PENNOD WYTH

‘Rhaid i Chi Warchod yr Iaith!’ Hynt y Ffurfiau Cymraeg

8.1 Ffurfiau Cymraeg y Siaradwyr

Canolbwyntir yn y bennod hon ar y ffurfiau Cymraeg a gynigiwyd gan y siaradwyr wrth ymateb i’r sbardunau.  Ymgynghorwyd â nifer o gyfeirlyfrau, er enghraifft geiriaduron Cymraeg megis Geiriadur Prifysgol Cymru, Geiriadur yr Academi (Griffiths a Jones 1995), Y Geiriadur Mawr (Evans a Thomas 1995), Y Geiriadur Cymraeg Cyfoes (Evans 1992); astudiaeth dafodieithol gynhwysfawr A. R. Thomas (1973), The Linguistic Geography of Wales; yr wyth llyfr o dermau Cymraeg y cyfeiriwyd atynt yn 2.2.6, a’r astudiaethau o erydiad geirfaol a drafodwyd yn 6.2.1 uchod.  O’r amrywion a gofnodwyd ym Mlaenau Ffestiniog, detholwyd y geiriau ar gyfer y dadansoddi canlynol am eu bod wedi’u cofnodi’n ffurfiau ‘priodol’ am y newidynnau yn y cyfeirlyfrau hyn.  Trafodir ffurfiau’r cyfeirlyfrau a gynigiwyd gan y siaradwyr yn fanwl yn yr adrannau canlynol.

 

8.2       Hynt y Ffurfiau Cymraeg ar gyfer yr ‘Hen Gysyniadau’

O edrych ar yr amrywion Cymraeg a gynigiwyd ar gyfer yr ‘hen gysyniadau’, gellir ystyried a ydyw rhai o’r ffurfiau traddodiadol yn sefydlog yn y gymuned ac eraill yn cael eu disodli.  Nid oes astudiaeth flaenorol o dafodiaith Blaenau Ffestiniog, ac o ganlyniad, nid oes tystiolaeth gynharach i’w chymharu â’r hyn a geir yn yr astudiaeth bresennol.  Er hynny, y mae’n bosibl asesu a ydyw’r ffurfiau Cymraeg ‘traddodiadol’ yn dal eu tir yn iaith siaradwyr Blaenau Ffestiniog. 

 

8.2.1    Hen Ffurfiau Cymraeg y Sampl

Er mwyn dod o hyd i grwpiau o ffurfiau tebyg o ran pa mor aml y cynigiodd y siaradwyr y ffurfiau Cymraeg traddodiadol am yr ‘hen gysyniadau’, gwnaethpwyd dadansoddiad clymau ar ganrannau’r amrywion fesul carfan.  Dull Ward oedd yr algorithm clymau mwyaf llwyddiannus i ddatgelu grwpiau pendant.  Dengys Ffigur 8.1 y dendrogram a’r amrywion ym mhob clwm ar gyfer yr ‘hen gysyniadau’.  Ceir dau brif glwm, y naill yn cynnwys 13 o ffurfiau a’r llall 10.

Cynigiodd y siaradwyr i gyd y ffurfiau ‘traddodiadol’ ar gyfer talcen, boch, a gewin.  Am fod y rhain yn hollol sefydlog ymhlith aelodau’r sampl, nis cynhwyswyd yn y dadansoddi clymau.  Tynnwyd y ffurf garddwrn o’r dadansoddi hefyd am fod pawb ond un, Benyw’r Pethau 75 oed, wedi cynnig y term, sy’n awgrymu ei fod yntau’n dra sefydlog.  Ar y pegwn arall, ni chynhwyswyd ychwaith blew amrant, a hynny am mai dim ond un person, Benyw’r Pethau 41 oed, a gynigiodd y term, arwydd tebygol ei fod ar fin colli ei dir yn llwyr.   

Ymysg y newidynnau eraill, y mae pedwar – (PARTING), (BEDROOM), (SIEVE), a (MIRROR) – sydd â dau amrywyn Cymraeg.  Soniwyd eisoes yn 6.4 uchod fod A. R. Thomas (1973: 317 a 475) yn cyfeirio at yr amrywion tafodieithol llofft a rhesen yn iaith lafar gogledd Cymru, a cheir y ddau amrywyn hyn yn y data presennol yn ogystal â’r ffurfiau ffurfiol ystafell wely a rhesen wen.  O ran y ddau newidyn arall, cofnodwyd gwydr a drych am (MIRROR) a rhidyll a gogor ar gyfer (SIEVE) yn yr astudiaeth bresennol.

 

 

  Crimog         òø

  Croth Coes     òú

  Rhidyll        òú

  Gogor          òôòòòø

  Rhesen         ò÷   ùòòòø

  Amrant         òø   ó   ó

  Migwrn         òôòòò÷   ó

  Ael            ò÷       ùòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòø

  Rhesen wen     òø       ó                                       ó

  Clun           òôòø     ó                                       ó

  Gwadn          ò÷ ùòòòòò÷                                       ó

  Ystafell wely  òûò÷                                             ó

  Gwydr          ò÷                                               ó

  Clustog        òø                                               ó

  Drych          òú                                               ó

  Ffêr           òú                                               ó

  Cledr          òôòòòòòø                                         ó

  Sawdl          ò÷     ó                                         ó

  Gên            òø     ùòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòò÷

  Llofft         òú     ó

  Pen-glin       òú     ó

  Penelin        òôòòòòò÷

  Glud           ò÷

 

           

Ffigur 8.1:  Dendrogram yn Carfanu’r Ffurfiau Cymraeg ar gyfer yr

‘Hen Gysyniadau’

 

 

O gymharu canrannau’r sampl ar gyfer yr atebion yn y ddau glwm, y mae’n amlwg bod gwahaniaeth sylweddol rhwng hynt y ddau grŵp o ffurfiau.  Y mae agendor eang o 52% rhwng sgôr y sampl ar gyfer y geiriau Cymraeg yng Nghlwm 1 (83%) a’i sgôr am Glwm 2, sef 31%.  Gan fod sgôr y sampl ar gyfer y clwm cyntaf mor uchel, y mae’n ymddangos bod ffurfiau Cymraeg y clwm hwn yn eithaf diogel rhag cael eu herydu.  Dyma, felly, y Clwm Tra Sefydlog.  Ar y llaw arall, gan fod llai na thraean o’r sampl wedi cynnig y ffurfiau yn yr ail glwm, y mae’n debyg bod y termau hyn yn colli tir yn iaith y siaradwyr.  Y mae’r ffurfiau hyn yn perthyn i’r Clwm Cyfnewidiol.

Ceir yn Ffigur 8.2 ganrannau’r holl sampl ar gyfer yr amrywion Cymraeg yn y Clwm Tra Sefydlog a’r ffurfiau Saesneg cyfatebol a gynigiwyd ganddynt.  Y mae gan ddau newidyn amrywion yn y clwm hwn ac yn yr un canlynol.  Y mae ystafell wely am (BEDROOM) a gwydr ar gyfer (MIRROR) wedi eu dosbarthu i’r Clwm Cyfnewidiol, ond ceir llofft a drych yn y Clwm Tra Sefydlog (trafodwn yr amrywion hyn isod wrth ymdrin â’r atebion yn y Clwm Cyfnewidiol).  Y mae, felly, tri dimensiwn i’r newidynnau hyn, sef dwy ffurf Gymraeg ac un Saesneg.

Fel y dengys Ffigur 8.2, ceir tri amrywyn yn y Clwm Tra Sefydlog – gên, penelin, a pen-glin – a gynigiwyd gan 95% o siaradwyr y sampl, sef y ganran uchaf ar gyfer yr amrywion i gyd.  Sylwer na chynigiwyd geiriau Saesneg gan yr un siaradwr am y newidynnau hyn.  Y mae hyn yn awgrymu bod y tair ffurf Gymraeg yn dangos cryn sicrwydd yn iaith y siaradwyr a’u bod yn eithaf diogel rhag cael eu disodli.

Cynigiodd 92% o’r sampl llofft am (BEDROOM), ac nid atebodd ond 11% ohonynt gyda’r Saesneg, sy’n awgrymu bod y gair tafodieithol hwn yn dra sicr ei le yn iaith y siaradwyr. 

Ceir pedwar amrywyn gydag ond 5% o wahaniaeth rhwng y nifer o siaradwyr a’u cynigiodd, sef sawdl (84%), drych (82%), glud (82%), a clustog (79%).  O ran y newidyn (HEEL), ni chofnodwyd ond 8% o’r sampl yn ateb gyda’r Saesneg, ac y mae’r ffurf Gymraeg, felly, yn eithaf diogel yn y gymuned hon.  Ceir darlun gwahanol gyda (MIRROR).  Sylwir bod 40% wedi cynnig y Saesneg, a gall hyn awgrymu bod mirror yn eithaf cyffredin ar lafar.    O ystyried y canlyniadau ar gyfer (CUSHION) a (GLUE), nid yw’r canrannau’n peri syndod.  Tra uchel yw’r nifer o siaradwyr a gynigiodd clustog a glud, ond y mae’r canrannau o ran yr amrywion Saesneg cyfatebol yn uchel hefyd.    Yn ôl GPC  (650  a  1408),  y mae’r ffurf cwshin ar lafar yn gyffredinol ac y

 

Ffigur 8.2:  Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg

ar gyfer yr ‘Hen Gysyniadau’ – Y Clwm Tra Sefydlog

 

mae gliw yn y Gymraeg ers y ddeunawfed ganrif.  O ganlyniad, nid yw’r nifer uchel o siaradwyr y sampl a gynigiodd yr amrywion hyn yn annisgwyl.  Er hynny, sylwer bod y ffurfiau Cymraeg wedi eu cynnig yn amlach na’r Saesneg ac y maent, felly, yn dal eu tir yng ngwybodaeth y siaradwyr er ei bod yn bosibl eu bod yn cystadlu â’r ffurfiau Saesneg ar lafar. 

Nid oes ond 1% o wahaniaeth rhwng yr atebion Cymraeg ar gyfer y ddau newidyn olaf yng Nghlwm 1, sef (ANKLE), a (PALM).  Atebodd 69% o’r sampl gyda ffêr ar gyfer (ANKLE) a 68% gyda cledr am (PALM), sef y canrannau isaf o ran y ffurfiau traddodiadol am yr ‘hen gysyniadau’ yn y clwm hwn.  Er bod ffêr a cledr yn dra hysbys i’r siaradwyr, o’u cymharu â’r rhannau eraill o’r corff yn y clwm hwn, gwelir gostyngiad yng ngwybodaeth y siaradwyr o’r ffurf Gymraeg am (ANKLE) a (PALM) a cheir cynnydd cyfatebol yn y nifer o siaradwyr a gynigiodd y Saesneg.  Y mae’n bosibl, felly, fod ffêr a cledr yn dechrau dangos ansicrwydd.

Dengys Ffigur 8.3 ganrannau aelodau’r sampl a gynigiodd y ffurfiau Cymraeg yn y Clwm Cyfnewidiol a hefyd y canrannau o’r ffurfiau Saesneg a gynigiwyd ganddynt am yr un newidynnau. 

 

Ffigur 8.3:  Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg

ar gyfer yr ‘Hen Gysyniadau’ – Y Clwm Cyfnewidiol

Ceir dwy set o ddybledau yn y clwm hwn gyda rhesen wen a’r ffurf symleiddiedig rhesen ar gyfer (HAIR PARTING) a rhidyll a gogor am (SIEVE).  Unwaith eto, y mae tri dimensiwn i’r newidynnau hyn, sef y ddwy ffurf Gymraeg a’r un Saesneg.  Cofnododd A. R. Thomas (1973: 475) y ffurf rhesen ym Mlaenau Ffestiniog, ond fel y tystia’r canlyniadau yn Ffigur 8.3, y mae’n debyg bod y gair hwn yn colli tir yn y dref: ni chynigiwyd y term ond gan  19%  o’r  sampl.   O’r ddwy ffurf Gymraeg am (HAIR PARTING), rhesen wen yw’r un fwyaf sefydlog gan fod 45% o’r siaradwyr wedi ei chynnig.  Ni chynigiodd yr un siaradwr y ddwy ffurf gyda’i gilydd.  Dim ond 21% o’r siaradwyr a gynigiodd y gair Saesneg.  Ceir darlun ychydig bach yn wahanol gyda’r newidyn (SIEVE).  Cynigiodd 13% o’r siaradwyr yr hen ffurf rhidyll a 19% gogor.  Cynigiwyd sieve gan 39% o’r sampl, sy’n awgrymu bod y ffurf Saesneg yn ennill tir ar draul y ffurfiau Cymraeg yn iaith y siaradwyr. 

Gwelsom eisoes fod gan ddau newidyn amrywion yn y clwm hwn ac yn yr un blaenorol.  Dosbarthwyd llofft am (BEDROOM) a drych ar gyfer (MIRROR) i’r Clwm Tra Sefydlog, ond ceir ystafell wely a gwydr yn y clwm presennol.  Nid yw’n syndod darganfod bod yr hen fenthyciad o’r Saesneg, llofft, yn aelod o’r clwm o amrywion tra sefydlog, canlyniad sy’n cyd-daro â’r hyn a godwyd yn arolwg A. R. Thomas (1973: 317), sy’n dangos bod i’r ffurf hon ddosbarthiad eang yn y Gogledd.  Gwelsom yn Ffigur 8.2 uchod fod 92% o’r siaradwyr wedi cynnig y ffurf dafodieithol ar gyfer (BEDROOM), mewn cyferbyniad â bron hanner y nifer o siaradwyr (47%) yn ateb gyda’r term mwy ffurfiol ystafell wely (Ffigur 8.3 uchod).[1]  Ceir darlun i’r gwrthwyneb o ran yr amrywion am (MIRROR).  Cynigiodd 82% o’r sampl y ffurf ffurfiol drych a 45% y gair tafodieithol gwydr.  Cyfieithiad o’r Saesneg (looking) glass yw gwydr (gweler GPC: 1751, d. g. gwydr), ond nid yw’r ffurf dafodieithol hon mor hysbys i’r siaradwyr â llofft, sef gair arall sy’n perthyn i dafodiaith y dref.

            Dengys Ffigur 8.3 bod dros 40% o’r siaradwyr wedi cynnig y ffurfiau traddodiadol ar gyfer pump o’r newidynnau – (EYEBROW), (THIGH), (BEDROOM), (HAIR PARTING), a (MIRROR).  Ar gyfer (EYEBROW), atebodd 48% o’r sampl gydag eyebrow  a  48%  gydag  ael,  sef  y  ganran  uchaf  a  geir ymysg holl atebion y Clwm

Cyfnewidiol.  Gall hyn awgrymu bod y term traddodiadol am y rhan hon o’r corff yn cystadlu â’r ffurf Saesneg yn iaith y siaradwyr.  Fel y gwelsom, ceir darlun tebyg o ran (MIRROR): atebodd 45% o’r siaradwyr gyda’r ffurf dafodieithol gwydr a chynigiodd 40% ohonynt y Saesneg mirror

Ar gyfer (THIGH), y mae’r ganran o’r sampl a gynigiodd y ffurf Saesneg yn gymharol isel, ac o ganlyniad, er bod llai na hanner o’r siaradwyr wedi cynnig clun, nid yw’n debygol bod y ffurf draddodiadol yn colli tir i’r Saesneg.  Tebyg yw’r hyn a geir gyda’r ffurfiau Cymraeg a Saesneg ar gyfer (SOLE).  Cynigiwyd gwadn gan 39% o’r siaradwyr, ond nid atebodd ond 7% gyda sole.  O ganlyniad, nid yw’n ymddangos bod y Saesneg yn cymryd lle’r ffurf draddodiadol (trafodwn yr amrywion eraill a gynigiwyd am y newidynnau hyn yn y man mewn ymgais i ddarganfod y ffurfiau a all fod yn ennill tir ar draul y rhai traddodiadol).

            O edrych ar y gweddill o’r atebion yn yr ail glwm, rhoddwyd y termau Cymraeg gan lai na thraean o’r sampl, ac ar wahân i amrant, a gynigiwyd gan 29% o’r siaradwyr, atebodd llai na chwarter gyda’r ffurfiau traddodiadol am y newidynnau eraill, a chyn lleied â 10% yn cynnig croth coes am (CALF).  Sylwer bod y siaradwyr wedi ateb gyda’r ffurfiau Saesneg yn amlach na’r rhai Cymraeg ar gyfer y newidynnau hyn.  O ganlyniad, y mae’n debyg bod y ffurfiau traddodiadol hyn ar fin colli tir yn gyfan gwbl, a hynny, efallai, i’r ffurfiau Saesneg cyfatebol.

 

8.2.2    Y Siaradwyr a Gynigiodd yr Hen Ffurfiau Cymraeg

Er mwyn darganfod hynt y ffurfiau Cymraeg ar gyfer yr ‘hen gysyniadau’, pwy yw ceidwaid yr hen ffurfiau, a phwy sy’n arwain unrhyw newid sydd ar waith, cyfrifwyd cymedrau’r amrywion yn y ddau glwm fesul carfan.  Ceir yn Ffigur 8.4 gymedrau’r carfanau ar gyfer y ddau glwm.  Bwriedir trafod y canlyniadau fesul clwm gan ystyried amrediad y sgorau nodweddiadol; homogenusedd y sgorau, neu pa mor agos yw sgorau’r carfanau at ei gilydd; sgorau eithriadol y clwm; a’r gwahaniaeth rhwng y sgorau nodweddiadol ac eithriadol.   Y mae’r trionglau’n cynrychioli’r siaradwyr hynaf yn eu grwpiau diwylliannol a’r sgwariau y siaradwyr iau.  Am fod tri grŵp oedrannol ymysg y Pethau, ceir un cylch, sy’n cynrychioli PH, sef y siaradwyr sydd ychydig yn iau na siaradwyr hynaf y Pethau, PO.

 

Ffigur 8.4:  Sgorau Cymedrol y Carfanau ar gyfer yr ‘Hen Gysyniadau’

 

 Y mae’r gwahanol liwiau yn dynodi’r gwahanol grwpiau o siaradwyr.

 

Y mae deg amrywyn yn y Clwm Tra Sefydlog:

            cledr                            glud

            clustog                        llofft

            drych                          penelin

            ffêr                              pen-glin         

            gên                              sawdl

                                               

Dengys Ffigur 8.4 fod y clwm hwn yn eithaf tyn, ac nid oes ond 24% o wahaniaeth rhwng y carfanau pegynol, sef PI a TH.  PI, PH, a CH yw’r grŵp o’r siaradwyr a atebodd â’r ffurfiau Cymraeg yn amlaf.  93% yw’r sgôr uchaf (PI), ac nid oes ond 5% o amrywiaeth rhyngddynt a CH (88%), sef y sgorwyr isaf yn y grŵp hwn.  Y mae’n ymddangos, felly, mai PI, PH, a CH yw’r siaradwyr mwyaf ceidwadol o ran y ffurfiau Cymraeg y Clwm Tra Sefydlog.  Sylwer bod PO wedi sgorio’n debyg i TI a CI, a bod y tair carfan hyn yn ffurfio grŵp eithaf tyn lle nad yw’r gwahaniaeth ond yn 3%, sef rhwng 77% a 80%.  Y mae 8% o wahaniaeth rhwng sgorwyr isaf y grŵp cyntaf, CH (88%) a sgorwyr uchaf y grŵp yn y canol, CI (80%).  Ceir 8% hefyd rhwng PO (77%) a’r sgorwyr eithriadol, TH (69%).  Ar wahân i’r sgorwyr isaf hyn, y mae gweddill y sampl wedi sgorio dros 77%, sy’n awgrymu bod y siaradwyr yn eithaf sicr o’r ffurfiau yn y clwm hwn a bod y geiriau dan sylw yn dra sefydlog yn y gymuned hon.  Er hynny, y mae’n ymddangos mai siaradwyr hynaf y Dafarn, TH, sy’n arwain unrhyw erydu sydd ar waith o ran y ffurfiau traddodiadol yn y clwm hwn. 

