
|
Ceir chwech o atebion gwahanol yn astudiaeth Wells ar gyfer (KNEE) o gymharu â dau amrywyn yn yr astudiaeth gyfredol, a dyma’r unig newidyn a ysgogodd fwy o amrywion yng Nghwm Tawe. Ar wahân i (SURGERY) gyda phump o amrywion yn Wells ac wyth yn y data presennol, cofnodais o leiaf ddwywaith y nifer o amrywion ar gyfer gweddill y newidynnau hyn a bron pum gwaith y nifer ar gyfer un ohonynt, sef (HAIR PARTING). O ystyried bod Wells wedi cyfweld 160 o bobl, y mae’n anodd credu ei bod wedi cofnodi cyn lleied o amrywion ar gyfer y newidynnau hyn. Ar ôl dweud hynny, dylid cofio bod Wells wedi dosbarthu rhai o’r amrywion ar gyfer nifer o’r newidynnau i’r grŵp ‘eraill’ ac nad oes cofnod o beth yn union yw’r atebion ‘eraill’ hyn. Unwaith eto, y mae’n bosibl y gall yr amrywion yn y grŵp o atebion ‘eraill’ oleuo’r prosesau a’r strategaethau sy’n gweithredu wrth i siaradwyr chwilio yn eu geirfa am ffurfiau addas sy’n cyfateb i’r cysyniadau. Fel y gwelsom, gan amlaf, nid ystyrir y strategaethau hyn. Er hynny, o’r chwe astudiaeth hyn o erydiad geirfaol, Wells (1998: 135 – 42) yw’r unig un sy’n cyfeirio at strategaethau’r siaradwyr wrth sôn am symleiddio a benthyg geiriau (gweler 6.3.1 a 6.3.8 isod am drafodaeth bellach o’r strategaethau hyn). Cynhaliwyd y chwe astudiaeth o erydiad geirfaol a drafodwyd yn yr adran hon yn y De, ond anodd credu y byddai’r gwahaniaeth daearyddol hwn wedi esgor ar wahaniaeth mor drawiadol. Fel y dywedwyd eisoes, efallai mai gwahaniaethau o ran dadansoddi a dibenion yr astudiaethau hyn o gymharu â’r astudiaeth gyfredol yw’r ffactor sy’n gyfrifol am yr anghysondeb hwn.
6.2.2 Rhannau o’r
Corff: Amrywion a Strategaethau
Diben y drafodaeth uchod oedd dangos nad yw’r label ‘eraill’ yn ddigonol er mwyn deall y strategaethau sy’n gweithredu mewn cymunedau ieithyddol wrth i rai termau golli a thermau eraill ennill tir. Wedi edrych ar yr amrywion a gynigiwyd wrth i’r siaradwyr ymateb i rai o’r newidynnau, sylwyd eisoes ar nifer o strategaethau (6.2). Nid oes lle i drafod yr holl newidynnau a’u hamrywion yma, ond gall tynnu sylw at rai eraill ohonynt amlygu tueddiadau’r siaradwyr wrth ymateb i’r sbardunau. Ystyrir, felly, yr amrywion a godwyd ar gyfer un grŵp semantaidd, sef ‘Y Corff’.
