7.1 Darganfod
Grwpiau Naturiol
Mewn ymgais i ddarganfod gwreiddiau a chyfeiriad i newidiadau ieithyddol, yn draddodiadol y mae sosioieithyddion wedi tueddu i grwpio pobl yn ôl sawl nodwedd gymdeithasol fel rhyw, oedran, a lefel sosioeconomaidd. Gall newidiadau ddechrau mewn un grŵp neu haen o’r gymdeithas, ennill tir dros amser, ac ymledu i haenau eraill. Fel y gwelsom eisoes (Pennod 2), y mae’r dull hwn wedi llwyddo i ddatgelu newidiadau mewn sawl ffordd ieithyddol. Y mae’r defnydd o gytseiniaid a llafariaid (Labov 1963 a 1991; Milroy a Milroy 1992; Trudgill 1978), ffurfiau berfau (Cheshire 1978), acenion geiriau (Chen a Wang 1975), newidiadau cystrawennol (Aitchison 1981), ac amrywion mewn tafodieithoedd (Bailey et al. 1993; R. O. Jones 1983; A. E. Thomas 1997; Trudgill a Chambers 1991) i gyd yn enghreifftiau o’r amrywiol newidiadau a ystyriwyd drwy gymharu gwahanol haenau cymdeithasol er mwyn olrhain tarddiad y newidiadau a chyfeiriad eu hymledu drwy’r gymuned. Er i’r astudiaethau hyn ehangu ein dealltwriaeth o’r rhyngweithio rhwng ffactorau ieithyddol a chymdeithasol, ni ellir gwadu bod rhai o’r grwpiau a ddefnyddir gan sosioieithyddion (ac ymchwilwyr eraill yn y gwyddorau cymdeithasol) er mwyn categoreiddio pobl yn dibynnu ar ffiniau cymdeithasol a ddiffinnir gan yr ymchwilydd. O ganlyniad, nid yw’r categoreiddio hwn yn hollol ddiduedd. Un ffordd o osgoi tuedd yr ymchwilydd yw caniatáu i’r data a gesglir yn y gymuned dan sylw ymffurfio’n grwpiau yn ôl y data eu hunain ac wedyn archwilio nodweddion y siaradwyr er mwyn darganfod y ffactorau sy’n cyflyru eu hymddygiad ieithyddol.
Er mwyn cael gweld a oes unrhyw garfanau ieithyddol ym Mlaenau Ffestiniog, penderfynwyd gwneud dadansoddiad clymau ar yr atebion i’r holiadur ieithyddol. Techneg ystadegol rymus yw dadansoddi clymau ac fe’i defnyddir mewn sawl maes er mwyn dosbarthu data yn grwpiau ystyrlon. Disgrifia Everitt (1974: 1) yr hyn a wneir gan ddadansoddi clymau:
Given a sample of N objects or individuals, each of which is measured on each of p variables, devise a classification scheme for grouping the objects into g classes. The number of classes and the characteristics of the classes to be determined.
Yn lle grwpio unigolion y sampl yn ôl nodweddion cymdeithasol rhagfarnedig neu ffactorau a priori eraill, dibynna’r grwpiau a gynhyrchir gan dechneg dadansoddi clymau ar y data eu hunain er mwyn dosbarthu’r unigolion yn grwpiau naturiol. Dull sylfaenol y dechneg ddisgrifiadol ac archwiliol hon yw creu matrics cyfrifiannu o’r annhebygrwydd neu’r pellter rhwng yr unigolion a gosod unigolion sy’n debyg i’w gilydd mewn grwpiau. Defnyddir dadansoddi clymau i chwilio am grwpiau naturiol yn y data, symleiddio’r broses o ddisgrifio set fawr o ddata, a chynhyrchu damcaniaethau (gweler Everitt 1974 am drafodaeth fanwl o ddadansoddi clymau). Am hynny, teimlaf fod y dechneg hon yn ddelfrydol er mwyn datgelu’r perthnasau rhwng y siaradwyr yn ôl eu hatebion i’r holiadur ieithyddol yn ogystal â chael darlun eglur o’u grwpiau gwirioneddol.
Wedi cyflwyno’r data i becyn ystadegol ‘Clustan’, gwnaethpwyd dadansoddiad clymau ar y data ieithyddol, a godiwyd yn ddeuaidd. Defnyddiwyd mesur pellter Euclidaidd wedi’i sgwario i fesur y pellter rhwng yr unigolion. Penderfynwyd defnyddio dull Ward i ddosbarthu’r unigolion oherwydd mai’r algorithm clymau hwn oedd yr un mwyaf llwyddiannus i gynhyrchu’r clymau amlycaf. Cyn ymgymryd â’r dadansoddi clymau, rhifwyd y siaradwyr yn ôl eu grwpiau diwylliannol er mwyn hwyluso’r dehongli: y mae siaradwyr 1 – 30 yn perthyn i Bobl y Pethau a siaradwyr 31 – 62 yn Bobl y Dafarn.
7.1.1
Gogwydd Diwylliannol
Dengys Ffigur 7.1 ganlyniadau’r dadansoddi a’r dendrogram a gynhyrchwyd. Ceir saith grŵp, neu garfan, amlwg, ac un unigolyn, sef siaradwr 28. Benyw’r Pethau 75 oed yw’r unigolyn hwn, nid oes amodau allieithyddol amlwg a all gyfiawnhau ei harwahanu gan y dadansoddiad clymau, ond gall amodau ieithyddol esbonio hyn. Y mae’r dendrogram yn Ffigur 7.1 yn dangos bod ymddygiad ieithyddol yr atebwr hwn yn debycach i siaradwyr y trydydd clwm. Er hynny, cynigiodd yr unigolyn nifer fawr o atebion strategaethol o gymharu â siaradwyr eraill y trydydd clwm. Er enghraifft, cynigiodd pob aelod o’r trydydd clwm y ffurfiau Cymraeg traddodiadol ar gyfer rhai o’r newidynnau, ond atebodd yr unigolyn gyda ffurfiau llai cyffredin fel (WRIST) à migwrn a (TELEVISION) à teledydd ac atebion disgrifiadol fel (SOLDIER) à dyn y fyddin a (RESTAURANT) à lle i fwyta. Rhoddwyd sawl ateb disgrifiadol arall gan y siaradwr hwn fel (THIGH) à top y goes, (FIRE EXTIGUISHER) à peth rhoi tân allan, (VACUUM CLEANER) à peth llnau lawr, (MECHANIC) à dyn trwsio ceir, (CASHPOINT) à lle i gael eich pres allan, a (RECYCLING CENTRE) à lle dych chi’n rhoi eich gwastraff. Yn ogystal, yr unigolyn oedd yr unig un o siaradwyr y trydydd clwm i gynnig y ffurfiau Cymraeg safonol am dri newidyn, sef (CALF) à croth coes, (ASHTRAY) à blwch llwch, a (LEISURE CENTRE) à canolfan hamdden. Er bod yr unigolyn wedi ateb yn debyg i’r aelodau a ddosbarthwyd i’r trydydd clwm, y mae’n bosibl bod y gwahaniaethau hyn wedi dieithrio’r atebwr hwn oddi wrth siaradwyr eraill y clwm hwn.
Ffigur 7.1: Dendrogram yn Carfanu’r Siaradwyr
Ceir yn Nhabl 7.1 gyfansoddiad y carfanau yn ôl eu grwpiau diwylliannol a chyfanswm y nifer o siaradwyr fesul carfan. Y mae 11 o siaradwyr yn y garfan gyntaf
Tabl 7.1: Cyfansoddiad y Carfanau
|
|
Carfan 1 |
Carfan 2 |
Carfan 3 |
Carfan 4 |
Carfan 5 |
Carfan 6 |
Carfan 7 |
|
N Pobl y Pethau |
9 |
8 |
4 |
3 |
3 |
1 |
1 |
|
N Pobl y Dafarn |
2 |
0 |
2 |
4 |
3 |
15 |
6 |
|
Cyfanswm |
11 |
8 |
6 |
7 |
6 |
16 |
7 |
ac y maent i gyd, ar wahân i ddau – sef 54 a 58 – yn Bobl y Pethau. Yr ail garfan, gydag wyth person, yw’r un fwyaf unffurf gyda phob un o’r siaradwyr yn perthyn i Bobl y Pethau. Yn y drydedd garfan, ceir chwech o bobl, ac unwaith eto Pobl y Pethau ydynt ar wahân i ddau – siaradwr 39 a 41. Y mae’r bedwaredd garfan (saith person) a’r pumed (chwech) yn fwy cymysg gyda bron hanner y siaradwyr wedi eu dosbarthu a priori i un grŵp diwylliannol a’r hanner arall i’r llall. Y chweched garfan yw’r un fwyaf gydag o leiaf dwywaith yn fwy o siaradwyr na phob un o’r grwpiau eraill ar wahân i’r garfan gyntaf. Gyda 16 o bobl, y mae’n eithaf unffurf o ran gogwydd diwylliannol oherwydd bod pawb ond un (siaradwr 16) yn perthyn i Bobl y Dafarn. Yn y garfan olaf ceir saith o bobl ac unwaith eto y mae’r grŵp hwn yn eithaf unffurf o ran ei gyfansoddiad: y mae’r siaradwyr i gyd ond un – siaradwr 12 – yn Bobl y Dafarn.
O edrych ar yr arolwg syml hwn, y mae un ffaith yn amlwg: y mae tuedd gref i ddosbarthu a priori y siaradwyr yn ôl eu gogwydd diwylliannol gael ei adlewyrchu yn eu hymddygiad ieithyddol. Er bod 13 o siaradwyr wedi eu clymu gyda rhai eraill nad ydynt yn eu grŵp diwylliannol a priori, y mae dylanwad y ffactor hon yn dal yn amlwg. Carfanau 4 a 5 yw’r grwpiau mwyaf cymysg: y maent yn cynnwys saith o’r siaradwyr afreolaidd, a gellid ystyried, felly, aelodau’r ddwy garfan hyn yn bontwyr. Y mae’r chwe siaradwr afreolaidd arall wedi eu gwasgaru ymysg y carfanau eraill ar wahân i’r ail, sy’n hollol unffurf o ran ei chyfansoddiad. Nid yw’r canlyniadau hyn, o angenrheidrwydd, yn codi amheuon ynglŷn â dosbarthu’r siaradwyr yn ddau grŵp o flaen llaw. Fel y gwelsom ym Mhennod 2, y mae’r ddynameg a all gyflyru ymddygiad ieithyddol yn gymhleth a gall ffactorau gydblethu â’i gilydd. O ganlyniad, nid yw grwpiau cymdeithasol yn gwbl gyffelyb ac unffurf o ran eu hiaith, ac fel yr awgryma Bickerton (1971: 488), y mae eithriadau’n hollol ddisgwyliedig:
It is my contention that no group exhibits either complete uniformity or complete variability, and moreover that there is no group within a given language community such that the linguistic behaviour of all its members falls within a certain range and all non-members outside it.
At hynny, y mae’r dadansoddi clymau wedi llwyddo i amlygu grwpiau pendant sy’n adlewyrchu, gan amlaf, y ddau grŵp cymdeithasol a’r ffactorau allieithyddol a ddefnyddiwyd i wahaniaethu’r siaradwyr cyn perfformio’r dadansoddi clymau.
O edrych ar y canlyniadau yn yr un dendrogram o bellter mwy, gwelir bod Carfanau 1 a 2 yn ffurfio un grŵp a Charfanau 3 a 4 grŵp arall, sy’n cynnwys yr unigolyn. Y mae Carfanau 5 a 6 yn clymu â’i gilydd, ond sylwer bod Carfan 7 yn dal ar wahân, sy’n awgrymu bod y siaradwyr hyn yn dra gwahanol i’r lleill i gyd o ran eu hymddygiad ieithyddol.