Er nad oes llawer o amrywio rhwng y grwpiau, gall un o’r ffactorau allieithyddol fod yn ddylanwadol ac esbonio’r patrwm a geir yma.  Gyda’r grŵp o sgorwyr uchel, ceir gwahaniaeth bychan o 5% rhwng y garfan isaf a’r un uchaf.  Dwy garfan y Pethau, PH a PI, yw’r rhain ac y maent yn ymbatrymu fel y garfan o Bontwyr hŷn, CH.  Yn y bôn, y mae’r siaradwyr hyn yn debyg o ran gogwydd diwylliannol, ond yn bwysicach, efallai, y maent yn defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn helaeth (Ffigur 7.4).  Y pedair carfan arall o sgorwyr cymharol isel sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol leiaf, ac y mae’n bosibl, felly, y gall y ffactor hon ddylanwadu ar wybodaeth y siaradwyr o’r ffurfiau yn y clwm hwn.

Ceir 13 o amrywion yn y Clwm Cyfnewidiol, sydd at ei gilydd yn enwau ar fân rannau o’r corff, sef:

            ael                               gwydr

            amrant                        migwrn

            clun                             rhesen

            crimog                                    rhesen wen

            croth coes                   rhidyll            

            gogor                          ystafell wely  

            gwadn

                                               

Fel y dengys Ffigur 8.4, y mae’r clwm hwn o atebion yn llai homogenus na’r un blaenorol, a cheir 37% rhwng y sgorwyr isaf, TI (17%), a’r sgorwyr uchaf, PH (54%).  Ni cheir gorgyffwrdd o gwbl rhwng sgorau’r ddau glwm o atebion ar gyfer yr ‘hen gysyniadau’, ac y mae 15% o wahaniaeth rhwng sgorwyr uchaf y clwm hwn, PH (54%), a sgorwyr isaf yr un blaenorol, TH (69%).  Y mae geiriau’r ddau glwm, felly, yn dra annhebyg o ran gwybodaeth y siaradwyr ohonynt. 

Y mae pedair carfan wedi eu clystyru tua hanner ffordd rhwng y ddau begwn.  Ni cheir ond 8% o wahaniaeth rhwng y rhain, ac y mae pob un o’r pedair carfan hyn yn sgorio rhwng 33% (PI) a 41% (CH).  Gellid ystyried y grŵp hwn o siaradwyr yn nodweddiadol ar gyfer y Clwm Cyfnewidiol.  Ceir tair carfan o sgorwyr eithriadol.  TI a CI a gynigiodd y nifer leiaf o’r atebion, 17% a 18% yn ôl eu trefn.  Ar y pegwn arall ceir PH (54%), sef y garfan a atebodd amlaf gyda ffurfiau Cymraeg y clwm hwn, ac y maent wedi cynnig 13% yn fwy o’r amrywion hyn na’r sgorwyr uchaf ond un, sef CH (41%).  Ar wahân i PH, y mae pob un o’r carfanau wedi sgorio llai na 50%, sy’n awgrymu bod y siaradwyr yn ansicr o’r ffurfiau yn y clwm hwn.  PH yw eithafwyr uchaf y Clwm Cyfnewidiol, sy’n awgrymu mai hwy yw ceidwaid y ffurfiau Cymraeg yn y clwm hwn.  Gwelsom yn 7.3.1 wrth drafod yr Atebion Cymysg mai grŵp o awduron ac athrawon yw PH, ac y mae’n bosibl mai dyna’r rheswm eu bod yn ymddwyn mor wahanol i’r siaradwyr eraill.  Sylwer bod y siaradwyr hynaf wedi sgorio’n uwch na’r rhai ifanc, sy’n awgrymu bod y siaradwyr hŷn yn fwy ceidwadol o ran y ffurfiau yn yr ail glwm (gweler y drafodaeth yn 8.2.3 isod am y dystiolaeth fanwl).  PI yw’r unig garfan o siaradwyr ifanc sy’n agosáu at y ceidwaid.  Gyda sgorau mor isel, y mae’n debyg bod siaradwyr iau y Dafarn a’r Pontwyr ifanc yn tywys erydiad yr eitemau yn y clwm hwn, a chesglir, felly, fod y ffurfiau hyn yn colli tir rhwng y cenedlaethau. 

 

8.2.3    Yr Amrywion Unigol a Gofnodwyd am yr ‘Hen Gysyniadau’

Fel y gwelsom yn Ffigur 8.4, ar wahân i’r sgorwyr eithafol, PH, cynigiwyd y geiriau yn y Clwm Cyfnewidiol gan lai na hanner y siaradwyr, ac nid yw’r ffurfiau prin yn hysbys o gwbl i CI a TI.  Fe’n harweinir i holi, felly, beth yw eu geiriau hwy am y cysyniadau?  Gall edrych ar yr amrywion am yr ‘hen gysyniadau’ a gynigiwyd gan y gwahanol garfanau o siaradwyr ddatgelu’r ffurfiau sy’n dal eu tir, y rhai sy’n cael eu disodli, y termau sy’n cymryd eu lle, a phwy sy’n arwain unrhyw newid sydd ar waith.  Bwriedir, felly, trafod y gwahanol amrywion a gynigiwyd gan y siaradwyr wrth ymateb i’r sbardunau.  Am nad oes lle i drafod yr holl amrywion a gofnodwyd, ni ddangosir yr atebion a gynigiwyd gan lai na 5% o’r sampl, sef tri neu lai o’r siaradwyr, ond nodir y canrannau o’r siaradwyr a gynigiodd yr atebion lleiaf cyffredin hyn (gweler Atodiad IV am yr holl amrywion a gofnodwyd).  Gan amlaf, Atebion Strategaethol ydynt (7.2.2), ond tynnir sylw at y rhai nad ydynt yn debygol o fod yn enghreifftiau o strategaethau ateb.  Dengys Tabl 8.1 ganrannau’r carfanau a gynigiodd yr amrywion a gofnodwyd am y newidynnau yn y Clwm Tra Sefydlog.

             

    Tabl 8.1:     Amrywion a Gofnodwyd am y Newidynnau yn y Clwm Tra

Sefydlog

 

                                                                        %

                                                PO           PH           PI            CH          CI           TH          TI

(CHIN)                    Gên                         100          100          91            86            100          86            100

 

(KNEE)                   Pen-glin                  100          88            91            100          100          100          94

 

(ELBOW)                Penelin                    83            100          100          100          100          71            100

Garddwrn              0              0              0              0              17            43            0

Arall                       17            0              0              0              0              0              0

 

(BEDROOM)           Llofft                      83            88            100          86            100          86            94

Ystafell wely          67            38            36            57            67            43            44

Ystafell gysgu        17            13            0              14            0              14            0

Bedroom                               17            0              0              14            0              43                13

Arall                       0              0              0              0              0              14            12

 

(HEEL)                    Sawdl                     100          75            91            71            83            100          75

Heel                       0              0              0              0              17            0              25

Arall                       0              0              0              14            0              0              6

 

(MIRROR)               Drych                     67            100          91            100          83            29            88

Gwydr                    50            25            55            14            67            86            38

Glàs                        33            50            18            14            0              43            38

Mirror                   33            25            27            14            33            71            56

Arall                       0              0              0              0              0              14            0

 

 (GLUE)                 Glud                       50            88            100          71            100          86            81

Glue                       50            63            73            14            83            86            81

Arall                       50            0              0              43            0              29            0

 

(CUSHION)             Clustog                   50            100          100          100          67            43            75                                Pillow                    17            0              0              0              17            14            25

Cushion                 67            88            73            0              33            100          94

Arall                       0              0              9              0              0              0              0

 

(ANKLE)                                 Ffêr                         67            100          82            86            33            29                69

Migwrn                  0              0              18            0              17            0              6

Pigwrn                    17            0              18            0              0              0              6

Ankle                     33            0              9              14            50            29            44

                                Arall                       0              13            0              14            0              14            0

 

(PALM)                   Cledr                      67            100          91            100          50            71            31

Palm                      0              0              0              0              50            14            50

Arall                       33            0              9              0              0              14            38

 

 

Gwelsom yn Ffigur 8.2 uchod fod pawb ond tri wedi cynnig y ffurfiau traddodiadol gên, pen-glin, a penelin.  O ystyried (CHIN) a (KNEE), sylwer bod y siaradwyr na roesant gên a pen-glin heb gynnig ateb o gwbl am y ddwy ran hyn o’r corff.  Gall hyn awgrymu nad oeddent yn fodlon defnyddio un o’r strategaethau ateb fel disgrifio’r gwrthrychau a rhoi ateb y gwyddent nad oedd yn ‘iawn’.  Nid yw’n glir paham nad oedd y ffurfiau hyn gan y siaradwyr, ac fel y gwelsom yn 6.3 uchod:   

The various strategies people use when they experience difficulty in retrieval [of lexical items] make it hard then to determine whether loss has in fact occurred, whether a word is just difficult to recall, or whether … it was never actually fully acquired.   

            (Hulsen, et al. 2002: 33)

 

Yn ogystal, y mae’n bosibl bod sefyllfa ffurfiol y cyfweliad yn gyfrifol am fethu dwyn geiriau i’r cof, a gall peidio ag ateb o gwbl hefyd fod yn strategaeth ateb a ddefnyddir yn hytrach na chynnig gair sy’n amlwg yn anghywir i’r siaradwyr.

Sylwer ar amrywyn a gynigiwyd gan bedwar o’r siaradwyr am (ELBOW), sef garddwrn.  Nid yw’n hawdd esbonio paham y mae un aelod o CI a thri o TH wedi cynnig y cyd-randerm hwn o’r fraich am nad yw’n debyg yn ffonolegol i’r ffurf draddodiadol, penelin, ond garddwrn oedd yr unig derm a gynigiwyd gan ddau o siaradwyr hŷn y Dafarn am y rhan hon o’r corff.  O ystyried bod pawb ond tri wedi cynnig y ffurfiau traddodiadol am (CHIN), (KNEE), ac (ELBOW) a hefyd y posibilrwydd bod y siaradwyr wedi methu cofio’r ffurfiau hyn dros dro, y mae’n ymddangos bod y geiriau Cymraeg hyn yn dra sefydlog yn iaith y siaradwyr.

            O ran (BEDROOM), llofft oedd yr ateb a gynigiwyd amlaf gan bob carfan, sy’n arwydd o sefydlogrwydd y ffurf dafodieithol hon.  Nid yw’r term ffurfiol ystafell wely mor amlwg ymysg atebion y siaradwyr, a dim ond mewn tair carfan – PO (67%), CH (57%), a CI (67%) – y mae dros hanner yr aelodau yn cynnig y ffurf hon.  Cesglir, felly, mai llofft yw gair beunyddiol y siaradwyr, ond y mae’n bosibl bod y ffurf ffurfiol ar lafar hefyd.  Ar wahân i TH (43%), nid atebodd nifer fawr o’r siaradwyr â’r Saesneg bedroom, sy’n dystiolaeth bellach bod y siaradwyr yn sicr iawn o’r ffurfiau Cymraeg. 

            Am (HEEL), 71% (CH) yw’r ganran isaf a geir ymysg y carfanau a atebodd gyda sawdl, ac am na chynigiwyd y Saesneg gan ond dyrnaid o’r siaradwyr, TI (25%) yn bennaf, y mae’n ymddangos bod y ffurf draddodiadol yn eithaf sefydlog.

Yn debyg i (BEDROOM), y mae gan (MIRROR), (GLUE), a (CUSHION) fwy nac un amrywyn a gynigiwyd gan ganrannau tra uchel o’r siaradwyr.  O ran (MIRROR), y mae’r term ffurfiol drych, y ffurf dafodieithol gwydr, y gair benthyg glàs, a’r Saesneg yn atebion eithaf amlwg.  Yn ôl GPC (1402 a 1751), gall glàs a gwydr olygu ‘mirror, looking glass’.  Cynigiodd aelodau o bob carfan drych, gwydr, a mirror ac aelodau o bob carfan ond un, sef CI, glàs, ac y mae’n debyg, felly, fod y pedair ffurf hyn ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog.  O’r pedair ffurf hyn, drych oedd yr un a gynigiwyd amlaf gan y siaradwyr gyda 82% o’r sampl yn ateb gyda’r gair hwn o gymharu â 45% gwydr, 40% mirror, a 31% glàs

O ystyried (GLUE), yr oedd sgorau’r carfanau i gyd ar gyfer y ffurf Gymraeg glud yn uwch na’r un Saesneg neu’n gyfartal â hi.  Ni ychwanegwyd atebion eraill ond gan y siaradwyr hynaf, sef PO, CH, a TH, a chodwyd enghreifftiau fel yr enw masnachol bostik a disgrifiadau o’r gwrthrych fel rhywbeth sy’n glynu, rhywbeth at drwsio peth a peth, a peth i lynu

Ar gyfer (CUSHION), cynigiwyd y Saesneg yn amlach na’r Gymraeg gan PO, TH, a TI.  Gall hyn awgrymu bod cushion yn dra chyffredin yn iaith lafar y tair carfan hyn.  Cynigiodd nifer o’r siaradwyr ffurf Saesneg arall am (CUSHION), sef pillow, sy’n arwydd tebygol bod y gair hwn ar lafar hefyd. 

Am (GLUE) a (CUSHION), cynigiodd 82% o’r holl sampl glud a 79% clustog (Ffigur 8.2), sy’n awgrymu bod y ffurfiau traddodiadol hyn yn dra sefydlog.  Ond ceir hefyd ganrannau uchel ar gyfer y ffurfiau Saesneg cyfatebol: cynigiodd 68% glue a 71% cushion.  Gall hyn olygu bod y ffurfiau Cymraeg a Saesneg yn cydfodoli â’i gilydd yn iaith y siaradwyr neu’n cystadlu â’i gilydd.

            Gwelsom yn Ffigur 8.2 uchod mai’r ffurfiau traddodiadol am (ANKLE) a (PALM) oedd y rhai yn y Clwm Tra Sefydlog a gynigiwyd lleiaf gan y sampl – ffêr (69%) a cledr (68%).  Y mae’r ddwy ffurf hyn yn dechrau dangos ansefydlogrwydd, a chyda chanrannau is, ceir mwy o amrywio o ran amlygrwydd y ffurfiau traddodiadol i’r carfanau.  Y siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau hyn amlaf oedd PH, PI, a CH.  Gwelsom uchod (Ffigur 8.4) mai PH, PI, a CH oedd y ceidwaid o rai o’r ffurfiau traddodiadol, ac y mae’r ffurfiau Cymraeg am (PALM) ac (ANKLE) yn dangos y gwahaniaeth rhwng y tair carfan hyn a gweddill y siaradwyr yn glir.  Sylwer bod hanner o CI a TI wedi cynnig y Saesneg ar gyfer (PALM) a cheir darlun tebyg gydag (ANKLE).  Cynigiwyd CI a TI palm ac ankle yn amlach na’r carfanau eraill, a gall hyn fod yn arwydd o’r ffurfiau Saesneg yn ennill tir yn iaith y siaradwyr iau hyn.  Y mae’r amrywion migwrn a pigwrn a gofnodwyd ar gyfer (ANKLE) yn drawiadol hefyd.  Gan amlaf, gan y siaradwyr iau y cynigiwyd y ffurfiau anlleol hyn.  Anodd yw esbonio paham y mae’r bobl ifanc yn fwy cyfarwydd â’r geiriau hyn na’r siaradwyr hŷn, ond efallai eu bod yn cyfathrebu’n amlach gyda phobl o wahanol rannau o Gymru.  Ymysg y ffurfiau eraill a gofnodwyd ar gyfer (PALM) yw’r cyfanderm llaw, yr ateb creadigol gwadn llaw, ac atebion disgrifiadol fel canol llaw, blaen y llaw, a tu fewn y llaw.    

            Ceir yn Nhabl 8.2 canrannau’r carfanau ar gyfer yr amrywion a godwyd am y newidynnau yn y Clwm Cyfnewidiol.  Gwelsom yn Ffigur 8.4 uchod fod CI a TI yn tywys erydu ffurfiau Cymraeg y clwm hwn.  O’r deg newidyn yn y clwm, nid atebodd yr un aelod o CI gyda’r ffurfiau traddodiadol am saith ohonynt, a 33% yw canran uchaf  y  garfan  hon  am  y  gweddill.    38%   yw   sgôr   uchaf   TI,  ac  am  saith  o’r newidynnau, ni chynigiodd ond dau aelod ar y mwyaf y ffurf Gymraeg.  PH yw’r garfan fwyaf ceidwadol o ran ffurfiau’r ail glwm (Ffigur 8.4), cynigiodd o leiaf hanner yr aelodau o’r garfan hon y geiriau traddodiadol am saith o’r newidynnau, ac atebodd yr aelodau i gyd gydag ael am (EYEBROW)

   

Tabl 8.2:     Amrywion a Gofnodwyd am y Newidynnau yn y Clwm Cyfnewidiol

 


 

                                                                                                                %

                                                PO           PH           PI            CH          CI           TH          TI

(EYEBROW)           Ael                          33            100          91            43            0              29            25

Eyebrow                                33            0              9              43            100          71            81

Arall                       33            0              0              0              0              0              6

 

(THIGH)                  Clun                       67            88            46            57            33            71            19

Top y goes              0              0              9              14            0              14            25

Coes                        0              0              27            14            17            0              6

Thigh                     17            0              9              0              17            14            50

Arall                       0              25            0              0              0              0              25

 

(HAIR PARTING)   Rhesen wen           50            88            27            43            33            57            38

Rhesen                   33            0              36            0              33            43            6

Llinell gwallt          17            0              9              0              0              0              13

Parting                  17            0              9              29            17            0              44

Arall                       0              13            27            43            17            0              19

 

 (SOLE)                   Gwadn                   50            50            36            57            17            71            13

O dan y droed       17            0              9              29            17            14            6

Cledr y droed        0              0              9              0              17            0              13

Gwaelod y droed   0              0              18            0              17            0              13

Sole                        17            0              0              0              0              14            13

Arall                       17            0              36            0              33            14            38

 

 (EYELID)               Amrant                  0              88            36            57            0              29            6

Aeliau                     0              0              18            0              0              0              19

Eyelid                    50            0              27            29            83            29            44

Arall                       50            13            18            14            0              29            13

               

 (KNUCKLE)           Migwrn                  17            75            18            29            0              43            6

Cymal                     0              0              18            14            0              14            0

Joint                      50            0              27            0              0              0              19

Knuckle                 17            25            36            29            67            71            69

Arall                       0              13            18            0              0              0              6

 

(SIEVE)                   Rhidyll                   33            13            27            29            0              0              0

Gogor                     50            38            0              43            0              14            13

Hidlwr                    0              38            36            14            17            0              6

Strainer                 0              13            9              0              0              29            13            Colander               33            13            46                29            33            0              13

Sieve                      50            25            27            14            67            57            44

Arall                       0              13            9              0              0              0              12

 

(SHIN)                     Crimog                   17            25            18            29            0              0              6

Coes                        17            25            46            29            0              29            13

Crymog                  17            13            0              14            17            0              0

Shin                        0              25            18            14            33            29            38

Arall                       33            38            9              14            50            14            63

 

 (CALF)                   Croth coes              0              25            9              29            0              0              0

Cefn y goes            17            38            27            0              17            0              13

Coes                        0              0              18            0              0              29            6

Calf                        0              0              18            0              83            14            38

Arall                       17            13            18            14            17            72            19

 

(EYELASHES)        Blew llygaid           33            88            27            29            0              14            13

Amrannau             0              13            9              0              0              0              13

Eyelashes              17            0              55            43            83            43            81

Arall                       17            13            9              28            0              14            6

 

 


 

Fel y dengys Tabl 8.2, (EYEBROW) yw’r unig newidyn yn y clwm sydd ag ond dau amrywyn amlwg, sef y Gymraeg a’r Saesneg.  Ar wahân i PH a PI, yr oedd sgorau’r carfanau eraill ar gyfer y ffurf Saesneg yn uwch na’r un Gymraeg neu’n gyfartal â hi.  Y mae’n bosibl, felly, fod eyebrow yn ennill tir dros ael yn iaith y nifer fwyaf o’r siaradwyr.

Ar gyfer (THIGH), PI (46%), CI (33%), a TI (19%) yw’r siaradwyr ieuaf a hwy hefyd oedd y rhai a atebodd gyda clun yn lleiaf aml.  Cynigiodd llai na hanner y siaradwyr iau y ffurf draddodiadol am (THIGH), ond yr oedd clun yn ateb i o leiaf hanner y siaradwyr hŷn, sy’n awgrymu bod y ffurf yn colli tir rhwng y cenedlaethau.  Y Saesneg, y ffurf ddisgrifiadol top y goes, a’r cyfanderm coes oedd yr amrywion amlycaf eraill, yn enwedig ymysg y siaradwyr iau.   Sylwer bod hanner TI wedi cynnig thigh, sy’n awgrymu bod y ffurf draddodiadol Gymraeg yn cael ei disodli gan y gair Saesneg yn eu hiaith hwy.  Rhai o’r atebion eraill a godwyd am (THIGH) oedd un cyd-randerm o’r goes, sef ffêr, a disgrifiadau fel cyhyrau coes a rhan ucha’r goes oedd yr atebion eraill.