Gyda’r rhannau o’r pen, gwelsom fod y ffurfiau Cymraeg am (FOREHEAD) a (CHIN) yn hysbys i 100% a 95% o’r siaradwyr (6.2). Y mae gan (CHEEK) ddau amrywyn: cynigiodd pawb boch ac ychwanegodd un ohonynt grudd. Ysgogodd (HAIR PARTING) 14 o amrywion gwahanol:
(HAIR PARTING) %
Rhesen wen 45
Parting 21
Rhesen 19
Llinell gwallt 6
Rhes wen 3
Rhes gwallt 2
Rhes 2
Troellen 2
Corun 2
Rhych 2
Llinell wen 2
Rhywbeth sy’n rhannu’r pen 2
Seam 2
Line 2
Yr oedd 45% o’r sampl yn gynefin â’r term rhesen wen, a chynigiodd 21% ohonynt y ffurf Saesneg parting. Y mae’n ymddangos, felly, fod y ffurf Gymraeg yn uwch yn ymwybyddiaeth y siaradwyr na’r Saesneg. Trawiadol yw’r ffurfiau symleiddiedig ymysg yr amrywion ar gyfer (HAIR PARTING). Ceir rhes wen, sy’n dangos symleiddio morffolegol; rhesen, sy’n enghraifft o symleiddio trwy golli ansoddair; a rhes gyda’r ddau fath o symleiddio. Ar ôl dweud hynny, cyfeiria A. R. Thomas (1973: 475) at y newidyn (HAIR PARTING) yn LGW gan ddweud bod yr amrywion rhesan a rhesan wen yn perthyn i iaith lafar Blaenau Ffestiniog, ond y mae: ‘the English loan partin(g) occurs in some profusion, particularly in the north and midland’ (gweler 6.4 isod am drafodaeth bellach o LGW). Y mae’n ymddangos, felly, fod y ffurf rhesan yn enghraifft o dafodiaith Blaenau Ffestiniog a bod parting yn air benthyg lleol sydd wedi ymgartrefu yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Cofnodwyd hefyd ffurf dra anghyffredin, sef troellen. Yn ôl GPC, y mae troellen ar lafar yng Ngheredigion yn golygu ‘rhaniad’ ac ym Mangor yn golygu ‘corun’ (GPC: 3612). Gallai’r ffurf hon ym Mlaenau Ffestiniog, felly, fod yn enghraifft o etifeddu gair tafodieithol prin. Cynigiodd un siaradwr ffurf sy’n perthyn i’r un grŵp semantaidd, sef corun, a cheir nifer o atebion disgrifiadol am (HAIR PARTING) fel rhywbeth sy’n rhannu’r pen, llinell wen, a llinell gwallt. Digon tebyg yw rhych, seam, a line am eu bod yn eithaf disgrifiadol. Y mae’n bosibl bod rhes gwallt yn enghraifft o ddysgu anghyflawn am fod y ffurf hon yn debyg i’r un ‘briodol’.
Ceir un grŵp o newidynnau eraill ar gyfer y pen, sef rhannau o’r llygad. Dengys Tabl 6.5 yr amrywion a godwyd am rannau o’r llygad a’r canrannau o’r sampl a’u cynigiodd. Ar gyfer (EYEBROW), gyda phump o wahanol atebion, cynigiodd 48%
Tabl 6.5: Rhannau o’r Llygad
|
o’r sampl eyebrow a 48% arall ael. Y mae’n ymddangos, felly, fod y ddwy ffurf hyn yn cystadlu â’i gilydd yn iaith y siaradwyr. Geiriau sy’n perthyn i’r un grŵp semantaidd yw blew llygaid ac amrant, ond nid yw’r berthynas semantaidd mor agos rhwng (EYEBROW) a’r amrywyn arall, sef gruddiau sy’n golygu ‘ochr yr wyneb o dan y llygad’ (GPC: 1536). Cofnodwyd cryn nifer o amrywion ar gyfer y ddau newidyn arall am rannau o’r llygad: ceir saith o amrywion ar gyfer (EYELASHES) ac 11 am (EYELID). Ni chynigiodd ond un siaradwr blew amrant am (EYELASHES), ond atebodd 29% o’r sampl â’r disgrifiad blew llygaid a 50% gyda’r Saesneg. Y mae’n debyg, felly, fod y ffurf ddisgrifiadol hon ar lafar ond bod y Saesneg yn dra chyffredin hefyd. Y mae’r amrywion eraill a gofnodwyd yn perthyn i’r un grŵp semantaidd, sef aeliau, amrant, a ffurfiau lluosog ar y ffurf olaf, sef amrannau ac amrantau. Ar gyfer (EYELID), nid oedd ond 29% o’r siaradwyr yn gynefin ag amrant, ond cynigiodd 37% ohonynt y ffurf Saesneg. Disgrifiadau yw’r rhan fwyaf o’r amrywion eraill fel caead y llygaid, croen llygaid, a croen uwchben y llygaid, ond ceir llygad, aeliau ac eyelash hefyd, sef geiriau yn yr un set semantaidd.