O ystyried canlyniadau’r dendrogram gan symud y pellter un lefel yn uwch, y mae’n hawdd gweld bod y saith carfan wreiddiol yn ffurfio dau grŵp: Carfanau 1 – 4 a Charfanau 5 – 7. Ac eithrio wyth person, y mae siaradwyr y grŵp cyntaf yn Bobl y Pethau i gyd. Wrth graffu ar nodweddion personol yr wyth siaradwr eithriadol a ddosbarthwyd a priori yn Bobl y Dafarn, gwelir eu bod i gyd ond dau dros 63 oed. Gall hyn awgrymu bod oedran yn ffactor allweddol mewn cyflyru iaith yn y cyd-destun dan sylw. Dichon bod mynychu’r capel yn cael effaith ar y canlyniadau hefyd oherwydd y mae pawb ond un o’r siaradwyr eithriadol hynaf yn mynychu’r capel yn rheolaidd. Euthum i sawl capel yn ystod y gwaith maes ac yr oedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa dros hanner cant oed: nid yw’r canlyniadau hyn, felly, yn annisgwyl. Y mae’n ymddangos, o ganlyniad, fod oedran a mynychu’r capel yn ffyddlon yn rhyngweithio â’i gilydd. O ystyried oedran y ddau siaradwr eithriadol arall – 33 a 51 oed – y mae’n bosibl bod ffactor arall yn chwarae rôl yn y canlyniadau hyn am nad ydynt yn gapelwyr. Er nad yw’r un o’r wyth siaradwr hyn yn defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus mewn gweithgareddau cyhoeddus, y maent i gyd yn sgorio’n debyg i Bobl y Pethau ar eu defnydd o’r Gymraeg. Y maent yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg: wrth ryngweithio â phobl eraill o ddydd i ddydd ac wrth ddefnyddio’r cyfryngau torfol, y Gymraeg yw’r iaith feunyddiol iddynt. Ys honnodd un o ferched y Dafarn, sydd yn y grŵp hwn:
Dwi’n gallu mynd am wythnosa’ heb ddeud ’run frawddeg yn Sisneg am fod fy ffrindia’ i gyd yn Gymraig! (BD65)
Nid yw’n peri syndod y gall defnyddio’r Gymraeg fod yn ffactor gyflyrol o ran ymddygiad ieithyddol y siaradwyr. Yr oedd defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus yn ffactor hanfodol wrth ddethol y siaradwyr, ond datganodd bron pob un o Bobl y Pethau eu bod hefyd yn defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn helaeth. Y mae’r wyth siaradwr a ddosbarthwyd a priori yn Bobl y Dafarn hwythau’n defnyddio’r cyfryngau torfol yn helaeth, ac y mae’n bosibl, felly, y gall y ffactor hon chwarae rôl yn y canlyniadau hyn. Ystyriwn bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg yn 7.1.6 isod.
Pobl y Dafarn yw’r rhan fwyaf o’r siaradwyr yn yr ail grŵp. Ceir yn eu plith bump a ystyriwyd yn Bobl y Pethau, ond fel yr awgrymwyd eisoes, ni ddisgwylir i grwpiau cymdeithasol fod yn hollol unffurf eu hiaith. Yr hyn sy’n drawiadol yw bod y darlun a geir yma bron yn gwbl groes i’r hyn a welsom uchod: o’r pum siaradwr hyn, y mae pedwar o dan 45 oed a’r llall yn 73. Y mae’n debyg, felly, fod oedran yn chwarae rôl yn y canlyniadau hyn, ond nid dyna’r unig ffactor. Fel yn yr achos uchod, tybiais y byddai defnyddio’r Gymraeg yn ffactor bwysig arall wrth esbonio’r dosbarthu hwn. Y mae’r pum siaradwr hyn i gyd yn sgorio’n uchel o ran eu defnydd o’r cyfryngau torfol Cymraeg, ond y mae pedwar ohonynt, sef y rhai ifanc, yn cyfaddef nad ydynt yn gwylio nac yn gwrando ar raglenni dogfen na’r newyddion yn Gymraeg yn aml. Iddynt hwy, y mae’n ymddangos mai modd i ddifyrru yn fwy na hysbysu ac addysgu yw’r cyfryngau torfol, ac y mae’n well ganddynt raglenni ysgafn. O ystyried yr ymdrechu a’r brwydro gan gymdeithas Cylch yr Iaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynglŷn â safon y Gymraeg a ddefnyddir ar raglenni poblogaidd y teledu a’r radio, gall ei dadl fod yn berthnasol os ydyw’n adlewyrchu’r realiti. Yn ôl Cylch yr Iaith, defnyddir gormod o eiriau a dywediadau Saesneg gan gyflwynwyr ac ar raglenni Cymraeg ar S4C a Radio Cymru, ac ni ellir disgwyl, felly, iddynt fod yn ffynonellau sy’n cryfhau defnyddio Cymraeg safonol a chywir (Hancock 1999; Speed 1999).[1] Adleisia G. H. Jenkins (2001: 65) yr un pryderon wrth sôn am y cyfryngau torfol Cymraeg:
A yawning gap exists in Wales between Welsh-language oracy and literacy. We have never had a Welsh-language daily newspaper and we are bombarded with English-language tabloid newspapers which speak from outside the Welsh culture and exercise a powerful influence on speech patterns and language skills. More critically, there are clear signs that both Radio Cymru and S4C are deliberately DeCymricizing programs, dumbing down their content, and encouraging language degeneration in order to improve their ratings. A recent random sample of the language of presenters of Welsh programmes on Radio Cymru contained the following examples of pidgin Welsh: ‘essential, lovely, really, actually, cownto, sortio, dependo, syposo, syporto, trifialeiddio’. (ef biau’r italeiddio)
Os nad yw’r rhaglenni hyn yn fodelau o Gymraeg priodol yn yr un modd â’r newyddion, ni ellir hyderu y byddant yn llwybrau llwyddiannus ar gyfer lledaenu geiriau newydd eu bathu a chryfhau gwybodaeth o ffurfiau traddodiadol. Er y gall defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg fod yn ffactor gyflyrol o ran ymddygiad ieithyddol siaradwyr, y mae’n bosibl y gall y math o raglenni fod yn bwysig hefyd.
Yn ogystal â defnyddio’r Gymraeg, y mae ffactor amlwg arall a all esbonio paham y mae’r pum siaradwr hyn wedi cael eu dosbarthu ymysg Pobl y Dafarn. Ar wahân i un dyn 44 oed, nid aeth y gweddill ymlaen ar ôl yr ysgol i gael mwy o addysg. Dengys sawl astudiaeth (er enghraifft Labov 1966; Trudgill 1974a; A. E. Thomas 1997) y gall addysg gyflyru ymddygiad ieithyddol, ac y mae’n ymddangos bod y ffactor hon yn bwysig wrth ystyried dosbarthu’r dadansoddi clymau (gweler 7.1.4 isod am drafodaeth bellach o ddylanwad addysg).
Y mae’n ymddangos bod y dadansoddi clymau wedi llwyddo i ddarganfod grwpiau naturiol a bod y dehongliad ohono wedi dangos pa ffactorau a all fod o bwys wrth ystyried y canlyniadau. Gellid disgwyl bod gogwydd diwylliannol, oedran, ac addysg yn cyflyru ymddygiad ieithyddol. Ffactorau eraill sy’n effeithio ar iaith y siaradwyr yw defnyddio’r Gymraeg a’r cyfryngau torfol, yn ogystal â mynychu’r capel yn ffyddlon. Yn ôl pob tebyg, y mae’n bosibl bod oedran a mynychu’r capel yn rhyngweithio â’i gilydd am fod y rhan fwyaf o’r bobl a welais yng nghapeli Blaenau Ffestiniog yn hŷn na hanner cant.
Dylid sylwi ar nodwedd arall a amlygwyd yn ystod y gwaith maes. Nid yw rhwydweithiau enwi Pobl y Dafarn mor gyfyngedig a chlòs ag eiddo Pobl y Pethau (6.1 uchod). O ganlyniad, y mae’n fwy o ryfeddod bod y siaradwyr wedi cael eu dosbarthu mor daclus i’w grwpiau diwylliannol priodol gan y dadansoddi clymau. Am hynny, y mae’n ymddangos bod yr amodau a weithredwyd er mwyn dosbarthu’r siaradwyr a priori yn berthnasol i’r gymuned hon a bod y dadansoddi clymau wedi llwyddo i ddangos bod Pobl y Pethau a Phobl y Dafarn yn tueddu i ymrannu’n ddau wahanol grŵp o ran eu hymddygiad ieithyddol.
7.1.2 Rhyw
|
|
Carfan
1 |
Carfan
2 |
Carfan
3 |
Carfan 4 |
Carfan 5 |
Carfan 6 |
Carfan 7 |
|
% |
36 |
37.5 |
67 |
43 |
50 |
44 |
86 |
|
% |
64 |
62.5 |
33 |
57 |
50 |
56 |
14 |
gilydd: y mae’r rhan fwyaf o’r siaradwyr yn ferched. Ceir darlun i’r gwrthwyneb o ran Carfan 3, ac y mae 86%, neu bawb ond un, o aelodau Carfan 7 yn ddynion. Y mae’r carfanau eraill yn eithaf cyfartal o ran y nifer o fenywod a dynion sydd ynddynt. Y mae’n ymddangos, felly, fod rhyw yn chwarae rôl yn achos Carfanau 1, 2, 3 a 7. 32, neu 52%, o’r siaradwyr i gyd sydd yn y pedair carfan hyn. Er hynny, nid yw’n eglur bod rhyw ar ei ben ei hunan yn ffactor amlwg sy’n cyflyru ymddygiad ieithyddol yn y gymuned hon. Gellid dadlau bod natur yr astudiaeth bresennol a’r math o ddata a gasglwyd yn llai tebygol o amlygu gwahaniaethau ieithyddol rhwng dynion a benywod na’r tair astudiaeth a grybwyllwyd uchod. Astudiaethau ffonolegol yw ymchwil Labov (1966), Trudgill (1974a), ac A. E. Thomas (1997), ac efallai nad yw gwahaniaethau mor amlwg wrth ystyried geirfa’r ddau ryw. Ceir casgliad tebyg i’r uchod yn astudiaeth eirfaol A. E. Jones (1984: 80). Er hynny, gwelsom yn 2.2.1 uchod fod dynion a merched Pontyberem yn amrywio o ran eu gwybodaeth o’r ffurfiau Cymraeg am liwiau (N. G. Jones 1986) a darganfu R. O. Jones (1983) wahaniaethau geirfaol yn ôl rhyw’r siaradwyr yn ei astudiaeth ym Mhatagonia. Er y gall rhyw fod yn ffactor gyflyrol o ran gwybodaeth o eitemau geirfaol, felly, y mae’n bosibl nad yw’r ffactor hon mor ddylanwadol ymysg siaradwyr yr astudiaeth bresennol o ran y geiriau yr holwyd amdanynt.
Mewn pedair astudiaeth o’r Gymraeg (A. E. Roberts 1988; C. M. Jones 1992; R. O. Jones 1983; A. E. Thomas 1997), dangoswyd pwysigrwydd oedran fel ffactor gyflyrol a all amlygu newidiadau ieithyddol mewn cymunedau. Y mae Tabl 7.3 yn dangos yr atebwyr yn ôl eu carfanau a’u hoedrannau. Gwelir bod pob carfan yn cynnwys dwy
tabl 7.3:
Bôn a Dail
Oedrannau’r Siaradwyr fesul Carfan
Carfan
1 |
Carfan 2 |
Carfan 3 |
Carfan 4 |
Carfan 5 |
Carfan 6 |
Carfan 7 |
|
10 9 8 7 6 5 5 1 4
3 0 1 3 3 3 9 2 4 7 7
1 0 |
10 9 8 7 1 1 6 0 3 8 5 6 6 4 1 3 2 1 0 |
10 9 8 5 7 5 8 6 3 5 1 9 4 3 2 1 0 |
10 9 8 2 4 4 4 7 1 6 1 5 0 4 3 2 1 0 |
10 9 8 7 6 5 2 7 4 4 3 0 6 2 9 1 0 |
10 9 8 7 6 3 5 1 7 4 8 3 0 1 2 3 9 2 0 24 4 5 56 1
0 |
10 9 8 7 1 1 3 3 7 6 5 4 2 4 3 2 1 0 |
genhedlaeth, ond ceir cryn wahaniaeth rhwng yr oedrannau yng Ngharfan 1 a Charfan 7 (ac eithrio dau siaradwr yn y naill a’r llall, y gellir eu hystyried yn eithafion). Y mae’r rhan fwyaf o siaradwyr y garfan gyntaf yn weddol ifanc a’r rhai yng Ngharfan 7 yn tueddu i fod yn eu saithdegau. Nid yw’n hawdd bob amser ddehongli paham y mae siaradwyr yn ymddwyn yn debyg i bobl sy’n wahanol iddynt, ac y mae’r pedwar siaradwr eithriadol hyn yn achosion o’r fath. Yn y garfan gyntaf, benywod yw’r ddau siaradwr hynaf – Merch y Pethau 51 oed a Merch y Dafarn 65 oed. Y maent yn wahanol iawn i’w gilydd o ran addysg. Y mae Merch y Pethau yn perthyn i gymdeithasau ond nid yw’n mynd i gapel. Y mae’r darlun yn gwbl groes gyda’r siaradwr arall, hynny yw, y mae hi’n mynd i’r capel ond nid yw’n perthyn i gymdeithasau. Er hynny, y mae’n bosibl bod defnyddio’r Gymraeg a’r cyfryngau torfol yn berthnasol am fod y siaradwyr hyn wedi sgorio’n uchel ar y ffactorau hynny, ac y mae eu sgorau’n debyg i sgorau’r gweddill o’r siaradwyr yn y garfan hon. Dynion y Dafarn yw siaradwyr eithriadol Carfan 7, ac nid ydynt yn aelodau o gymdeithas na chapel. Unwaith eto, y mae’n bosibl y gall defnyddio’r Gymraeg a’r cyfryngau torfol fod yn ddylanwadol o ran ymddygiad ieithyddol y ddau siaradwr hyn oherwydd yn debyg i aelodau eraill Carfan 7, tra chyfyngedig yw defnydd y ddau siaradwr iau hyn o’r cyfryngau torfol Cymraeg (gweler 7.1.6 isod).