O ystyried (HAIR PARTING), gwelsom yn Ffigur 8.3 uchod fod 45% o’r sampl wedi cynnig rhesen wen a 19% wedi ateb gyda’r ffurf symleiddiedig rhesen.  Dengys Tabl 8.2 mai PH yw’r garfan fwyaf ceidwadol o ran y term ffurfiol gyda phawb ond un yn cynnig rhesen wen.  Y mae parting yn eithaf amlwg ymysg yr amrywion, a’i cynigiwyd amlaf gan siaradwyr TI (44%).  Cofnodwyd nifer o ffurfiau eraill am y rhan hon o’r corff, a cheir atebion fel line, seam, corun, a rhywbeth sy’n rhannu’r pen, yn ogystal â’r ffurf dra anghyffredin troellen a gynigiwyd gan un aelod o CH.

Ar gyfer (SOLE), y siaradwyr iau oedd y rhai a atebodd gyda gwadn yn lleiaf aml.  Y mae’r atebion disgrifiadol o dan y droed a gwaelod y droed a’r ffurf greadigol cledr y droed ymysg yr amrywion a gynigiwyd gan dros 5% o’r sampl, a chynigiodd y siaradwyr iau y ffurfiau hyn gan amlaf.  Nid yw’r Saesneg yn gyffredin iawn, ac er bod gwadn yn colli tir yn sylweddol yn iaith y siaradwyr, nid yw’n debygol, felly, fod sole yn cymryd lle’r ffurf draddodiadol yn eu hiaith.  Ymysg yr amrywion eraill a gofnodwyd am y newidyn hwn yr oedd y cyfanderm troed, y cyd-randerm Cymraeg sawdl a’r cyd-randerm Saesneg arch, a nifer o atebion disgrifiadol fel sail y droed, blaen y droed, a gwaelod y goes.  Cynigiodd y siaradwyr iau yr atebion hyn yn amlach na’r rhai hŷn, ac nid yw’n ymddangos bod norm newydd yn datblygu yn eu plith hwy oherwydd ni cheir ffurf benodol arall i lenwi’r bwlch yn eu geirfa am y rhan hon o’r droed.  Y mae hyn yn dystiolaeth bellach fod gwadn yn diflannu o iaith y bobl ifanc.

O ran (EYELID), cynigiodd pawb ond un o PH amrant, nid oedd y ffurf draddodiadol hon yn ateb i’r un aelod o PO a CI, ac nid atebodd ond un siaradwr TI gyda’r gair.  I’r tair carfan olaf hyn, y Saesneg oedd yr ateb a gynigiwyd amlaf ganddynt, sy’n awgrymu bod amrant yn cael ei disodli gan eyelid.  Cofnodwyd sawl ateb arall am y rhan hon o’r llygad, a cheir disgrifiadau fel croen dros y llygaid, wrth ben y llygaid, caead y llygaid, a drost yr ael, yn ogystal â’r cyfanderm llygad yn eu mysg.

Am (KNUCKLE), cynigiodd 75% o PH migwrn, ond atebodd llai na hanner y carfanau eraill gyda’r ffurf draddodiadol hon.  Yr oedd yr uwch-dermau yn y ddwy iaith, sef cymal a joint, yn eithaf amlwg, ond cynigiwyd y Saesneg amlaf, sy’n awgrymu bod knuckle yn ennill tir dros migwrn.  Yr amrywion eraill a gofnodwyd am y rhan hon o’r corff oedd yr enw lluosog go brin y cyfeiriwyd ato yn 6.2.2 uchod, sef cygnau, a chynigiodd tri pherson y cyfanderm bys.

Gwelsom fod gan (SIEVE) ddau amrywyn Cymraeg, sef rhidyll a gogor (Ffigur 8.3).  O’r ddau, y mae gogor yn amlycach, yn enwedig ymysg y carfanau hŷn.  Cofnodwyd amrywyn Cymraeg arall, hidlwr, a gynigiwyd gan nifer o’r siaradwyr.  Yn ôl GPC (1865), y mae hidlwr yn golygu ‘strainer’ a ‘filter’, ac yn ôl Griffiths a Jones (1995: 262, 529, 1382), gall y gair hwn ddynodi ‘colander’, ‘filter’, a ‘strainer’.  Gan fod y gwrthrychau hyn i gyd yn cyflawni gweithredoedd tebyg, y mae’n bosibl bod ystyr hidlwr yn cael ei estyn i olygu (SIEVE) hefyd yn iaith rhai o’r siaradwyr.  Yn ogystal â sieve, cynigiwyd dwy ffurf arall o’r Saesneg, sef strainer a colander.  Gyda chynifer o amrywion amlwg yn y ddwy iaith, y mae’n bosibl bod y siaradwyr yn ansicr o ffurf ‘briodol’ am y gwrthrych. 

O ran (SHIN), ni chynigiodd yr un aelod o CI a TH crimog, ac nid atebodd ond un yr un o PO a TI gyda’r term traddodiadol.  Y mae hyn yn awgrymu bod crimog ar fin diflannu o iaith y siaradwyr.  Y cyfanderm coes yw’r ateb mwyaf poblogaidd ymysg yr amrywion, ac y mae’r ffurf Saesneg yn eithaf amlwg hefyd.  Ceir amrywyn eithaf trawiadol a gynigiwyd gan bedwar siaradwr, sef crymog, ac fel yr awgrymwyd yn 6.3.6 uchod, gall yr ateb hwn fod yn enghraifft o ddysgu anghyflawn.  Y mae’r canrannau ar gyfer yr amrywion eraill a gofnodwyd yn eithaf uchel, a cheir yn eu mysg enghreifftiau eraill o ddysgu anghyflawn, sef cimog, cryman, a crymach; y cyd-randermau o’r goes clun a ffêr; a nifer o atebion disgrifiadol fel rhan isa’r goes, o tu isa’r pen-glin, a gwaelod y goes

 Am (CALF), gwelsom nad oedd croth coes yn ateb ond i 10% o’r sampl (Ffigur 8.3), ac fel y dengys Tabl 8.2, nid atebodd yr un aelod o bedair carfan – PO, CI, TH, a TI – gyda’r ffurf draddodiadol.  Y mae’n debygol bod y Saesneg yn cymryd lle’r term hwn yn iaith lafar nifer o’r siaradwyr, yn enwedig y Pontwyr Ifanc oherwydd cynigiodd pawb ond un calf.  Cynigiwyd yr ateb disgrifiadol cefn y goes yn amlach na’r ffurf draddodiadol, a gall hyn gyfeirio at gynnydd y ffurf hon ar gyfer (CALF).  O ran yr amrywion eraill a godwyd, ceir y ffurf dra anghyffredin a drafodwyd uchod yn 6.2.2, sef coes las, ond atebion disgrifiadol yw’r gweddill gydag enghreifftiau fel un o gyhyrau’r coesau, tu ôl i’r goes, a muscle tu cefn i’r goes.   Gwelir bod cymaint â 72% o TH wedi cynnig yr atebion eraill hyn, sy’n awgrymu nad oes ffurf benodol ganddynt am y rhan hon o’r goes.  Efallai y canlyniad pwysicaf a geir o ran (CALF) yw nad oedd ateb o gwbl gan bymtheg o’r siaradwyr, neu bron chwarter y sampl.  Y mae hyn yn arwydd eglur o ansicrwydd y siaradwyr o derm penodol am (CALF) ac yn dystiolaeth bellach bod croth coes ar fin diflannu o’u hiaith lafar.

O ystyried y rhan arall o’r llygad, sef (EYELASHES), nid atebodd ond un siaradwr, aelod o PH, gyda’r term traddodiadol, sy’n arwydd bod blew amrant ar fin diflannu yn gyfan gwbl.  Yr ateb disgrifiadol blew llygaid oedd yr ateb am y rhan hon o’r llygad i 29% o’r holl sampl, yn enwedig i PH (88%).  Er hynny, nid yw’n debyg mai blew llygaid yw’r ffurf sy’n ennill tir ar draul yr un draddodiadol yn gyffredinol oherwydd cynigiodd 50% o’r sampl y Saesneg ar gyfer y newidyn hwn.  Ond sylwer mai PH yw’r unig grŵp o siaradwyr a beidiodd â chynnig eyelashes, sy’n awgrymu bod blew llygaid wedi ymgartrefu yn eu hiaith.  Fel y gwelsom wrth ystyried y ddwy ran arall o’r llygad, (EYEBROW) ac (EYELID), cynigiwyd y Saesneg amlaf gan CI a TI.  Y mae’r canrannau uchel o’r siaradwyr iau hyn a gynigiodd eyelashes yn awgrymu bod y ffurf draddodiadol yn cael ei disodli gan yr enw Saesneg yn eu hiaith. 

 

8.2.4    Casgliadau – Yr Hen Ffurfiau  

Gwelsom fod y siaradwyr i gyd wedi cynnig y ffurfiau traddodiadol talcen, boch, a gewin, a chynigiodd pawb ond un garddwrn.  Cesglir, felly, fod y pedair ffurf draddodiadol hyn yn eithaf sefydlog yn iaith y siaradwyr.  Wrth drafod y ddau glwm o atebion yn Ffigur 8.1 uchod, sylwyd bod 83% o’r sampl wedi cynnig y ffurfiau Cymraeg yn y Clwm Tra Sefydlog.  Y mae’r deg ffurf yn y clwm hwn – sef cledr, clustog, drych, ffêr, gên, glud, llofft, penelin, pen-glin, a sawdl – yn eithaf uchel yn ymwybyddiaeth y siaradwyr.  Y mae’n ymddangos, felly, fod yr enwau am tua hanner y rhannau o’r corff a’r rhan fwyaf o’r pethau o gwmpas y tŷ yn dra sefydlog ac yn gwrthsefyll cael eu disodli gan ffurfiau Saesneg.  Awgrymwyd y gall defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg fod yn ffactor ddylanwadol o ystyried gwybodaeth y siaradwyr o’r hen ffurfiau Cymraeg yn y clwm cyntaf am mai’r sawl gyda’r sgorau uchaf o ran y ffactor hon oedd y siaradwyr a gynigiodd y termau Cymraeg amlaf. 

Gwelsom hefyd fod gwahaniaeth sylweddol rhwng y ddau glwm gydag agendor eang o 52% rhwng sgôr y sampl ar gyfer y Clwm Tra Sefydlog (83%) a’i sgôr am y Clwm Cyfnewidiol, sef 31%.  Wedi ystyried hynt yr eitemau geirfaol unigol, y mae’n ymddangos bod nifer o’r ffurfiau traddodiadol Cymraeg yn yr ail glwm yn prysur ddiflannu o wybodaeth ac iaith y siaradwyr.  Gwelsom fod nifer o’r geiriau traddodiadol yn cael eu disodli gan ffurfiau Saesneg, er enghraifft y rhannau o’r llygad; y mae gan rai o’r newidynnau fwy nac un ffurf Gymraeg yn iaith y siaradwyr, er enghraifft (BEDROOM) à ystafell wely, llofft a (MIRROR) à drych, gwydr, glàs; a cheir eraill heb ffurfiau pendant yn y naill iaith neu’r llall, fel (SHIN) a (CALF).  Y mae’r siaradwyr ieuaf yn llai tueddol o fod yn hyddysg yn y ffurfiau hyn na’r rhai hynaf, sy’n awgrymu bod y geiriau yn debygol o golli eu tir yn gyfan gwbl os nad ydynt yn cael eu trosglwyddo rhwng y cenedlaethau.   

 

8.3       Hynt y Ffurfiau Cymraeg ar gyfer y Cysyniadau Cymharol Hen

O ran yr amrywion Cymraeg ar gyfer y cysyniadau cymharol hen, ystyrir ffurfiau sy’n dynodi endidau nad ydynt wedi bodoli fel pethau cyffredin ym mhentrefi a threfi Cymru ond yn gymharol ddiweddar.  Gwneir hyn er mwyn darganfod a ydyw’r termau hyn wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau yn iaith y siaradwyr.  Am nad oes astudiaeth flaenorol o dafodiaith Blaenau Ffestiniog, nid yw’n bosibl sôn am ‘erydu’ a ‘chynnydd’ yr eitemau yn iaith lafar y trigolion, ond gall y drafodaeth isod godi’r llen ar hynt y termau ar gyfer y cysyniadau cymharol hen ac arwain at astudiaeth bellach.  Gall amser ymhlygedig o ran y cenedlaethau hefyd fwrw goleuni ar y ffurfiau Cymraeg hyn (gweler 8.3.3 isod).

 

8.3.1    Ffurfiau Cymraeg Cymharol Hen y Sampl

Er mwyn dod o hyd i grwpiau o ffurfiau tebyg o ran pa mor aml y cynigiodd y siaradwyr yr amrywion hyn, gwnaethpwyd dadansoddiad clymau ar ganrannau’r amrywion fesul carfan ac unwaith eto dull Ward oedd yr algorithm clymau mwyaf llwyddiannus i ddatgelu grwpiau pendant.  Ceir yn Ffigur 8.5 y dendrogram a’r amrywion ym mhob clwm.  Y mae tri o glymau, sy’n cynnwys rhwng pump a 13 o amrywion.  Nid oes llawer o bellter rhwng y geiriau yn y clwm cyntaf ond ceir ychydig mwy o bellter rhwng y ffurfiau yn y ddau glwm arall. 

O’r newidynnau ar gyfer y cysyniadau cymharol hen, dim ond ar gyfer un, (LIBRARY), y cynigiodd y siaradwyr i gyd y ffurf Gymraeg.   Wrth gwrs,  y mae gwybodaeth o’r ffurf Gymraeg llyfrgell yn peri inni ofyn paham yr oedd y term hwn mor amlwg, yn enwedig wrth ystyried y gellid disgwyl i’r gair fod yn fwy hysbys i siaradwyr y Pethau na’r Dafarn.  Yn ystod y gwaith maes, yr oedd llawer o sôn am yr hen lyfrgell ym Mlaenau Ffestiniog yn cael ei symud i adeilad mwy, ac efallai y gall hyn esbonio gwybodaeth y siaradwyr o’r ffurf Gymraeg am ei fod yn un o bynciau llosg trigolion y dref yn ystod adeg y cyfweliadau.  Dyma enghraifft o’r anawsterau mewn astudiaethau cymdeithasol: nid yw’n bosibl rheoli neu gadw cyfrif o bob un o’r ffactorau sy’n gweithredu yng ngofod cymdeithasol cymunedau ac yn cyflyru ymddygiad pobl.  Er enghraifft, petawn wedi cyrraedd y dref ychydig fisoedd ynghynt, efallai na fyddai sôn am symud y llyfrgell o un adeilad i’r llall, ac efallai y byddai’r term Cymraeg yn llai cyfarwydd i rai o’r siaradwyr.   

 

 

 

  Cigydd            òø

  Ysbyty            òú

  Deintydd          òú

  Amlen             òú

  Meddyg            òôòòòòòòòòòòòòòø

  Gwesty            òú             ó

  Dyn tân           ò÷             ó

  Adeiladwr         òø             ùòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòø

  Meddygfa          òôòòòòòòòø     ó                               ó

  Tŷ bwyta          ò÷       ó     ó                               ó

  Cylchgrawn        òø       ó     ó                               ó

  Swyddfa(’r p)bost òôòòòòòø ùòòòòò÷                               ó

  Ystafell ymolchi  ò÷     ó ó                                     ó

  Gorsaf            òø     ùò÷                                     ó

  Clorian           òôòø   ó                                       ó

  Milwr             ò÷ ó   ó                                       ó

  Fferyllydd        òø ùòòò÷                                       ó

  Milfeddyg         òú ó                                           ó

  Llenni            òôò÷                                           ó

  Heddwas           ò÷                                             ó

  Heddgeidwad       òø                                             ó

  Llythyrdy         òôòø                                           ó

  Gweinydd          òú ó                                           ó

  Adeiladydd        ò÷ ùòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòò÷

  Bwyty             òòò÷

      

 

 

Ffigur 8.5:  Dendrogram yn Carfanu’r Ffurfiau Cymraeg ar gyfer y Cysyniadau Cymharol Hen

 

            Fel yr esboniwyd yn 5.4 uchod, bu’n rhaid tynnu tri o’r newidynnau am bethau o gwmpas y dref o’r astudiaeth am fy mod wedi cael gwybodaeth anghywir am rai o’r adeiladau, a fu’n gartrefi i sawl peth amrywiol yn ystod eu hoes.  O ganlyniad, yr oedd y sbardunau yn annog atebion hollol wahanol yn ôl atgofion y siaradwyr o’r adeiladau.  Oherwydd hynny, ni cheir yr amrywion ar gyfer (COMPREHENSIVE SCHOOL), (TOWN HALL), na (MUSEUM) yn y dadansoddi hwn. 

Cynigiodd 93% o’r sampl yr atebion yn y clwm cyntaf, a chyda sgôr mor uchel, y mae’n ymddangos bod y ffurfiau hyn wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau dwfn yn iaith y siaradwyr.  Dyma, felly, y Clwm Sefydlog.  Ceir saith ffurf yn y clwm hwn; dengys Ffigur 8.6 ganrannau’r atebion Cymraeg hyn a’r ffurfiau Saesneg cyfatebol a gynigiwyd gan y sampl.

 

Text Box:                %  Saesneg                             %  Cymraeg

 

Ffigur 8.6: Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg ar gyfer y Cysyniadau Cymharol Hen – Y Clwm Sefydlog

 

Fel y gwelir, cynigiodd nifer fawr o’r siaradwyr y ffurfiau Cymraeg hyn, ac nid oes ond 9% o wahaniaeth rhwng y canrannau ar eu cyfer.  Atebodd pawb ond un gydag ysbyty, a phawb ond saith gyda dyn tân.  Y mae ffurfiau Cymraeg y clwm hwn, felly, yn gyffredin iawn ym Mlaenau Ffestiniog ac wedi llwyddo i ymsefydlu yn iaith y siaradwyr.

O ystyried y ffurfiau Saesneg cyfatebol a gynigiwyd ar gyfer y newidynnau, ceir darlun gwahanol.  Ar wahân i fireman, a roddwyd gan 13% o’r siaradwyr, atebodd dros chwarter y sampl gyda’r ffurfiau Saesneg am y gweddill o’r newidynnau, gyda thros hanner yn cynnig doctor a chynifer â 86% butcher.  Nid yw’r canlyniadau hyn yn peri syndod.  Fel y gwelsom yn 7.2, y mae pob un o’r ffurfiau Saesneg hyn wedi’u cofnodi’n fenthyciadau sefydlog gan GPC, ac y mae’r canrannau uchel o’r siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau hyn yn dangos pa mor gyffredin yw’r benthyciadau hyn.  Y mae’n bosibl, felly, fod y ffurfiau o’r ddwy iaith yn eithaf amlwg yn iaith y siaradwyr.

Dim ond 69% a gynigiodd atebion yr ail glwm, ond er bod yma ostyngiad o 24% o gymharu â’r Clwm Sefydlog, y mae bod dros ddau draean o’r sampl wedi cynnig atebion Clwm 2 yn awgrymu bod y ffurfiau hyn yn dechrau ymwreiddio yn iaith y siaradwyr.  Cyfeirir at y grŵp o amrywion hyn fel y Clwm Gweddol Sefydlog.  Dengys Ffigur 8.7 ganrannau’r sampl ar gyfer y ffurfiau Cymraeg a Saesneg a gofnodwyd mewn ymateb i’r newidynnau yn y clwm hwn.  Ceir amrediad eithaf eang rhwng canrannau’r sampl o ran ffurfiau Cymraeg y Clwm Gweddol Sefydlog, ac y mae 34% o wahaniaeth rhwng tŷ bwyta, sef y ffurf a gynigiwyd gan y nifer leiaf yn y clwm (52%), ac ystafell ymolchi, y ffurf amlaf (86%).  Gan fod yr amrediad mor eang, y mae’n ymddangos bod rhai o’r ffurfiau Cymraeg wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau yn ddyfnach nag eraill.