Fel y gwelsom eisoes yn 6.2 uchod, nid esgorodd (FINGERNAIL) ond ar un amrywyn, gewin, a gynigiwyd gan bob un o’r siaradwyr. Nifer gymharol fach o amrywion a gynigiwyd ar gyfer y rhannau eraill o’r llaw a’r fraich. Yr unig eithriad oedd (PALM), a ysgogodd naw o amrywion. Ni chodwyd ond tri ateb yr un ar gyfer (ELBOW) a (WRIST), ac y mae i (KNUCKLE) chwech o atebion gwahanol. Dengys Tabl 6.6 y canrannau o’r sampl a gynigiodd yr amrywion ar gyfer rhannau o’r fraich a’r llaw.
Tabl 6.6: Rhannau o’r Fraich a’r Llaw
|
Ar gyfer (ELBOW), cynigiwyd penelin gan 95% o’r sampl, sy’n awgrymu mai dyma ffurf arferol y siaradwyr. Nid yw’r ddau amrywyn arall yn anniddorol: atebodd pedwar person gyda garddwrn ac un arall gyda pen-glin. Gellid dadlau mai gair o’r un set semantaidd yw garddwrn am mai’r rhan hon o’r corff yw’r ffin rhwng y fraich a’r llaw. Cynigiodd dau berson y ffurf hon yn ogystal â penelin a’r ddau siaradwr arall y gair hwn yn unig. O ran pen-glin, y mae’n bosibl y gall tebygrwydd ffonolegol y ffurf hon i’r un draddodiadol esbonio’r ateb hwn, (trafodwn yr amrywyn hwn ymhellach yn 6.3.9 isod).
Y mae’n ymddangos bod y ffurf draddodiadol yn dal ei thir ar gyfer (WRIST) oherwydd cynigiodd pawb ond un garddwrn. Benyw’r Pethau 24 oed a benyw’r Dafarn 51 oed a gynigiodd y Saesneg a’r Gymraeg am y rhan hon o’r llaw. Benyw’r Pethau 75 oed yw’r siaradwr eithriadol, a migwrn oedd ei gair hi am (WRIST). Nid yw’n eglur paham yr oedd ei hateb mor wahanol i weddill y siaradwyr, ond y mae’n bosibl bod migwrn naill ai yn enghraifft o gynnig gair sy’n perthyn i’r un set semantaidd neu’n ffurf lai cyffredin oherwydd, yn ôl GPC, gall migwrn olygu ‘wrist’ ond ceir gofynnod cyn y ffurf hon yng nghofnod y geiriadur, sy’n dynodi ystyr neu darddiad amheus (GPC: 2454, d. g. migwrn).
O ran (KNUCKLE), ni chynigiodd ond 24% o’r siaradwyr migwrn ond cynigiodd 48% ohonynt y ffurf Saesneg. Atebodd un siaradwr, gŵr y Pethau 56 oed, gyda ffurf dra anghyffredin, sef cygnau. Yn ôl GPC, y mae ‘cwgn’ yn golygu ‘cymal, migwrn, cyswllt neu gydiad dau asgwrn yn ffurfio cnepyn caled, yn enwedig ar fys neu ar ddwrn’ (GPC: 637, d. g. cwgn). Awdur sawl llyfr ac un sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn eang yw’r gŵr a gynigiodd y gair llai cyffredin hwn, ac y mae’n bosibl, felly, ei fod yn gynefin ag ef oherwydd ei brofiad gyda’r iaith lenyddol. Awgrymodd y siaradwr hwn hefyd migwrn a knuckle wrth iddo ymateb i’r sbardun. Cynnig termau o’r un set semantaidd – bys, cymal a joint – oedd yr atebion eraill a godwyd am (KNUCKLE).
Er bod gan (PALM) nifer o amrywion, yr oedd cledr yn hysbys i 68% o’r sampl, sy’n awgrymu bod cledr ar lafar y rhan fwyaf o’r siaradwyr. Cynigiodd 19% y Saesneg wrth ymateb i’r newidyn ac atebodd dau berson gyda gair o’r grŵp semantaidd, sef llaw. Atebion creadigol fel gwadn llaw a talcen y llaw a disgrifiadau fel tu fewn y llaw a blaen y llaw oedd yr amrywion eraill a gofnodwyd.