O ran eu hoedran, tebyg iawn i’r garfan gyntaf yw Carfan 6 gyda’r rhan fwyaf o’r siaradwyr yn eu hugeiniau a’u tridegau. Y mae’r siaradwyr ifanc hyn yn 75% o’r bobl yn y grŵp hwn a Phobl y Dafarn ydynt. Ceir ychydig o amrywio rhwng oedran Carfan 2 ac eiddo Carfan 3 gyda’r siaradwyr at ei gilydd yn y drydedd garfan ychydig yn hŷn na’r rhai yn y grŵp arall. Y mae amrediad oedran y bumed garfan yn gymharol gyfyngedig hefyd ond y mae’r siaradwyr at ei gilydd yn iau na’r rhai yn yr ail a’r drydedd garfan. Y mae cryn amrediad i oedran Carfan 4 ond y mae dros hanner y siaradwyr yn eu hwythdegau.
Mewn ymgais i grynhoi’r data crai hyn, y mae Tabl 7.4 yn dangos amrediad oedran y siaradwyr ym mhob carfan, y gwahaniaeth oedran rhwng y siaradwyr fesul carfan, a’u canolrifau oedran.
|
|
Carfan 1 |
Carfan 2 |
Carfan 3 |
Carfan 4 |
Carfan 5 |
Carfan 6 |
Carfan 7 |
|
Amrediad Oedran |
24 – 65 |
41 – 71 |
51 - 85 |
50 – 84 |
29 – 57 |
20 – 63 |
42 – 77 |
|
Gwahaniaeth Oedran |
41 |
30 |
34 |
34 |
28 |
43 |
35 |
|
Canolrifau’r Carfanau |
33 |
61.5 |
69 |
82 |
40 |
30.5 |
71 |
Y mae pob carfan yn cynnwys dwy genhedlaeth, ond ar wahân i Garfanau 1 a 6, y mae llai na 40 mlynedd rhwng yr hynaf a’r ieuaf ymhob carfan. Carfanau 2 a 5 yw’r rhai mwyaf unffurf o ran oedran ac y mae’r tair carfan arall yn eithaf tebyg i’w gilydd o ran gwahaniaeth oedran. Er y ceir gorgyffwrdd rhwng y grwpiau, y mae’n ymddangos bod oedran yn ffactor eithaf pwysig wrth esbonio’r gwahaniaethau ym mhatrymau ieithyddol y siaradwyr.
Gwelsom eisoes yn 7.1.1 uchod fod y siaradwyr yng Ngharfanau 1 – 4 yn perthyn, ar y cyfan, i Bobl y Pethau ond mai Pobl y Dafarn yw’r rhan fwyaf yn y tair carfan olaf. Diddorol yw sylwi ar y siaradwyr hynaf yng Ngharfan 4: cafodd pedwar o’r saith siaradwr yn y grŵp hwn eu dosbarthu a priori yn Bobl y Dafarn ond y mae’r garfan hon wedi ei chlymu â Phobl y Pethau (Ffigur 7.1). Y mae’n bosibl, felly, mai oedran y siaradwyr hŷn hyn, neu rywbeth sydd yn gysylltiedig â’u hoedran a’u profiadau, fel dylanwad y capel, sydd yn gyfrifol am eu rhoi yn y garfan hon gyda Phobl y Pethau. Gellir ystyried siaradwyr y garfan hon yn bontwyr rhwng y ddau grŵp diwylliannol. Ceir cyfansoddiad tebyg i’r garfan nesaf, sef Carfan 5. Â Phobl y Dafarn y clymwyd hon, ond sylwir mai cymysg ydyw, gydag union hanner yn perthyn i’r Dafarn a’r hanner arall i’r Pethau. Y mae’r pontwyr yn y garfan hon yn iau na phontwyr y garfan flaenorol, sy’n awgrymu unwaith eto fod oedran yn chwarae rôl yn y canlyniadau. Ar sail y drafodaeth hon, gellir ystyried y carfanau hyn yn grwpiau oedran yn ôl eu gogwydd diwylliannol fel a ganlyn:
Pobl
y Pethau
Cymysg
(Pontwyr) Pobl y
Dafarn
Carfan
2 = Hŷn Carfan 5
= Iau
Carfan
7 = Hŷn
O ystyried canlyniadau’r dadansoddi clymau a nodweddion cymdeithasol y siaradwyr yn y carfanau, y mae’n ymddangos hyd yn hyn fod oedran a gogwydd diwylliannol yn ffactorau pwysig a all gyflyru ymddygiad ieithyddol y siaradwyr hyn. O hyn ymlaen, felly, cyfeirir at y carfanau yn ôl eu grwpiau oedran a chyfansoddiad y carfanau:
Carfan 2 = PH
Carfan 5 = CI
Carfan 7 = TH
Carfan 3 = PO
(P: Pethau, C: Cymysg, T: Tafarn; H: Hŷn, I: Iau, O: Oedrannus)
Er y cyfeirir at y carfanau yn ôl y ddwy ffactor hyn, y mae’n fwy na thebyg bod ffactorau eraill yn cyflyru iaith y siaradwyr. Gan hynny, ni ddefnyddir y labeli hyn ond er mwyn hwyluso’r dadansoddi a’r drafodaeth.
Dengys sawl astudiaeth sosioieithyddol (Labov 1972a; Trudgill 1974a;
A. E. Thomas 1997) y gall y lefel o addysg effeithio ar ymddygiad ieithyddol
siaradwyr. Dangosir yn Ffigur 7.2 y
canrannau o’r siaradwyr a gafodd addysg uwch,
fesul carfan. Fel y gwelir, siaradwyr ifanc y Pethau – PI –
yw’r rhai mwyaf addysgedig. Y mae pob un
o siaradwyr PI, ar wahân i’r ddwy Ferch y Dafarn, wedi cael addysg
bellach. Nid oes yn TH ond un siaradwr a
gafodd addysg bellach. Y mae’r tair
carfan gyntaf yn cynrychioli Pobl y Pethau mewn trefn oedrannol gynyddol, ac y
mae canrannau’r tair carfan o ran addysg yn cynyddu. CH a CI yw’r pontwyr, ac er eu bod yn llai
addysgedig na siaradwyr y Pethau, unwaith eto y mae’r canrannau’n dilyn y
patrwm 
oedrannol. Ceir yr un darlun gyda TH a TI. Fel y gwelir, y mae’r patrwm addysgol yn dilyn nid yn unig oedran y siaradwyr ond hefyd eu gogwydd diwylliannol. Y mae’n ymddangos, felly, fod cysylltiad rhwng y tair ffactor allieithyddol hyn. Y mae’r siaradwyr iau yn dueddol o fod wedi cael mwy o addysg ffurfiol na’r siaradwyr hŷn, a all fod yn ganlyniad i’r cynnydd mewn addysg bellach yn ystod y degawdau diwethaf.
Y mae’r gwahaniaeth rhwng PI a TH yn syfrdanol a gall rhyw’r siaradwyr fod yn ffactor gyflyrol bwysig er mwyn esbonio sgôr eithriadol o isel TH. Gwelwyd yn 7.1.2 uchod fod 64% o siaradwyr PI yn fenywod ond pawb ond un yn TH yn ddynion. Y mae’n bosibl bod hyn yn adlewyrchu tuedd gyffredinol ym Mhrydain:
The number of enrolments by men on undergraduate courses in higher education institutions increased by around 83 per cent between 1970/71 and 1997/98. For women the increase has been even more dramatic, with more than four times as many enrolments as in the early 1970s. (National Statistics Online 2002: dim rhif tudalen)
Gall hyn esbonio’r bwlch rhwng PI a TH. O ystyried dwy garfan arall y Pethau, y mae 33% o PO yn ferched a 63% o PH (Tabl 7.2): ni chafodd ond un aelod o PO addysg bellach o gymharu â hanner siaradwyr PH. Y mae’r carfanau eraill yn weddol gymysg o ran eu cyfansoddiad o ddynion a merched, ac nid yw’r gwahaniaethau rhyngddynt o ran addysg bellach mor drawiadol. Y mae’n bosibl, felly, fod rhyw y siaradwyr, oedran, a gogwydd diwylliannol yn rhyngweithio â’u lefel o addysg.
7.1.5 Ffyddlondeb i’r Capel
Fel y gwelsom yn 3.5, ystyrir bod capeli Cymru yn gadarnleoedd i’r Gymraeg. Y mae’n bwysig, felly, edrych ar y ffactor hon i weld a ydyw capelwyr ffyddlon yn wahanol i eraill o ran eu hiaith. Atebodd llawer o’r trigolion eu bod yn aelodau o gapel, ond ar ôl holi ymhellach, cafwyd mai dim ond yn achlysurol, os o gwbl, y mynychai sawl un ohonynt. Nid ystyriwyd, felly, ond y siaradwyr sy’n mynychu’r capel o leiaf unwaith y mis yn ‘aelodau ffyddlon o gapel’. Ceir yn Ffigur 7.3 y canrannau o’r siaradwyr sy’n mynychu’r capel yn ffyddlon. Unwaith eto y mae’r

canlyniadau’n cydamrywio ag oedran a gogwydd diwylliannol y siaradwyr. O ystyried oedran y siaradwyr, nid wyf yn synnu darganfod bod y bobl ifanc yn llai ffyddlon na’u hynafiaid. Yn ystod y gwaith maes, euthum i’r capel bob bore Sul naill ai gyda’r wraig weddw yr oeddwn yn aros ar ei haelwyd neu gyda phobl eraill i gapeli eraill. Bob tro, fi oedd y person ieuaf yn y gynulleidfa ac ni welais lawer o bobl ganol oed. Yn ôl R. M. Jones (1999: 81), dechreuodd pwysigrwydd y capeli ddirywio ar ôl yr Ail Ryfel Byd:
Mor ddiweddar ag 1950 roedd nifer yr aelodau yn yr enwadau Anghydffurfiol yn hynod o debyg i’r hyn yr oedd hanner canrif ynghynt, ond yn y cyfamser roedd poblogaeth Cymru wedi cynyddu i ymron i 2,600,000, ac felly cynrychiolai’r ffigyrau hynny ganran is o’r boblogaeth honno. Ac, yn fwy arwyddocaol byth, roedd natur yr aelodaeth yn heneiddio ac erbyn 1950 roedd niferoedd y disgyblion Ysgol Sul yn amlwg yn gostwng. Bu’r Ail Ryfel Byd yn drobwynt o bwys, hyd yn oed yn y Gymru wledig.
Ac fel y mae G. H. Jenkins (2001: 64) yn awgrymu, ‘One traditional fortress of the language – religion – is now virtually a lost cause’. Fel cadarnle’r Gymraeg, y mae pwysigrwydd y capel wedi edwino ym mywydau llawer o’r Cymry Cymraeg, ac y mae’r iaith yn prysur golli un o’i hamddiffynfeydd. Y mae’n ymddangos, felly, fod y dirywiad yn aelodaeth y capeli wedi dechrau o ddifrif hanner canrif yn ôl, ac y mae’r dystiolaeth i’w gweld yn gwbl glir yn y capeli ym Mlaenau Ffestiniog.
Dengys Ffigur 7.3 y gall gogwydd diwylliannol chwarae rôl hefyd, ond i raddau llai nac oedran. Y sgorwyr uchaf o ran mynychu’r capel yn ffyddlon yw CH (86%), ond y mae sgôr TI yn disgyn 48% i 38%. Os yw gogwydd diwylliannol yn ffactor gyflyrol, disgwylid i CH sgorio ychydig yn is na PH ac yn uwch na TH gan fod CH yn garfan o bontwyr. Nid yw’n amlwg, felly, paham y maent mor ffyddlon. Er hynny, gwelsom fod y bobl hŷn yn mynychu’r capel yn amlach na’r rhai ifanc a dylid cofio mai’r garfan hynaf o’r siaradwyr i gyd yw CH. Gall hyn awgrymu bod oedran yn gyflyrol bwysicach o ran mynychu’r capel yn ffyddlon na gogwydd diwylliannol.