 

 

Ffigur 8.7: Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg ar gyfer y Cysyniadau Cymharol Hen – Y Clwm Gweddol Sefydlog

 

            Cynigiwyd tri amrywyn, sef ystafell ymolchi (86%), llenni (81%), a gorsaf (81%) gan dros 80% o’r sampl.  Y mae hyn yn awgrymu bod y tair ffurf hyn yn dra chartrefol yn iaith lafar Blaenau Ffestiniog.  Ond sylwer pa mor uchel yw’r canrannau o’r siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau Saesneg cyfatebol, sef rhwng 71% (station) a 81% (curtains).  Y mae’n ddigon posibl, felly, fod y geiriau o’r ddwy iaith ar lafar yn gyffredinol yn y dref. 

            Cynigiwyd tri amrywyn arall gan dros ddau draean o’r sampl – swyddfa’r (b)post (77%), cylchgrawn (71%), ac adeiladwr (68%).  Er nad ydynt mor amlwg â’r tair ffurf a drafodwyd eisoes yn y clwm hwn, y mae’n ymddangos bod y geiriau hyn wedi llwyddo i ymsefydlu yn iaith y rhan fwyaf o’r siaradwyr.

            Cynigiwyd milfeddyg, clorian, a fferyllydd gan 65% o’r sampl, milwr gan 63%, meddygfa 61%, heddwas 58%, a tŷ bwyta 52%.  Cafwyd y tair ffurf gyntaf gan bron ddau draean o’r sampl, sy’n awgrymu eu bod yn dra chyffredin yn iaith y siaradwyr, ond y mae canrannau is y pedair ffurf arall yn arwydd tebygol nad ydynt hwy wedi llwyddo i gael sicred lle yng ngeirfa’r siaradwyr.  Fel yr awgrymwyd yn 8.2 uchod, heb astudiaeth flaenorol o iaith y dref i’w chymharu, nid oes modd pendant o asesu a ydyw’r ffurfiau hyn yn ennill neu’n colli tir.  Er hynny, trafodwn yn 8.3.3 isod y ffurfiau unigol a’r siaradwyr a’u cynigiodd mewn ymgais i weld a oes carfanau pendant yn arwain y defnydd o’r geiriau am y cysyniadau cymharol hen. 

O ystyried y ffurfiau Saesneg a gynigiwyd ar gyfer cysyniadau’r clwm hwn gan drigolion Blaenau Ffestiniog, gwelir bod cryn amrediad i’r canrannau, sef 29% - 94%, ond eu bod yn tueddu i fod yn uchel.  Cynigiwyd yr amrywion hyn i gyd ond pedwar – builder (48%), restaurant (40%), scales (39%), a post office (29%) –  gan dros hanner o’r siaradwyr, ac atebodd cynifer â 94% gyda policeman.  Ar gyfer pedwar o’r newidynnau, sef (POLICEMAN), (VETERINARY SURGEON), (SOLDIER), a (SURGERY), cynigiwyd ffurfiau Saesneg yn amlach na rhai Cymraeg; cyfartal (81%) yw’r canrannau o’r siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau o’r ddwy iaith ar gyfer (CURTAINS); ac eithaf cyfartal yw’r nifer ar gyfer (MAGAZINE), sef cylchgrawn (71%) a magazine (68%).  Gall y dystiolaeth hon awgrymu bod y geiriau Saesneg hyn yn dra chyffredin ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog.

Nid oes ond tri ateb Saesneg, sef bathroom, post office, a restaurant, nad ydynt wedi’u cofnodi’n fenthyciadau yn GPC.  O gymharu â’r canrannau uchel o’r siaradwyr a roddodd y ffurfiau Saesneg eraill yn Ffigur 8.7, digon isel yw’r ganran a gynigiodd post office (29%) a restaurant (40%).  Ond atebodd 74% o’r sampl gyda bathroom.  Er nad yw’r ffurf hon yn GPC, y mae Geiriadur yr Academi yn cofnodi’r ffurf ‘bathrwm’ yn fenthyciad sydd ar lafar (Griffiths a Jones 1995: 109).  Dyma’r ffurf a gofnodwyd amlaf gan N. G. Jones (1986: 238) gyda chymaint â 93% o’i siaradwyr ym Mhontyberem yn cynnig y Saesneg a’r 7% arall ystafell ymolchi.  O ystyried canlyniadau N. G. Jones a’r hyn a geir yn Ffigur 8.7, y mae’n ymddangos bod bathroom ar lafar yn gyffredinol yn y Gogledd a’r De.  Gan fod cynifer o’r siaradwyr wedi cynnig y geiriau Saesneg am y newidynnau yn yr ail glwm, y mae’n bosibl bod y ffurfiau Cymraeg a Saesneg naill ai’n cydfodoli neu’n cystadlu â’i gilydd yn iaith siaradwyr Blaenau Ffestiniog.

Dim ond 25% a gynigiodd eiriau Clwm 3, sy’n awgrymu nad yw’r termau hyn wedi ymwreiddio yn iaith y rhan fwyaf o’r siaradwyr.  Y mae’r grŵp o amrywion hyn, felly, yn perthyn i’r Clwm Lleiaf Amlwg.  Ceir yn Ffigur 8.8 y canrannau o’r sampl a gynigiodd yr amrywion Cymraeg yn y clwm hwn  a’r  canrannau  o’r  ffurfiau

Text Box:                %  Saesneg                             %  Cymraeg
 

Ffigur 8.8: Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg ar gyfer y Cysyniadau Cymharol Hen – Y Clwm Lleiaf Amlwg

 

Saesneg cyfatebol.  O gymharu’r ffurfiau Cymraeg, atebodd 44% o’r sampl gyda bwyty, ond ni chynigiwyd ffurfiau Cymraeg eraill y clwm hwn ond gan 16% i 27% o’r siaradwyr.  Nid yw’r ffurfiau Cymraeg hyn, felly, wedi llwyddo i ymwreiddio yn iaith y rhan fwyaf o’r siaradwyr.

Ar wahân i (WAITER), y mae gan bob un o ffurfiau Cymraeg y clwm hwn amrywion eraill yn y Clwm Gweddol Sefydlog.  Nid atebodd ond 16% o’r siaradwyr gyda’r ffurf safonol gweinydd, ond dengys Ffigur 8.8 fod 92% o’r sampl wedi cynnig waiter.  Y mae’n fwy na thebyg, felly, mai’r ffurf Saesneg yw’r un sydd ar lafar gan amlaf ym Mlaenau Ffestiniog.

O ystyried ffurfiau eraill y Clwm Lleiaf Amlwg, gwelsom fod ganddynt amrywion Cymraeg yn y clwm blaenorol, ac felly, ceir dimensiwn pellach i’r amrywio.  O ran (RESTAURANT), ni cheir ond 12% o wahaniaeth rhwng y tri amrywyn; cynigiodd 40% o’r sampl restaurant, 44% bwyty (Ffigur 8.8), a 52% tŷ bwyta (Ffigur 8.7).  Gall hyn awgrymu bod y Saesneg yn cystadlu â’r ddwy ffurf Gymraeg (gweler 8.3.3 isod am drafodaeth o’r siaradwyr a gynigiodd yr amrywion hyn a’r amrywion eraill a gofnodwyd am y cysyniadau cymharol hen). 

Gwelsom wrth drafod Ffigur 8.7 uchod fod 58% o’r siaradwyr wedi cynnig heddwas ar gyfer (POLICEMAN), a dengys Ffigur 8.8 fod 19% ohonynt wedi ateb gyda’r ffurf lai cyffredin heddgeidwad.  Cynigiodd dau siaradwr y ddau amrywyn.  O’r ddwy ffurf Gymraeg hyn, y mae’n ymddangos mai heddwas yw’r un a geir ar lafar yn amlaf, ond gan fod 94% o’r sampl wedi cynnig policeman, y mae’n fwy na thebyg mai’r ffurf Saesneg wedi’i haddasu’n ffonolegol, [plismOn], yw ffurf arferol y siaradwyr.

O ystyried (BUILDER), cynigiodd 68% o’r sampl adeiladwr (Ffigur 8.7), ac atebodd 21% gydag adeiladydd.  Ni chynigiwyd y ddwy ffurf ond gan un siaradwr.  Y mae’r term adeiladydd yn y Gymraeg ers 1588 (GPC: 16), ond y mae’n bosibl dadlau bod y ffurf hon, mewn cyferbyniad ag adeiladwr, amrywyn a gynigiwyd yn amlach yn y clwm blaenorol, yn ganlyniad i’r mudiad eithaf diweddar o ddefnyddio’n gyhoeddus iaith sy’n wleidyddol gywir.  Fel yr awgryma P. W. Thomas (1996: 148):

Y mae cryn duedd bellach i ddefnyddio cynorthwyydd yn lle cynorthwywr (neu cynorthwywraig) oherwydd, mae’n debyg, ymdeimlad bod –ydd yn fwy niwtral ei gyfeiriadaeth nag –wr a –wraig.  (ef biau’r italeiddio)

 

Gan ystyried yr ateb adeiladydd yn amrywyn diweddar yng ngoleuni cywirdeb gwleidyddol, nodir yma mai’r tair carfan o Bobl y Pethau a’r Pontwyr Hŷn oedd yr unig siaradwyr i gynnig y ffurf hon.  Gwelsom yn 7.1.1 fod y Pontwyr Hŷn yn debyg i Bobl y Pethau yn ddiwylliannol, ac y mae’n bosibl, felly, mai arweinwyr poblogeiddio’r term gwleidyddol gywir yw’r siaradwyr diwylliannol hyn.  Er hynny, gan fod 68% o’r sampl wedi cynnig adeiladwr, y mae’n ymddangos mai hon yw’r ffurf sy’n bwrw gwreiddiau yn iaith y nifer fwyaf o’r siaradwyr.

            O ran (POST OFFICE), sef newidyn arall a ysgogodd amrywion yn y Clwm Lleiaf Amlwg a’r Clwm Gweddol Sefydlog, ceir darlun gwahanol.  Yr oedd swyddfa(’r p)bost yn ateb i 77% o’r sampl (Ffigur 8.7) a llythyrdy i 27% (Ffigur 8.8), ond cynigiodd wyth siaradwr, neu 13% o’r sampl, y ddwy ffurf.  Y mae bron hanner o’r siaradwyr a roddodd llythyrdy yn ateb, felly, wedi cynnig y ffurf fwy cyffredin hefyd.  Gwelsom uchod yn 6.3.5 mai siaradwyr hynaf y sampl a gynigiodd llythyrdy gan amlaf, sy’n awgrymu bod y ffurf hon yn perthyn i iaith yr haen hynaf.  Gyda thros dri chwarter o’r sampl yn cynnig swyddfa(’r p)bost, y mae’n ymddangos bod yr ymadrodd hwn wedi bwrw gwreiddiau’n ddyfnach na llythyrdy yn iaith y siaradwyr.

 

8.3.2    Y Siaradwyr a Gynigiodd y Ffurfiau Cymraeg Cymharol Hen

Er mwyn asesu a ydyw’r ffurfiau Cymraeg am y cysyniadau cymharol hen wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau ac yn iaith pa garfanau y maent wedi ymsefydlu, cyfrifwyd cymedrau’r amrywion yn y tri chlwm fesul carfan.  Dengys Ffigur 8.9 gymedrau’r carfanau ar gyfer y tri chlwm. 

 

Ffigur 8.9:  Sgorau Cymedrol y Carfanau ar gyfer y Cysyniadau Cymharol Hen

 

Gwelsom wrth drafod y ffurfiau yn Ffigur 8.6 fod y siaradwyr bron i gyd wedi cynnig y saith amrywyn sydd yn y Clwm Sefydlog, sef:

 

            amlen

            cigydd

            deintydd

            dyn tân

            gwesty

            meddyg

            ysbyty

 

Fel y dengys Ffigur 8.9, y mae’r grŵp hwn o atebion yn dynn iawn ar gyfer pob un o’r carfanau, ac ni cheir ond 12% o wahaniaeth rhwng eu sgorau.  Gan fod y siaradwyr i gyd wedi sgorio mor debyg i’w gilydd, nid yw’n debygol bod ffactorau allieithyddol fel addysg, oedran, a defnyddio’r cyfryngau torfol yn gyflyrol bwysig am nad oes llawer o amrywio o ran canrannau’r siaradwyr a gynigiodd ffurfiau’r clwm hwn.  Er hynny, y mae un ffactor yn ei hamlygu ei hunan, ac efallai y bydd hynny’n bwysig wrth ystyried y ddau glwm arall o atebion ar gyfer y cysyniadau cymharol hen.  Y sgorwyr uchaf yw siaradwyr y Pethau, y rhai isaf yw siaradwyr y Dafarn, ac y mae’r Pontwyr yn y canol.  Y mae’n bosibl, felly, fod gogwydd diwylliannol yn dylanwadu ar wybodaeth y siaradwyr o’r ffurfiau yn y clwm hwn.  Gan fod y carfanau i gyd wedi sgorio mor uchel, y mae’n ymddangos bod y geiriau yn y clwm hwn wedi llwyddo i wreiddio yn iaith lafar Blaenau Ffestiniog.

  Y Clwm Gweddol Sefydlog yw’r un mwyaf.  Y mae ynddo 13 o amrywion:

adeiladwr                   meddygfa

clorian                                    milfeddyg

cylchgrawn                milwr

fferyllydd                   swyddfa(‘r p)bost

gorsaf                         tŷ bwyta

heddwas                     ystafell ymolchi

llenni

 

Fel y dengys Ffigur 8.9, ceir mwy o amrywio ymysg y carfanau yn y clwm hwn nag yn yr un blaenorol, a cheir 33% o wahaniaeth rhwng y sgorwyr isaf, TH (48%), a’r sgorwyr uchaf, PI (81%).  Am fod y canrannau o’r siaradwyr a gynigiodd ffurfiau Cymraeg yr ail glwm yn is, a chan fod mwy o wahaniaeth rhwng sgorau’r carfanau yn y clwm hwn na rhwng y Clwm Sefydlog, y mae ffurfiau’r Clwm Gweddol Sefydlog yn dangos llai o sicrwydd.

Yn debyg i’r hyn a welsom wrth ystyried y Clwm Tra Sefydlog o hen ffurfiau Cymraeg yn Ffigur 8.4 uchod, PI, PH, a CH yw’r sgorwyr uchaf yn yr ail glwm o ffurfiau cymharol hen; TH yw’r garfan a gynigiodd y nifer leiaf o’r ffurfiau Cymraeg yn y clwm hwn; ac y mae’r carfanau eraill wedi sgorio’n debyg i’w gilydd.  Ni cheir ond 2% o wahaniaeth rhwng sgorau’r carfanau yn y grŵp uchaf, sef PI (81%), PH (80%), a CH (79%).  Fel y dengys Ffigur 7.4, dyma’r grŵp sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn ehangaf, a chan fod y tair carfan hyn wedi sgorio mor debyg i’w gilydd, y mae’n bosibl bod y ffactor hon yn chwarae rôl yma gyda’r sawl sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg yn eang yn arwain normaleiddio ffurfiau’r clwm hwn. 

Gwelsom y gall defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg fod yn ffactor gyflyrol o ran y ffurfiau cymharol hen yn yr ail glwm, ond sylwer bod dros ddau draean o’r ffurfiau hyn yn atebion i bedair carfan, sef PO, PH, PI, a CH.  Atebodd llai na 67% o CI, TI, a TH gyda’r ffurfiau hyn.  Gwelsom yn 7.1.1 fod CH yn debyg yn ddiwylliannol i Bobl y Pethau a CI yn debyg i Bobl y Dafarn.  Y mae’n bosibl, felly, fod gogwydd diwylliannol yn cydblethu â defnyddio’r cyfryngau torfol i gyflyru gwybodaeth o’r ffurfiau Cymraeg am y cysyniadau cymharol hen yn y clwm hwn.

Ni cheir ond 5 ffurf Gymraeg yn y Clwm Lleiaf Amlwg:

            adeiladydd

            bwyty

            gweinydd

heddgeidwad

llythyrdy

 

Fel y dengys Ffigur 8.9, y mae’r clwm hwn yn debyg i’r ail un o ran ei homogenusedd; ceir 32% o wahaniaeth rhwng y sgorwyr uchaf a’r rhai isaf.  Sgoriodd pob un o’r carfanau o dan 50%, sy’n arwydd tebygol bod ffurfiau’r clwm hwn yn dra anghyffredin ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog am nad ydynt wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau yn iaith y rhan fwyaf o’r siaradwyr.  Er hynny, gwelsom wrth drafod Ffigur 8.8 uchod fod gan bob amrywyn yn y clwm hwn ar wahân i gweinydd ddybledau yn y clwm blaenorol.  Gall hyn awgrymu bod dwy ffurf ar gael yn y dref am y cysyniadau hyn ac eithrio (WAITER).

Tebyg iawn yw sgorau siaradwyr hynaf y Pethau, PH (45%) a PO (43%), sef y siaradwyr a gynigiodd geiriau Cymraeg y clwm hwn yn amlaf.  Atebodd 31% o CH a 27% o PI gyda’r ffurfiau yn y clwm.  Dyma’r unig glwm o ffurfiau cymharol hen lle nad yw siaradwyr hŷn y Dafarn, TH (20%), yn sgorio’n llai na’r carfanau eraill.  Yn debyg i’r clwm blaenorol, y mae sgorau TI (14%) a CI (13%) bron yn gyfartal, ond hwy yw sgorwyr isaf y Clwm Lleiaf Amlwg.  Nid yw’n ymddangos, felly, fod ffurfiau’r clwm hwn yn rhan arferol o iaith lafar siaradwyr iau y Dafarn a’r Pontwyr iau.

O ystyried oedran y siaradwyr yn eu grwpiau diwylliannol, sylwer bod siaradwyr hŷn y Pethau wedi cynnig mwy o’r atebion yn y Clwm Lleiaf Amlwg na’r siaradwyr iau, a cheir yr un patrwm o ran Pobl y Dafarn a’r Pontwyr.  Y mae’n ymddangos, felly, fod Pobl y Pethau yn fwy ceidwadol o ran y ffurfiau hyn na’r ddau grŵp arall o siaradwyr, ond y mae oedran yn gweithredu y tu mewn i’r grwpiau diwylliannol.  Gellid ystyried bod ffurfiau’r clwm hwn yn perthyn i iaith y siaradwyr hŷn a Phobl y Pethau.

 

8.3.3    Yr Amrywion Unigol a Gofnodwyd am y Cysyniadau Cymharol Hen

Gwelsom yn 8.3.2 fod nifer o’r ffurfiau Cymraeg yn dra chyfnewidiol.  Yn debyg i’r clwm olaf o amrywion am yr ‘hen gysyniadau’ (Ffigur 8.4 uchod), CI a TI oedd y siaradwyr a atebodd gyda’r nifer leiaf o’r ffurfiau Cymraeg am y cysyniadau cymharol hen yn y Clwm Lleiaf Amlwg (Ffigur 8.9).  Edrychir, felly, ar yr amrywion a gynigiwyd gan y gwahanol garfanau er mwyn darganfod beth yw geiriau arferol y ddwy garfan hyn a’r carfanau eraill am y cysyniadau, datgelu’r ffurfiau sydd wedi bwrw gwreiddiau yn iaith y sampl, a gweld pa ffurfiau eraill sydd ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog.  Ni ddangosir yr atebion a gynigiwyd gan lai na 5% o’r sampl, ond nodir y canrannau o’r siaradwyr a gynigiodd yr atebion lleiaf cyffredin hyn (gweler Atodiad IV am yr holl amrywion a gofnodwyd am y newidynnau).

            Dengys Tabl 8.3 ganrannau’r carfanau a atebodd gyda ffurfiau Cymraeg y Clwm Sefydlog a’r amrywion eraill a gofnodwyd am y newidynnau.