Ar wahân i
(KNEE) nad
ysgogodd ond un ateb, sef pen-glin,
codwyd nifer fawr iawn o amrywion am y rhannau eraill o’r goes: naw am
(THIGH), un ar ddeg ar gyfer
(CALF), a
chynifer â deunaw am
(SHIN). Ceir yn Nhabl 6.7, yr amrywion ar gyfer y tri
newidyn hyn a’r canrannau o’r sampl a’u cynigiodd.
Tabl 6.7: Rhannau o’r Goes
|
Gwelir mai’r
ateb mwyaf hysbys am (THIGH) oedd clun gyda 48% o’r sampl yn cynnig y ffurf hon. Gall y ganran dra isel hon awgrymu bod y
ffurf draddodiadol yn colli tir yn iaith y siaradwyr. Atebodd 19% gyda’r Saesneg, thigh; cynigiwyd termau o’r un
set semantaidd, sef ffêr a coes; a disgrifiadau fel cyhyrau coes, top y goes a rhan ucha’r
goes yw gweddill yr amrywion a godwyd am
(THIGH).
Ar gyfer (CALF) a (SHIN), y geiriau Saesneg oedd y ffurfiau a
gofnodwyd yn amlaf gyda 23% o’r sampl yn cynnig calf a 24% shin. O ran y ffurfiau traddodiadol, ni chynigiodd
ond 10% croth coes a 15% crimog, sy’n awgrymu bod y termau
Cymraeg yn prysur ddiflannu o iaith y siaradwyr. Ar gyfer
(CALF), cynigiwyd ateb
disgrifiadol, sef cefn y goes, gan 16% o’r siaradwyr, a cheir nifer o
atebion disgrifiadol eraill sef tu ôl i’r goes, cyhyr y goes, muscle
y goes, blaen y cefn, un o gyhyrau’r goes, a muscle
tu cefn i’r goes. Y mae 37% o’r
siaradwyr wedi cynnig yr atebion disgrifiadol hyn, sy’n dystiolaeth bellach fod
y ffurf draddodiadol yn colli tir am fod angen i nifer o’r siaradwyr
ddisgrifio’r rhan hon o’r corff. Term
o’r un set semantaidd, sef coes, yw ateb arall a gynigiwyd ar gyfer (CALF), a chafwyd amrywyn diddorol gan ddau berson, sef coes las. Yn ôl GPC, y mae coes las
yn golygu ‘shin bone of beef’ ac y mae’r term ‘ar lafar ym Môn ac Arfon a
rhannau o’r Deau’ (GPC: 533). Gall y ffurf hon fod yn enghraifft o derm
tafodieithol prin neu hyd yn oed gair slang.
Ar gyfer (SHIN), cynigiodd 23% o’r sampl ffurf o’r
un grŵp semantaidd, sef coes, ac y mae’r ganran hon bron mor uchel
â’r nifer o siaradwyr a atebodd gyda’r Saesneg (24%). Ceir hefyd ddau ateb arall sy’n perthyn i set
semantaidd (SHIN), sef clun a ffêr. Codwyd nifer o atebion disgrifiadol, er
enghraifft gwaelod y goes, coes isa, darn o’r goes, rhan
isa’r goes a blaen y goes.
Sylwer ar yr amrywion crymog, cimog, crymach, craman,
a cryman. Y mae’r atebion hyn yn
drawiadol am eu bod yn debyg yn ffonolegol i’r ffurf draddodiadol, sy’n awgrymu
bod y siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau hyn yn gyfarwydd â’r term ‘priodol’ ond
bod eu gwybodaeth o’r ffurf yn ansicr. Y
mae’n bosibl, felly, mai enghreifftiau o ddysgu anghyflawn yw’r ffurfiau hyn.