O ystyried oedran y siaradwyr, cwbl wahanol yw’r darlun a geir gyda’r ffactor ‘mynychu’r capel yn ffyddlon’ i’r hyn a welsom wrth edrych ar lefel addysg y siaradwyr. Gwelsom fod y canrannau o siaradwyr ffyddlon yn dringo wrth i oedran gynyddu, ond y mae lefel o addysg bellach yn disgyn wrth symud o’r toeau ieuaf i’r siaradwyr hynaf (Ffigur 7.2). O ganlyniad gellid dadlau bod perthynas negyddol rhwng lefel addysg a mynychu’r capel yn ffyddlon. Mewn astudiaeth o’r ddwy ffactor hyn mewn sawl gwlad, awgryma Sacerdote a Glaeser (2001: 27-28) fod cydberthynas negyddol rhwng lefel addysg a chrefyddusrwydd, a hynny am sawl rheswm, gan gynnwys agweddau’r sustem addysg tuag at gred grefyddol. Ac er na lwyddais i ddod o hyd i ystadegau ar gyfer Prydain a’i gwledydd, yn ôl canlyniadau cyfrifiad Awstralia (Australian Bureau of Statistics 2002: dim rhif tudalen):
There is a correlation between the level of education and the tendency to state ‘no religion.’ Of people aged 15 years and over, 11% of those without a post-school qualification stated ‘no religion’, compared to 16% of those with vocational qualifications, 25% of those with degrees and 33% of those with higher degrees.
Yn Awstralia a’r gwledydd yn astudiaeth Sacerdote a Glaeser (2001), felly, tueddir i gael cydberthynas negyddol rhwng y ddwy ffactor hyn. Gwelsom fod oedran yn ymbatrymu’n daclus ag addysg, ac y mae’n ymddangos, felly, fod y ddwy ffactor hyn yn rhyngweithio â ffyddlondeb y siaradwyr i’r capel.
7.1.6 Defnyddio’r
Gymraeg
Gofynnwyd cwestiynau i’r siaradwyr ynglŷn â’u defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol lefydd yn y gymuned a’u defnydd o’r cyfryngau torfol Cymraeg (gweler rhan 6 o’r Holiadur Sosioieithyddol yn Atodiad II). Yr oedd deg cwestiwn am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned ac wyth am ddefnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg. Lluniwyd y sgorau drwy gyfrifo canrannau’r siaradwyr a atebodd yn gadarnhaol i’r cwestiynau hyn. Ceir yn Ffigur 7.4 sgorau cymedrol y siaradwyr fesul carfan.

O ystyried defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned, sgoriodd pob carfan dros 80% ar wahân i TI a TH. Rhwng PH a TH y ceir y gwahaniaeth mwyaf sylweddol ac y mae TI yn debyg i TH. Gallai hyn awgrymu bod gogwydd diwylliannol yn rhyngweithio â’r ffactor hon gyda Phobl y Dafarn yn defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned yn llai na’r siaradwyr eraill. Pwysicach, efallai, yw’r ffaith bod y sgorau i gyd yn eithaf uchel, ac y mae hyn yn dangos pa mor gryf yw’r Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog: gall y siaradwyr ddefnyddio eu hiaith gyntaf ym mron pob un o siopau a gwasanaethau cyhoeddus y dref.
7.1.7 Rhyngweithio a Rhai o’r Ffactorau
Allieithyddol
Ar ôl cymharu canlyniadau’r amrywiol ffactorau allieithyddol uchod, y mae’n hawdd gweld bod rhai ohonynt yn nodweddu’r gwahanol garfanau ac yn mynd law yn llaw â ffactorau eraill. Gwelsom fod y siaradwyr hŷn yn tueddu i fod yn fwy ffyddlon i’r capel na’r siaradwyr ifanc, ac y mae’r bobl iau yn fwy tebygol o fynd ymlaen i gael addysg uwch na’r hynafgwyr. Ceir dylanwad ar y ddwy ffactor hyn o gyfeiriad gogwydd diwylliannol y siaradwyr yn ogystal. Y mae Pobl y Pethau’n tueddu i sgorio’n uwch na Phobl y Dafarn ar gyfer addysg a mynychu’r capel. O ganlyniad, ceir rhyngweithio ag oedran a gogwydd diwylliannol y siaradwyr, sy’n golygu bod y ffactorau hyn yn cyplysu i gyflyru ymddygiad ieithyddol y trigolion. Gall y rhyngweithio hwn guddio dylanwadau’r ffactorau unigol am eu bod yn ymbatrymu mor daclus, a gellid eu hystyried, felly, yn un uwch-ffactor sy’n ymwneud â thueddiad diwylliannol y siaradwyr.
Gwelsom yn 6.2.1 fod amrywion a gasglwyd mewn astudiaethau geirfaol o’r Gymraeg yn tueddu i gael eu dosbarthu i grwpiau fel ‘ffurfiau tafodieithol’, ‘ffurfiau anlleol’, ‘ffurfiau Saesneg’, ac ‘eraill’. Hynny yw, ceir tuedd ymhlith yr ymchwilwyr o ran trin yr amrywion. Gwelsom hefyd fod y dadansoddi clymau wedi llwyddo i ddarganfod grwpiau naturiol diduedd ymysg siaradwyr yr astudiaeth gyfredol, ac un o rinweddau dadansoddi clymau yw’r gallu i ddosbarthu corff mawr o ddata yn grwpiau hydrin. Gyda thros wyth cant o wahanol amrywion wedi’u cynnig gan siaradwyr yr astudiaeth bresennol, a chan fod y dechneg hon wedi profi’n llwyddiannus hyd yn hyn i amlygu grwpiau pendant a deongladwy wrth drin y siaradwyr, gwnaethpwyd dadansoddiad clymau ar yr amrywion, sef holl atebion y siaradwyr i’r holiadur ieithyddol, er mwyn cael amlygu’r tueddiadau ynddynt. Unwaith eto, defnyddiwyd dull Ward gyda phellter Euclidaidd wedi’i sgwario. Dengys Ffigur 7.5 i’r dechneg hon amlygu chwe chlwm pendant.[2] Sylwer bod y rhan fwyaf o’r amrywion a gynigiwyd wedi’u dosbarthu i Glwm 1, bod y clwm hwn wedi’i glymu wrth yr ail glwm, ac nad yw’r pellter rhyngddynt yn fawr iawn. Clymwyd y trydydd a’r pedwerydd clwm wrth ei gilydd, a cheir yr un patrwm gyda Chlwm 5 a Chlwm 6. Y mae’r dadansoddi clymau wedi rhwymo’r pedwar clwm olaf hyn wrth ei gilydd, ond y mae’r pellter rhyngddynt yn fwy na’r pellter rhwng y ddau glwm cyntaf. O ganlyniad, disgwylir y bydd Clwm 1 a Chlwm 2 yn debyg i’w gilydd ac yn dra gwahanol i’r gweddill. Disgwylir hefyd i Glymau 3 a 4, a 5 a 6, ddangos tebygrwydd o ryw fath.
7.2.1 Nodweddion
y Clymau
Dengys Tabl 7.5 gyfansoddiad bras y gwahanol glymau. Y mae’r tabl yn cynnwys y nifer o amrywion ym mhob clwm yn ogystal â’r nifer o newidynnau a gynrychiolir ganddynt. Gwelir, felly, y nifer o sbardunau sy’n gyfrifol am yr amrywion a
Ffigur
7.5 Delfrydiad o’r Dendrogram sydd
yn Carfanu Atebion y Siaradwyr
gynigiwyd gan y siaradwyr. Er enghraifft, o’r holl newidynnau, neu sbardunau, yn holiadur ieithyddol, y mae 85 wedi ysgogi 613 o wahanol atebion yng Nghlwm 1, neu 73% o’r holl amrywion a gynigiwyd gan y siaradwyr. Yng Nghlwm 2, ceir 45 o newidynnau a esgorodd ar yr 84 o atebion yn y clwm, ac y mae’r clymau eraill yn cynnwys llai na hanner y nifer o amrywion yn yr ail glwm.
Tabl 7.5 Cymhareb Teip/Enghreifftiau’r Amrywion a’r
Newidynnau fesul Clwm
|
|
CLWM
1
|
CLWM
2
|
CLWM
3 |
CLWM
4 |
CLWM
5 |
CLWM
6 |
|
N Atebion yn y Clwm |
613 |
84 |
31 |
34 |
38 |
34 |
|
N Newidynnau |
85 |
45 |
30 |
32 |
38 |
34 |
|
Cymhareb Teip/Enghr. |
1: 7.21 |
1: 1.85 |
1: 1.03 |
1: 1.06 |
1: 1 |
1: 1 |
Ceir hefyd gymhareb teip/enghreifftiau yn Nhabl 7.5. Pan fo’r gymhareb yn gymharol uchel, cynigiwyd sawl ateb amrywiol i’r sbardunau. Y mae cymhareb isel yn dynodi llai o amrywio rhwng y nifer o atebion ar gyfer y newidynnau yn y clwm. Y mae cymhareb y clwm cyntaf yn uchel iawn o’i chymharu ag eiddo’r clymau eraill, sy’n dangos bod nifer fawr o amrywion i newidynnau’r clwm. Gyda chymhareb bron pedair gwaith yn is na’r clwm cyntaf, y mae’r amrywion yng Nghlwm 2 yn llai niferus ar gyfer y newidynnau yn y clwm. Prin yw’r amrywio a geir rhwng y nifer o amrywion a’r newidynnau yn y trydydd a’r pedwerydd clwm, ac y mae’r gymhareb 1:1 ar gyfer Clymau 5 a 6 yn golygu bod un ateb yr un ar gyfer y 72 o newidynnau yn y ddau glwm hyn.
Dengys Tabl 7.6 y nifer o siaradwyr a gynigiodd yr amrywion unigol yn y clymau. Y nifer o bobl a atebodd gyda’r atebion yng Nghlwm 1 yw’r isaf o’r clymau i gyd, sef 1 – 9. Er enghraifft, ni chynigiwyd sawl amrywyn ond gan un person, a dim ond naw unigolyn ar y mwyaf a roddodd amrywion eraill. Ni cheir, felly, lawer o gytuno ymysg y siaradwyr ynglŷn â’r ffurfiau yng Nghlwm 1, ac y mae cymhareb uchel y clwm hwn, sef 1: 7.21, yn adlewyrchu’r amrywio hyn (Tabl 7.5).
Tabl 7.6: Nifer o Siaradwyr a Gynigiodd yr Amrywion
Unigol fesul Clwm
|
|
CLWM
1
|
CLWM
2
|
CLWM
3 |
CLWM
4 |
CLWM
5 |
CLWM
6 |
|
N Siaradwyr |
1 – 9 |
5 – 30 |
30 – 53 |
16 – 32 |
43 – 61 |
22 – 48 |
Yn yr ail glwm, y mae’r nifer o siaradwyr a gynigiodd yr atebion yn codi i 5 – 30. Y mae’n bosibl, felly, fod rhai o’r atebion yng Nghlwm 2 yn dra chyffredin yn iaith y siaradwyr am fod y nifer ohonynt a atebodd gyda rhai o’r ffurfiau yn agosáu at hanner y nifer o siaradwyr yn y sampl (trafodwn amrywion y clymau yn 7.2.2 isod).
Y mae cymhareb Clwm 3 (Tabl 7.5) yn dra isel, sef 1:03, sy’n dangos nad oes llawer o amrywio rhwng y nifer o atebion ar gyfer newidynnau’r clwm. Dengys Tabl 7.6 fod y nifer o siaradwyr a gynigiodd yr atebion yn y trydydd clwm yn codi i 30 – 53, a chydag amrediad mor uchel, y mae’n bosibl bod ffurfiau’r clwm yn eithaf cyffredin ar lafar.
Yn debyg i Glwm 3, y mae cymhareb Clwm 4 hefyd yn eithaf isel, sef 1:06 (Tabl 7.5), ond yn wahanol i Glwm 3, y mae’r nifer o atebwyr a roddodd y geiriau hyn (16 – 32) yn llawer is nag eiddo’r clwm blaenorol (Tabl 7.6). Cesglir, felly, nad yw’r termau hyn mor gyffredin â’r atebion yng Nghlwm 3 er eu bod yn gyfarwydd i’r siaradwyr ar y cyfan.