 

Tabl 8.3:  Amrywion a Gofnodwyd am y Newidynnau yn y Clwm Sefydlog

 

                                                                                                %

                                                                                PO           PH           PI            CH          CI           TH          TI

(HOSPITAL)           ysbyty                     100          100          100          100          100          86            100

                                                hospital                 33            13            0              0              17            86            38

 

(HOTEL)                 gwesty                    100          100          100          71            100          100          100

                                                hotel                       50            13            9              14            17            100          44

                                                pub                         0              0              0              0              0              14            31

                                                arall                        0              13            9              0              0              0              13

 

(BUTCHER)            cigydd                     100          100          100          100          100          86            81

                                                butcher                  100          100          64            71            100          86            88

                                                arall                        17            0              0              0              0              0              0

 

(DENTIST)              deintydd                 100          100          100          100          83            71            94

                                                dentist                    17            25            27            0              33            43            75

 

(ENVELOPE)          amlen                      83            100          91            100          100          71            94

                                                envelope                                0              50            27            0              33            86            75

 

(DOCTOR)              meddyg                  100          100          100          86            67            86            88

                                                doctor                    67            88            55            29            50            29            63

                                                quack                     0              0              9              14            50            43            25

 

(FIREMAN)             dyn tân                   83            63            100          86            100          71            100

                                                sam tân                  17            38            0              86            100          71            100

                                                brigad dân             50            13            0              14            0              0              0

                                                swyddog tân          0              0              0              0              33            14            13

                                                fireman                  17            0              0              14            17            14            25

                                                arall                        17            0              27            14            33            57            13

 

 

            Cynigiodd pawb ond un aelod o TH ysbyty am (HOSPITAL).  Y Saesneg oedd ateb yr aelod hwn am y cysyniad, ond cyfaddefodd llawer o’r siaradwyr mai hospital yw eu gair arferol ar lafar er eu bod yn ymwybodol o’r ffurf Gymraeg.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y ddwy ffurf ar lafar yn y dref.

            Atebodd pawb ond dau aelod o CH gyda gwesty am (HOTEL).  Cynigiodd un aelod o’r garfan hon y Saesneg, ond nid oedd ateb o gwbl gan yr aelod arall.  Fel yr awgrymwyd yn 8.2.3 uchod, gall peidio ag ateb o gwbl hefyd fod yn strategaeth gyfathrebol a ddefnyddir yn hytrach na chynnig ffurf sy’n amlwg yn anghywir i’r siaradwr.  Sylwer bod Pobl y Dafarn oedd yr unig siaradwyr i gynnig pub, gair o’r un grŵp semantaidd.

            Y mae canrannau’r carfanau a gynigiodd cigydd am (BUTCHER) yn uchel iawn; y mae’r canrannau ar gyfer y Saesneg yn eithaf uchel hefyd.  Gwelsom yn 7.2 fod bwtsier yn hen fenthyciad, a chyfaddefodd y nifer fwyaf o’r siaradwyr eu bod yn defnyddio’r ddwy ffurf yn ymgyfnewidiol. 

            Yr oedd deintydd yn ateb i bawb ond pedwar siaradwr ar gyfer (DENTIST).  Er hynny, cynigiwyd y Saesneg gan nifer fawr o’r siaradwyr, yn bennaf aelodau o TI (75%), sy’n awgrymu bod dentist hefyd yn dra chyffredin yn iaith lafar Blaenau Ffestiniog.

            O ran (ENVELOPE), atebodd bron pawb gydag amlen, cyfaddefodd llawer o’r siaradwyr ar wahân i aelodau o PO a CH eu bod yn defnyddio’r Saesneg hefyd, ac nid oedd ateb o gwbl gan un aelod o PO.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y ddwy ffurf ar lafar.

            Cynigiodd pob aelod o garfanau’r Pethau meddyg am (DOCTOR), ac nid atebodd traean o CI gyda’r ffurf Gymraeg.  Y mae’r Saesneg yn amlwg iawn yn ogystal â’r ffurf slang quack.  Er bod quack wedi’i gynnig mewn ffordd gellweirus gan y siaradwyr, y mae’n bosibl bod y tair ffurf yn gyffredin yn y dref.

            Y mae gan (FIREMAN) y nifer fwyaf o amrywion amlwg yn y Clwm Sefydlog.  Cynigiodd y siaradwyr ieuaf i gyd dyn tân am y cysyniad, sy’n awgrymu mai hon yw’r ffurf sy’n ennill tir.  Y mae’r ffurf sy’n deillio o enw’r cymeriad cartŵn, sam tân, yn gyffredin iawn, a chyfaddefodd llawer o’r siaradwyr mai’r ffurf hon yw eu gair arferol ar lafar.  Y mae canrannau’r ffurfiau eraill a gofnodwyd yn eithaf uchel ac yn cynnwys atebion fel gweithiwr injan tân, lladdwr tân, a tân ddiffoddwr.  Cynigiwyd gan un aelod o PH ffurf anghyffredin sydd yn y Gymraeg ers 1852, sef diffoddwr tân (GPC 991).  Er bod dyn tân yn amlwg iawn, y mae’n debygol bod nifer o ffurfiau eraill ar lafar hefyd.

            Fel y gwelsom wrth drafod Ffigur 8.6 uchod, y mae pob un o’r ffurfiau Saesneg am newidynnau y Clwm Sefydlog wedi’u cofnodi’n fenthyciadau sefydlog gan GPC, ac felly nid yw’r canrannau uchel o’r sampl a gynigiodd y geiriau Saesneg yn peri syndod.  (FIREMAN) yw’r unig newidyn gydag amrywion eraill sy’n amlycach na’r Saesneg.

            Ceir yn Nhabl 8.4 ganrannau’r carfanau a atebodd gyda ffurfiau Cymraeg y Clwm Gweddol Sefydlog a’r amrywion eraill a gofnodwyd am y cysyniadau.

            O ran (BATHROOM), y ffurf ffurfiol, ystafell ymolchi, oedd yr ateb i bob aelod o PI, CH, a CI.  Nid oes cysylltiad amlwg rhwng y tair carfan hyn o ran ffactorau allieithyddol, ond sylwer bod patrwm disgynnol rhwng y siaradwyr iau a’r rhai hŷn yn eu grwpiau diwylliannol ar wahân i’r Pontwyr.  Y mae’n bosibl, felly, fod y siaradwyr iau yn arwain poblogeiddio’r term hwn.  Dim ond i siaradwyr PO (100%), TH (100%), a TI (94%) yr oedd y Saesneg yn ateb mwy cyffredin, ond datganodd y rhan fwyaf o’r siaradwyr eu bod yn defnyddio ystafell ymolchi a bathroom ar lafar.  Er syndod, nid atebodd ond tri siaradwr gyda tŷ bach, ffurf a geir o dan y pennawd ‘arall’.  Efallai bod y ffurf hon yn dal i gyfeirio at adeilad sydd ar wahân i’r tŷ yn iaith Blaenau Ffestiniog.  Ymysg y ffurfiau eraill ceir atebion fel baddondy, lle chwech, a cachdy.

 

 

Tabl 8.4:  Amrywion a Gofnodwyd am y Newidynnau yn y Clwm Gweddol Sefydlog

 

                                                                                    %

                                                                PO           PH           PI            CH          CI           TH          TI

(BATHROOM)        ystafell ymolchi      50            88            100          100          100          57            88

                                bathroom              100          75            55            14            67            100          94

                                arall                        33            13            36            0              33            19            14

 

(CURTAINS)           llenni                       100          100          82            100          50            43            88

                                curtains                 83            100          82            14            67            86            100

                                                arall                        0              0              9              14            0              0              0

               

(STATON)               gorsaf                     83            100          100          100          67            86            50

                                                station                   83            100          36            0              67            100          94

                                                arall                        0              0              0              0              0              0              6

 

(MAGAZINE)         cylchgrawn            33            88            82            86            83            14            88

                                llyfryn                     33            0              0              14            17            0              6

                                llyfr                         17            0              0              0              0              43            0

                                                magazine              100          38            46            43            67            71            94

                                arall                        17            0              0              0              0              0              0

 

(VETERINARY       milfeddyg               83            100          91            86            17            14            50

SURGEON)             ffariar                     50            50            36            0              83            14            18

                                vet                           83            63            73            29            67            86            94

                                arall                        0              0              0              0              0              0              13

 

(SCALES)                                clorian                    100          100          64            86            50            86            19

                                scales                     17            0              36            14            67            29            75

                                arall                        0              13            18            14            50            25            43

 

(CHEMIST)             fferyllydd               100          75            82            57            33            29            69

                                pharmacist           17            0              27            29            50            29            19

                                chemist                  50            50            36            29            67            86            75

                                arall                        17            13            9              43            17            0              6

 

(SOLDIER)              milwr                      83            100          91            86            67            43            19

                                soldier                   83            50            55            29            50            100          75

                                arall                        0              0              9              14            17            14            38

 

(SURGERY)            meddygfa               50            63            55            86            67            57            63

                                canolfan iechyd     83            63            73            14            67            29            44

                                                health centre        0              0              0              0              0              57            31

                                                clinic                      50            50            9              14            0              29            25

                                surgery                  83            63            64            0              67            71            75

                                                arall                        0              0              0              0              0              14            0

 

 

 

            Y mae canrannau’r carfanau a gynigiodd llenni am (CURTAINS) yn uchel iawn ar wahân i CI (50%) a TH (43%).  Iddynt hwy ac i TI, yr oedd y Saesneg yn ateb amlycach, ond cynigiwyd curtains gan y nifer fwyaf o’r siaradwyr i gyd.  Y mae’r ffurf Saesneg yn y Gymraeg ers 1567 (GPC 809), ac nid yw’n peri syndod, felly, fod yr hen fenthyciad hwn yn cydfodoli â’r ffurf Gymraeg ar lafar yn y dref.  

Cynigiodd pob aelod o PH, PI, a CH gorsaf am (STATION).  Wrth drafod Ffigur 8.9 uchod, awgrymwyd y gall defnyddio’r cyfryngau torfol fod yn ddylanwadol o ran ffurfiau Cymraeg y Clwm Gweddol Sefydlog, a’r tair carfan hyn yw’r sgorwyr uchaf o ran y ffactor hon (Ffigur 7.4).  CH yw’r unig garfan na chynigiodd y Saesneg, ond cyfaddefodd y rhan fwyaf o’r sampl eu bod yn defnyddio gorsaf a station ar lafar.  Siaradwyr y Dafarn yw’r unig garfanau i gynnig y Saesneg yn amlach na’r Gymraeg, sy’n awgrymu eu bod yn llusgo ar ôl y siaradwyr eraill o ran normaleiddio gorsaf.

            O ran (MAGAZINE), cynigiwyd cylchgrawn gan dros 80% o aelodau’r carfanau i gyd ar wahân i PO (33%) a TH (14%).  Nid yw’n glir paham nad oedd y ffurf Gymraeg gan siaradwyr y ddwy garfan hyn, ond iddynt hwy, y Saesneg oedd yr ateb amlycaf.  Y mae llyfryn a llyfr, geiriau Cymraeg o’r un grŵp semantaidd, hefyd yn eithaf amlwg, yn enwedig ymysg atebion PO a TH.  Y mae magazine yn dra chyffredin hefyd, sy’n awgrymu ei fod yn cydfodoli â cylchgrawn yn iaith y siaradwyr.

            Y mae’r canrannau o Bobl y Pethau a’r Pontwyr hŷn (PO: 83%, PH: 100%, PI: 91%, CH: 86%) a atebodd gyda milfeddyg am (VETERINARY SURGEON) yn uchel iawn o gymharu â’r tair carfan arall (CI: 17%, TH: 14%, TI: 50%).  Gan fod CH yn debyg i Bobl y Pethau o ran gogwydd diwylliannol, y mae’n bosibl bod y ffactor hon yn ddylanwadol yma.  Y ffurf Saesneg symleiddiedig, vet, a gynigiwyd amlaf gan Bobl y Dafarn (TH: 86%, TI: 94%), ac i’r Pontwyr iau, y ffurf amlycaf yw’r hen fenthyciad ffarier (CI: 83%).  Gan fod cynifer o’r siaradwyr wedi cynnig milfeddyg, ffarier, a vet, y mae’n bosibl bod y tair ffurf hyn ar lafar yn y dref gyda’r rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus yn arwain normaleiddio milfeddyg.

            Y mae’n bosibl bod oedran yn chwarae rôl o ran y ffurf Gymraeg ar gyfer (SCALES): cynigiwyd clorian gan bob aelod o ddwy garfan hynaf y Pethau a phawb ond un yr un o CH a TH.  Atebodd llai na thraean o’r siaradwyr iau gyda’r ffurf hon a chyn lleied â 19% o TI.  I’r siaradwyr iau, yn enwedig CI (67%) a TI (75%), y mae’r Saesneg yn ateb cyffredin iawn am y newidyn, sy’n argoeli’n ddrwg i ddyfodol clorian os na throsglwyddir y ffurf hon rhwng y cenedlaethau.  Y mae’r ffurfiau eraill a gofnodwyd yn cynnwys atebion fel y ffurf ddeheuol, tafol, a disgrifiadau fel rhywbeth i bwyso, peiriant pwyso, a machine pwyso.

            Cynigiodd Pobl y Pethau fferyllydd am (CHEMIST) yn amlach na’r siaradwyr eraill (PO: 100%, PH: 75%, PI: 82%), sy’n awgrymu bod gogwydd diwylliannol yn ddylanwadol o ran y ffurf Gymraeg hon.  O’r ddau amrywyn Saesneg amlwg, cynigiwyd chemist yn amlach na pharmacist.  Y mae’n bosibl, felly, fod tair ffurf ar lafar am y cysyniad, sef fferyllydd, pharmacist, a chemist.  O ran yr atebion eraill, cofnodwyd enghreifftiau fel cemegydd, ffisigwr, dyn siop chemist, a druggist.

            Gwelsom yn 7.2.2 uchod fod y ffurf Saesneg soldier, neu sowldiwr, yn fenthyciad tra sefydlog yn y Gymraeg, ac y mae’r canrannau uchel o’r siaradwyr a gynigiodd y gair hwn am (SOLDIER) yn adlewyrchu hynny.  Ond y mae’r canrannau ar gyfer milwr yn uchel iawn hefyd.  Cynigiwyd y Saesneg yn amlach na’r Gymraeg gan Bobl y Dafarn, a chyfartal yw’r canrannau o siaradwyr PO a atebodd gyda’r ddwy ffurf.  Y mae’n debygol, felly, fod milwr a soldier yn dra chyffredin ar lafar yn y dref.  Sylwer bod Pobl y Pethau a’r Pontwyr hŷn wedi ateb gyda milwr yn amlach na’r carfanau eraill (PO: 83%, PH: 100%, PI: 91%, CH: 86%), sy’n awgrymu bod gogwydd diwylliannol yn chwarae rôl o ran y ffurf Gymraeg.  Cofnodwyd hefyd nifer o atebion disgrifiadol fel dyn y fyddin, rhywun yn y fyddin, a boi army.

            Ceir nifer o amrywion amlwg ar gyfer (SURGERY).  CH (86%) a atebodd amlaf gyda’r ffurf Gymraeg safonol meddygfa, a chynigiwyd y ffurf hon gan lai na thraean o aelodau’r carfanau eraill.  Gall hyn awgrymu bod CH yn arwain poblogeiddio meddygfa.  Rhoddwyd ffurf Gymraeg arall gan nifer o’r siaradwyr, sef canolfan iechyd, sy’n arwydd tebygol fod dwy ffurf Gymraeg ar lafar am yr adeilad yn y dref.  Cynigiwyd health centre gan Bobl y Dafarn, a dwy ffurf Saesneg arall, sef clinic a surgery, gan nifer fawr o’r siaradwyr.  Y mae’n bosibl, felly, fod sawl ffurf o’r ddwy iaith ar lafar am y cysyniad.

            Dengys Tabl 8.5 ganrannau’r carfanau a atebodd gyda ffurfiau Cymraeg y Clwm Lleiaf Amlwg a’r amrywion eraill a gofnodwyd am y cysyniadau yn y clwm hwn.  Gwelsom y 8.3.1 fod gan newidynnau’r Clwm Lleiaf Amlwg i gyd ar wahân i (WAITER) amrywion yn y clwm blaenorol hefyd.  Trafodir yr amrywion hyn yma.

            Am (POST OFFICE), cynigiwyd swyddfa bost neu swyddfa’r post amlaf gan y siaradwyr.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y ffurf swyddogol wedi bwrw gwreiddiau yn iaith y rhan fwyaf o’r siaradwyr.  Awgrymwyd eisoes yn 6.3.5 uchod fod llythyrdy yn perthyn i iaith yr haen hynaf.  Ni chynigiwyd y ffurf hon ond gan un aelod o TH, ond y mae’r gair yn dra chyffredin ymysg atebion dwy garfan hynaf y Pethau a’r Pontwyr hŷn (PO: 50%, PH: 38%, CH: 43%), sy’n awgrymu bod gogwydd diwylliannol yn rhyngweithio ag oedran o ran llythyrdy.  Y mae’r Saesneg post office a’r ffurf symleiddiedig y post hefyd yn eithaf amlwg, sy’n arwydd tebygol fod y pedair ffurf hyn yn dra chyffredin ar lafar yn y dref.

O’r ddwy ffurf Gymraeg am (BUILDER), cynigiwyd adeiladwr yn amlach nag adeiladydd.   Nid  atebodd  yr  un aelod o’r Pontwyr iau na charfanau’r Dafarn gydag

 

Tabl 8.5:  Amrywion a Gofnodwyd am y Newidynnau yn y Clwm Lleiaf Amlwg

 

                                                                                                %

                                                                                PO           PH           PI            CH          CI           TH          TI

(POST OFFICE)       swyddfa(‘r p)bost 67            50            91            86            67            57            94

                                llythyrdy                                50            38            18            43            33            14            19

                                y post                      33            63            36            0              17            43            13

                                post office             17            25            9              0              0              43            69

 

(BUILDER)             adeiladwr               83            38            82            29            83            57            81

                                adeiladydd             17            75            18            57            0              0              0

                                labrwr                    33            63            18            57            50            57            50

                                brickie                   0              25            0              14            0              0              6

                                builder                   33            25            46            29            83            57            63

                                arall                        17            25            0              0              17            41            13

 

(POLICEMAN)        heddwas                 50            75            100          57            50            29            44

                                heddgeidwad         50            50            0              29            0              29            6

                                heddlu                    0              0              0              14            50            29            50

                                moch                       0              13            9              0              0              14            6

                                copper                   0              0              0              0              0              29            19

                                policeman             67            100          100          86            100          100          94

                                arall                        17            0              9              0              33            29            38

 

(RESTAURANT)     tŷ bwyta                 17            63            27            71            67            57            63

                                bwyty                     100          25            64            14            33            57            31

                                restaurant             17            25            46            14            17            57            69

                                arall                        0              0              0              14            0              0              6

 

(WAITER)               gweinydd               0              38            36            14            0              0              13

                                gweinyddwr           17            25            0              29            17            29            13

                                waiter                    100          75            91            100          100          88            100

                                arall                        17            25            18            29            17            14            19

   

adeiladydd, sy’n awgrymu bod gogwydd diwylliannol yn chwarae rôl o ran y ffurf hon.  Y mae’r canrannau ar gyfer yr uwch-derm labrwr yn uchel iawn, a gellir casglu, felly, fod y benthyciad hwn hefyd yn dra chyffredin yn iaith y siaradwyr.  Cynigiwyd y gair slang Saesneg brickie gan nifer o’r siaradwyr, a chyfaddefodd llawer ohonynt, yn enwedig rhai’r Dafarn a’r Pontwyr iau (CI: 83%, TH: 57%, TI: 63%), eu bod yn defnyddio builder ar lafar yn aml.  O ganlyniad, er bod y ffurf safonol adeiladwr wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau, y mae’n ymddangos bod nifer o ffurfiau ar gael yn iaith y siaradwyr.  O’r ffurfiau eraill a gofnodwyd, ceir atebion fel llafurwr, crefftwr, a construction worker.

            O ran (POLICEMAN), y mae tuedd i’r siaradwyr ieuaf yn eu grwpiau diwylliannol gynnig heddwas yn amlach na’r siaradwyr hŷn.  PI yw’r unig garfan gyda 100% o’i haelodau yn ateb gyda’r ffurf hon, ac y mae’n bosibl, felly, fod y siaradwyr addysgedig ieuaf yn arwain normaleiddio heddwas.  Awgrymwyd eisoes yn 6.3.5 uchod fod heddgeidwad yn perthyn i iaith yr haen hynaf, ac fel y dengys Tabl 8.5, ar wahân i un aelod o TI, ni chynigiwyd y ffurf hon ond gan siaradwyr hynaf y sampl (PO: 50%, PH: 50%, CH: 29%, TH: 29%).  Y mae hyn yn arwydd tebygol bod heddgeidwad ar fin diflannu os na throsglwyddir y term rhwng y cenedlaethau.  Cynigiwyd yr uwch-derm heddlu gan y Pontwyr a Phobl y Dafarn, ac atebodd nifer o’r siaradwyr, yn enwedig rhai’r Dafarn, gyda’r ffurfiau slang moch a copper.  Er y nifer o amrywion amlwg, datganodd y siaradwyr bron i gyd eu bod yn defnyddio’r Saesneg ar lafar yn amlach na’r ffurfiau eraill.  Cofnodwyd ffurfiau eraill, a cheir atebion fel cwnstabl, glas, gwas heddlu, a bobby

            Nid oes patrwm amlwg o ran y math o siaradwyr a gynigiodd tŷ bwyta a bwyty am (RESTAURANT), ac er bod y ddwy ffurf hyn ar lafar, dywedodd nifer fawr o’r siaradwyr eu bod yn defnyddio’r Saesneg hefyd.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y tair ffurf yn gymharol gyffredin ym Mlaenau Ffestiniog.