Ceir darlun
tebyg gyda’r rhannau o’r droed. Y mae
gan (HEEL) bedwar ac (ANKLE) chwe amrywyn, ond
cynigiwyd cynifer â 13 ar gyfer (SOLE). Dengys Tabl 6.8 y canrannau o’r siaradwyr a
gynigiodd yr amrywion hyn.
Tabl 6.8: Rhannau o’r Droed
|
Ar gyfer (HEEL), cynigiodd 84% o’r siaradwyr sawdl ac 8% y gair Saesneg. Gan fod y rhan fwyaf o’r sampl yn gynefin â’r ffurf draddodiadol, y mae’n debyg ei bod yn dal ei thir yn iaith y siaradwyr. Ni chofnodwyd yr un enghraifft o ddisgrifio. Er hynny, codwyd un ateb creadigol – pelen y droed – ac enghraifft o derm Saesneg sy’n perthyn i’r un grŵp semantaidd, sef sole.
Ceir darlun tebyg ar gyfer (ANKLE) gyda 69% o’r sampl yn gynefin â ffêr, ac nid oedd enghraifft o ddisgrifio. Cynigiwyd y Saesneg gan 26% o’r siaradwyr a chyda dim ond dros ddau draean ohonynt yn ateb gyda’r ffurf draddodiadol, nid yw safle ffêr mor ddiogel ag eiddo sawdl yn iaith y siaradwyr. Cofnodwyd gair o’r un set semantaidd ar gyfer (ANKLE) hefyd – sawdl – ond ffurfiau llai cyffredin oedd y gweddill o’r amrywion – meilwng, pigwrn, a migwrn.[1] Yn ôl GPC, y mae meilwng ar lafar yn y Gogledd, migwrn yn Arfon, a pigwrn ym Morgannwg, sir Gaerfyrddin, a sir Benfro (GPC: 2409, 2454, 2801 d. g. ‘meilwng’, ‘migwrn’, a ‘pigwrn’). Y mae’n ddigon posibl, felly, fod yr enghreifftiau hyn yn debyg i’r rhai a ddosbarthwyd gan N. G. Jones (1986: 115) yn ‘ffurfiau anlleol’ ac yn enghreifftiau o etifeddu ffurfiau tafodieithol prin.
Wrth ymateb i (SOLE), nid oedd ond 39% o’r siaradwyr yn gyfarwydd â gwadn. Nid atebodd ond pedwar person gyda’r Saesneg, sole, ond ceir disgrifiadau fel o dan y droed, blaen y droed, gwaelod y droed a gwaelod y goes. Y mae’n bosibl, felly, fod gwadn yn colli tir, nid i’r Saesneg, ond yn gyffredinol, a bod hyn wedi arwain at yr angen i ddisgrifio’r rhan hon o’r droed. Ceir hefyd atebion creadigol fel cledr y droed a padell y droed a geiriau Saesneg a Chymraeg o’r un grŵp semantaidd, sef arch, troed, a sawdl.
O ystyried yr amrywion a gynigiwyd ar gyfer rhannau o’r corff, amlygwyd wyth o strategaethau, neu brosesau, a weithredwyd gan y siaradwyr wrth iddynt chwilio yn eu geirfa am ffurfiau ar gyfer y sbardunau. Y mae’r strategaethau hyn wedi’u pwysoli yma o’r amlaf i’r lleiaf aml:
1. Benthyg o’r Saesneg
2. Disgrifio
3. Cynnig geiriau o’r un grŵp semantaidd
4. Awgrymu ffurfiau creadigol
5. Cynnig ffurfiau llai cyffredin (ond ‘cywir’)
6. Dysgu anghyflawn
7. Cynnig geiriau slang
8. Symleiddio
Y mae’n ymddangos, felly, y gall y siaradwyr ddefnyddio nifer o strategaethau pan nad yw’r ffurf ‘briodol’ am y gwrthrych ar gael iddynt, ac y mae’r strategaethau hyn yn eu cynorthwyo i gyfleu’r cysyniadau.