Fel y dengys Tabl 7.5, 1: 1 yw cymhareb Clwm 5 a Chlwm 6, ac nid oes yma, felly, yr un newidyn a sbardunodd fwy nag un ateb a ddosbarthwyd i’r ddau glwm hyn. Y mae’n ymddangos bod y geiriau yn y pumed clwm yn eithaf sefydlog yn iaith y siaradwyr oherwydd mai’r nifer o atebwyr a gynigiodd ffurfiau’r clwm hwn yw’r un uchaf, sef 43 – 61 (Tabl 7.6). Yn wahanol i Glwm 5, y mae amrediad y nifer o siaradwyr a roddodd yr atebion yng Nghlwm 6 yn disgyn yn sylweddol i 22 – 48, sy’n awgrymu bod ffurfiau’r clwm hwn yn gyfarwydd i nifer o’r siaradwyr er i raddau llai na’r ffurfiau yn y clwm blaenorol.
7.2.2 Amrywion
y Clymau
Gwelsom fod y nifer o siaradwyr a gynigiodd yr un amrywion yng Nghlwm 1 yn isel iawn, sy’n awgrymu ansicrwydd ar ran y siaradwyr hyn, sefyllfa a arweiniodd at ddefnyddio sawl strategaeth wrth ymateb i’r sbardunau. Gwelsom hefyd, yn 6.3.1 uchod, mai’r strategaeth ateb fwyaf cyffredin gan y siaradwyr oedd cynnig y ffurf Saesneg. Ceir nifer o ffurfiau Saesneg ymysg amrywion Clwm 1, er enghraifft wrist, knuckle, sole, heel, bedroom, library, fridge, vacuum, motorcycle, school patrol, rugby player, compact disc, sunglasses, leisure centre, a car park. Er y nifer o atebion Saesneg, y strategaeth ateb a weithredwyd amlaf gan y siaradwyr o ran yr amrywion yn y clwm cyntaf oedd disgrifio’r gwrthrychau, er enghraifft:
(HAIR PARTING) à rhywbeth sy’n rhannu’r pen
(EYELID) à croen dros y llygaid
(PALM) à tu fewn y llaw
(SIEVE) à y peth efo’r tyllau
(GLUE) à rhywbeth at drwsio peth a peth
(WAITER) à gwasanaethu mewn gwesty
(FIREMAN) à gweithiwr injan dân
(SURGERY) à lle’r meddyg
(VACUUM CLEANER) à peth llnau llawr
(ELECTRICIAN) à gwneud gwaith lectric
(JOB CENTRE) à lle chwilio am waith
(FIRE EXTINGUISHER) à rhywbeth i roi tân allan
(NEWSREADER) à dyn darllen y newyddion
(ASHTRAY) à peth sy’n dal llwch
Yng Nghlwm 1, ymddengys sawl enghraifft o’r math hwn o ddisgrifio a detholiad bychan ohonynt a geir uchod (nid oes lle i drafod amrywion y clwm hwn i gyd, ond ceir rhestr gyflawn ohonynt yn Atodiad V). Ceir, hefyd, ffurfiau slang, neu sarhaus, megis (POLICEMAN) à mochyn a glas, (PSYCHOLOGIST) à quack a dyn mymbo jymbo; geiriau sy’n perthyn i’r un grŵp semantaidd fel (EYEBROW) à amrant, (BEDROOM) à lolfa, a (MAGAZINE) à llyfr; atebion creadigol, er enghraifft (CUSHION) à tinog, (FIREMAN) à lladdwr tân, (MICROWAVE) à meicrogell; ffurfiau symleiddiedig megis (HAIR PARTING) à rhes wen a rhes, (SATELLITE DISH) à dysgl, (RECYCLING CENTRE) à ailgylchu; ac enghreifftiau o ddysgu anghyflawn fel (SHIN) à cimog a crymog, (MIRROR) à grych, (OPTOMETRIST) à optomegrydd, a (RADIATOR) à rheadydd. Ceir hefyd nifer o ffurfiau llai cyffredin ond ‘cywir’, sef (CHEEK) à grudd, (ANKLE) à pigwrn, migwrn, meilwng, (HAIR PARTING) à troellen, (KNUCKLE) à cygnau, a (TELEVISION) à teledydd. Y mae’r ffurfiau Cymraeg am (BATHROOM) à tŷ bach ac ar gyfer (SIEVE) à rhidyll yn y clwm cyntaf yn ogystal â’r ffurfiau swyddogol am (SCHOOL PATROL) à hebryngwr ac am (TELETEXT) à teletestun. Ar wahân i’r dyrnaid o ffurfiau ‘cywir’ hyn, y mae’r atebion yng Nghlwm 1 yn enghreifftiau o strategaethau ateb, ac y mae’r strategaethau a drafodwyd ym Mhennod 6 i gyd yn cael eu cynrychioli yma. Nid yw’r atebion strategaethol hyn yn debygol o fod yn ffurfiau ymarferol ym Mlaenau Ffestiniog oherwydd ni chynigiwyd atebion unigol Clwm 1 ond gan naw siaradwr ar y mwyaf. Cyfeirir, felly, at ffurfiau’r clwm hwn fel Atebion Strategaethol.
Yn debyg i’r Atebion Strategaethol, y mae’r rhan fwyaf o’r ffurfiau yn yr ail glwm hefyd yn enghreifftiau o strategaethau ateb. Dengys Tabl 7.7 y newidynnau a’r amrywion iddynt a geir yng Nghlwm 2. Ceir dyrnaid o ddisgrifiadau fel (JOB CENTRE) à lle’r dôl, (CALF) à cefn y coes, (SCHOOL PATROL) à dyn croesi ffordd, (RECYCLING CENTRE) à lle ailgylchu; enghreifftiau o ffurfiau o’r un grŵp semantaidd yn y ddwy iaith fel (SHIN) à coes, (SIEVE) à hidlwr a colander, (FOOD PROCESSOR) à blender a mixer, a (NEWSREADER) à newyddiadurwr; ffurfiau symleiddiedig, sef (HAIR PARTING) à rhesen, (POST OFFICE) à y post, (COMPACT
|
T2. (HAIR PARTING)
N8. (VACUUM CLEANER) rhesen wen
sugnwr llwch
rhesen
vacuum
cleaner
parting
N9. (SATELLITE DISH)
T5. (EYEBROW)
sosar ael
lloeren T6. (EYELID)
dish amrant
N11. (CLOTHES DRYER)
T7. (EYELASHES)
peiriant sychu blew llygaid
sychwr T12. (PALM)
N12. (WASHING MACHINE) palm
peiriant golchi T13. (KNUCKLE)
N15. (FOOD PROCESSOR) migwrn
blender T14. (SHIN)
food
processor
crimog
N18. (MISSILE)
coes
taflegryn
shin
roced
T15. (CALF)
N21. (ASTRONAUT) croth coes
gofodwr
cefn y coes
N23. (SCHOOL PATROL)
calf
dyn croesi
ffordd
T16. (THIGH)
lollipop
man
clun
N24. (NEWSREADER)
thigh
cyflwynydd
newyddion
T18. (ANKLE)
newyddiadurwr
ankle
newsreader
T19. (SOLE)
N28. (FOOTBALLER)
gwadn
chwaraewr pêl-droed T24. (MIRROR)
N29. (MECHANIC)
glàs
peiriannydd
mirror
N33. (LETTERBOX) T25. (SIEVE)
blwch llythyrau gogor
blwch
post hidlwr
twll llythyrau colander
bocs llythyrau
C1. (WAITER)
N34. (TELETEXT) gweinydd
ceefax
gweinyddwr
N36. (COMPACT DISC)
C2. (CHEMIST)
disg pharmacist
N39. (DRAWING PIN)
C3. (FIREMAN)
pin bawd sam tân
pin
fireman
N41. (CASHPOINT) C4. (DOCTOR)
cashpoint quack
N42. (BUS STOP)
C8. (VETERINARY SURGEON)
arhosfan bws ffariar
N43. (JOB CENTRE) C9. (POLICEMAN)
lle'r dôl
heddgeidwad
N45. (LEISURE CENTRE)
heddlu
canolfan
chwaraeon C10. (BUILDER)
N46. (TOURIST INFORMATION
CENTRE) adeiladydd
canolfan
(g)wybodaeth C15.
(SURGERY)
canolfan (c)groeso clinic
canolfan
(t)dwristiaeth
health centre
information centre C20. (POST OFFICE)
tourist
information centre
llythyrdy
N47. (ROUNDABOUT)
y post
cylchfan post office
cylchdro N6. (RADIATOR)
ynys
rheiddiadur
N50. (RECYCLING CENTRE) heater
canolfan ailgylchu N7. (FIRE EXTINGUISHER) lle ailgylchu diffoddydd tân
|
DISC) à disg; enghraifft o ddysgu anghyflawn gyda (WAITER) à gweinyddwr ac un arall o slang sef (DOCTOR) à quack. Y mae nifer o ffurfiau Saesneg yn y clwm hwn
hefyd, er enghraifft palm, calf, ankle, post office, fireman, mirror, vacuum cleaner, tourist information centre, a newsreader. Yn wahanol i’r atebion yn y clwm blaenorol nad oedd yn eu plith ond dyrnaid o ffurfiau Cymraeg ‘cywir’, y mae 32 ateb, neu 38% o holl amrywion Clwm 2, yn ffurfiau Cymraeg traddodiadol neu ‘safonol’ am y sbardunau, er enghraifft (EYEBROW) à ael, (EYELID) à amrant, (CALF), à croth coes, (WAITER) à gweinydd, (RADIATOR) à rheiddiadur, (ASTRONAUT) à gofodwr, (MISSILE) à taflegryn, a (DRAWING PIN) à pin bawd, (RECYCLING CENTRE) à canolfan ailgylchu. Gyda chynifer o ffurfiau safonol ac atebion strategaethol, eithaf cymysg yw’r mathau o amrywion a geir yn y clwm hwn, ac felly, cyfeirir at amrywion yr ail glwm fel yr Atebion Cymysg.
Ceir yn Nhabl 7.8 yr atebion a ddosbarthwyd gan y dadansoddi clymau i Glwm 3. Sylwer mai ffurfiau Saesneg yw pob un ar wahân i ddau, sef (BUILDER) à adeiladwr ac (ASHTRAY) à blwch llwch. O’r ffurfiau Saesneg hyn, y mae pymtheg, neu dros hanner ohonynt, wedi’u cofnodi’n fenthyciadau yn GPC neu LGW. O’r pymtheg ffurf gofnodedig hyn, y mae dros hanner yn fenthyciadau yr ugeinfed ganrif, sef cemist, fet, helicopter, motor-beic, redietyr, rowndabowt, sybmarîn, a syrjeri (GPC 460, 1269, 1845, 2498, 2978, 2989, 3375, 3398); ceir un benthyciad o’r ganrif flaenorol, megis stesion (GPC 3332); ac y mae’r gweddill yn y Gymraeg ers y ddeunawfed ganrif neu’n hwy – bwtsier, cwshin, cyrtens, gliw, magasîn, a sowldiwr (GPC 357, 650, 809, 1408, 2317, 3324). Gan fod y nifer o siaradwyr a gynigiodd ffurfiau Clwm 3 mor uchel, sef 30 – 53 (Tabl 7.6), y mae’n debyg bod y benthyciadau hyn yn dra sefydlog yn eu hiaith hwy. Gyda’r amrediad uchel hwn, y mae’n bosibl, hefyd, fod y ffurfiau Saesneg eraill nad ydynt wedi’u cofnodi yn GPC
Tabl
7.8: Atebion Saesneg Aml
T22. (GLUE)
N7. (FIRE EXTINGUISHER)
glue
extinguisher
T23. (CUSHION)
N17. (MOTORCYCLE)
cushion
motorbike
C2. (CHEMIST)
N19. (SUBMARINE)
chemist
submarine
C5. (SOLDIER)
N20. (HELICOPTER)
soldier
helicopter
C7. (BUTCHER)
N21. (ASTRONAUT)
butcher
astronaut
C10. (BUILDER)
N32. (TOOTHPASTE)
adeiladwr
toothpaste
C14. (STATION)
N33. (LETTERBOX)
station
letterbox
C15. (SURGERY)
N36. (COMPACT DISC)
surgery
CD
C22. (BATHROOM)
N38. (CROSSWORD PUZZLE)
bathroom
crossword
puzzle
C23. (CURTAINS)
N39. (DRAWING PIN)
curtains
drawing
pin
C24. (MAGAZINE)
N40. (ASHTRAY)
magazine
blwch
llwch
N1. (CALCULATOR)
ashtray
calculator
N42. (BUS STOP)
N3. (REFRIGERATOR)
bus stop
fridge
N47. (ROUNDABOUT)
N5. (MICROWAVE)
roundabout
microwave
N6. (RADIATOR)
radiator
yn eithaf cyffredin yn iaith siaradwyr Blaenau Ffestiniog. Dyma, felly, y clwm o Atebion Saesneg Aml.