            Gwelsom yn Ffigur 8.8 uchod mai gweinydd am (WAITER) yw’r ffurf Gymraeg a gynigiwyd gan y nifer leiaf o’r siaradwyr o ran ffurfiau’r Clwm Lleiaf Amlwg.  Cynigiodd PH (38%) a PI (36%) y ffurf hon yn amlach na’r carfanau eraill, ac nid atebodd yr un aelod o PO, CI, a TH gyda gweinydd.  PH a PI yw’r siaradwyr mwyaf addysgedig (Ffigur 7.2), a gall y ffactor hon fod yn ddylanwadol o ran gwybodaeth o’r term safonol hwn.  Sylwer bod aelodau o bob carfan ar wahân i PI wedi cynnig gweinyddwr.  Y mae’n bosibl mai enghraifft o ddysgu anghyflawn yw’r ffurf hon am ei bod yn debyg yn ffonolegol i gweinydd.  Yn ddi-os, y Saesneg yw’r ffurf arferol oherwydd cynigiwyd waiter gan bron pawb yn y sampl.  O’r ffurfiau eraill, cofnodwyd atebion fel gwas, dyn sy’n gweini, a rhywun sy’n gweinyddu mewn caffi.

 

8.3.4    Casgliadau – Y Ffurfiau Cymharol Hen

Gwelsom fod y nifer fwyaf o’r ffurfiau Cymraeg am y cysyniadau cymharol hen wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau yn iaith Blaenau Ffestiniog: atebodd y siaradwyr i gyd gyda llyfrgell am (LIBRARY); y mae canrannau’r ffurfiau Cymraeg yn uchel iawn ar gyfer y saith newidyn yn y Clwm Sefydlog (Tabl 8.6), sef amlen, cigydd, deintydd, dyn tân, gwesty, meddyg, ac ysbyty; ac yr oedd y termau safonol am y cysyniadau yn y Clwm Gweddol Sefydlog - er enghraifft clorian, gorsaf, llenni, milfeddyg, ac ystafell ymolchi - yn atebion i o leiaf hanner o’r siaradwyr (Tabl 8.7).  O’r pum ffurf Gymraeg a geir yn y Clwm Lleiaf Amlwg, yr oedd gan bob un ar wahân i gweinydd am (WAITER) ddybledau a ddosbarthwyd i’r clwm blaenorol.  Gan fod cyn lleied â 16% o’r sampl wedi cynnig gweinydd, y mae’n ymddangos mai (WAITER) yw’r unig newidyn heb ffurf Gymraeg sydd wedi llwyddo i ymgartrefi yn iaith y nifer fwyaf o’r siaradwyr.

            Gwelsom fod rhai o’r termau Cymraeg yn perthyn i iaith yr haen hynaf, fel clorian, llythyrdy, a heddgeidwad; ond gyda ffurfiau eraill, er enghraifft milfeddyg, fferyllydd, milwr, ac adeiladydd, y mae’n bosibl bod gogwydd diwylliannol yn ddylanwadol gyda’r siaradwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus yn cynnig y ffurfiau hyn yn amlach.  Efallai mae’r hyn sy’n fwyaf trawiadol yw’r nifer o’r siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau Saesneg yn ogystal â’r rhai Cymraeg cyfatebol.  Sylwyd bod y geiriau Saesneg bron i gyd wedi’u cofnodi’n fenthyciadau sefydlog ar lafar mewn geiriaduron Cymraeg, a chyfaddefodd nifer fawr o’r siaradwyr eu bod yn defnyddio’r ffurfiau o’r ddwy iaith yn ymgyfnewidiol, er enghraifft cigydd a butcher, cylchgrawn a magazine, fferyllydd a chemist.  Er bod y rhan fwyaf o’r ffurfiau Cymraeg am y cysyniadau cymharol wedi ymdreiddio i iaith y siaradwyr, y mae’n ymddangos bod y benthyciadau’n cydfodoli â hwy ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog.     

 

8.4       Hynt y Ffurfiau Cymraeg ar gyfer y Cysyniadau Newydd

Fel yr esboniwyd yn 2.2.6 uchod, y rheswm dros rannu’r newidynnau yn dri grŵp – ffurfiau am hen wrthrychau, cysyniadau cymharol hen, a thermau newydd eu bathu am eitemau newydd – yw olrhain hynt y grwpiau o dermau i weld a ydyw’r hen ffurfiau Cymraeg yn cael eu disodli gan ffurfiau Saesneg, pa dermau ar gyfer cysyniadau cymharol hen sy’n bwrw gwreiddiau yn y gymuned er gwaethaf pwysau Seisnigeiddio, ac asesu ymdrechion cynllunio ieithyddol i boblogeiddio termau newydd yn y Gymraeg.    Dangoswyd yn yr adrannau blaenorol fod ffurfiau Saesneg yn ennill tir ar draul rhai o’r geiriau traddodiadol a bod nifer fawr o dermau Cymraeg am gysyniadau cymharol hen wedi llwyddo i ymwreiddio yn iaith lafar trigolion Blaenau Ffestiniog.  Ystyrir yma y termau newydd eu bathu.

Gwelsom eisoes yn 1.4.2 nad oes sefydliad swyddogol yng Nghymru sy’n gyfrifol am gynllunio corpws, ac y mae’n anodd, felly, asesu unrhyw ymdrech bendant o gynllunio ieithyddol wrth ystyried hynt y ffurfiau Cymraeg newydd.  Ond fel yr awgryma Fishman (1991: 347), y mae termau newydd yn cael eu bathu a’u dosbarthu mewn sawl modd, ffurfiol ac anffurfiol: 

Corpus planning is by no means limited entirely and exclusively to lexical elaboration for modernization purposes, but that is its most usual and ultimately its most crucial task, together with the preparation of nomenclatures, dictionaries or handbooks in which the neologisms created by corpus planners are defined and communicated to their potential users or clienteles.  The task of coining new terms for Xish is not an inordinately difficult one, but it is substantially more difficult to coin felicitous terms that will be quickly and widely accepted and utilized, in place of the Yish counterpart terms that are usually available first and that often already enjoy wide currency by the time the Xish neologisms finally come into being.  Accordingly, ‘successful corpus planning’ is much harder than mere corpus planning, the latter activity being one in which most mortals dabble from time to time and to no apparent societal effect.  (ef biau’r italeiddio)

 

Y mae’r gosodiad am lwyddiant ymdrechion cynllunio corpws yn adlewyrchu’r hyn a welsom yn (1.5) uchod wrth i Alloni-Fainberg (1973: 68 – 9) drafod gwahanol dynghedau termau newydd:

Every word, as every creature, seems to be born with its own fate.  There are words which seem to catch on the moment they are invented…. On the other hand there are words that… never catch on and nobody uses them naturally.

 

Nid oes modd sicrhau bod y gymuned ieithyddol yn mynd i dderbyn termau newydd, ond ceir awgrym yn y dyfyniad gan Fishman y gellid defnyddio sawl dull mewn ymgais i ledaenu a phoblogeiddio geiriau newydd:  cyhoeddi’r termau newydd eu bathu mewn geiriaduron a llawlyfrau yw un modd.  Er enghraifft, Y Geiriadur Cymraeg Cyfoes (H. M. Evans 1981; 239) oedd y geiriadur cyntaf i restru’r term newydd ‘telathrebu’ am to telecommunicate ymysg y cofnodion, y mae Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi nifer o lawlyfrau o dermau ym meysydd mor wahanol â gwleidyddiaeth (1976), cerddoriaeth (1984) ac amaethyddiaeth a milfeddygaeth (1994), a cheir sawl casgliad o dermau ym meysydd arbenigol yng nghyhoeddiadau Canolfan Safoni Termau ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.  Er yr enghreifftiau hyn o gynllunio corpws mewn ymgais i safoni a dosbarthu geiriau newydd, nid yw’r wybodaeth hon yn debygol o gyrraedd ond y siaradwyr hynny sy’n gweithio yn y meysydd hyn neu sydd â digon o ddiddordeb i dreulio amser a gwneud ymdrech er mwyn dod o hyd i’r termau newydd.  Nid yw’n anodd dychmygu pa mor fychan y mae’r ganran o Gymry Cymraeg sy’n mynd ar ôl yr wybodaeth hon, ac y mae angen, felly, fodd arall o gyflwyno’r termau newydd i siaradwyr. 

Gwelsom eisoes (1.5) y gall y cyfryngau torfol fod yn ddylanwad pwerus ar ymddygiad ieithyddol, ac wrth drafod cynllunio corpws, awgryma Eastman (1983: 71) bwysigrwydd defnyddio’r cyfryngau torfol mewn ymgais i boblogeiddio termau newydd:

The preferred standard model may be best promoted through the use of mass communications.  If ‘information pertaining to the events of the world as well as to matters of immediate importance to the local population, such as daily agricultural information’ (Karam 1974: 114 characterizing Ray 1963: 70), is presented in the proposed standard, its acceptance is likely to be hastened.

 

Ers sefydlu Radio Cymru yn 1978 ac S4C yn 1982, y mae statws sefydliadol y Gymraeg wedi codi gyda chyflwyno gwasanaeth radio a’r cynnydd yn y nifer o raglenni teledu a ddarlledir yn yr iaith drwy’r wythnos yn ystod oriau brig (gweler R. O. Jones 1997: 412 – 415 am drafodaeth o raglenni’r radio a’r teledu a J. Medhurst 2002 am hanes datblygiad S4C).  Yn wahanol i gyhoeddi llawlyfrau a geiriaduron, gall y cyfryngau torfol groesi pob math o ffiniau cymdeithasol a chyrraedd cynulleidfa ehangach.  Er hynny, gwelsom eisoes yn 6.2.1 uchod fod cryn dipyn o ddadlau ynglŷn â safon y Gymraeg ar y ddau gyfrwng.  Gellid gofyn a ydyw’r gwasanaethau hyn yn ddulliau effeithiol o ledaenu gwybodaeth o dermau newydd?  Gan fod defnyddio’r cyfryngau torfol wedi ymddangos yn gyflyrol bwysig o ran gwybodaeth y siaradwyr o’r ffurfiau traddodiadol a’r ffurfiau am y cysyniadau cymharol hen, y mae’n fwy na thebyg bod y ffactor hon yn dra dylanwadol o ystyried geiriau newydd eu bathu.  Er nad oes sefydliad swyddogol yng Nghymru fel y ceir yn Ffrainc gyda’r Académie Française, y mae ymdrechion cynllunio ieithyddol ar gael yng Nghymru o ran corpws yr iaith, a defnyddir termau newydd eu bathu ar raglenni dogfen a’r newyddion.  Y mae’n bwysig, felly, ddarganfod pa mor helaeth yw gwybodaeth siaradwyr o dermau newydd Cymraeg er mwyn asesu effeithiolrwydd yr ymdrechion hyn.

 

8.4.1    Ffurfiau Cymraeg Newydd y Sampl

Perfformiwyd dadansoddi clymau ar yr amrywion Cymraeg a gasglwyd ar gyfer y cysyniadau newydd er mwyn dod o hyd i grwpiau o atebion tebyg o ran pa mor hysbys ydynt i’r siaradwyr.  Unwaith eto, dull Ward oedd yr algorithm clymau mwyaf llwyddiannus i ddatgelu grwpiau pendant.  Dengys Ffigur 8.10 y dendrogram a’r amrywion ym mhob clwm.  Ceir tri chlwm gyda rhwng 13 a 23 o ffurfiau. 

Am fod cyn lleied o’r siaradwyr wedi cynnig y ffurfiau Cymraeg ‘safonol’ wrth ymateb i rai o’r sbardunau, ni chynhwyswyd y ffurfiau hyn ar gyfer pedwar o’r newidynnau – (TOASTER), (TELETEXT), (TRAVEL AGENT) a (SATELLITE DISH) –  yn y dadansoddi hwn.  O ran (TOASTER), cynigodd 95%, neu bob un o’r siaradwyr ar wahân i dri, y gair Saesneg.  Yn ôl Geiriadur yr Academi (Griffiths a Jones 1995: 1496), craswr a tostiwr yw’r geiriau am y newidyn hwn.  Cynigiwyd tostiwr gan bum siaradwr; nid atebodd yr un siaradwr gyda craswr, sy’n golygu, yn ôl GPC (581), ‘un sy’n crasu neu’n sychu ŷd mewn odyn; pobwr, ffyrnwr’; a disgrifiadau oedd yr amrywion eraill, sef peiriant tost, peiriant crasu bara, a peth gwneud tost.  Gan fod cynifer o’r siaradwyr wedi cynnig toaster, yn mae’n ymddangos mai’r ffurf Saesneg hon yw term arferol y sampl.  Ar gyfer (TELETEXT), cynigwyd yr amrywyn Cymraeg, teletestun, gan bum siaradwr yn unig, siaradwyr ifanc yn bennaf, gyda’r rhan fwyaf o’r gweddill yn awgrymu’r termau Saesneg ceefax (27%) a teletext (82%).  Yn ôl Geiriadur yr Academi (Griffiths a Jones 1995: 1517 d. g. ‘travel’), trefnydd teithiau a trefnwr teithiau yw’r ffurfiau Cymraeg am (TRAVEL AGENT).  O ystyried y ffurfiau a gasglwyd am y newidyn hwn, nid oedd consensws o gwbl ymysg y siaradwyr am derm Cymraeg: ni chynigiwyd trefnydd teithiau ond gan ddau siaradwr a trefnwr teithiau gan un; cofnodwyd nifer o atebion strategaethol fel gwerthwr gwyliaudyn siop deithio,  a holiday rep; ond atebodd 45% o’r siaradwyr


 

[1] Sylwer bod cyfanswm y canrannau ar gyfer (BEDROOM) yn fwy na 100%.  Y mae pob un ond dau o’r siaradwyr a gynigiodd ystafell wely wedi ateb gyda llofft hefyd, felly ceir cyfanswm o dros 100%. 

 

 

 

Diffoddwr tân            òø

Diffoddydd tân           òú

Canolfan (c)groeso       òú

Peiriant sychu           òú

Peiriant golchi          òú

Canolfan ailgylchu       òú

Darllenwr newyddion      òôòø

Cylchfan                 òú ó

Peiriannydd              òú ó

Blwch llythyrau          ò÷ ùòòòòòòòòòòòòòòòòòòòø

Rheiddiadur              òø ó                   ó

Taflegryn                òôòú                   ó

Cyfrifiannell            òú ó                   ó

Pin bawd                 ò÷ ó                   ó

Sugnwr llwch             òø ó                   ó

Cylchdro                 òú ó                   ó

Canolfan (g)wybodaeth    òôò÷                   ó

Arhosfan bws             òú                     ó

Twll llythyrau           ò÷                     ùòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòø

Canolfan (g)waith        òø                     ó                         ó

Canolfan hamdden         òôòø                   ó                         ó

Blwch llwch              ò÷ ó                   ó                         ó

Gwresogydd               òø ùòòòòòø             ó                         ó

Prosesydd bwyd           òôò÷     ó             ó                         ó

Safle bws                òú       ó             ó                         ó

Peiriant sychu dillad    ò÷       ùòòòòòòòòòòòòò÷                         ó

Beic modur               òø       ó                                       ó

Dyn lolipop              òú       ó                                       ó

Seiciatrydd              òôòø     ó                                       ó

Goleuadau traffig        ò÷ ùòø   ó                                       ó

Llong (t)danfor          òûò÷ ó   ó                                       ó

Gofodwr                  ò÷   ó   ó                                       ó

Oergell                  òø   ùòòò÷                                       ó

Optegydd                 òú   ó                                           ó

Cryno-ddisg              òôòø ó                                           ó

Peiriant golchi dillad   òú ó ó                                           ó

Maes parcio              ò÷ ùò÷                                           ó

Meicrodon                òø ó                                             ó

Twll yn y wal            òôò÷                                             ó

Sychwr gwallt            òú                                               ó

Past dannedd             ò÷                                               ó

Teledu                   òø                                               ó

Brws dannedd             òôòø                                             ó

Rhewgell                 òú ó                                             ó

Awyren                   òú ó                                             ó

Chwaraewr rygbi          ò÷ ùòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòòò÷

Trydanwr                 òø ó

Archfarchnad             òú ó

Pêl-droediwr             òú ó

Cawod                    òôò÷

Sbectol haul             òú

Cyfrifiadur              òú

Hofrennydd               òú

Croesair                 ò÷

 

 

Ffigur 6.13:  Dendrogram yn Carfanu’r Ffurfiau Cymraeg ar gyfer y Cysyniadau Newydd

 

gyda’r ffurf Saesneg.  O ganlyniad, y mae’n ymddangos mai’r ffurfiau Saesneg yw’r termau a ddefnyddir ar lafar ar gyfer y newidynnau hyn ym Mlaenau Ffestiniog.

Yn ôl Geiriadur yr Academi, dysgl loeren yw’r term am (SATELLITE DISH) (Griffiths a Jones 1995: 1212 d. g. ‘satellite’).  Ni chynigiwyd y ffurf hon ond gan bedwar siaradwr.  Atebodd 34% o’r sampl gyda’r Saesneg a’r un ganran gyda’r ffurf symleiddiedig lloeren.  Gan amlaf, cynigiwyd y ddwy ffurf hyn gan y siaradwyr iau, a gall hyn olygu bod satellite dish ar lafar a bod lloeren yn dechrau ennill tir (trafodwn yr amrywion hyn ymhellach yn 8.4.3 isod).

            Cynigiodd 88% o’r sampl yr atebion yn y clwm cyntaf, ac am fod y sgôr hwn yn eithaf uchel, y mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’r siaradwyr yn dechrau mabwysiadu termau newydd y clwm hwn fel ffurfiau derbyniol am y cysyniadau.  Dyma, felly, y Clwm Tra Sefydlog o dermau newydd.

            Dengys Ffigur 8.11 ganrannau atebion Cymraeg y Clwm Tra Sefydlog a’r ffurfiau Saesneg cyfatebol a gynigiwyd gan y sampl.  Atebodd dros dri chwarter o’r sampl gyda’r ffurfiau Cymraeg hyn, ac y mae 22% o wahaniaeth rhwng y ffurfiau pegynol, sef awyren, a gynigiwyd gan y siaradwyr i gyd ond un, a croesair, a roddwyd gan 76% ohonynt.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y termau Cymraeg newydd hyn yn dechrau darganfod lle yng ngeirfa’r nifer fwyaf o’r siaradwyr.

            Cynigiodd dros 90% o’r sampl bum ffurf Gymraeg, sef awyren, teledu, rhewgell, brws dannedd, a chwaraewr rygbi.  Gan fod cynifer o’r siaradwyr wedi ateb gyda’r ffurfiau hyn, y mae’n debyg eu bod wedi llwyddo i gael eu derbyn gan y trigolion fel termau derbyniol am y cysyniadau.

            O ran y geiriau Saesneg cyfatebol am y pum ffurf hyn, sylwer na chynigiodd yr un siaradwr toothbrush, ac nad atebodd ond dau ohonynt, neu 3%, gyda rugby player   (gweler  8.4.3  am yr amrywion eraill a gofnodwyd am y newidynnau hyn a’r

 

Text Box:                %  Saesneg                             %  Cymraeg

Ffigur 8.11:  Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg ar gyfer y Cysyniadau Newydd – Y Clwm Tra Sefydlog

 

newidynnau eraill).  Y mae hyn yn dystiolaeth bellach fod brws dannedd a chwaraewr rygbi wedi cydio yn iaith y siaradwyr.  O’r tri ateb Saesneg arall, freezer yw’r un a gynigiwyd amlaf (48%), ond hwn yw’r unig derm o’r tri na chofnodir yn fenthyciad yn GPC (gweler 7.2 uchod).  Y mae’n bosibl, felly, y ceir freezer ar lafar, ond nid yw’r  canrannau o’r  sampl  a  roddodd y ffurfiau Saesneg am y pum newidyn hyn yn uchel iawn o gymharu â’r rhai Cymraeg, sy’n awgrymu bod y siaradwyr wedi derbyn y termau Cymraeg newydd eu bathu.       