Fel y gwelsom uchod yn 6.2.2, gweithredwyd sawl strategaeth gan y siaradwyr wrth ymateb i’r newidynnau gan gynnwys disgrifio’r gwrthrych a chynnig geiriau o’r un grŵp semantaidd. Awgryma Cook (1989: 239) mai’r drych‑ddelweddau i’r strategaethau a’r prosesau sy’n gweithredu wrth i iaith farw yw’r rhai sy’n gweithredu wrth i bobl ddysgu iaith newydd. Gan fy mod yn edrych ar ffurfiau traddodiadol, geiriau am gysyniadau cymharol hen, a thermau newydd (2.2.6), gellid dadlau bod dysgu geiriau newydd yn debyg i ddysgu geirfa iaith newydd ac y dylai’r prosesau neu’r strategaethau fod yn gyffelyb i’w gilydd. Yr ochr arall i’r geiniog yw’r awgrym bod yr un prosesau’n eu hamlygu eu hunain wrth i rai geiriau traddodiadol golli tir yn y gymuned ieithyddol.
Mewn astudiaeth o golli’r Saesneg yn ail iaith gan siaradwyr Siapaneeg iaith gyntaf, y mae Yoshitomi (1999: 87) yn defnyddio’r term cydnabyddedig a helaeth ei ddefnydd ‘strategaethau cyfathrebu’ i gyfeirio at y strategaethau a weithredid gan y siaradwyr hyn wrth iddynt chwilio yn eu geirfa yn yr ail iaith am y geiriau ar gyfer gwahanol gysyniadau. Ni weithredir y strategaethau hyn gan siaradwyr ail-iaith yn unig: fel y dengys Hulsen, de Bot, a Weltens (2002), gall siaradwyr gael problemau wrth geisio dod o hyd i dermau ‘priodol’ yn eu hiaith gyntaf mewn sefyllfa o amgyffwrdd ieithyddol. Yn eu hastudiaeth o strategaethau ateb ac iaith lafar mewnfudwyr yn Seland Newydd, cyfeiria Hulsen, et al. (2002: 33) at fethodoleg debyg i eiddo’r astudiaeth bresennol, ac wrth drafod y problemau sy’n gysylltiedig â dadansoddi ystyr strategaethau ateb y siaradwyr, dywedant:
The various strategies people use when they experience difficulty in retrieval [of lexical items] make it hard then to determine whether loss has in fact occurred, whether a word is just difficult to recall, or whether – in the case of second- and third-generation migrants – it was never actually fully acquired. To investigate processes of recall and recognition in L1 speakers, experimental techniques, such as picture naming and picture-word matching can be used.
Er nad yw’n hawdd bob tro ddarganfod yr union resymau dros fethu cynnig ffurfiau ‘priodol’, gall cael siaradwyr i enwi’r eitemau amlygu’r strategaethau a ddefnyddir ganddynt a’u gallu i ddod o hyd i ffurfiau am y cysyniadau.
Awgrymwyd mai’r rhannau o’r corff yw’r unig grŵp o newidynnau yn yr astudiaeth hon a chanddo ffurfiau geirfaol sy’n wirioneddol draddodiadol. Yn ôl Haarmann (1990: 4), ‘the parts of the body are designated by cognate (i.e. indigenous or autochthonous) forms, and this sector of a language’s vocabulary is not affected by the influence of a contact language’. Ar ôl dweud hynny, dengys Haarmann (1990: 4) y gall hyd yn oed geiriau am rannau o’r corff gael eu hamnewid gan eiriau benthyg. Fel y gwelsom uchod (6.2.2), nid yw pob rhan o’r corff yn hollol ddiogel rhag dylanwadau Seisnigeiddio, yn enwedig o ystyried rhannau o’r llygaid lle ceir y ffurfiau Saesneg naill ai’n gyfartal neu’n fwy hysbys i’r siaradwyr na’r rhai Cymraeg (Tabl 6.5). Ar wahân i gynnig y Saesneg, disgrifio’r rhannau o’r llygaid ac awgrymu geiriau o’r un grŵp semantaidd oedd y strategaethau a ddefnyddiwyd gan y siaradwyr. Awgrymwyd eisoes mai’r strategaethau a weithredir wrth i iaith farw yw’r drych-ddelweddau i’r rheini a ddefnyddir gan ddysgwyr ieithoedd. Gan fod y siaradwyr ym Mlaenau Ffestiniog wedi defnyddio nifer o strategaethau wrth ymateb i’r unig grŵp o newidynnau hollol draddodiadol, sef rhannau o’r corff, gellid cymharu’r strategaethau a gofnodwyd eisoes â’r rhai a weithredwyd wrth ymateb i’r sbardunau am gysyniadau newydd er mwyn darganfod a ydyw’r strategaethau’n gyffelyb mewn gwirionedd.