Digon tebyg i’r Atebion Saesneg Aml yw’r amrywion a geir yn y pedwerydd clwm. Ceir amrywion Clwm 4 yn Nhabl 7.9. Y maent i gyd yn ffurfiau Saesneg ar wahân i bedair ffurf Gymraeg, sef (RESTAURANT) à tŷ bwyta, (FIRE EXTINGUISHER) à diffoddwr tân, (FOOD PROCESSOR) à prosesydd bwyd, (BUS STOP) à safle bws; un uwch-derm o’r Saesneg wedi’i Gymreigeiddio sy’n fenthyciad tra chyffredin, sef (BUILDER) à labrwr (GPC 2050); ac un ateb disgrifiadol, sef (LEISURE CENTRE) à canolfan gymdeithasol. Ffurfiau Saesneg yw atebion eraill y pedwerydd clwm, ond y mae un ohonynt yn y Gymraeg ers y ddeunawfed ganrif, sef hosbital (GPC 1900),
T5. (EYEBROW)
N12. (WASHING MACHINE)
eyebrow
washing
machine
T6. (EYELID)
N13. (AEROPLANE)
eyelid
aeroplane
T7. (EYELASHES)
N14. (TELEVISION)
eyelashes
television
T13. (KNUCKLE)
N15. (FOOD PROCESSOR)
knuckle
prosesydd bwyd
C6. (DENTIST)
N16. (HAIR DRYER)
dentist
hair
dryer
C10. (BUILDER)
N18. (MISSILE)
labrwr
missile
builder
N22. (TRAVEL AGENT)
C12. (HOSPITAL)
travel agent
hospital
N26. (PSYCHIATRIST)
C13. (RESTAURANT)
psychiatrist
tŷ
bwyta
N27. (ELECTRICIAN)
restaurant
electrician
C16. (HOTEL)
N28. (FOOTBALLER)
hotel
footballer
C21. (SCALES)
N35. (SHOWER)
scales
shower
C25. (ENVELOPE)
N42. (BUS STOP)
envelope
safle bws
N2. (COMPUTER)
N43. (JOB CENTRE)
computer
job
centre
N4. (FREEZER)
N44. (TRAFFIC LIGHTS)
freezer
traffic
lights
N7. (FIRE EXTINGUISHER)
N45. (LEISURE CENTRE)
diffoddwr
tân
canolfan
gymdeithasol
N9. (SATELLITE DISH)
N48. (SUPERMARKET)
satellite dish
supermarket
N11. (CLOTHES DRYER)
tumble dryer
dau o’r ganrif ganlynol, sef hotél a sgêl (GPC 1900, 3239), a chofnodir pedwar arall yn GPC yn fenthyciadau’r ugeinfed ganrif – enfilop, eroplen, seiciatrist, telefision (GPC 1215, 1237, 3208, 3473). Gwelsom fod y nifer o siaradwyr a gynigiodd ffurfiau Clwm 4, sef 16 – 32 (Tabl 7.6), yn eithaf isel o’i gymharu ag eiddo’r clwm blaenorol, ac y mae’n debyg, felly, nad yw’r ffurfiau hyn mor gyffredin yn iaith y siaradwyr. Y mae’r amrywion hyn, felly, yn perthyn i’r clwm o Atebion Saesneg Prin.
Hollol i’r gwrthwyneb i’r hyn a welsom o ran yr Atebion Saesneg Prin yw’r darlun a geir yng Nghlwm 5 (Tabl 7.10). Y mae’r amrywion i gyd yn ffurfiau Cymraeg ar wahân i chwech: dau yn fenthyciadau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg,
Tabl 7.10: Atebion Cymraeg Aml
T4. (CHIN)
C23. (CURTAINS)
gên
llenni
T9. (ELBOW)
C25. (ENVELOPE)
penelin
amlen
T11. (WRIST)
N2. (COMPUTER)
garddwrn
cyfrifiadur
T17. (KNEE)
N4. (FREEZER)
pen-glin
rhewgell
T18. (ANKLE)
N8. (VACUUM CLEANER)
ffêr
hoover
T20. (HEEL)
N10. (TOASTER)
sawdl
toaster
T21. (BEDROOM)
N13. (AEROPLANE)
lloft
awyren
T22. (GLUE)
N14. (TELEVISION)
glud
teledu
T23. (CUSHION)
N20. (HELICOPTER)
clustog
hofrennydd
T24. (MIRROR)
N25. (RUGBY PLAYER)
drych
chwaraewr
rygbi
C1. (WAITER)
N27. (ELECTRICIAN)
waiter
trydanwr
C3. (FIREMAN)
N28. (FOOTBALLER)
dyn
tân
pêl-droediwr
C4. (DOCTOR)
N29. (MECHANIC)
meddyg
mechanic
C6. (DENTIST)
N31. (TOOTHBRUSH)
deintydd
brws
dannedd
C7. (BUTCHER)
N34. (TELETEXT)
cigydd
teletext
C9. (POLICEMAN)
N35. (SHOWER)
policeman
cawod
C12. (HOSPITAL)
N37. (SUNGLASSES)
ysbyty
sbectol
haul
C16. (HOTEL)
N38. (CROSSWORD PUZZLE)
gwesty
croesair
C22. (BATHROOM)
N48. (SUPERMARKET)
ystafell
ymolchi
archfarchnad
sef plisman a weiter (GPC 2827, 3731), a thair ffurf arall yn fenthyciadau’r ugeinfed ganrif, sef hwfer, mecanic, a toster (GPC 1929, 2388, 3536); ni chofnodir yn GPC unrhyw ffurf gyfatebol am yr olaf, sef teletext, ffenomen ddiweddar iawn. Y mae’r nifer o siaradwyr a roddodd atebion Clwm 5 yw’r uchaf oll, sef 43 – 61 (Tabl 7.6), awgrym bod teletext a’r ffurfiau eraill yn y clwm hwn yn dra sefydlog yn iaith y siaradwyr. Gan fod cynifer o ffurfiau Cymraeg yn y clwm hwn, cyfeirir at yr amrywion hyn fel yr Atebion Cymraeg Aml.
Fel y dengys Tabl 7.11, y mae amrywion Clwm 6 yn debyg iawn i eiddo’r clwm blaenorol am eu bod i gyd, ond dau, yn ffurfiau Cymraeg safonol. Ceir hen
Tabl 7.11: Atebion Cymraeg Prin
T12. (PALM)
N5. (MICROWAVE)
cledr
meicrodon
T21. (BEDROOM)
N6. (RADIATOR)
ystafell
wely
gwresogydd
T24. (MIRROR)
N11. (CLOTHES DRYER)
gwydr
peiriant
sychu dillad
T25. (SIEVE)
N12. (WASHING MACHINE)
sieve
peiriant
golchi dillad
C2. (CHEMIST)
N16. (HAIR DRYER)
fferyllydd
sychwr
gwallt
C4. (DOCTOR)
N17. (MOTORCYCLE)
doctor
beic
modur
C5. (SOLDIER)
N19. (SUBMARINE)
milwr
llong
(t)danfor
C8. (VETERINARY SURGEON)
N23. (SCHOOL PATROL)
milfeddyg
dyn
lolipop
C9. (POLICEMAN)
N26. (PSYCHIATRIST)
heddwas
seiciatrydd
C13. (RESTAURANT)
N30. (OPTICIAN)
bwyty
optegydd
C14. (STATION)
N32. (TOOTHPASTE)
gorsaf
pâst
dannedd
C15. (SURGERY)
N36. (COMPACT DISC)
meddygfa
cryno-ddisg
C20. (POST OFFICE)
N41. (CASHPOINT)
swyddfa('r
p)bost
twll
yn y wal
C21. (SCALES)
N43. (JOB CENTRE)
clorian
canolfan
(g)waith
C24. (MAGAZINE)
N44. (TRAFFIC LIGHTS)
cylchgrawn
goleuadau
traffig
N1. (CALCULATOR)
N45. (LEISURE CENTRE)
cyfrifiannell
canolfan
hamdden
N3. (REFRIGERATOR)
N49. (CAR PARK)
oergell
maes
parcio
fenthyciad sefydlog iawn o’r bymthegfed ganrif ymysg yr atebion, sef doctor (GPC 1069), ac un arall o’r ddeunawfed ganrif, sef sif (GPC 3274). Gwelsom fod nifer y siaradwyr a atebodd gyda ffurfiau’r clwm hwn, sef rhwng 22 a 48, yn llai nag eiddo’r clwm o Atebion Cymraeg Aml (Tabl 7.6), ac nid yw’n ymddangos, felly, fod y ffurfiau hyn mor amlwg yn iaith lafar Blaenau Ffestiniog. Dyma, felly, y clwm o Atebion Cymraeg Prin.
Yn sgîl y drafodaeth uchod am gyfansoddiad y gwahanol glymau, gellid eu hystyried ar sail y math o atebion ym mhob clwm a’r nifer o siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau yn y clymau fel a ganlyn:
Clwm 1 = Atebion Strategaethol Clwm 4 = Atebion Saesneg Prin
Clwm 2 = Atebion Cymysg Clwm 5 = Atebion Cymraeg Aml
Clwm 3 = Atebion Saesneg Aml Clwm 6 = Atebion Cymraeg Prin
7.3 Cymharu’r
Carfanau
Ar ôl edrych ar gyfansoddiad y gwahanol glymau o amrywion a’u disgrifio, archwilir pwy sydd wedi cynnig pa fath o atebion er mwyn cael gweld ym mha ffyrdd y mae’r grwpiau o siaradwyr yn amrywio yn ôl eu hymddygiad ieithyddol. O gymharu sgorau’r gwahanol garfanau yn ôl eu hatebion fesul clwm, ceisir darganfod pa dueddiadau sydd gan y grwpiau wrth iddynt ymateb i’r sbardunau a chwilio am batrymau ieithyddol ac allieithyddol sy’n nodweddiadol ohonynt.
7.3.1 Atebion
Strategaethol ac Atebion Cymysg
Gwelsom eisoes fod y dadansoddi clymau wedi rhwymo’r ddau glwm cyntaf – yr Atebion Strategaethol a’r Atebion Cymysg – wrth ei gilydd (Ffigur 7.5) a bod nifer y siaradwyr a gynigiodd yr atebion yn y ddau glwm hyn yn isel iawn (Tabl 7.6). Penderfynwyd, felly, edrych ar y clymau hyn ochr yn ochr i weld a ydyw eu patrymau yn debyg i’w gilydd. Ceir yn Ffigur 7.6 sgorau canolrifol y carfanau ar gyfer yr atebion yn y ddau glwm.
Ar gyfer yr Atebion Strategaethol, nid oes ond 1% o wahaniaeth rhwng sgorau’r carfanau, sef 3% i 4%. Gwelsom yn 7.2.2 uchod fod y rhan fwyaf o’r atebion yn y clwm hwn yn ddisgrifiadau o’r sbardunau gydag enghreifftiau fel blaen y goes ond ar y top ar gyfer (THIGH) a boi sy’n darllen ar y teledu am

(NEWSREADER); ar wahân i ddyrnaid o ffurfiau Cymraeg ‘priodol’, y mae’r gweddill yn enghreifftiau o’r strategaethau ateb a drafodwyd ym Mhennod 6. Gall gweithredu’r strategaethau hyn awgrymu bod nifer fawr o amrywion y clwm hwn wedi eu cynnig gan y siaradwyr mewn ymgais i roi unrhyw ateb yn hytrach na dim o gwbl. Gan fod y carfanau i gyd wedi sgorio mor debyg i’w gilydd a bod y canrannau mor isel, nid yw ffurfiau’r clwm hwn yn debyg o fod yn rhan o eirfa arferol y siaradwyr, ac nid ydynt yn haeddu llawer o sylw pellach.