O’r ffurfiau Cymraeg eraill, cynigiwyd chwech – cawod, sbectol haul, cyfrifiadur, archfarchnad, trydanwr, a pêl-droediwr – gan dros 80% o’r siaradwyr.  Er nad ydynt mor amlwg â’r pum ffurf flaenorol, y mae’r canrannau uchel o’r sampl a roddodd yr atebion hyn yn awgrymu bod y siaradwyr wedi croesawu’r termau newydd hyn yn eu hiaith lafar.  Nid yw’r geiriau Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn GPC, ac nid yw’r canrannau ar eu cyfer yn uchel iawn.  Y mae hyn yn cadarnhau bod y siaradwyr yn ffafrio’r ffurfiau Cymraeg newydd.

            O ran y ddau derm Cymraeg arall yn y clwm hwn, cynigiodd 77% o’r sampl hofrennydd a 76% croesair.  Y mae’r canrannau hyn yn eithaf uchel, sy’n golygu bod y ffurfiau hyn wedi llwyddo i gael lle yng ngeirfa’r siaradwyr, ond sylwer mai’r canrannau a atebodd gyda’r termau Saesneg cyfatebol yw’r canrannau uchaf yn y clwm hwn.  Gwelsom yn 7.2 fod helicopter wedi’i gofnodi’n fenthyciad yn GPC, ac fel y dengys Ffigur 8.11, cynigiodd 68% o’r sampl y ffurf hon.  Nid yw crossword puzzle yn GPC, ond yr oedd y term hwn yn ateb i hanner y siaradwyr.  Gall hyn awgrymu bod y ffurfiau Cymraeg a Saesneg ar lafar.

            Gan fod cynifer o’r siaradwyr wedi cynnig y ffurfiau Cymraeg safonol am newidynnau y Clwm Tra Sefydlog, y mae’n ymddangos bod y termau newydd hyn wedi’u derbyn gan y siaradwyr fel ffurfiau addas am y cysyniadau.

Ceir gostyngiad o 31% o gymharu’r Clwm Tra Sefydlog â’r ganran o’r siaradwyr a roddodd yr atebion yn yr ail glwm, sef 57%.  Ni chynigiodd ond dros hanner y sampl atebion y clwm hwn, ac felly cyfeirir at y grŵp o amrywion hyn fel y Clwm Cyfnewidiol o ffurfiau newydd.

Y Clwm Cyfnewidiol yw’r un mwyaf ac y mae ynddo 22 o amrywion Cymraeg.  Dengys Ffigur 8.12 y canrannau o’r sampl a gynigiodd yr atebion hyn a’r ffurfiau Saesneg cyfatebol.  Ceir cryn dipyn o wahaniaeth rhwng y term Cymraeg a gynigiwyd amlaf, sef sychwr gwallt (74%), a’r un lleiaf amlwg, safle bws (39%).  O ganlyniad, y mae’r ffurfiau hyn yn dra annhebyg o ran eu derbynioldeb i’r sampl cyfan, ond gan fod y dadansoddiad clymau wedi’u rhwymo wrth ei gilydd, y mae’n debyg mai’r math o siaradwyr a’u cynigiodd sy’n gyfrifol am eu dosbarthu i’r clwm hwn (gweler 8.4.2 isod).

            Cynigiodd dros ddau draean o’r sampl bedair ffurf Gymraeg, sef sychwr gwallt, meicrodon, past dannedd, a maes parcio.  Y mae hyn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o’r siaradwyr yn dechrau mabwysiadu’r termau hyn fel ffurfiau newydd derbyniol.  O ran y geiriau Saesneg cyfatebol, microwave (65%) yw’r unig un sy’n agosáu at ganran y gair Cymraeg, sef meicrodon (68%), ac y mae’n bosibl, felly, fod y ddwy ffurf ar lafar yn y dref.

Dengys Ffigur 8.12 fod chwe ffurf Gymraeg yn y Clwm Cyfnewidiol o dermau newydd a gynigiwyd gan lai na hanner y sampl:

canolfan hamdden  (48%)                 gofodwr  (42%)

gwresogydd  (47%)                            peiriant sychu dillad  (42%)

prosesydd bwyd  (44%)                     safle bws  (39%)

 

Nid yw’n ymddangos, felly, fod y termau hyn wedi llwyddo i gydio yn iaith y rhan fwyaf o’r siaradwyr.  Y mae tri o’r newidynnau hyn – (RADIATOR), (CLOTHES DRYER), a (BUS STOP) – sydd â dybledau yn y trydydd clwm, a gall hyn gyfrannu at y

 

Text Box:                %  Saesneg                             %  Cymraeg

Ffigur 8.12:  Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg ar gyfer y Cysyniadau Newydd – Y Clwm Cyfnewidiol

 

canrannau isel ar gyfer amrywion y clwm hwn am y cysyniadau hyn; hynny yw, y mae mwy nag un ffurf ar lafar yn y gymuned.  Ystyriwn yr amrywion am y tri newidyn hyn wrth drafod y dybledau yn y clwm nesaf.

Fel y dengys Ffigur 8.12, o’r gweddill o’r ffurfiau Cymraeg yn y clwm hwn, yr oedd deuddeg yn atebion i o leiaf hanner o’r siaradwyr:

            beic modur  (63%)                             optegydd  (60%)        

            seiciatrydd  (63%)                              oergell (58%)

dyn lolipop (63%)                              canolfan (g)waith (58%)

            llong (t)danfor  (61%)                        peiriant golchi dillad (55%)

            twll yn y wal  (61%)                           goleuadau traffig (53%)

            cryno-ddisg  (60%)                            blwch llwch (50%)

 

Y mae’r ffurfiau hyn yn dangos llai o sicrwydd yn iaith y sampl, ac y mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o siaradwyr a gynigiodd y ffurfiau Saesneg.  Gwelsom eisoes yn 7.2 fod tri o’r termau Saesneg hyn wedi’u cofnodi’n fenthyciadau gan GPC, sef motorbike, psychiatrist, a submarine (GPC: 2498, 3208, 3375 d.g. ‘motor-beic’, ‘seiciatrist’, ‘sybmarîn’).  O’r tri benthyciad hyn, cynigiwyd dau – motorbike a submarine – yn amlach na’r ffurfiau Cymraeg.  Rhoddwyd dau derm Saesneg arall yn amlach hefyd, sef CD ac ashtray, ac atebodd dros hanner o’r siaradwyr gydag optician a fridge.  Gall y dystiolaeth hon arwyddo cystadlu rhwng y ffurfiau Cymraeg a Saesneg yn iaith y siaradwyr.  Y mae gan dri o’r newidynnau ddau amrywyn Saesneg amlwg, ac y mae felly dri dimensiwn i’r newidynnau hyn:

(COMPACT DISC) à cryno-ddisg (60%), compact disc (11%), CD (61%)

(REFRIGERATOR) à oergell (58%), refrigerator (13%),  fridge (55%)

(MOTORCYCLE) à beic modur (63)%, motorcycle (13%), motorbike (73%)

 

O ran yr atebion Saesneg ar gyfer (COMPACT DISC) a (REFRIGERATOR), sylwer mai’r ffurfiau llai ffurfiol a symleiddiedig yw’r rhai a gynigiwyd amlaf.  Eithaf tebyg yw’r canrannau o’r sampl a roddodd y geiriau anffurfiol Saesneg hyn a’r termau newydd Cymraeg cyfatebol.  Y mae’n bosibl, felly, fod y ffurfiau Cymraeg a Saesneg hyn yn cydfodoli neu’n cystadlu â’i gilydd yn iaith y siaradwyr.  Nid atebodd ond 13% o’r siaradwyr ar y mwyaf gyda’r ffurfiau Saesneg ffurfiol, sy’n awgrymu nad ydynt mor gyffredin ar lafar yn y dref.  Ceir darlun tebyg o ystyried (MOTORCYCLE).  Ni chynigiwyd motorcycle ond gan 13% o’r sampl, ond y mae’r canrannau a atebodd gyda beic modur a motorbike yn eithaf tebyg i’w gilydd.  Y mae’n bosibl, felly, fod y ddwy ffurf olaf hyn ar lafar.

O ran y ffurfiau Saesneg, ni chynigiodd ond tri siaradwr leisure centre, ond ceir canrannau uchel iawn ar gyfer radiator (71%), astronaut (71%) a bus stop (66%), ac y mae’n bosibl, felly, fod y termau Saesneg hyn yn fwy derbyniol i’r siaradwyr na’r rhai Cymraeg.  

Er bod ffurfiau Cymraeg y Clwm Cyfnewidiol yn dra gwahanol o ran gwybodaeth y siaradwyr ohonynt, y mae o leiaf trydedd ran o’r sampl wedi cynnig y termau newydd hyn, ac efallai bod grwpiau penodol o siaradwyr sydd wedi derbyn y ffurfiau hyn yn fwy na grwpiau eraill, posibilrwydd a ystyriwn yn 8.4.2 isod.

            Y mae gwahaniaeth eithaf sylweddol rhwng y Clwm Cyfnewidiol a’r clwm olaf gyda sgôr y sampl yn disgyn 32% i 25%.  Nid atebodd ond chwarter y sampl gyda ffurfiau’r trydydd clwm, sy’n awgrymu nad yw’r termau hyn wedi llwyddo i ddarganfod lle yng ngeirfa’r rhan fwyaf o’r siaradwyr.  Y mae’r grŵp o amrywion hyn, felly, yn perthyn i’r Clwm Lleiaf Amlwg o dermau newydd.

Y mae 19 o newidynnau yn y Clwm Lleiaf Amlwg o dermau newydd, a cheir yn Ffigur 8.13 y canrannau o’r sampl a gynigiodd y ffurfiau Cymraeg a’r rhai Saesneg cyfatebol.  44% ar gyfer cyfrifiannell yw’r ganran uchaf yn y clwm hwn o atebion, a chynigiodd cyn lleied â 13% darllenwr newyddion.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y ffurfiau hyn yn dangos ansicrwydd yn iaith y siaradwyr, ac y bydd angen cryn dipyn o ymdrech eto i boblogeiddio a normaleiddio termau newydd y clwm.  Fel y gwelsom yn  8.4.1  uchod, ysgogodd nifer o’r newidynnau fwy nag un ateb Cymraeg safonol yn

Ffigur 8.13:  Canrannau’r Sampl o’r Amrywion Cymraeg a Saesneg ar gyfer y Cysyniadau Newydd – Y Clwm Lleiaf Amlwg

 

ôl y  cyfeirlyfrau, ac o’r newidynnau a gynrychiolir yn y clwm hwn, esgorodd pedwar ar ddau amrywyn a ddosbarthwyd i’r clwm hwn, sef:

(LETTERBOX) à blwch llythyrau (36%), twll llythyrau (23%)

            (FIRE EXTINGUISHER) à diffoddwr tân (34%), diffoddydd tân (26%)

(ROUNDABOUT) à cylchdro (19%), cylchfan (18%)

            (TOURIST INFORMATION CENTRE) à canolfan (g)wybodaeth (26%),

canolfan (c)groeso (18%)

 

ac y mae pedwar newidyn arall sydd ag un amrywyn yr un yn y Clwm Lleiaf Amlwg ac un yn y Clwm Cyfnewidiol:

            (WASHING MACHINE) à  peiriant golchi dillad (55%), peiriant golchi (24%)

            (RADIATOR) à gwresogydd (47%), rheiddiadur (24%)

            (CLOTHES DRYER) à peiriant sychu dillad (42%), peiriant sychu (16%)

(BUS STOP) à safle bws (39%), arhosfan bws (26%)

 

Efallai mai’r dybledau hyn yw’r rheswm dros y canrannau isel a geir yn y clwm hwn o atebion ac yn arwydd arall o ansicrwydd y termau yn iaith y siaradwyr.  Sylwer mai’r ffurf a restrwyd gyntaf uchod yw’r un fwyaf poblogaidd am y newidyn cyfatebol.  Er enghraifft, fel y dengys Ffigur 8.12, cynigiodd 47% o’r siaradwyr gwresogydd am (RADIATOR) a 39% safle bws ar gyfer (BUS STOP) mewn cyferbyniad â 24% rheiddiadur a 26% arhosfan bws (Ffigur 8.13).  Yn ôl Geiriadur yr Academi, gall rheiddiadur a gwresogydd ddynodi ‘radiator’, ac y mae safle bws ac arhosfan bws yn golygu ‘bus stop’ (Griffiths a Jones 1995: 183 a 1118, d. g. ‘bus’ a ‘radiator’).  Y mae’n ymddangos mai gwresogydd a safle bws yw’r ffurfiau Cymraeg amlycaf ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog am y ddau gysyniad. 

O ystyried newidyn sydd â dau amrywyn yn y Clwm Lleiaf Amlwg, twll llythyrau yw’r term Cymraeg am (LETTERBOX) yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC 3658, d. g. ‘twll’), a rhestrir y ffurf hon yn ogystal â blwch llythyrau gan Geiriadur yr Academi (Griffiths a Jones 1995: 814, d. g. ‘letter’).  Cynigiodd 36% o’r sampl blwch llythyrau a 23% twll llythyrau, sy’n awgrymu bod y ffurf gyntaf yn ennill tir yn gyflymach yn iaith y siaradwyr na’r llall (gweler 8.4.3 am y carfanau a gynigiodd y ffurfiau hyn).

            Y mae saith newidyn nad esgorasant ond ar un ffurf Gymraeg safonol, a dosbarthwyd y termau hyn i’r Clwm Lleiaf Amlwg:

            (CALCULATOR) à cyfrifiannell (44%)

            (DRAWING PIN) à pin bawd (36%)

            (MECHANIC) à peiriannydd (31%)

            (MISSILE) à taflegryn (27%)

            (VACUUM CLEANER) à sugnwr llwch (21%)

            (RECYCLING CENTRE) à canolfan ailgylchu (19%)

            (NEWSREADER) à darllenwr newyddion (13%)

 

Awgrymwyd yn y paragraff diwethaf y gall dybledau fod yn rheswm dros y canrannau isel o’r siaradwyr a gynigiodd ffurfiau Cymraeg y clwm hwn, ond y mae’n debyg bod ffactor arall yn gyfrifol am y canrannau isel ar gyfer y saith ffurf hyn.  O graffu ar y ffurfiau Saesneg cyfatebol a gynigiwyd, gwelir bod y siaradwyr wedi ateb gyda’r termau Saesneg yn amlach ar gyfer y newidynnau hyn i gyd ar wahân i (RECYCLING CENTRE).  Cynigiodd cynifer â 89% o’r sampl mechanic a 95% hoover, sy’n awgrymu mai’r ffurfiau hyn yw’r geiriau arferol ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog.  Fel y gwelsom wrth drafod yr Atebion Cymraeg Aml yn Nhabl 7.10 uchod, y mae mecanic a hwfer wedi’u cofnodi’n fenthyciadau sydd ar lafar yn gyffredinol yn GPC, ac y mae’r canlyniadau a geir yma yn dystiolaeth o hynny. 

            O ystyried y ffurfiau Saesneg i gyd a geir yn Ffigur 8.13, y mae pob un ohonynt ond tri – tourist information centre, vacuum cleaner, a recycling centre – wedi’u cynnig yn amlach na’r ffurfiau Cymraeg.  Sylwer bod tri dimensiwn i (VACUUM CLEANER) o ran y ddwy ffurf Saesneg a’r un Gymraeg, a gwelsom eisoes mai’r enw masnachol hoover yw’r gair arferol yn iaith y siaradwyr.  O ran y ddau newidyn arall, y mae (RECYCLING CENTRE) wedi esgor ar 38 o amrywion a (TOURIST INFORMATION CENTRE) ar 25 (Ffigur 6.1).  Dosbarthwyd pob un o’r amrywion ar gyfer (RECYCLING CENTRE) ond canolfan ailgylchu a recycling centre i’r clwm o Atebion Strategaethol gan y dadansoddiad clymau yn 7.2.2 uchod, ac o ran (TOURIST INFORMATION CENTRE) y mae ugain amrywyn wedi’u dosbarthu i’r Atebion Strategaethol (gweler Atodiad V am yr amrywion hyn).  Y mae’n bosibl, felly, nad oes ffurfiau penodol o gwbl wedi’u derbyn yn dermau addas ar gyfer y cysyniadau hyn yn iaith y nifer fwyaf o’r siaradwyr.  Gan fod y siaradwyr wedi cynnig y ffurfiau Saesneg yn amlach na’r rhai Cymraeg am y rhan fwyaf o’r newidynnau yn y clwm hwn, gellir casglu nad yw ymdrechion cynllunio ieithyddol wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran lledaenu gwybodaeth am dermau newydd y Clwm Lleiaf Amlwg.  Y mae rhai o ffurfiau’r clwm hwn, er enghraifft canolfan ailgylchu a canolfan wybodaeth, yn ymddangos ar arwyddion mewn cymunedau ledled Cymru, ac y mae’r canlyniadau a geir yma yn awgrymu bod hyd yn oed arwyddion cyhoeddus wedi methu â phoblogeiddio rhai o’r ffurfiau.

 

8.4.2   Y Siaradwyr a Gynigiodd y Ffurfiau Cymraeg Newydd

Er mwyn darganfod pa grwpiau o siaradwyr yw’r rhai mwyaf blaengar o ran derbyn y termau Cymraeg newydd a’r grwpiau sy’n llusgo y tu ôl, cyfrifwyd cymedrau’r amrywion ar gyfer y tri chlwm o atebion fesul carfan; ceir y cymedrau hyn yn Ffigur 8.14.

Gwelsom yn Ffigur 8.11 fod dros dri chwarter o’r sampl wedi cynnig y 13 o dermau Cymraeg newydd sydd yn y Clwm Tra Sefydlog, sef:

archfarchnad                                     hofrennydd

awyren                                               pêl-droediwr

brws dannedd                                    rhewgell

cawod                                                 sbectol haul

croesair                                               teledu

cyfrifiadur                                         trydanwr

chwaraewr rygbi      

 

Fel y dengys Ffigur 8.14, nid yw’r clwm hwn o atebion yn dynn iawn o ran ei homogenusedd, a cheir 35% rhwng y sgorwyr uchaf,  sef  PI  (98%),  a’r rhai isaf, TH

 

              

Ffigur 8.14:    Sgorau Cymedrol y Carfanau ar gyfer y Cysyniadau Newydd

 

(63%).  Y mae gwahaniaeth o 16% rhwng y sgorwyr isaf hyn a’r rhai isaf ond un, PO (79%),  sy’n awgrymu  bod  gwybodaeth siaradwyr hŷn y Dafarn o ffurfiau y Clwm Tra Sefydlog yn eithriadol o isel o’i chymharu â’r carfanau eraill.  TH yw’r siaradwyr lleiaf addysgedig (Ffigur 7.2) a’r sgorwyr isaf o ran defnyddio’r Gymraeg yn y gymuned a’r cyfryngau torfol (Ffigur 7.4).  Ar wahân i’r garfan eithriadol hon, nid oes ond 19% o amrywiaeth ymysg sgorau’r gweddill o’r carfanau.  Y mae PO (79%) a CH (83%) wedi sgorio’n debyg i’w gilydd; ceir grŵp arall o garfanau a sgoriodd ychydig yn uwch, sef TI (90%), CI (90%), a PH (92%); ac y mae gwahaniaeth bychan o 6% rhwng y grŵp hwn a’r sgorwyr uchaf, sef PI (98%).  Y mae sgorau’r chwe charfan hyn, felly, yn eithaf tebyg.

Y mae’r tair carfan o siaradwyr iau wedi cynnig o leiaf 90% o’r termau yn y clwm, ond sylwer ar y tair carfan a gynigiodd y canrannau isaf o’r ffurfiau hyn.  Y siaradwyr hynaf yn eu grwpiau diwylliannol ydynt, a gall y gwahaniaeth rhwng y siaradwyr iau a’r rhai hŷn awgrymu bod oedran yn ffactor gyflyrol yma.  Y siaradwyr iau yw’r rhai a gafodd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion Blaenau Ffestiniog, ac y mae’n bosibl bod y termau newydd wedi’u cyflwyno i’r siaradwyr hyn yn awyrgylch ffurfiol y dosbarth.  Hefyd, y siaradwyr iau yw’r rhai mwyaf addysgedig yn eu grwpiau diwylliannol (7.1.4), ac o ganlyniad, y mae’n bosibl bod addysg bellach ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn effeithio ar wybodaeth o’r termau newydd. 