Cynnig benthyciadau o’r
Saesneg oedd y strategaeth ateb a ddefnyddiwyd amlaf gan y siaradwyr. Fel y gwelsom yn 6.2.2 wrth ystyried rhannau
o’r corff, cynigiwyd geiriau Saesneg ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, ond y mae’r
rhai nad ydynt wedi ysgogi ffurfiau Saesneg yn fwy trawiadol. Nid oedd yr un enghraifft o ffurf Saesneg ar
gyfer chwech o’r newidynnau – (KNEE),
(FOREHEAD),
(CHEEK),
(CHIN),
(FINGERNAIL), ac (ELBOW). O’r chwe newidyn hyn, cynigiodd
pawb y ffurfiau Cymraeg ar gyfer (FOREHEAD),
(CHEEK),
(FINGERNAIL), a (KNEE), ond atebodd y siaradwyr i gyd ac eithrio tri gyda gên a penelin am (CHIN) ac (ELBOW).
Y mae’n ymddangos, felly, fod y chwe ffurf hyn yn dra sefydlog yn iaith
siaradwyr Blaenau Ffestiniog, ac y mae’n debygol eu bod yn gwrthsefyll
dylanwadau amgyffwrdd ieithyddol a Seisnigeiddio.
O ystyried yr
atebion Saesneg a gynigiwyd wrth ymateb i’r sbardunau, gellir eu rhannu yn
is-grwpiau o dan y pennawd ‘benthyciadau’.
Ceir geiriau sydd wedi eu benthyg o’r Saesneg ac sydd wedi ymgartrefu yn
y Gymraeg ers dros ganrif. Y mae’r
geiriau hyn i gyd yn ymddangos mewn Cymraeg llafar ac yn cael eu cofnodi’n
fenthyciadau o’r Saesneg yn ôl GPC.
Er enghraifft, ceir y benthyciadau sefydlog bwtsiar a doctor,
geiriau Saesneg sydd yn y Gymraeg ers o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg (bwtsiar) a’r bedwaredd ar ddeg (doctor) (GPC: 357, 1069). Cofnodwyd y Saesneg gliw yn y Gymraeg yn 1752, ac wrth ymateb i’r sbardun (VETERINARIAN), cynigiwyd ffariar
gan nifer o’r siaradwyr, gair a ddefnyddir mewn Cymraeg ysgrifenedig ers 1771
(GPC: 1277, 1408). Ar gyfer (BEDROOM), cofnodwyd siambar, ac am (POLICEMAN), cynigiwyd cwnstabl,
sef benthyciadau eraill o’r bedwaredd ganrif ar ddeg (GPC: 3260, 645). Cofnodwyd hefyd plismon ar gyfer y newidyn olaf, ac y mae’r ffurf hon wedi bod yn y
Gymraeg ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (GPC: 2827). Mewn ymateb i
(CUSHION) a (FIREMAN), cynigiwyd y geiriau Saesneg gan rai o’r siaradwyr, ac y mae GPC
yn cynnwys cwshin a ffeiarman fel benthyciadau o’r Saesneg
sydd ar lafar yn gyffredinol, ond heb nodi dyddiad ar gyfer eu mabwysiadu i
Gymraeg llafar (GPC: 650, 1280).