O ran yr Atebion Cymysg, ceir ychydig mwy o amrywiaeth rhwng y carfanau. PH yw’r sgorwyr uchaf gyda 32%, a dyma’r unig garfan unffurf o ran gogwydd diwylliannol. Fel y dengys Tabl 7.2, ar wahân i’r siaradwr ieuaf yn y garfan hon, sydd yn 41 oed, nid oes ond pymtheng mlynedd rhwng oedrannau’r gweddill o’r siaradwyr yn y grŵp hwn, sef 56 i 71. Hwy yw’r sgorwyr uchaf o ran defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned, a hwy, gyda CH, yw’r rhai sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg ehangaf (Ffigur 7.4). Y mae’n bosibl, felly, fod unffurfiaeth ddiwylliannol y garfan hon a’i defnydd cyson o’r Gymraeg a’r cyfryngau torfol Cymraeg yn cyfrannu at eu sgôr gymharol uchel. Ond pwysicach, efallai, yw cyfansoddiad yr wyth siaradwr yn PH: y mae un yn cadw siop lyfrau yn y dref, un yn fardd, un arall yn barddoni ac yn golygu’r papur bro, tair yn gyn-athrawesau, a dau yn awduron sawl llyfr Cymraeg. Gan fod geiriau mor hanfodol a chanolog i ddiddordebau a galwedigaethau’r siaradwyr hyn, y mae’n bosibl, felly, mai dyma’r rheswm eu bod yn ymddwyn yn wahanol i’r siaradwyr eraill o ran yr Atebion Cymysg. Er enghraifft, er bod y rhan fwyaf o’r amrywion yn y clwm hwn yn enghreifftiau o atebion strategaethol, gwelsom yn 7.2.2 uchod fod 38% o’r Atebion Cymysg yn ffurfiau Cymraeg ‘cywir’ am y newidynnau, er enghraifft rhesen wen, migwrn, crimog, gweinydd, heddgeidwad, rheiddiadur, taflegryn, pin bawd, a canolfan ailgylchu (Tabl 7.7). Trafodir yn fanwl y ffurfiau unigol hyn ym Mhennod 8, ond dengys Ffigur 7.7 sgorau canolrifol y carfanau ar gyfer y ffurfiau ‘cywir’ hyn. 46% yw sgôr
PH, sef y garfan o awduron ac athrawon. Y maent wedi sgorio 12% yn uwch na’r sgorwyr uchaf nesaf, PI a CH, a 33% yn uwch na’r siaradwyr a gynigiodd y nifer leiaf o’r ffurfiau hyn, sef CI. Gyda sgôr mor uchel o gymharu â’r carfanau eraill, y mae’n bosibl bod pwysigrwydd geiriau i ddiddordebau a galwedigaethau siaradwyr PH yn effeithio ar eu gwybodaeth o’r ffurfiau Cymraeg ‘cywir’ ymysg yr Atebion Cymysg.
Ceir patrwm arall o ystyried Ffigur 7.7. Cynigiwyd y ffurfiau Cymraeg hyn gan dros chwarter o’r atebwyr yn nhair carfan y Pethau a’r Pontwyr Hynaf, CH, ond 18% yw’r sgôr uchaf ymysg Pobl y Dafarn a’r Pontwyr Ieuaf, CI. Y mae’n bosibl, felly, fod gogwydd diwylliannol yn chwarae rôl yma gyda siaradwyr y Pethau’n fwy ceidwadol na siaradwyr y Dafarn o ran hen ffurfiau Cymraeg y clwm hwn fel ael, clun, a gwadn ac yn fwy blaengar o ystyried y ffurfiau Cymraeg newydd fel sugnwr llwch, gofodwr, a cylchfan.
O ystyried y cyfryngau torfol Cymraeg, y mae’n bosibl bod y ffactor hon yn dylanwadu ar wybodaeth o ffurfiau Cymraeg ‘cywir’ yr Atebion Cymysg yn Ffigur 7.7. Fel y gwelsom yn Ffigur 7.4 uchod, PH, PI, a CH yw’r rhai sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn ehangaf, a hwy yw’r siaradwyr a gynigiodd ffurfiau Cymraeg ‘cywir’ yr Atebion Cymysg amlaf (Ffigur 7.7). Y mae sgôr PO yn disgyn hanner ffordd rhwng y tair carfan hyn a’r tair arall, ac y mae eu sgôr o ran defnyddio’r cyfryngau yn debycach i eiddo Pobl y Dafarn. Nid yw dylanwad y ffactor hon mor eglur o droi’n ôl at yr amrywion i gyd ymysg yr Atebion Cymysg am nad oes ond 6% o wahaniaeth rhwng y carfanau ar wahân i PH (Ffigur 7.5), ac y mae’n bosibl felly, fod defnyddio’r cyfryngau torfol yn effeithio mwy ar wybodaeth o ffurfiau Cymraeg yr Atebion Cymysg nag ar yr holl atebion fel grŵp.
Gwelsom fod amrediad y nifer o siaradwyr a gynigiodd yr Atebion Cymysg yn eithaf isel, sef rhwng pump a 30 (Tabl 7.6). Gan fod yr amrediad hwn mor isel ac o ystyried bod canrannau’r carfanau ar gyfer yr Atebion Cymysg yn isel hefyd ac mor debyg i’w gilydd (Ffigur 7.5) ar wahân i PH, efallai ei bod yn bwysicach canolbwyntio ar y pedwar clwm arall. Cynigiwyd yr amrywion yn y pedwar clwm arall gan fwy o siaradwyr, ac o ganlyniad, y mae’r clymau hyn yn debycach o gyfleu gwir batrymau ieithyddol trigolion Blaenau Ffestiniog.
7.3.2 Atebion
Saesneg Aml ac Atebion Saesneg Prin
Rhwymwyd y ddau glwm o Atebion Saesneg Aml ac Atebion Saesneg Prin
wrth ei gilydd (Ffigur 7.4), a dengys Ffigur 7.8 sgorau canolrifol y carfanau
ar eu cyfer. Ar wahân i ddwy ffurf
Gymraeg, sef (BUILDER)
à adeiladwr ac (ASHTRAY)
à blwch llwch, ffurfiau
Saesneg yw’r gweddill o’r Atebion Saesneg Aml (Tabl 7.8). Cofier 
hefyd fod pedair enghraifft o ffurfiau Cymraeg ymysg yr Atebion Saesneg Prin, sef (RESTAURANT) à tŷ bwyta, (FIRE EXTINGUISHER) à diffoddwr tân, (FOOD PROCESSOR) à prosesydd bwyd, (BUS STOP) à safle bws; un ateb disgrifiadol, sef (LEISURE CENTRE) à canolfan gymdeithasol; ac un ffurf o’r Saesneg wedi ei Chymreigeiddio – (BUILDER) à labrwr. Ffurfiau Saesneg yw’r gweddill o’r atebion (Tabl 7.9).
O ran yr Atebion Saesneg Prin, y ddwy garfan o Bobl y Dafarn, TH a TI yw’r sgorwyr uchaf; ni cheir ond 1% rhyngddynt. Cynigiodd tair carfan y Pethau y nifer leiaf o’r Atebion Saesneg Prin: nid oes ond 6% o wahaniaeth rhyngddynt, ond y mae eu sgorau’n llai na hanner eiddo carfanau’r Dafarn. Y mae’n bosibl, felly, y gall gogwydd diwylliannol chwarae rôl yma, gyda Phobl y Pethau yn llai tebygol o gynnig yr amrywion yn y clwm hwn. Y mae sgôr CI yn agosáu at eiddo siaradwyr ifanc y Dafarn, TI, a thebyg iawn yw sgorau CH a siaradwyr oedrannus y Pethau, PO. O ganlyniad, y mae’n debyg mai pontwyr go iawn yw’r ddwy garfan gymysg hyn. Sylwer mai PH a gynigiodd y nifer leiaf o atebion yn y clwm hwn. Fel y gwelsom wrth drafod yr Atebion Cymysg yn yr adran flaenorol, hwy sy’n defnyddio’r Gymraeg fwyaf yn y gymuned a hwy hefyd yw’r sgorwyr uchaf o ran defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg (Ffigur 7.4). Dyma’r grŵp o athrawon ac awduron, pobl y disgwylid iddynt ddod ar draws enghreifftiau o Gymraeg graenus wrth iddynt ddilyn eu diddordebau a’u galwedigaethau a rhyngweithio â phobl eraill yn yr iaith mewn sefyllfaoedd eithaf ffurfiol fel cyfarfodydd a chymdeithasau. O ganlyniad, y mae’n bosibl eu bod yn ystyried cynnig amrywion Saesneg y clwm hwn yn anaddas mewn sefyllfa ffurfiol fel cyfweliad.
O ran yr Atebion Saesneg Aml, Pobl y Dafarn yw’r sgorwyr uchaf unwaith eto, ac ni cheir ond 7% o wahaniaeth rhwng TH a TI. Y mae tair carfan y Pethau wedi sgorio’n is na’r Dafarn, ond y mae PO (72%) wedi cynnig 17% yn fwy o’r atebion hyn na’r sgorwyr uchaf nesaf ymysg y Pethau, sef PH (55%). Yn hytrach nag ymbatrymu’n debyg i sgorau dwy garfan arall y Pethau, y mae sgôr PO yn tynnu at eiddo dwy garfan y Dafarn. Ni chynigiodd CH ond 41% o’r Atebion Aml hyn, ond y mae’r pontwyr eraill, CI (61%), yn debycach i’r Pethau.
O ystyried defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg, y mae’n bosibl bod y ffactor hon yn chwarae rôl yma. Wrth aildrefnu’r carfanau o’r rhai a gynigiodd y nifer leiaf o’r Atebion Saesneg Aml i’r sawl a roddodd y nifer fwyaf a chymharu eu sgorau ar gyfer defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg, ceir patrwm amlwg (Ffigur 7.9). CH, PI, a PH yw’r rhai a gynigiodd y nifer leiaf o’r Atebion Saesneg Aml, a hwy yw’r siaradwyr sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg amlaf. Y mae’r pedair carfan arall wedi sgorio’n gymharol isel o ran y ffactor hon, ond y maent wedi cynnig y nifer fwyaf o’r Atebion Saesneg Aml. Y mae yma, felly, berthynas negyddol berffaith, bron: wrth i ddefnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg gynyddu ymysg y carfanau, y mae canrannau’r carfanau a gynigiodd yr Atebion Saesneg Aml yn disgyn.

Gan fod sawl newidyn yn yr holiadur geirfaol yn dra anghyffredin neu’n arbenigol, ni fyddai’r siaradwyr nad ydynt yn defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn eang yn gyfarwydd â nifer o’r ffurfiau Cymraeg. Er enghraifft, ni ddisgwylid clywed ffurfiau fel taflegryn a llong danfor yn iaith feunyddiol siaradwyr cyffredin. Gyda’r termau newydd eu bathu yn enwedig, gellid disgwyl bod y sawl nad ydynt yn defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn aml yn llai cyfarwydd â’r geiriau Cymraeg am yr endidau, a’u bod o ganlyniad, wedi troi at eu geirfa Saesneg i chwilio am atebion addas.
Ni ddylid anghofio fy mod wedi annog i’r siaradwyr gynnig mwy nac un gair am y newidynnau drwy ofyn ‘Oes gair arall gennych chi am y peth?’ Atebodd sawl siaradwr gyda’r gair Saesneg gan ddweud rhywbeth tebyg i, ‘Wrth gwrs, dw i’n gwbod y gair Saesneg, X’. Anwybyddwyd y ffurfiau hyn. Hyd yn oed pan oedd y siaradwyr yn gwybod y ffurf Gymraeg ‘briodol’, cyfaddefodd nifer eu bod yn defnyddio’r gair Saesneg ar lafar. Er enghraifft, wrth drafod y newidyn (REFRIGERATOR), atebodd un Fenyw’r Pethau, 33 oed, gydag oergell gan ychwanegu ei bod yn dweud y gair Saesneg symleiddiedig, fridge, yn amlach na’r ffurf ‘safonol’ oherwydd ‘Ma’ geiria’ Sisneg yn lot mwy slic’. Cofnodwyd y geiriau Saesneg hyn am eu bod yn ffurfiau arferol y siaradwyr. Ni ofynnwyd i’r siaradwyr pa ffurfiau y maent yn eu defnyddio yn eu hiaith bob dydd am mai astudiaeth o wybodaeth y siaradwyr o’r geiriau Cymraeg yw hon. Gan fod pob un o’r atebion a gynigiwyd gan y siaradwyr wedi’u cynnwys yng nghorpws y data, efallai na ddylid ystyried yr atebion Saesneg ond fel parodrwydd y siaradwyr i gynnig, neu beidio, ffurfiau Saesneg yn sefyllfa ffurfiol y cyfweliad. Gwelsom uchod yn 3.3.8.5 fod siaradwyr yn tueddu i addasu eu hiaith yn ôl ffurfioldeb y gwahanol rannau o’r cyfweliad. Fel y tystia sylwadau rhai o’r siaradwyr (gweler 5.4), gweithredu’r holiadur ieithyddol oedd y rhan fwyaf ffurfiol o gyfweliadau’r astudiaeth bresennol. Am fod llawer o’r siaradwyr yn teimlo – neu’n sylweddoli! – mai prawf oedd y rhan hon o’r cyfweliad, y mae’n bosibl bod rhai ohonynt yn llai awyddus i ateb gyda’r ffurf Saesneg er ei bod yn bosibl, hefyd, eu bod yn defnyddio’r gair Saesneg ar lafar ar draul y ffurf Gymraeg.