O ystyried PH, sef y siaradwyr hŷn a sgoriodd yn debyg i’r rhai iau, cafodd hanner ohonynt addysg bellach (Ffigur 7.2), sy’n dystiolaeth ychwanegol y gall y ffactor hon fod yn gyflyrol bwysig. 

Gall cyfansoddiad PH, efallai, fod yn elfen wahaniaethol arall sy’n chwarae rôl yma.  Fel y gwelsom yn 7.2 uchod, dyma’r garfan o awduron ac athrawon.  O ran yr awduron, y mae pwysigrwydd geiriau iddynt yn ddigon amlwg, ac nid yw’n anodd dychmygu eu bod yn treulio amser a gwneud ymdrech i chwilio am ffurfiau addas i gyfleu syniadau a chysyniadau.  O ran yr athrawon, hwy oedd y rhai a oedd yn gyfrifol am drosglwyddo gwybodaeth i siaradwyr iau y sampl yn ysgolion Blaenau Ffestiniog, ac nid yw’n syndod, felly, eu bod yn gyfarwydd iawn â’r termau newydd os yw addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gyflyrol bwysig. 

Y Clwm Cyfnewidiol yw’r un mwyaf.  Y mae ynddo 22 o amrywion:

            beic modur                                         meicrodon

            blwch llwch                                        oergell

            canolfan (g)waith                              optegydd

            canolfan hamdden                            past dannedd

            cryno-ddisg                                        peiriant golchi dillad

            dyn lolipop                                         peiriant sychu dillad

            gofodwr                                              prosesydd bwyd

            goleuadau traffig                               safle bws

            gwresogydd                                        seiciatrydd

            llong (t)danfor                                   sychwr gwallt

            maes parcio                                        twll yn y wal

Fel y dengys Ffigur 8.14, y mae sgorau’r carfanau ar gyfer y clwm hwn yn eithaf gwasgar gyda chymaint â 51% rhwng y sgorwyr uchaf, PI (78%), a’r rhai isaf, TH (27%). Y mae, felly, gryn dipyn o wahaniaeth o ran gwybodaeth y carfanau o’r ffurfiau hyn.  Sgoriodd un grŵp o siaradwyr yn debyg i’w gilydd, sef PH (66%), CI (62%), a TI (59%).  Y mae’r canrannau’n disgyn yn rheolaidd o ran y carfanau eraill, sef CH (47%), PO (37%), a TH (27%).  Y mae, felly, un garfan eithriadol uchel, PI, a thair eithriadol isel, sef CH, PO, a TH.  Er bod y gwahaniaethau rhwng y carfanau’n fwy sylweddol yn y Clwm Cyfnewidiol, sylwer y ceir yr un drefn, bron, â’r hyn a welsom ar gyfer y Clwm Tra Sefydlog.  O ganlyniad, gellir casglu bod yr un ffactorau allieithyddol yn debygol o fod yn gyflyrol bwysig o ran y ffurfiau yn y clwm hwn.  Y mae’r siaradwyr hynaf yn eu grwpiau diwylliannol wedi sgorio llai na 50%, ond y mae’r rhai iau wedi sgorio’n uwch na 50%.  Fel yn y Clwm Tra Sefydlog, PI yw’r sgorwyr uchaf, sgoriodd PH yn debyg i CI a TI, a TH yw’r sgorwyr isaf.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y siaradwyr ieuaf yn fwy blaengar ac yn arwain poblogeiddio termau newydd y Clwm Cyfnewidiol.  O ran PH, a sgoriodd yn debyg i’r siaradwyr ieuaf, awgrymwyd uchod y gallai galwedigaethau siaradwyr y garfan hon hefyd fod yn ddylanwadol yma.

 

Ceir 19 o dermau Cymraeg newydd yn y Clwm Lleiaf Amlwg:

arhosfan bws                                     diffoddydd tân         

blwch llythyrau                                 peiriannydd

canolfan ailgylchu                             peiriant golchi

canolfan (c)groeso                             peiriant sychu

canolfan (g)wybodaeth                     pin bawd

cyfrifiannell                                       rheiddiadur

cylchdro                                             sugnwr llwch

cylchfan                                              taflegryn

darllenwr newyddion                        twll llythyrau

diffoddwr tân

 

Nid yw amrediad y sgorau ar gyfer y Clwm Lleiaf Amlwg yn Ffigur 8.14 mor wasgar â’r clwm blaenorol, a cheir 32% rhwng y carfanau pegynol.  Yn gyffelyb i’r ddau glwm arall o ffurfiau newydd, PI yw’r sgorwyr uchaf (40%), PH yw’r sgorwyr uchaf ond un (38%), a TH yw’r garfan a gynigiodd y nifer leiaf o’r ffurfiau hyn gyda sgôr mor isel ag 8%.  Yn wahanol i’r drefn a geir yn y ddau glwm arall, y mae siaradwyr iau y Dafarn a’r Pontwyr iau – TI (19%) a CI (14%) – wedi sgorio’n is na’r siaradwyr hŷn CH (29%) a PO (21%).  Y mae hyn yn awgrymu nad yw’r termau hyn yn perthyn yn arbennig i siaradwyr iau’r Dafarn a’r Pontwyr iau.

Y mae dros chwarter o PI, PH, a CH wedi cynnig y termau newydd yn y Clwm Lleiaf Amlwg, a hwy yw’r sgorwyr uchaf o ran defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg (Ffigur 7.4).  Y mae’n bosibl, felly, y gall y ffactor hon ddylanwadu ar wybodaeth o’r ffurfiau yn y clwm hwn. 

O ystyried y siaradwyr hynaf yn eu grwpiau diwylliannol, sylwer y ceir yr un drefn yn y tri chlwm o dermau Cymraeg newydd: y mae CH wedi sgorio’n uwch na PO, sydd wedi sgorio’n uwch na TH.  O’r tair carfan hyn, gwelsom eisoes mai CH yw’r rhai sy’n defnyddio’r cyfryngau torfol Cymraeg amlaf, a TH yw’r rhai mwyaf cyfyngedig.  Y mae sgorau’r tair carfan hyn o ran y ffactor hon, felly, yn adlewyrchu eu sgorau yn y tri clwm o ffurfiau newydd.  Awgrymwyd y gall defnyddio’r cyfryngau torfol gyflyru gwybodaeth o’r termau newydd yn y Clwm Lleiaf Amlwg, ond y mae’n bosibl bod y ffactor hon yn ddylanwadol o ran y siaradwyr hŷn yn eu grwpiau diwylliannol ar gyfer y tri chlwm o dermau Cymraeg newydd.

 

8.4.3    Yr Amrywion Unigol a Gofnodwyd am y Cysyniadau Newydd

Gwelsom yn 8.4.2 fod nifer o’r ffurfiau Cymraeg yn dra chyfnewidiol, a bod cyn lleied ag 8% o TH wedi cynnig y ffurfiau Cymraeg yn y Clwm Lleiaf Amlwg.  Y garfan hon yw’r sgorwyr isaf ym mhob clwm yn Ffigur 8.9.  Fe’n harweinir i holi, felly, beth yw eu geiriau hwy am y cysyniadau dan sylw?  Edrychir ar yr amrywion a gynigiwyd gan y gwahanol garfanau er mwyn darganfod beth yw geiriau arferol y garfan hon a’r carfanau eraill am y cysyniadau, datgelu’r ffurfiau sydd wedi’u derbyn gan y siaradwyr yn dermau addas am y cysyniadau, a gweld pa ffurfiau eraill sydd ar lafar ym Mlaenau Ffestiniog.  Ni ddangosir yr atebion a gynigiwyd gan lai na 5% o’r sampl, ond nodir y canrannau o’r siaradwyr a gynigiodd yr atebion lleiaf cyffredin hyn.

            Yn wahanol i’r ‘hen gysyniadau’ a’r cysyniadau cymharol hen, nid atebodd 100% o’r siaradwyr gyda ffurf Gymraeg am yr un cysyniad newydd.  Er hynny, gwelsom yn Ffigur 8.11 fod dros dri chwarter o’r sampl wedi cynnig y ffurfiau yn y Clwm Tra Sefydlog, sy’n awgrymu bod y rhan fwyaf o’r siaradwyr wedi derbyn y termau newydd hyn.  Dengys Tabl 8.6 yr amrywion a gofnodwyd am newidynnau y Clwm Tra Sefydlog.

Cynigiwyd awyren am (AEROPLANE) gan y siaradwyr i gyd ond un aelod o PO.  Sylwer bod nifer ohonynt, yn enwedig Pobl y Dafarn, wedi cyfaddef eu bod yn defnyddio’r Saesneg ar lafar hefyd.

 

 

            Yr oedd teledu am (TELEVISION) yn ateb i bawb ond un aelod o PH.  Teledydd  oedd  ateb  yr  unigolyn  hwnnw,  ac  fel  y  gwelsom  yn  6.3.5  uchod,  y

 

Tabl 8.6:  Amrywion a Gofnodwyd am y Newidynnau yn y Clwm Tra Sefydlog

                                                                                                %

                                                                                PO           PH           PI            CH          CI           TH          TI

(AEROPLANE)       awyren                                   83            100          100          100          100          100          100

                                aeroplane                             50            50            0              14            0              86            69

 

(TELEVISION)       teledu                                      100          88            100          100          100          100          100

                                y bocs                                     0              0              0              0              0              14            38

                                telly                                        0              0              0              0              0              0              38

                                television                              17            0              0              14            33            57            63

                                arall                                        0              13            0              0              0              0              13

 

(FREEZER)             rhewgell                                  67            100          100          100          100          86            94

                                freezer                                    33            25            27            29            67            57            75

                                arall                                         0              0              0              0              0              14            0

 

(TOOTHBRUSH)    brws dannedd                       100          88            100          86            100          86            94

                                                brws llnau dannedd             0              0              0              14            0              29            25

 

(RUGBY                  chwaraewr rygbi                   83            88            100          100          100          71            100

PLAYER)                                arall                                        17            13            0              0              0              29            13

 

(SHOWER)              cawod                                     67            100          100          71            100          57            94

                                shower                                   33            38            18            14            0              100          81

               

(SUNGLASSES)      sbectol haul                            67            100          100          71            100          57            81

                                sbectol dywyll                        17            13            0              14            0              14            6

                                sunglasses                             17            0              0              0              0              43            13

                                arall                                        17            0              9              14            0              29            25

 

(COMPUTER)         cyfrifiadur                              83            75            91            57            100          43            100

                                computer                               17            13            9              29            17            71            75

                                arall                                        0              0              0              0              0              0              6

 

(SUPERMARKET)  archfarchnad                         83            100          100          86            67            29            88

                                siop                                         33            0              18            0              17            0              6

                                supermarket                         33            13            0              0              50            86            63

                                arall                                        0              0              9              14            0              29            6

 

(ELECTRICIAN)     trydanwr                                83            88            100          71            67            43            88

                                sparky                                    17            0              0              0              17            14            13

                                electrician                            33            13            9              29            50            100          88

                                arall                                        50            13            0              0              17            0              0

 

(FOOTBALLER)     pêl-droediwr                          100          75            91            86            67            57            88

                                chwaraewr pêl-droed            0              25            18            14            17            14            13

                                footballer                              0              50            0              14            17            86            69

                                arall                                        33            0              9              0              33            43            0

 

(HELICOPTER)       hofrennydd                            50            100          100          71            67            43            81

                                helicopter                             83            38            27            43            83            100          94

                                arall                                        0              0              0              0              17            0              0

 

(CROSSWORD        croesair                                   67            88            91            86            100          43            63

PUZZLE)                 crossword puzzle                 83            13            18            0              17            100          94

                                arall                                        17            13            9              0              0              14            25

 

mae’r ffurf hon wedi’i chofnodi yn GPC yn derm priodol am y gwrthrych.  Y Saesneg television oedd y ffurf arall a ddefnyddiwyd gan y rhan fwyaf o Bobl y Dafarn.

            Ar gyfer (FREEZER), yr oedd rhewgell yn ateb i siaradwyr y carfanau i gyd ar wahân i PO (67%), TH (89%), a TI (94%).  Y Saesneg oedd y ffurf i’r rhai na chynigiasant rhewgell, ond cyfaddefodd nifer o’r siaradwyr eu bod yn defnyddio’r ddwy ffurf.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y termau Cymraeg a Saesneg ar lafar yn y dref.

            Cynigiwyd brws dannedd am (TOOTHBRUSH) gan bron pawb, a’r ffurf ddisgrifiadol brws llnau dannedd oedd yr ateb i’r gweddill.  Nid oedd term o gwbl gan un aelod o PH.

            Atebodd yr aelodau o CH a’r siaradwyr ieuaf i gyd gyda chwaraewr rygbi ar gyfer (RUGBY PLAYER), ond y mae canrannau’r carfanau eraill o ran y ffurf hon yn uchel iawn.  Ni chynigiwyd y Saesneg ond gan ddau siaradwr, a disgrifiadau fel chwarae rygbi mae o a pêl-droediwr efo’r pêl hirgron oedd yr atebion eraill a gofnodwyd.

            Ceir yr un canrannau bron yn union o ran y ffurfiau Cymraeg am (SHOWER) a (SUNGLASSES).  Rhoddwyd cawod am (SHOWER) a sbectol haul ar gyfer (SUNGLASSES) gan bob aelod o PH, PI, a CI.  Cynigiodd siaradwyr TI i gyd cawod a phawb ond tri o’r un garfan sbectol haul.  Dyma’r siaradwyr ieuaf yn eu grwpiau diwylliannol a’r garfan o awduron ac athrawon, ac awgrymwyd yn 8.4.2 uchod y gall addysg drwy gyfrwng y Gymraeg fod yn ffactor sy’n cyflyru gwybodaeth o ffurfiau’r Clwm Tra Sefydlog ac yn cysylltu’r pedair carfan hyn.  Cyfaddefodd y rhan fwyaf o Bobl y Dafarn eu bod yn defnyddio shower, ac y mae canran siaradwyr hŷn y Dafarn, TH, yn gymharol uchel (43%) o ran sunglasses

            Y mae canrannau’r siaradwyr a gynigiodd cyfrifiadur am (COMPUTER) yn awgrymu bod y term Cymraeg newydd hwn yn perthyn i iaith y bobl ieuaf yn bennaf.  Nid oedd cyfrifiadur yn ateb ond i 43% o TH, a dyma’r unig garfan i gynnig y Saesneg yn amlach na’r Gymraeg.  Er bod pob aelod o TI wedi ateb gyda cyfrifiadur, datganodd y rhan fwyaf ohonynt eu bod yn defnyddio computer ar lafar hefyd.  Y mae’n ymddangos, felly, fod y ddwy ffurf ar gael yn iaith Pobl y Dafarn.

            Gwelsom yn Ffigur 8.14 uchod mai TH a gynigiodd y nifer leiaf o dermau newydd yn y Clwm Tra Sefydlog, ac fel y dengys Tabl 8.6, ni chynigiwyd archfarchnad am (SUPERMARKET) ond gan 29% o siaradwyr y garfan hon.  Y Saesneg oedd eu hateb hwy, ond cyfaddefodd nifer o siaradwyr eraill eu bod yn defnyddio supermarket hefyd er eu bod yn ymwybodol o’r term Cymraeg newydd.  Y mae’r uwch-derm siop yn weddol gyffredin hefyd.  Y mae’n bosibl, felly, fod y tair ffurf ar lafar yn y dref.

            Cynigiwyd trydanwr am (ELECTRICIAN) gan bob aelod o PI, ac y mae canrannau’r siaradwyr eraill a gynigiodd y ffurf hon yn eithaf uchel ar wahân i TH (43%).  Atebodd pob aelod o TH gydag electrician, ond dywedodd nifer o’r siaradwyr, CI (50%) a TI (88%) yn bennaf, mai dyna oedd eu gair arferol hwythau am y swydd.  Y mae hyn yn awgrymu bod y ddwy ffurf yn gyffredin yn iaith Blaenau Ffestiniog.  Cynigiwyd y slang sparky gan bum siaradwr, ac ymysg y ffurfiau eraill, cofnodwyd atebion fel trydanydd, peiriannydd trydanol, a boi lectrig (gweler Atodiad IV am yr holl amrywion a godwyd am y newidyn hwn a’r newidynnau eraill). 

            Yr oedd pêl-droediwr am (FOOTBALLER) yn ateb i bob aelod o PO; dyma hefyd y ffurf amlycaf i’r carfanau eraill ar wahân i TH (57%), sef y garfan a gynigiodd y Saesneg yn amlach na’r term Cymraeg newydd.  Cofnodwyd ffurf Gymraeg arall, sef chwaraewr pêl-droed, a gynigiwyd gan aelodau o bob carfan ar wahân i CH.  Y mae’n bosibl, felly, fod y ffurf hon ar lafar hefyd.  Y mae’r atebion eraill a gofnodwyd yn cynnwys elfennau o’r ddwy iaith, er enghraifft hogyn football, chwaraewr football, a dyn chwarae football

            Y mae canrannau’r siaradwyr a atebodd gyda hofrennydd am (HELICOPTER) yn eithaf uchel ar wahân i PO (50%) a TH (43%).  Cyfaddefodd nifer fawr o’r siaradwyr eu bod yn defnyddio’r Saesneg hefyd, sy’n awgrymu bod y ddwy ffurf ar gael yn iaith Blaenau Ffestiniog.

            Cynigiwyd croesair am (CROSSWORD PUZZLE) gan bod aelod o CI, ond nid atebodd ond 43% o TH gyda’r ffurf hon.  Y mae’r canrannau o siaradwyr PO (83%), TH (100%), a TI (94%) yn uchel iawn o ran y ffurf Saesneg.  Dyma’r carfanau a sgoriodd isaf o ran y ffactor addysg bellach (Ffigur 7.2), ac y mae rhaniad clir rhwng y rhai sy’n ffafrio croesair a’r lleill, sef PO a TI, sy’n defnyddio’r ddau ond yn ffafrio crossword puzzle a TH sy’n ffafrio’r Saesneg.  Y mae’n bosibl, felly, fod y ddwy ffurf ar lafar yn y dref.

            Gan fod cynifer o newidynnau yn y Clwm Cyfnewidiol, rhannwyd y clwm yn ei hanner, gan roi’r amrywion am 11 newidyn yn Nhabl 8.7 ac 11 yn Nhabl 8.8.  Atebodd rhwng 60% a thri chwarter o’r siaradwyr gyda’r termau Cymraeg newydd yn Nhabl 8.7 a llai na 60% gyda’r ffurfiau yn Nhabl 8.8 (gweler Ffigur 8.12).

              O ran (HAIRDRYER), rhoddwyd sychwr gwallt gan y rhan fwyaf o’r siaradwyr ar wahân i PO (33%) a TH (29%).  I PO, yr ateb disgrifiadol peiriant sychu gwallt oedd y ffurf a gynigiwyd amlaf.  Y mae ateb disgrifiadol amlwg arall, sef peth i sychu gwallt, a gynigiwyd gan PH a TH.  Y Saesneg yw’r ffurf a roddwyd amlaf gan TH, a dywedodd y rhan fwyaf o TI eu bod yn defnyddio hairdryer a sychwr  gwallt  yn  ymgyfnewidiol.      Er  bod  y  term  Cymraeg  newydd  yn  eithaf

 

Tabl 8.7:  Amrywion a Gofnodwyd am y Newidynnau yn y Clwm Cyfnewidiol – Rhan 1

 

                                                                                                %

                                                                                PO           PH           PI            CH          CI           TH          TI

(HAIR DRYER)                 sychwr gwallt              33            75            91            100          83            29            88

                                          peiriant sychu gwallt  50            0              9              0              17            14            13

                                          peth i sychu gwallt      0              25            0              0              0              29            0

                                          hair dryer                    17            38            18            0              17            71            88

                                          arall                              17            0              0              0              0              0              0

 

(MICROWAVE)                meicrodon                    17            100          100          43            83            14            81

                                          popty ping                   0              25            9              0              0              0              6

                                          microwave                  100          63            27            43            50            86            81

                                          arall                              17            38            27            43            0              29            25

 

(TOOTHPASTE)               past dannedd              0              88            91            86            67            14  &n