Yr ochr arall
i’r geiniog yn y categori hwn yw’r ffurfiau a fenthycwyd yn ddiweddarach. Labelwyd atebion tebyg gan A. E. Jones (1984:
196) yn ‘fenthyciadau diweddar moel’. Eyebrow, restaurant, dentist,
a bedroom yw rhai o’r
enghreifftiau yn y data. Am nad ydynt
wedi eu cofnodi mewn geiriaduron Cymraeg fel benthyciadau o’r Saesneg, nid oes
sail i’w hystyried yn fenthyciadau sefydlog heb graffu ar y data. Er enghraifft, ar gyfer y pedair enghraifft
hyn, cynigiodd 48% o’r siaradwyr eyebrow,
40% restaurant, 39% dentist, ond ni chynigiodd ond
10% ohonynt bedroom. Er ei bod yn bosibl bod y ffurfiau Saesneg
hyn ar lafar, y mae’r canrannau isel am y newidynnau hyn yn awgrymu bod gan y
siaradwyr ffurfiau eraill sy’n cyfleu’r cysyniadau hyn (trafodwn yn fanwl yr
amrywion eraill am y newidynnau hyn ym Mhennod 8).
Ceir benthyciadau
o’r Saesneg wrth ymateb i bob un o’r newidynnau newydd, ac y mae nifer ohonynt
yn fenthyciadau llafar eithaf sefydlog yn ôl GPC, er enghraifft eroplen, mecanic, redietyr, telefisiwn, a teli (GPC: 1237, 2389, 2972, 3473, 3474). Er nad ydynt wedi eu cofnodi yn y geiriadur
hwn, clywir yn aml y ffurfiau Saesneg ar lafar ar gyfer sawl un o’r newidynnau
eraill hefyd, er enghraifft (LEISURE CENTRE),
(OPTICIAN),
(COMPACT
DISC), a (COMPUTER).[2] Nid yw’n peri syndod bod y siaradwyr wedi
cynnig ffurfiau Saesneg ar gyfer pob un o’r sbardunau am gysyniadau newydd am
nad yw pob aelod o gymuned ieithyddol yn derbyn a defnyddio termau newydd yn
syth ar ôl iddynt gael eu bathu.
Y mae pob un
o’r newidynnau ond chwech wedi ysgogi ffurfiau Saesneg, ond gellid disgwyl bod
y geiriau Saesneg yn hysbys i’r siaradwyr hyn gan eu bod yn ddwyieithog. Awgryma Singleton (2000: 183) wrth drafod
casgliadau rhai ymchwilwyr sosioieithyddol:
Bilinguals consult the lexical stores associated with both their languages when taking vocabulary tests in one of their languages.
Os yw’n wir bod siaradwyr
dwyieithog yn chwilio geirfâu’r ddwy iaith wrth gael eu holi ynglŷn â
geiriau, nid yw’r ffurfiau niferus o’r Saesneg yn peri syndod. Wrth gwrs, nid yw’r datganiad hwn yn ymhlygu
nad oes croesi rhwng yr ieithoedd, ac fel y tystia’r chwe newidyn a sbardunodd
ffurfiau Cymraeg yn unig, gall y siaradwyr ddidoli rhwng y ddwy iaith oherwydd
y mae’n fwy na thebyg eu bod yn ymwybodol o nifer o’r ffurfiau Saesneg
cyfatebol hefyd.
6.3.2 Disgrifio
Ar wahân i fenthyg geiriau o’r Saesneg, disgrifio’r gwrthrych oedd y strategaeth ateb a ddefnyddiwyd yn amlaf gan y siaradwyr. Unwaith eto, y mae’n bosibl gwahaniaethu rhwng y disgrifiadau hyn ar sail y math o atebion a gynigiwyd. Y mae rhai ohonynt yn ymadroddion enwol (gweler P. W. Thomas 1996: 133-34 a 320-27 am drafodaeth drylwyr o ymadroddion enwol) ac eraill yn frawddegau llawn. Mewn astudiaeth o golli iaith, y mae Yoshitomi (1999: 92) yn cyfeirio at y math hwn o atebion fel circumlocutions, ac y mae’n awgrymu bod yr atebion hyn yn strategaethau a ddefnyddir gan siaradwyr pan nad yw’r geiriau ‘priodol’ ar gael i’r siaradwyr. Gwelsom nifer o enghreifftiau yn 6.2.2 uchod wrth drafod rhannau o’r corff – cyhyr y coes a muscle y goes