7.3.3 Atebion Cymraeg Aml ac Atebion Cymraeg Prin
Gwelsom yn 7.2.2 uchod nad oes ond dwy ffurf Saesneg, sef sieve a doctor, yn yr Atebion Cymraeg Prin a chwech, sef waiter, policeman, hoover, toaster, mechanic, a teletext, yn yr Atebion Cymraeg Aml (Tablau 7.10 a 7.11). Gwelsom hefyd fod y ffurfiau hyn i gyd ond teletext wedi’u cofnodi’n fenthyciadau gan GPC. Geiriau brodorol Cymraeg yw’r gweddill o’r atebion yn y ddau glwm hyn, ac y maent yn cynnwys termau ffurfiol fel ystafell ymolchi ac ystafell wely; ffurfiau tafodieithol, fel (BEDROOM) à llofft, (MIRROR) à gwydr a (CASHPOINT)à twll yn y wal; a ffurfiau ‘safonol’ eraill fel (GLUE) à glud, (CUSHION) à clustog, (MAGAZINE) à cylchgrawn, (LEISURE CENTRE) à canolfan hamdden, a (HELICOPTER) à hofrennydd. Fel gyda’r

Atebion Saesneg, y mae’r Atebion Cymraeg Aml a’r Atebion Cymraeg Prin wedi eu clymu â’i gilydd (Ffigur 7.5), ac fe’u hystyrir, felly, fesul carfan ochr yn ochr â’i gilydd. Dengys Ffigur 7.10 sgorau canolrifol y carfanau.
Sylwer bod y ddau glwm o atebion yn tueddu i ddilyn yr un
patrwm. Ar wahân i garfan hynaf y
Dafarn, TH, nid yw sgorau’r carfanau eraill ar gyfer yr Atebion Cymraeg Aml yn
amrywio ond ychydig (rhwng 85% a 97%). Y
mae’r gwahaniaethau rhwng y gwahanol garfanau yn llawer mwy trawiadol gyda’r
Atebion Cymraeg Prin. Y nodwedd hynotaf yw’r patrwm taclus
a geir yma o ran oedran ymysg siaradwyr y Pethau, y Dafarn, a’r Pontwyr yn eu
grwpiau. Wrth i oedran ddisgyn, y mae
gwybodaeth y siaradwyr o’r ffurfiau Cymraeg yn cynyddu. Sylwer bod gostyngiad sylweddol i’r ddau glwm
o atebion rhwng PI a TH, sef y ddau begwn oedrannol a diwylliannol. Gyda’r Atebion Cymraeg Aml, 97% yw sgôr PI
ond y mae sgôr TH yn disgyn 32% i 65%. O
ran yr Atebion Cymraeg Prin, cynigiodd TH (36%) lai na hanner o’r ffurfiau a
gynigiwyd gan PI (78%). Y mae hyn yn
awgrymu bod oedran a gogwydd diwylliannol yn ffactorau cyflyrol pwysig gyda’r
clymau hyn.
O droi at y pontwyr, CH ac
CI, gwelir bod CH wedi sgorio’n debyg iawn i siaradwyr oedrannus y Pethau, PO,
yn y ddau glwm o atebion a bod sgorau CI yn tynnu at eiddo siaradwyr ifanc y
Dafarn. Ni cheir ond 1% o wahaniaeth
rhwng PO a CH ar gyfer yr Atebion Cymraeg Aml, ac y mae hyn yn wir hefyd gyda
CI a’i chyfoedion ymysg siaradwyr y Dafarn, TI.
Cynigiodd CI 10% mwy o’r Atebion Cymraeg Prin na TI, ond y mae sgorau’r ddwy garfan hynaf, CH a
PO, yn lefelu (53%). Dyma enghraifft
arall o CH a CI yn pontio rhwng y ddau grŵp diwylliannol.
Y mae’n debyg bod oedran a
gogwydd diwylliannol yn rhyngweithio â’i gilydd i gyflyru ymddygiad ieithyddol
yn y gymuned hon, ac y mae’r rhyngweithio hwn yn amlycach o ystyried yr Atebion
Cymraeg Prin. Gan fod y ffurfiau hyn yn
is yn ymwybyddiaeth y siaradwyr, efallai nad ydynt yn dod ar eu traws ond mewn
sefyllfaoedd eithaf ffurfiol. Gwelsom
fod oedran yn gyflyrol bwysig a bod addysg bellach yn ymbatrymu’n daclus gyda’r
ffactor hon (7.1.4). At hynny, cafodd
siaradwyr iau y gymuned hon addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion Blaenau
Ffestiniog. Y mae’n ddigon posibl,
felly, fod y siaradwyr hyn wedi dysgu’r ffurfiau Cymraeg ‘priodol’ mewn
awyrgylch ffurfiol fel y dosbarth. O
ystyried y ffactor ddiwylliannol, y mae Pobl y Pethau’n defnyddio’r Gymraeg yn
gyhoeddus, ac o ganlyniad, yn fwy tebygol o ddod ar draws termau priodol yn y
capel neu mewn cymdeithasau a darlithoedd.
Nid yw’n peri syndod, felly, fod y ffactorau hyn yn ymblethu i gyflyru
gwybodaeth y siaradwyr o dermau Cymraeg y clymau hyn.
7.4 Casgliadau
Fel yr awgrymwyd eisoes yn 7.3.1, y mae’n bosibl bod y rhan fwyaf o’r amrywion yn y clwm cyntaf, Atebion Strategaethol, wedi eu cynnig gan y siaradwyr mewn ymgais i roi unrhyw ateb yn hytrach na dim o gwbl. Ni chynigiwyd yr atebion unigol hyn ond gan naw person ar y mwyaf, ac y mae’n bosibl, felly, nad yw’r amrywion yn y clwm hwn yn ffurfiau arferol sydd ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog.
Gwelsom fod 38% o’r Atebion Cymysg yn ffurfiau Cymraeg ‘cywir’ am y sbardunau, ond cynigiwyd y ffurfiau hyn gan lai na hanner y siaradwyr (Tabl 7.6). Y mae’n bosibl, felly, fod hen ffurfiau Cymraeg y clwm hwn fel ael, clun, a gwadn yn colli tir tra bod y ffurfiau diweddarach fel taflegryn, gofodwr, a canolfan ailgylchu yn bwrw gwreiddiau. Dangoswyd yn 7.3.1 fod PH a’r siaradwyr eraill a oedd yn defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn helaeth yn fwy ceidwadol o ran hen ffurfiau Cymraeg y clwm hwn ac yn fwy blaengar o ran y ffurfiau diweddarach.
Awgrymwyd eisoes (7.2.2) y gall yr amrywion yn yr Atebion Saesneg a’r Atebion Cymraeg, Aml, a Phrin (Clwm 3 i Glwm 6 yn Ffigur 7.5) gynrychioli geiriau gweithredol sydd ar arfer yn y gymuned. Y mae nifer y siaradwyr a gynigiodd yr amrywion yn y pedwar clwm hyn yn eithaf uchel (Tabl 7.6), a gall hyn olygu bod y ffurfiau Cymraeg a geir ymysg yr amrywion hyn - er enghraifft blwch llwch, safle bws, deintydd, croesair, fferyllydd, a meicrodon - yn ddigon sefydlog. Gan fod amrediad yr Atebion Cymysg yn ymylu ar eiddo pob un o’r clymau hyn ac eithrio’r Atebion Cymraeg Aml (Tabl 7.6), ymddengys fod y ffurfiau Cymraeg yn y clwm hwn yn is yn ymwybyddiaeth y siaradwyr.
Gwelsom yn 7.3.2 wrth drafod yr Atebion Saesneg Aml a Phrin y posibilrwydd bod rhai o’r siaradwyr yn fwy parod i gynnig geiriau Saesneg wrth iddynt gael eu hannog i awgrymu mwy nag un ateb i’r gwrthrychau yn y lluniau. O ystyried yr amrywion yn y pedwar clwm o eiriau gweithredol y siaradwyr, nid yw’n bosibl dadansoddi’r atebion Saesneg ond fel tueddiadau yn unig – tueddiadau i gynnig, neu beidio, ffurfiau Saesneg yn sefyllfa eithaf ffurfiol y cyfweliad.
Yn 7.3.3, gwelwyd mai gogwydd diwylliannol ac oedran oedd y ffactorau amlycaf a allai fod yn ddylanwadol o ran yr Atebion Cymraeg Aml a Phrin. Cynigiwyd amrywion y ddau glwm hyn yn amlach gan Bobl y Pethau na Phobl y Dafarn, a’r siaradwyr iau yn eu grwpiau diwylliannol a atebodd gyda nifer uchel o’r amrywion hyn o gymharu â’r rhai hŷn. Gan fod Pobl y Pethau yn mynychu cyfarfodydd yn amlach na’r Dafarn ac yn defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus, awgrymwyd y gall y sefyllfaoedd ffurfiol hyn ddylanwadu ar eu gwybodaeth o ffurfiau’r clymau hyn. Y siaradwyr iau a gafodd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac y mae’n bosibl bod hyn yn rheswm dros iddynt gynnig mwy o’r Atebion Cymraeg na’r rhai hynaf.
Cafodd y siaradwyr gyfle i gynnig sawl ateb i’r sbardunau, ac yr oedd amser ganddynt i feddwl am ffurfiau eraill – ffurfiau swyddogol, ‘priodol’, tafodieithol, slang, unigol, a chreadigol, yn y ddwy iaith (Pennod 6). Er enghraifft, gyda’r newidyn cymharol hen (BATHROOM) cynigiodd Dyn y Pethau 33 oed yr amrywion ceudy, cachdy, a lle chwech; cynigiodd hefyd ffurf ‘safonol’, sef ystafell ymolchi. Dosbarthwyd y tair ffurf gyntaf gan y dadansoddi clymau i Glwm 1 yr amrywion, sef atebion lleiaf cyffredin y sampl, ond y mae’r term ‘safonol’ yn ymddangos ymysg yr Atebion Cymraeg Aml. Er i’r atebwr hwn gynnig y tair ffurf arall, yr oedd ganddo wybodaeth o’r ffurf ‘safonol’ hefyd.
Y mae (ASHTRAY) yn cynnig enghraifft arall o wybodaeth y siaradwyr. Cynigiodd 29% o’r siaradwyr y ffurf Saesneg, ashtray, yn ogystal â’r ffurf Gymraeg, blwch llwch. Hynny yw, er bod y siaradwyr hyn wedi dewis cynnig y gair Saesneg, yr oedd ganddynt hefyd wybodaeth o’r term Cymraeg. Wrth ystyried bod 50% o’r siaradwyr wedi ateb gyda’r Gymraeg a 61% wedi cynnig y Saesneg, amlygodd hanner y siaradwyr wybodaeth o’r term Cymraeg ‘priodol’, ond cynigiwyd y ffurf Saesneg yn amlach na’r Gymraeg. Gall hyn awgrymu bod y term Saesneg yn uwch yn ymwybyddiaeth y siaradwyr na’r ffurf Gymraeg.
Nid oedd modd gwybod a oedd y siaradwyr yn defnyddio’r ffurfiau Cymraeg hyn yn eu hiaith lafar, ond y mae’r fethodoleg a weithredwyd wedi llwyddo i ddangos eu gwybodaeth o’r geiriau hyn. O ystyried y termau Cymraeg, felly, gellir gofyn pwy yw ceidwaid y ffurfiau Cymraeg a phwy yw arweinwyr erydu neu boblogeiddio ffurfiau. Trafodir ffurfiau unigol a all oleuo hyn ym Mhennod 8.
[1] Ceir hanes y gymdeithas a gwybodaeth bellach ar safle gwe’r gymdeithas: http://cylch.members.beeb.net/
[2] Delfrydiad o’r dendrogram gwreiddiol a gynhyrchwyd gan SPSS a geir yn y ffigur hwn oherwydd gyda chynifer o wahanol amrywion, nid yw’n bosibl dangos y dendrogram a’r holl atebion yn daclus am ei fod yn cymryd 21 o dudalennau.